Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

— —————— —————— in. AT EIN…

NODIADAU WYTHNOSOL.

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. Mesur Anghydfod Llafurol, Nos Fercher, yr wythnos ddiweddaf, dyg- odd Syr Lawson Walton, y Twrne Cyffred- inoi, Fesur Anghydfod Llafurol gerbron Ty y Cyffredin. Tra yn cydnabod ar y naill law fod ei araeth yn rhagorol cyn belled ag yr oedd a wnelai ag egluro y Mesur, ynghyd a'r amgylchiadau sydd yn peri fod angen am ddeddfwriaeth newydd, rhaid addef, ar y Ilaw arall, na chafodd y mesur dderbyniad ffafriol o gwbI. Yn naturiol, teimlai plaid Uafur ddyddordeb neillduol ynddo, ac nid yn hir y bu amryw o'u haelodau heb ddweyd yn eglur ei fod yn mhell iawn o ddyfod i fyny a'u disgwyliadau ac a'u gofynion hefyd. Yr oedd y si wedi myn'd allan ers dyddiau fod aelodau y Cyfringylch yn gwahaniaethu mewn barn ynghylch rhai o adranau pwysig y mesur. Nid o ddoethineb y dengys neb frys i gredu haeriadau felly, ond gorfodir ni i gredu nad oedd yr haeriadau hyn yn hollol ddisail. Rhoddwu ein rheswm dros ddywed- yd hyn yn mhellach ymlaen. Cofir fod Ty yr Arglwyddi wedi rhoddi, yn achos yr hel- ynfc a adwaenir fel Achos Dyffryn Taf," ddedfryd a wnaeth Gronfeydd Arianol Un- debau Llafur yn agored i gael eu hatafaelu er mwyn ad-dalu unrhyw golled arianol a achosir iddynt trwy i'r gweithwyr sefyll allan ar gymhelliad swyddogion y naill neu'r llall o'u Hundebau. Parodd y ddedfryd hono anfoddlonrwydd mawr a chyffro nid bychan yn nghylchoedd Llafur, a chodwyd cri gyff- redinol a chref am i'r ddeddf gael ei nhewid gyda'r amcan o wneyd peth felly yn an- mhosibl, fel y tybid ei fod cyn rhoddiad y ddedfryd a grybwylhvyd. Yn ystod yr eth- oliad, holwyd pob ymgeisydd er mwyn cael allan ei olygiadau ar y mater, a chafwyd gan yr ymgeiswyr Rhyddfrydolyngyffredin- 01 atebion a gyfrifid yn foddhaol gan aelodau Undebau Llafur. Yn mhlith y rhai a hol- wyd ac a roddasant atebion boddhaol, yr oedd Syr Lawson Walton ei hunan, a rhaid addef fod gan y Blaid Llafur resymau dig- onol dros gredu y byddai i'r Weinyddiaeth ddwyn ymlaen fesur a fyddai—o'r hyn lleiaf, yn y peth yma-yn foddhaol iddynt. Yn hyn maent wedi cael eu siomi, oblegid nid yw y mesur hwn yn dwyn diogelwch llawn i gronfeydd arianol yr Undeoau. Pan yn eg- luro yr adran ohono sydd yn cyffwrdd a'r mater yma, dywedodd y Twrne Cyffredinol fod y Weinyddiaeth yn barod i'r mater gael ei benderfynu gan farn y Ty," neu i'w ad- ael i farn y Ty." Digon hyn ynddo ei hun i ddangos un o ddau beth-naill ai fod holl aelodau y Weinyddiaeth yn agored i arghoeddiad, ac felly heb Surno barn derfyn- olar y mater, neu ynte eu bod yn barnu vn wahanol i'w gilydd, ac yn Saetu cytuno a'u gilydd. Yr olaf, mae'n ddiameu genym, yw, r ffaith. Boed hyny fel y bo, nid yw y mesur fel y mae yn rhoddi boddlonrwydd i Blaid LIafur nac i gorph mawr y Blaid Ryddfrydol chwaith. Cododd amryw Rydd- frydwyr—yn eu mysg Mr. Llewelyn Wil- liams, yr aelod dros Gaerfyrddin—i ddyweyd yn bendant y byddai yn rhaid iddynt bleid- leisio yn erbvn y \Veinyddiaeth oni wellheir