Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Cynghor Dinesig Bettwsycoed.

Arn ER COF ____ - -- - -

nvfl AR LAN Y BEDD. !

News
Cite
Share

nvfl AR LAN Y BEDD. v ynschg i deulu y ddiweddar Mrs Elizabeth :Roberts, Tecwyn View, Ffestiniog. Rhaid i'r bedd gael siarad Yn y gauaf du, Nid yw bedd yn ofni, Storm na chwmwl hy': Rhaid i angeu weithio Wrth orchymyn Duw, Nid yw angeu'n ofni, Trallod collir byw. A daeth angeu yma Trawodd bawb a braw, Pan y gwelodd teulu Alwad yn ei law Galwad i gymeryd Mam oddiwrth ei phlant, Galwad oedd yn gadael Telyn heb ei thant. Do, cymerodd ymaith. Un o'u mamau mwyn, Heb orchymyn aelwyd Na rhoi dust i'w chwyn ] Ni fyn angeu wrando Ar daerineb sant, Heb i Dduw orchymyn Peidio lleddfu'r dant. Betsan Roberts anwyl Rhaid yw credu'r ffaith. Eich bod chwithau bellach Wedi gorffen gwaith Do, cerddasoch adre' Heibio mynydd Duw, Tua gwastadeddau Canaan tecach byw. Ami fu eich camrau Yma ar y llawr, Tra yn ffyddlawn dderbyn Y Messiah Mawr; Pa sawl golwg ddwyfol Gawsoch arno Ef ? Lili wen pob dyfjjjryn, Rhosyn gwyn pob Nef. Os bydd Sliilo'n dietach, Wedi'ch colli chwi, Bydd costrelau'r nef yn llawnach, Drwy ein dagrau ni Ni all deigryn basio Heibio costrel Duw, Heb fynegu hanes Saint fu yma'n byw. A bydd dagrau'n aros Yma ar eich ol, Dagrau plant amddifaid, Dagrau gwaed y gol Bydd hyawdledd gofid Gyda'i hawliau byw, Yn dadlenu cariad Mam ar aelwyd Duw. Bellach ceisiwn ddysgu Ymfoddloni'n llwyr, Ein dyfodol ninau x Duw yn unig wyr Ond mil hawddach rhodio Heibio drain y byd, Pan yn cofio cyngor Mam fu'n siglo'u cryd. Dyma'ch cysur chwithau Blant yr aelwyd lom, Os na welwch heno Ddim ond croes a siom Fe ddaw heulwen eto Ar y teimlad briw, Heulwen cofio'r cyngor Boreu dechreu byw. Os mai gwag yw cadair 'Run fu'n gwylioch cam, Os mai chwith yw gweled Cartref heb y farn Chwithach fyddai cerdded Heb gynghorion byw, Mwyn angelion boreu Gethsemane Duw. Ffestiniog. ) JOHN ELLIS. I

ER ANWYL GOFF AD WRIAET H

Advertising