Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion…

Cyfyng, Dolwyddelen. I

Llanfrothen.

-Glanaulr Fachno.I

I Eisteddfod Rhyl.

Cynghor Gwfedig Geirionydd.I

News
Cite
Share

Cynghor Gwfedig Geirionydd. I I CYFARFOD YSTORMUS. I Cyfarfu y Cynghor ddydd Mawrth, Ebrill 10, pryd yr oedd yn bresenol Mri E. Jones- Williams (cadeirydd). Parch J. Gower, R. T. Ellis. Trefriw; Ellis Pierce ac O. E. Parry, Dolwyddelen; E. W. Roberts, Cwm Pen- Imachno; R. R. Owen (clerc), a R. H. Wil- liams (arolygydd). I MR. GOWER YN PROTESTIO. Darllenodd y Clerc gofnodion y cyfarfod blaenorol, ag enwau yr aelodau oedd yn bres- enol. Mr Gower: Celwydd bob gair, nid oeddwn ni yn bresenol pan oedd yr achos yn cael ei drin, yr oedd wedi ei setlo cyn i mi ddod i mewn, a hyny cyn amser penodedig ac heb quorum. Cadeirydd Yr wyf yn disgwyl eich bod yn ddigon o foneddwr Mr Gower i dynu eich geir- iau yn ol." Mr Gower: Na wnaf, nid oedd Mr O. E. Parry na finau i mewn." Y Cadeirydd ar ol cael ychydig dawelwch a aeth trwy hanes y cyfarfod, gan nodi y rhan gymerai Mr Gower yn y drafodaeth, ond gwad- ai Mr Gower nad oedd ynddo o gwbl, ac aeth ymlaen —— Cadeirydd: Nid ydych yn deilwng o fon- eddwr Mr Gower os na wrandewch." Mr Gower; "Y mae rhai heblaw fi felly." Mr O. E. Parry,—Gan fod fy enw wedi dod i'r drafodaeth y mae yn deg i mi ddyweyd fod Mr Gower a minau yn dod I'r Cyngor gyda'n gilydd a cymerodd Mr Gower ran yn y draf- odaeth, sef bythefnos i heddyw. Mr Gower.—"Dyma un dyn gonest, ie, pythefnos i heddyw, ond ar ddydd Llun yr oedd y cyfarfod y sonir am dano. Clerc.—Ni fu cyfarfod ddydd Llun o gwbl. Mr E. W. Roberts.—Gan fod achos yr helynt wedi ei basio cyn i Mr Gower a Mr Parry ddod i mewn, nid oes grym ynddo. Y mae gormod o driciau yn cael eu gwneyd yma. Mr Gower "Br ei draed eto. Cadeirydd.—Gwrandewch Mr Gower. Mr Gower.—Na wnaf. Cadeirydd.—Y mae pobpeth wedi ei wneyd mor deg a haul canol dydd, ac nid oes arnaf eisieu bod yn Gadeirydd, gwyr Mr Gower yn dda i mi fod yn foneddwr gydag ef trwy roddi fy lie iddo yn gadeirydd. Mr E. W. Roberts.—Nid elsiau bod yn Gadeirydd sydd arno, ond ymladd am degwch y mae Mr Gower. Mr Ellis Pierce a gynygiai a Mr O. E. Parry a gefnogai basio y cofnodion fel rhai cywir a therfynwyd yr ystorm a phawb yn ffrindia. CYFLENWAD DWFR I DOLWYDDELEN. Mr. Ellis Pierce a ddywedai fod Cyngor Plwyf Dolwyddelen yn awyddus am symud yn mlaen i gael cyflenwad o ddwfr, ond yr oedd arnynt eisieu cael gwybod y telerau cyn cychwyn, yr oedd Harlech a'r Abermaw, wedi cael rhyw fath o hawl ond costiodd yn ddrud iddynt. Yr oedd eisieu cael anfon cylch-lythyr at y perchenogion er gweled sicrwydd ar ba dir yr oeddynt yn sefyll, gwell ganddo ef oedd ymddiried yn y tirfeddianwyr mawr ac nid y rhai bychain. Mr. R. T. Ellis "A oes gan bobl Dolwydd- elen Ie penodol?" Mr. E. Pierce Lie bynag yr awn byddwn yn taro ar dir rhywun." Mr. R. T. Ellis Y mae Mr. Pierce yn ei le, ond credaf y dylid penderfynu ar y lie i ddechreu." Mr. Gower: "Yr wyf yn cynyg fod pobl