Hide Articles List

9 articles on this Page

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion…

News
Cite
Share

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion Dosbarth Ffestiniog. Prydnawn dydd Iau, yn Adeiladau Sirol, Blaenau Ffestiniog, cyfarfu y Llywodraethwyr canlynol Mri W. Owen (Cadeirydd), Mr J. Rhydwen Parry, Parchn John Owen, M.A., a John Hughes, Mri R. T. Jones a Samuel Pierce (Penrhyn), Ellis Hughes (Ffestiniog), Andreas Roberts, Dr R6berts, Dr Jones, Rich- ard Jones, W. P. Evans, D. G. Jones, John Cadwaladr, Hugh Jones, R. O. Jones a R. O. Davies (clercod); William Evans a William Jones (Swyddogion gorfodol). PRESENOLDEB Y PLANT.—Hysbysodd Mr William Evans fod yn nosbarth Ffestiniog a'r Blaenau 2364 o blant ar y llyfrau, ac yr oedd cyfartaledd y presenoldeb am y mis yn 1977.— Yn nosbarth y Penrhyn a Trawsfynydd, hys- bysodd Mr William Jones fod ar lyfrau yr Ys- golion Sirol 835 o blant, a chyfartaledd y pres- enoldeb yn 665. Yn yr Ysgolion Cenedlaethol yr oedd 271 ar y llyfrau, a chyfartaledd y pres- enoldeb yn 188. Cwynai y ddau swyddog fod cryn afiechyd yn parhau yn mysg y plant. ETHOL CADEIRYDD AC IS-GADEIRYDD.— Cafodd y Mri W. Owen a Rhydwen Parry eu hail ethol am flwyddyn arall. CVDYMDEIMLAD.-Ar gynygiad y Cadeirydd a chefnogiad Mr W. P. Evans, pasiwyd i anfon pleidlais o gydymdeimlad a'r Mri R. G. Pritch- ard, Penrhyn, a J. Parry Jones, Blaenau, yn eu cystudd. Yr oedd yn dda gan y Bwrdd ddeall eu bod yn gwella. LLAWENHAU.—Datganodd y Cadeirydd eu Hawenydd o weled Dr. R. Jones yn eu plith ar ol absenoldeb lied hir, a hyny trwy gystudd. Cefnogodd Mr. Andreas Roberts, a phasiwyd. -Y Cadeirydd (yn gellweirus),—" yr ydym yn gobeithio na wna y Doctor ddim byw yn y gegin gefn eto, ond y defnyddia yr ystafelloedd goreu yn y ty. Mae yn dywedyd yn ei Ad- roddiad Blynyddol mai trwy fyw yn y eeginau cefn a'r ystafelloedd salaf yn y tai y mae pobl yn cael y cryd-cymalau ac yr ydym ninau yn casglu mai felly y mae yntau yn ei gael. Fodd bynag, y mae yn dda iawn genym ei weled gyda ni unwaith eto, ac wedi gwella mor dda." STAFF &C., YSGOL Y PFNRHYN,-Hysbys- wyd fod Staff Ysgol y Penrhyn yn rhy wan yn bresenol i allu anfon un i gynorthwyo wrth raid i Ysgol sy Rhyd. Yn ol y Cynllun Siriol, ymddengys fod Ysgol-g gref i helpu Ysgol wan mewn achosion o alwadau sydyn, a chan mai y Penrhyn oedd yr un ddisgwylid i wneyd hyny ar Rhyd, rhoddwyd yr eglurhad uchod dros fethu gwneyd hyny.—Ysgrifenodd Mr. Haydn Jones (yr Ysgrifenydd Addysg Siriol), i ofyn, yn ngwyneb y cais am gael ychwanegiadau at Adeiladau Ysgol y Penrhyn, pa un a'i codi Ysgol at y safonau uwchaf, ynte helaethu yr adeiladau presenol oeddid yn gymeradwyo ?—Mr. R. T. Jones a Mr. S. Pierce a ddywedasant mai y teimlad lleol ydoedd mai cael cyfleusderau i ddysgu y safonau uwchaf fyddai oreu.—Mr. W. P. Evans a gynygiodd eu bod yn argymell i'r Pwyllgor Sirol mai codi Ysgol ar gyfer y safonau uwchaf fyddai oreu. Hyny ydoedd y dymuniad yn y lie.—Mr. S. Pierce a gefn- ogodd.—Mr, R. T, Jones,—Gall cyfnewidiad fod yn yr Ysgol Genedlaethol o dan y Ddeddf newydd: neujjhwyrach|gallwn gael yr Ysgol fu yngwasanaethu yn Trawsfynydd.—Mr W. P. Evans, -Bydd y Bwrdd Siriol yn sicr o ystyried yr holl fater yn ofalus cyn symud yn mlaen. ATHRAWES YSGOL TANYGRISIAU.