Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Bwrdd Llywodraethwyr Ysgolion…

Cyfyng, Dolwyddelen. I

Llanfrothen.

-Glanaulr Fachno.I

I Eisteddfod Rhyl.

Cynghor Gwfedig Geirionydd.I

Jabez Balfour yn rhydd.

Y Broffwydes Ddiwygindol.

News
Cite
Share

Y Broffwydes Ddiwygindol. Y mae yr Adroddiadau gyhoeddir yn y new- yddiaduron Seisnig am Mrs Sarah Jones, Beu- lah, Dyffryn Abertawe, yn gwneyd i galon dyn waedu wrth feddwl y cysylltir pethau Dwyfol a chysegredig wrth ffolineb o'r fath. Dywedir ei bod wedi dringo i ben coeden i geisio ehedeg oddiarni i'r nefoedd, ond yn lie hyny disgynodd yn swpyn i wely wynwyn yn yr ardd islaw Fod dyn gyda braich wywedig wedi cael ei iachau trwy ei gair I bob dyn nad yw wedi cwbl amhwyllo, y mae credu peth o'r fath yn anmhosibl. Erbyn ibyn, y mae Mrs Jones ei hunan yn dywedyd fod yr oil yn gelwydd, ond hona y gall fwrw allan gythreuliaid," a bydd- wn ninau yn barod i gredu hyny pan y gall hi brofi i ddechreu fod dynion yn cael eu medd- ianu gan gythreuliaid." Dywedir hefyd, ei bod yn disgyn i lewygon gweledigaethol," a bod y "genadwri" roddedig iddi gan Dduw yn ar- graffedig ar gledr ei Ilaw Gresyn fod ymwel- iadau grasol yr Ysbryd Glan yn cael eu daros- twng trwy bethau fel hyn a'r pethau ydynt yn hanfodol ysbrydol ac anweledig yn cael eu mhateroli a'u daearoli gan honiadau ffolion. Nid yw teyrnas Crist o'r byd hwn," ac ni raid iddi wrth wasanaeth ofergoelion i'w llwyddo. Paham y rhaid i ni fel cenedl wrth wasanaeth "arddangosion," megis, "pelen o dan yn yr awyr," "goleu yn chwareu uwchben, a phethau eraill o'r un nodwedd, i wneyd diwygiad crefyddol ? Mae yn bryd, ac yn hen bryd, i ni beidio bod "fel plantos yn bwhwman, ac yn cael "ein cylch-arwain gan bob awel dysgeidiaeth.

I Etholaeth Eiflon.--"..