Dolwyddelen i anfon rhai o'r Cyngor Plwyf i edrych yn mha le y ceir dwfr. Y maent yn ymgecru a'u gilydd yno, ond rhaid cael dwfr." Mr. O. E. Parry: Yr ydym gyda hyn er's pum' mlynedd ac y mae yn ddifrifol acw, cafwyd prisiau er's pedair mlynedd yn ol. Paham nas gellir dod i ryw: benderfyniad bellach. Cefnogaf Mr. Gower gan mae y plwyfolion wyr oreu." Mr. Pierce: Y mae hynyna wedi bod lawer gwaith, yr hyn sydd arnom ni eisieu yw, cael adroddiad genych chwi (Geirionydd). ac i cfiwi nodi rhai i ddod i weled y lleoedd, peid- iwch a diystyru y Cyngor. Yr wyf yn cynyg i chwi ddewis rhai i ymweled. Mr. E. W. Roberts a gefnogai, a phasiwyd, sef ddydd Llun nesaf. GWAITH DWFR PENMACHNO. Pasiwyd i dalu £ 250 ar y gwaith dwfr yn y lie hv/n i'r Cymerwyr ar ol iddynt wneyd ychydig bethau oedd heb eu gorphen. Yr oedd bil Mr. Jaret Evans am gyflog mis eisiau ei dalu hefyd, ond gofynai Mr. E. W. Roberts a oedd wedi rhoddi amser llawn i'r Cyngor. Bu ef yno unwaith ac nid oedd Mr. Evans ar gyfil J lle. Mr. R. T. Ellis: Gadewch i ni fod yn deg ac edrych i mewn, efallai iod y dyn gyda rhyw waitli arall. Mr. E. W. Roberts: Y fi gynygiodd Mr. Jaret Evans i'r swydd, ac nid oes geny ddim yn ei erbyn, ond credaf dros fod yn onest i'r frethdalwyr trwy ddod a hyn yn mlaen. Y mae arnaf eisieu gwybod hefyd a oedd John Roberts yn talu am osod y bibell yn ymyl Beniarth Arms, ac os oedd, sut yr oedd Jaret Evans yn gosod y gwaith. Yr Arolygydd a dystiai ei fod gyda'r gwaith bob tro y bu ef i fyny. Hysbyswyd ei fod at ei ryddid ar ol amser y Cyngor. I GWELL CYFLEUSTRA. Mr. E. W. Roberts a otynai am gael gwell cyfleusdra i godi dwfr yn ymyl Carrog, Cwm, na'r hyn oedd yno yn bresenol. Pasiwyd hyny. I ADRODDIAD YR AROLYGYDD. I Yr oedd cyflenwad dwfr Dolwyddelen yn bur dda gyda eithrio ty newydd Mr. E. B. Lloyd a 4 arall yn ymyl Shop Fach. Gellid cyflenwi y rhai hyn trwy atal y cyflenwad i'r Plwyf, buasai automatic taps yr un fath a Bron Llan yn llawer rhatach. Yr oedd y cyflenwad i'r Rectory yn ddiffygiol, a gofynai beth oedd ei rwymedig.aeth ef. Pasiwyd i'r Arolygydd wneyd arbrawf er gwybod a oedd y diffyg yn gorwedd wrth ddrws y Cynghor, ac os oedd, i'w wella, neu i'r perchenog wneyd. Yr oedd yr hyn gwynid yn Pant Ffynon, Penmachno wedi ei wella yn fawr. FFRITH A HAFOD YR YWEN, NANTBWLCHYR- HEIYRN. Yr oedd y tai hyn yn damp ac afiach. Hafod yr Ywen mewn cyflwr gresynus. Y gwelyau yn fudr a dim arnynt. Yr oedd tad, mam a 6 o blant yn yr un ystafell, a'r plant yn cael cam. Pasiwyd i anfon at berchenog y ty rhag blaen. YSGUBOR WEN, CWM PENMACHNO. Yr oedd y lie mewn cyflwr gresynus iawn ond dim yn erbyn y tenant. Yr oedd dwfr yn dod i'r ty. Pasiwyd i anfon at y perchenog. Yr oedd y dosbarth yn glir oddiwrth Glefyd- on heintus. Pasiwyd plan o welliantau fwriedir wneyd ar Min-y-Don, Trefriw. ADRODDIAD Y SWYDDOG MEDDYGOL. Nifer y genedigaethau yn y dosbarth 7, a 3 marwolaeth yr hyn ystyrid yn ffafriol iawn.

Jabez Balfour yn rhydd.

Y Broffwydes Ddiwygindol.

I Etholaeth Eiflon.--"..