—Gan fod Miss Edwards wedi ymddiswyddo, a phriodi, yr oedd y lie yn wag. Yr oedd hi yn awr yn cynyg ei gwasanaeth i aros penodi un arall i'r swydd. Pasiwyd i'w chymeryd hyd nes y trefnir yn mhellach. ATHRAWES YSGOL Y PENRHYN.—Anfon- odd Miss M. J. Jones, C.T., ei hymddiswydd- lad i mewn. Yr oedd hi yno er Ebrill 20. Yn Mawrth 4 y daeth Miss Williams, yr Athrawes Gynorthwyol yno.—Darllenwyd llythyf cymer- adwyol iawn i Miss Jones gan yr athraw Mr. Llewelyn Williams.—Rhoddwyd ar ddeall mai mater o gyflog yn unig oedd yn peri i Miss Jones ymddiswyddo. Deuai y mater i fyny yn adroddiad y Pwyllgor Arianol. ARIANOL CODI CYFLOGAU YR ATHRAWON,, Codwyd cyflogau yr Athrawon fel y canlyn :— ^r- Edmund R. Williams, Manod, o £ 90\ £ 92 10s. Miss Maggie Jones, Trawsfynydd, o [42 i f 45. Miss A. J. Jones, Ysgol y Babanod, i Penrhyn, o [70 i [80. Miss Williams, Ysgol Y Babanod Penrhyn, o [92 109 i [100. Miss Beavers, Ysgol Babanod, Trawsfyuydd 0 [70 i £ 75. Mr. J. H. Thomas, Ysgol Uwchraddol, ar 01 gwasanaeth hynod o ymroddol a chymer- adwy, o i120 i {130. Miss Laurah J. Jones, Llan, 0;645 i [47 10s. Miss M. Lewis, prif- athrawes Ysgol Babanod, Maenofferen, o {92 i £ l L0. Traul teithio i Trawsfynydd (o dan am- gylchiadau neillduol) i Miss Lizzie Jones, Trawsfynydd.—Sylwyd fod yn bryd i fabwys- iada Graddfa y Sir gyda chyflogau yr athrawon er mwyn unffurfiaeth. Y GLO.—Yr oedd cwyn yn nghylchansawdd y Glo gyflenwid i Ysgol y Llan. Pasiwyd i wneyd sylw o'r peth. BENTHYG.— Pasiwyd i ganiatau benthyg y tii" wrth Ysgol Uwchraddol y Genethod at wasanaeth Cymanfa y Methodistiaid. Nid oedd Ysgol U wc^raddol y genethod i'w chaniatau at wasanaeth y Philamonic Society, ond ceid benthyg ysgol arall, eithr ni cheid benthyg perdoneg. Hysbyswyd fod dwy ber- doneg wedi eu handwyo gan gorau wrth fyned i'r ysgolion.—Caniatawyd benthyg ysgol zinc Y Traws. at wneyd bwyd amser Gymanfa yr Anibynwyr gynheiir yno yn Mehefin nesaf. Cicio PEL AR DIR YSGOLION MAENO- FfvERKx.—Bu trafodaeth faith ar y ffaith fod rhai yn myned i'r lie hwn i gicio pel. Yr oedd aflendid iaith ac ymddygiad yn myned ymlaen yno, ac cdrychid ar y mater yn un difrifol iawn. Bydd y sawl geir yno o hyn allan yn cael eu hunain mewn man nas dymunant, gan fod CWyno mawr gan y cyhoedd a'r Bwrdd yn eu cylch Lie darparedig i blant yr ysgolion i chwareu ydyw, ac nid i neb arall. Mae y mater yn awr yn ngofal pwyllgor. PENODI.Cynygiai tair am y swydd o ath- rawes gynorthwyol i Ysgol y Genethod, Maen- offeren, a phenodwyd Miss Ellen Jones. 13 Bowydd street, yr hon sydd yn athrawes yn un o ysgolion Llundain. MYNED O'R YSGOLION YN RHY IEUANGC.- Pasiwyd i erlyn amryw oeddynt wedi anfon eu plant i wasanaethu cyn iddynt gyrhaedd 14 mlwydd oed. YSGOL FFESTINIOG-Galwodd y Clerc sylw at Adroddiad Dr. Jones am fis Chwefror, a'r cyfeirisd arbenig oedd ynddo at y Gwddf-glwyf yn Ffestiniog. Gofynid am symud y Sand Trays a'r Wooden Pencils o adran y babanod. Bu farw tri o fabancd oeddynt yn yr Ysgol.- Dr. Jones a ddywedodd nas gellid bod yn sicr o ba le y tarddodd yr afiechyd, ond bu un o'r plant fuont feirw yn yr Ysgol pan oedd yr afiechyd yn dechreu arno, ac yn mhen tri diwrnod, bu farw. Gallasai y plentyn hwnw fod wedi dodi un oir pwyntill yn ei enau, a gadael hadau yr afiechyd arno, a'r plant eraill. ei gael.