Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion…

Cyfyng, Dolwyddelen. I

Llanfrothen.

News
Cite
Share

Llanfrothen. CYNGHOR PLWYF.—Cynhaliwyd y Cynghor I hwn nos Sadwrn diweddaf. Daeth nifer dda yn nghyd. Dewisiwyd swyddogion am y flwyddyn. Codwyd y Cynghorwyr O. Evans ac R. Williams, i fod yn Overseers. Rhanwyd yr elusen fel arfer. Rhoddwyd diolchgarwch gwresog y Cynghor i'r Cynghorydd Jones, yr ysgolfeistr, am ei wasanaeth gwerthfawr yn gofalu am gyfrifon yr Elor-gerbyd. Darllen- wyd cyfrifon y flwyddyn, a dangosent ofal a threfnusrwydd mawr ar ran Mr R. Jones, yr Overseer cynorthwyol. Derbyniwyd llythyr oddiwrth y Cynghorydd R. Jones, yncydnabod derbyniad cydymdeimlad y Cynghor ag ef yn ei waeledd. Hysbyswyd fod y tirfeddianwyr wedi anfon atebion boddhaol o berthynas i Afon Gaseg. Hyderir y gwneir y gwaith hwn ar fyrder. Arwyddwyd cheque am drwsio y llwybr yng ngwaelod y Plwyf.—GOH.

-Glanaulr Fachno.I

I Eisteddfod Rhyl.

Cynghor Gwfedig Geirionydd.I

Jabez Balfour yn rhydd.

Y Broffwydes Ddiwygindol.

I Etholaeth Eiflon.--"..