Hide Articles List

8 articles on this Page

Damwain Rhivj-! -.bach, I

 ? Bwrdcf Gwa?c?eMwaF? j…

AT Y DRAENOG. I

News
Cite
Share

AT Y DRAENOG. I Syr,—Gwelaf dy fod yn meddwl ynot dy hun dy fod wedi ateb fy ysgrif mewn modd meistrolgar dros ben; ac nid oes le i mi fod mewn pryder o gwbl ynghylch yr achos wyf yn sefyll drosto, gan mor lipa ydyw. Er dy fod wedi di-hysbyddu holl enwau a geiriau mawr yr ynys hon, a myned i Twrki i gael un enw mawr i'w chloi i fyny, eto gwn mai gyda y gwynt yr a y pethau hyn yn ngolwg y cyhoedd, dy adael dithau, druan, raddau yn is yn eu golwg nag oeddit cynt, ac mi rwyf finau am adael y pen cyntaf i'r peth hwn. Nid wyf yn gwybod a oes enw i'w roi ar y fath Beth. Ond at y cwestiwn yn awr. Mi wyt yn fy herio i osod fy mys ar y dilorniad. Oni ddywedaist fod pleidwyr Mr. O. E. Parry yn rhai cwbl ddiymcldiried ? Beth mae hyny yn ei feddwl tybed ? Onid y dyn mwyaf peryglus sydd yn troedio daear yw y dyn nad oes dim ymddiried i'w roi ynddo. Ac er mwyn dangos i ti mewn modd nas galli ei gam ddeall na'i wrth-brofi, mi a roddaf restr o bethau ag y gelli gymhwyso y gair diymddiried at bob un sydd yn eu cyflawni. Dyma hwy, Tor-priodas, godineb, delw addoliaeth, casineb, Hid, cenifgenau, llofruddiaeth, medchvdod, lladratau, a chyffelybir, ac wele ninau wedi ein rhestru yn y dosbarth hwn, gan mai pobl diymddiried ydym., ac nid yw Draenog wedi dweyd dim ac y gall ofidio o'i blegid, meddai ef. Wel, go 'chydig o rai hunanol sydd yn gallu gofidio, eu perthynasau fydd yn gorfod gwneyd hyny yn gyffredin yn eu lie. Mae Draenog yn myned yn mlaen yn mhellacli eto, ac yn gofyn am gynorthwy un anrhaethol rhy gynawn i edrych ar ei chwdfa ef, am ben pobl ag y gellir ymddiried mwy, fe allai, iddynt nag i Draenog, heb son am ei gynorthwyo. Fe wel y darllenydd di-duedd, fod y gair di-ymddiried yn meddwl llawer, gan y gellir ei gymhwyso at bob un o'r pechodau a enwir. A dyma y gwirionedd am danoin ni oil am i ni roddi ein pleidlais i Mr. O. E. Parry. Dyma ein pechod mawr ni, wrth gwrs. Pe buasem wedi cyflawni yr holl bechodau a enwir, mae yn gwestiwn a fuasai Draenog yn cymeryd haner y drafferth i'n galw at ein coed, ag y mae wedi ei gymeryd am i ni wneyd defnydd o'n rhyddid wrth votio. Mae Draenog yn gofyn i mi a allwn fynegi ar fy llw fod y rhai a enwasant Mr. W. Evans yn gwybod fod Mr. O. E. Parry i gael ei enwi gan eraill. Gallafatebtrwyddweydfy mod i dan yr argraff mai Mr. O. E. Parry enwycl gyntaf,"ac mi rwyf yn credu fy mod yn iawn, ac os galli di fyned a'r dy Iw y galli brofi mai dynion di-ymddiried yw y rhai a votiodd i .0. E. Parry, gallaf finau fyned ar fy llw mai o ddrwg-deimlad yr enwyd gwrth-ymgeisydd iddo. A dywedaf fwy, deuwn drwy yr arholiad yn llawer rhwyddach na thi. Fe wyr pawb, fod drwg-deimlad yn bod rhwng y pleidiau er's blynyddau, fel mae mwyaf gresynus. Mae Draenog yn dv/eyd fod llawer wedi votio i'r buddugwr am eu bod yn credu y byddent trwy hyny yn osgoi costau etholiadol. A'i meddwl y mae fod rhai o'i gyd-blwyfolion mor ddwl. Nid wyf yn credu hyny am neb yn y Plwyf, llawer llai cyhoeddi hyny trwy babur newyd, fel ag y gwnaed, Ac y mae yn ymddangos mai yr anfuddugol a fuasai wedi cael ei pleid- leisiau oni bai am eu hanwybodaeth. Paham na buaset ti yn rhoddi dipyn o hyfforddiant iddynt mewn pryd. Mae yn debyg mai ofn na fuasai genyt ddim i roi yn dy Nodion di-fudd am yr wythnos ddilynol oedd genyt. Llawer gwell i ti fuasai bod heb ddim am y tro yma, na rhoi pethau heb ei mesur na'i pwyso, fel ag y gwnaethost. A thi yw y cyntaf i roi bod i'r fath syniadau am danom, mi gredaf, gan mai yn y Rhedegydd y gwelais hwynt am y tro cyntaf, a mentraf ddweyd eto na chafodd y trethdalwyr ddim chwareu teg. Pa fodd yr wyt ti yn gyson a thi dy hun ? Addefi mai Cwrdd Plwyf afreoledd oedd ac ar yr un pryd yn dweyd fod pob chwareu teg wedi ei wneyd a'r trethdalwyr, a'r gweithwyr wedi cael ei hysbysu gan ryw J .0. 'Rwyf fi yn weithiwr, ac ni welais i yr un J.O. yn nghorff yr wythnos tan noson y Cwrdd Plwyf. Yr oedd un o'r enw John Owen yno yn ysgrifenu rhywbeth, ac mi wyf yn gobeithio fod y John Owen hwn yn deall ei waith yn well na'r J.O. hwnw oedd yn cyhoeddi y Cwrdd Plwyf i arbed y trethi; ac yn gwybod ar yr un pryd nad oedd yn rheol- aidd, ac na fyddai grym mewn dim a wneid ynddo. Dyn rhyfedd iawn oedd hwn. Y mae genyt ffeithiau yn dy ystor buaswn yn tybied. Dyma'r pethau sydd arnom eu heisiau. Trueni o'r mwyaf na buaset wedi cyfaddef yn gynt, nadwyt yn edrych ar yr hyn wyt wedi eu hysgrifenu yn y gorphenol yn ffeithiau, ond gwell hwyr na hwyrach, oni bai fy mod yn gwybod nad yw yr hyn a ddywedaist yn ffaith, ni buaswn wedi ysgrifenu gair o berthynas iddo. A phan y bydd yn dda yn dy olwgddoc1 a'r ffeithiau i oleu dydd, mae yn debyg na fydd eisieu dweyd gair arnynt, gan nad beth ddy- wedir, bydd y ffaith yn aros o hyd, a chan fy mod yn deall ar yr erthygl ysgrif o'th eiddo, mai ymgecru yw dy amcan. 'rwyf am beidi6 dweyd dim mwy wrthyt, gan adael i'r cyhoedd farnu pa un o honom sydd agosaf i'w le. CARWR CYFIAWNDER.

[No title]

Damwstin MngeiiQl yn Chwayel…

Cicio Pei 'a Ffwndro. - I

[No title]

Advertising