—Awgrymai yr Ysgrifenydd Sirol i beidio pwrcasu y pwyntill fel a gondemnir gan Dr. Jones.—Mr. Hugh Jones,—Oni fyddai yn well pasio nad yw y pwyntilliau hyn i gael eu cyflenwi o hyn allan ?—Ar gynygiad Mr. W. P, Evans a chgfnogiad Mr, R. T. Jones pasiwyd i anfon yr awgrym i'r athrawon er mwyn iddynt gofio pan yn anfon i mewn eu rhestr o'r pethau oedd eu hangen yn yr Ysgolion. YSGOL Y MANOD.—Ar gynygiad Mr J. Rhydwen Parry pasiwyd j ofyn i'r Pwyllgor Ymweliadol ystyried y dymunoldeb o gael darn ychwanegol o dir at ysgol y Manod. Yr oedd y lie chwareu yn awr yn gyfyng, a'r Ysgol wedi myned yn rhy fychan at y cynydd oedd yn nifer y plant yn y gymydogaeth. Pasiwyd yn unfrydol i symud yn mlaen yn ol cynygiad Mr Parry. ADRODDIAD DIERIFOL: YR HEN YSGOL FRYTANAIDD.—Mr Rhydwen Parry a alwodd sylw at sefyllfa adfeiledig yr Ysgol uchod, yr hon oedd mewn cyflwr cywilyddus. Pwy roddodd hawl i Gwmni y Goleuni Trydanol osod eu gwifrau ar y sijpdde ? Ni ddylasai y fath bgth gael ei wneyd o gwbl. Wrth weled cyflwr-yr adeiladau perthynol i'r ysgol, yr oedd pethau yn anesboniadwy iddo ef. Yr oedd pobl dylodion yr ardal yn cael eu herlyn am fan droseddau dibwys, tra y gadewid y lie hwn ganddynt hwy mewn cyflwr gwarthus o ffiaidd ac anyoddefol. Y syndod iddo ef ydoedd na fuasai yr holl drigolion o'i amgylch o dan haint o'r achos. Gadael adeilad o'r fath ar ochr y brif-ffordd yn y fath gyflwr aflan, beth oedd yn cyfrif am hyn ? Cynygiai eu bod yn symud yn ddiatreg yn y mater.—Dr Jones a gefnogodd. Yr oedd y lie mewn cyflwr anfoddhaol iawn. Bu yno yn ei weled ar ol gweled rhybudd o gynygiad ar y lie gan Mr Parry.—Mr D. G. Jones, "A ydyw yr Arolygydd Iechydol ar ei holidays o hyd? "-Dr Jones, "Nag ydyw, gwael ydyw."—Awgrymwyd cyflwyno y mater i bwyllgor, ond pwysai Mr Parry am i'r peth gael ei wneyd ar unwaith er mwyn diogelwch iechyd yr ardal.—Pasiwyd i'r Pwyllgor Ym- weliadol fyned i weled y lie ddydd Mawrth, ac adrodd arno i'r Bwrdd Sirol ddydd Iau. UNO YSGOLION TANYGRISIAU.—Cafwyd adroddiad y Pwyllgor fu'n gwneyd Ymchwiliad i'r awgrym o Uno dwy Ysgol Tanygrisiau a'u gwneyd yn Ysgol Gymysg. Yr oedd 96 o fechgyn a'r y llyfrau, a 105 o enethod. Yr anhawsder a deimlid ydoedd gyda'r Class Room. Byddai rhaid gwneyd hwnw yn fwy. Golygid gadael Safon I gyda'r Babanod yn Ysgol y Genethod, a symud y Genethod i Ysgol y Bechgyn.—Mr. Parry a ychwanegodd mai symud y Babanod o'r fan yr oeddynt ydoedd yr anhawsder, neu buasai Ysgol y Genethod yn gwneyd Ysgol Gymysg ragorol, a'r llall yn Ysgol Babanod.—Mr. W. P. Evans a ddaliai mai gwneyd y cyfnewidiadau ar yr Ysgol oreu a ddylid, 8sef Ysgol y Bechgyn. Cynygiai eu bod yn cymeradwyo egwyddor y peth a awgrymid. Yr oedd y Bwrdd Sirol o blaid Uno er mwyn cynilo cymaint ag a ellid.—Dr. Jones a gefnogodd.—Mr. R. T. Jones a ddadleuai dros symud Safon I hefyd, fel na chollid y 6s grant a ganiateid at y Safon hwnw.—Pasiwyd y cynygiad. Y DDEDDF ADDYSG NEWYDD.—Anrhegodd y Clcrcod yr holl Aelodau a chopi o'r Ddeddf Newydd.—Pasiwyd pleidlais o ddiolch Iddynt, ac ar gynygiad Mr. W. P. Evans, pasiwyd i gael cyfarfod arbenig yn mhen bythefnos i'w ystyried,

Cyfyng, Dolwyddelen. I

Llanfrothen.

-Glanaulr Fachno.I

I Eisteddfod Rhyl.

Cynghor Gwfedig Geirionydd.I

Jabez Balfour yn rhydd.

Y Broffwydes Ddiwygindol.

I Etholaeth Eiflon.--"..