yr adran a nodwyd o'r mesur. Wedi dadl frwd ac addysgiadol hefyd, darllenwyd ef yr ail waith. I Mesur Mr. Hudson. Dydd Gwener, cynygiodd Mr. Hudson (Plaid Llafur) ail-ddarlleniad Mesur Ang- hydfod Llafurol a ddarparwyd gan, neu dan gyfarwyddyd y blaid y perthyn idd?. Yr un d'ben sydd i'r mesur hwn ag sydd i'r mesur a luniwyd gan y Twrne ( yffredinol, a phrin y mae yn rhaid dyweyd ei fod yn penderfvnu y cwestiwn yr ydym wedi dal arno uchod. Pa fath fydd gosgedd y Ltywodraeth ato oedd y cwestiwn a ofynid gan bawb o'r bron yn y senedd ddydcl Iau a thranoeth. Wedi i i Mr. Hudson orphen ei araeth, siaradodd i emryw, ond yr oedd llygaa y Ty ar y Prif- j ———————«—■■■kii mm ua weinidog. Gan gryfed oedd yr awydd wybod beth a ddywedai ef, o'r braidd y gwrandawid yn astud ar yr areithwyr eraill. Yn y man cododd Syr Henry, ac heb golli dim amser hysbysodd ei fwriad yn ddigon eglur. Dywedodd ei fod wedi pleidleisio ddwy waith o'r blaen dros Fesur Mr. Hud- son, ac nad oedd ganddo reswm o gwbl dros beidio pleidleisio drosto y drydedd waith hon. Rhoddodd y dadganiad clir yma foddlon- rwydd mawr i'r rhan fwyaf o lawer o aelodau y Ty. Pan ranwyd y Ty, pleidleisiodd 416 dros, a 66 yn erbyn yr ail-ddarlleniad. Ond yr hyn a dynodd sylw neillduol, ac a barodd lawer o siarad. oedd absenoldeb pedwar o aelodau pwysicafyWeinyddiaeth o'r ymran- iad. Rhoddes angenrhaid ar bawb i gredu fod sail i'r si (y soniasom am dani) fod gwa- haniaeth barn yn y Weinyddiaeth. Y ped- war oeddynt Syr Edward Grey, a'r Mri John Morley, Asquith, a Haldane. Nid oes genym ond gobeithio eu bod yn foddlon i syrthio i farn y Blaid Ryddfrydol ar y cwestiwn. Mae naw o bob deg o'r Rhyddfrydwyr, dybygwn yn cytuno yn Hawn a Phlaid Llafur. Dylid coflo wrth addaw y daw amser i gyflawni. Hawdd yw rhoddi addewidion fel a roddwyd yn amser yr etholiad. Anhawdd ydyw eu cyflawni i gyd; rhaid eu cyflawni, er hyny. Esgob Llanelwy yn ymbarotoi i I Ryfel. Gwyr ein darllenwyr yn dda nad ydym erioed wedi gwarafun parch llawn i Dr. Ed- wards, Esgob Llanelwy. Yr ydym wedi ar- fer cyfrif ei fod yn haeddu parch mwy- llawer mwy yn wir—nag Esgobion Bangor, Llandaf, a Thy Ddewi gyda'u gilydd. Nid oes dim yn wlanenaidd nac yn wrachiaidd ynddo: y mae yn ddyn. Heblaw hyny, y mae yn graff tu hwnt i'r cyffredin o'i frodyr; mae yn ymladdwr pybyr, ac nid anheg. Gwel yn awr fod brwydr dadgysylltiad yr EgIwys Sefydledigyn Nghymru yn nesau, a geilw ar ei frodyr i ymbarotoi iddi. Dangos- odd ef gryn lawer mwy o barodrwydd i geisio dyfod i gytundeb ynghylch yr Ysgolion Eg- lwysig nag a ddangosodd y tri Esgob arall. Yr oedd ef yn barod, os nad oedd yn awydd- us hefyd yr oeddynt hwy nid yn hwyrfryd- ig yn unig, ond yn hollol anewyllysgar hefyd. Cyfrifiram y gwahaniaeth rhyngddo ef a hwynt gan y ffaith ei fod yn gweled mai yr oil a wnai cyndynrwydd o'u tu hwy fyddai cryfhau yr alwad am ddadgysylltiad a dad- waddoliad, ac yn awr, mae'r amser wedi dy- fod i alw sylw y wlad at y cwestiwn unwaith eto, i ddyfnhau ei dyddordeb ynddo, ac i'w goleuo trwy wneyd yn hysbys iddi drachefn ffeithiau a fynegwyd iddi lawer gwaith eisoes ac ydynt wedi eu hanghofio gan rai. Yn ngwyneb y sicrwydd sydd genym y dygir Mesur Dadgysylltiad gerbron y Senedd y flwyddyn nesaf neu y flwyddyn ar ei hol, m, ae'n bryd i ni ddechreu ar ein gwaith. Diolchwn i Esgob Llanehvy am ein hadgoffa I o'n dyledswydd. Ffrainc a'r Almaeri. 