Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Damwain Rhivj-! -.bach, I

 ? Bwrdcf Gwa?c?eMwaF? j…

AT Y DRAENOG. I

[No title]

Damwstin MngeiiQl yn Chwayel…

News
Cite
Share

Damwstin MngeiiQl yn Chwayel y Diphwys. Prydnawn ddydd Mawrth, yn ysgoldy Capel Bowydd, o flaen Mr. R. O. Jones, Trengholydd Meirion, a deuddeg o reithwyr, i'r rhai yr oedd Mr. H. T. Owen, Pork Shop, yn flaenor, cyn- haliwyd trengholiad ar gorph dyn ieuangc o Dregarth, gyfarfu a'i ddiwedd prydnawn dydd Llun yn Chwarel y Diphwys. Robert Hugh Pritchard, Tregarth, a ddy- wedodd ei fod yn berthynas o bell i Hugh Hughes, yr hwn a adwaenai yn dda. Tua 30 oedd ei oed, a dyn sengl ydoedd. Joseph Jones, a ddywedodd eifocl yn gweithio ddoe gyda'r trangcedig. Yr oeddynt yn gweithio ar y cwymp, a daliai y trangcedig lamp iddo ef weled i fyned yn mlaen gyda'i waith. Daeth clamp o gareg i lawr dros ei ben ef a tharawodd y trangcedig yn ei ben. Daeth y gareg o 5 neu 6 Hath o uchder. Galwodd am gynorthwy, a chafwyd hyny yn ddiymdroi. Tua haner awrBwedi dau, o'r gloch ydoedd ar ypryd Cariwyd y trangcedig i'w lety yn 3 New Market Square, ac yr oedd Dr. Jones yn eu cyfarfod ar y ffordd. Ni ddywedodd Hughes air o gwbl ar ol cael ei daraw. Mewn atebiad i Mr. G. J. Williams, Arolyg- ydd y Llywodraeth, dywedodd ei fod yn gweithio yn y cwymp er's dros ddwy flynedd. Dwy lath oedd rhyngddo ar trangcedig pan gymerodd y ddamwain le. Yr oedd ganddynt ddwy lamp—Gipsy Lamps-yn y lie y gweith- ient un ar y pen uchaf, ag un yn y gwaelod. Bu y swyddog yn edrych y lie yn fanwl wyth- nos i ddoe, a bu yno boreu ddoe. Yr oeddynt hwythau eu dau wedi chwilio y lie yn fanwl. Credai y byddai yn fanteisiol cael ysgol yn y lie yn awr er mwyn ei chwilio gan eu bod yn gweithio yn fwy i'r cwymp yn barhaus. Yr oedd Hugh Hughes yn chwarelwr a chreigiwr profiadol. Yr oedd yn ofynol bod yn fwy gofalus mewn cwymp nag mewn craig. Yroedd y swyddogion yn gwneyd pobpeth allent er mwyn diogelu y gweithwyr. Edward Roberts, a ddywedodd ei fod yn chwarelwr, ac aeth i mewn at ei bartneriaid prydnawn ddoe. Gwelodd y goleu yn myned allan ar ochr y cwymp, ac ofnodd fad rhywbeth allan o le wedi digwydd. eAeth yntau i fyny i roddi cynorthwy i gael Hugh Hughes i lawr. Yn achlysurol y byddai ef yn myned i mewn gan mai allan yr oedd ei waith. William Williams, a ddywedodd ei fod yn gweithio yn lie y ddamwain ddoe, a chydsyniai a'r hyn ddywedodd y ddau dyst blaenorol. Pierce Jones a ddywedodd ei fod yn Oruch- wyliwr yn Chwarel y Diphwys. Clywodd am y ddamwain tua tri o'r glech. Chwiliodd y lie y boreu hwnw, a gwnaeth archwiliad arbenig arno wythnos yn ol. Yr oedd mwy o wyliadwriaeth yn pfynol gyda chwympiau na chyda lleoedd cyffredin. Mewn atebiad i Mr. G. J. Williams. Yr oeddynt yn gwneyd archwiliadau cyfnodol ar y chwarel. Gofalai fod y dynion yn cael ysgol at eu gwasanaeth yn y lie, er hwyluso y gwaith o'i archwilio. Dr. Richard Jones, a ddywedodd iddo weled Hugh Hughes ar y ffordd o'r chwarel, achanfu ei fod wedi ei anafu yn angeuol. Yr oedd asgwrn ei ben wedi ei falurio. Bu farw mewn canlyniad i'r niweidiau a dderbyniodd yn y ddamwain. Dychwelwyd rheithfarnunol a barnymeddyg. Ar gynygiad blaenor y rheithwyr a chefnogiad Mr. E. D. Hughes, clerc y chwarel pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theulu y trangcedig.

Cicio Pei 'a Ffwndro. - I

[No title]

Advertising