Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion…

Cyfyng, Dolwyddelen. I

Llanfrothen.

-Glanaulr Fachno.I

News
Cite
Share

Glanaulr Fachno. [GAN YR HEN DDYRNWR]. I Nos Sadwrn diweddaf, cynhaliodd Band of Hope Bethania (W,), eu Cyfarfod Cyhoeddus, i ddiweddu y tymhor. Llywyddwyd yn ddeuheuig gan y Parch. Edward Davies. Nid ydym yn petruso dweyd mai hwn ydoedd un o'r cyfarfodydd goreu a gafwyd yn y Llan er's talm o amser. Cawsom wasanaeth y Cor Plant dan arweiniad Mr. Pryce Davies. a chanasant ddwywaith yn rhagorol, a chawsant gymeradwyaeth uchel y gwrandawyr, yr hyn, yr ydym yn hyderu, fydd 'yn symbyliad iddynt fyned rhagddynt. Boddhawyd y gynulleidfa yn fawr gan y lodes fach Miss Mary Lloyd Williams pan yn adrodd "Y Cathod." Nis gallwn or-ganmol Masters Evy V. Williams, J. Ellis Williams, Harry Roberts, R. Thomas, R. Wynn Jones fel adroddwyr. Tystiodd y gymeradwyaeth uchel a~dderbyniasant hyny. Cawsom yn ychwanegol at y rhai nchod, ganu swynol, mewn unawdau, adroddiadau, a dadl- euon gwerth eu gwrando, ac yr oeddynt yn cynwys gwersi buddiol. Caed rhaglen gyfoethog ar ei hyd, a phob dernyn o nodwedd teilwng i'r addoldy. Arweinydd y canu oedd y cyfaill ymroddgar Mr. Pryce Davies, ac yr oedd yn amlwg ei fod ef a'r cyfeillion eraill wedi llafurio yn ddiwyd yn ystod y tymhor. Terfynwyd y cyfarfod trwy ganu 0 aros gyda ni." Y Sul a Lluu y Pasg cynhaliodd Methodist- iaid y Llan a'r Cwm eu cwrdd pregethu blyn- yddol. Y pregethwyr eleni oedd y Parchn. T. Williams, Gwalchmai; D. M. Phillips, Tylors- town W. Jones, Treforis; S. T. Jones, Rhyl. Cafwyd pregethau gwir dda ganddynt, y gen- adwri yn amserol, ac arddeliad y Nefoedd yn amlwg ar y gwaith. Mae yma lawer o weddio a disgwyl am dywalltiad helaetliach eto, ac yn ddiddadl y mae angen am dano hefyd. Da genym gael y cyfle i dystiolaethu i werth cynyddol Mr W. John Roberts, Terrace, Cwm, fel pregethwr addawol. Mae yn cael adegau neillduol, argoelion fod dyfodol disglaer yn ei aros. Hyderwn yr aiff trwy borth yr arholiad- au cyfundebol yn llwyddianus, ac y gwelir ef yn weinidog ordeiniedig, teilwng o fechgyn talentog godwyd yn yr ardal. Pob llwyddiant iddo. Boreu Sadwrn diweddaf, unwyd mewn glan briodas Mr William Vaughan, y Ddol, a Miss Alice Williams, Collfryn House, Llan. Priod- as dawel a dlrodres oedd. Diau nad oes neb nad yw yn dymuno'r goreu i'r ddau, ac yn sicr gredu mai uniad ydoedd ar ran y ddau i roddi eu goreu eto i bob cylch y maent yn troi ynddo. Deallwn iddynt dderbyn lluaws o anrhegion gan mor gymeradwy ydynt. Ben- dith Duw orphwyso arnynt. Yr wythnos o'r blaen tra chwareuai nifer o blant o amgylch tai a adgyweirir yn yr ardal. taflodd un ddyrnad o galch i lygaid plentyn Jeremiah Hughes, Bryn Llewelyn, nes bron ei gwbl ddallu. Ni chwynir wrth weled direidi iach mewn plentyn, ond tybed ai nid ydyw rhieni y gymydogaeth yn dangos rhyw derfynau i'w plant, o'r direidi, ac yn dysgu iddynt wahaniaeth rhwng direidi a bryntni. Mae lie i ofni fod yr aelwydydd yn colli eu dylanwad mewn hyfforddiant, os yw y rhan fwyaf o'r rhieni yn fyw i'w cyfrifoldeb fel y cyfryw. Cofiwch rieni, fod cenhedlaethau yn eich dilyn i ba le y dymunech anfon eich plant ? ai i ryddid ynte caethiwed. Gwyliwch rhag agor y ffordd i ben-rhyddid, oblegid hyn yw y caethiwed mwyaf. Cur ef a gwialen, a thi a achubi ei enaid rhag uffern Deallwn fod Cudd-swyddogion deheuig yn yr ardal, mae eu gwasanaeth yn werthfawr i ddosbarth neillduol, dreuliant eu hamser i fesur a phwyso, pwnio a panu eu cymydogion. Diau eu bod yn tori ar unigrwydd ami ymdeithydd nosawl trwy'r fro, er na fyddant mor dderbyn- iol mwy na'r gweddill o'u rhywogaeth prudd glwyfus, megys ddallhuanod ac adar cyrff. Gwylied y llyffantod hyn, rhag i'r Hen Ddyrnwr ollwng ei ffyst ar eu taberncaclau brau, cyn iddynt allu cyrhaedd eu hogofeydd y tro nesaf. Llawer gwynir oherwydd "byd gwan yma a druan o'r gweithiwr efe sydd dan y ddyrnod. Buasai yn haws casglu oddiwrth ferched ein plwyf, eu bod yn llifeirio o laeth a mel, a'r mil-flwyddiant wedi gwawrio, yn murmur sidanaidd, eu ffrils &c. Pe palmentid ein heolydd ag aur, buasai yma lawer i gystadlu mewn ysblander a hyny. Bydd genyf air eto yn fuan am y dandies hyn. Swn gloewi arfau ar gyfer ymdrechfeydd y Cwm, glywir yn mysg pob dosbarth yn yr ardal, a chyda thestynau mor ragorol yn mhob cangen, a threfniadau mor deg a rhydd, yn nghyd a beirniaid o safle a dylanwad, gellir disgwyl gwyl ardderchog, a Ilwyddianus mewn cynyrch a phobpeth.

I Eisteddfod Rhyl.

Cynghor Gwfedig Geirionydd.I

Jabez Balfour yn rhydd.

Y Broffwydes Ddiwygindol.

I Etholaeth Eiflon.--"..