1 O'r diwedd mae Cynhadledd AIgeciras wedi gorphen ei gwaith, ac wedi ei orphen mewn modd a bair i Ymherawdwr yr Al- maen deimlo yn edifar ganddo iddo erioed awgrymu (ac yn wir, hawlio) iddi gael ei chynal. Gwyddai gystal a neb fod cael iawn drefn yn Morocco yn llawer pwysicach i Ffrainc nag i unrhyw wlad arall, oblegid mae toraeth masnach Morocco yn ei dwylaw hi. Gan fod LIywodraeth Ffrainc yn gweled fod buddianau y Ffrancod mewn perygl, galwodd ar Swltan Morocco i wneyd trefn ar ei ddeil- iaid terfysglyd ac anhydrin. Diau ygwnaeth- ai y Swltan ei oreu i gydsynio a'r cais, oni bae i'rj Ymherawdwr Gwilym ymweled a'i wlad. Ni wyr neb yn iawn beth a gymerodd le y pryd hyny, ond ffaith ddigon hysbys ydyw ddarfod i'r Swltan wedi hyny ddangos tuedd i ddiystyru rhybuddion Ffrainc. Mynai Uywodraeth yr Almaen i gynhad- ledd o gynrychiolwyr prif Alluoedd Ewrob gael ei galw i ystyried cyflwr Morocco a'r ffordd oreu i'w wellhau, ac er fod y Ffrancod yn teimlo yn dra anfoddlawn i hyny, bu iddynt o'r diwedd gydsynio. Credent y buasai gwrthod yn arwain i ryfel, a gwydd- ent eu bod yn rhy weiniaid i ymladd gormes a'r Almaenwyr. Gwyr ein darllenwyr am yr anhawsdera gafwyd yn y Gynhadledd i ddyfod i gytundeb. Bu ar dori i fyny fwy nag unwaith, ond gcreu y modd ni chymer- odd hyny le. Rhaid diolch am hyny i Mr White, cynrychiolydd yr Unol Dalaethau, yn benaf. Dywedir ei fod wedi dangos pwyll. a challineb a medr neillduol iawn. Mae'r amodau y cytunwyd arnynt y fath ag i fod ar y cyfan yn dderbyniol gan Firainc, ac y mae hyny gystal a dywedyd eu bod yn anfoddhaol dros ben i'r Almaenwyr. Ond mae'r heddwch wedi ei gadw, ac am hyny yr ydym yn llawen. I -¡; Gofal Mr David Mac lver, A.S., am I Feirion ac Arfon. Nid oes achos i chwarelwyr Meirion ac Arfon bryderu mwyach ynghylcn y marw- eidd-dra sydd yn y fasnach lechi nac yn nghylch dim arall, o ran hyny oblegid y mae wedi rhyngu bodd i'r seneddwr galluog a'r gwladweinydd enwog, Mr David Mac Iver, A.S gymeryd arno ei hun i ofalu am danynt hwy a'u buddianau. Mae'n wir fod Meirion wedi ymddiried i Mr Osmond Wil- liams i ofalu yn y Senedd am ei buddianau hi, a bod y Mri Lloyd-George, Bryn Roberts a William Jones yno i ofalu am fuddianau Arfon, ond ymddengys nad yw y gwyr hyn yn ddigonol i'r gwaith. Oherwydd hyny, mae Mr Mac Iver, gwr sydd yn gwybod gymaint (neu gyn lleied am danom ni ag a wyddom ni am dano ef), wedi ein cymeryd dan ei aden. Y dydd o'r blaen gofynodd i Mr Lloyd-George a oedd efe yn gwybod am y dirwasgiad yn y fasnach lechi a achosir (fel y dywedodd yn oractaidd) gan gystad- leuaeth gwledydd tramor, ac a oedd efe yn barod i argymell gosodiad toll ar lechi tramor. Bu Mr Lloyd-George yn ddigon hynaws i hysbysu ei holwr nad yw y dirwas- giad i'w briodoli i gystadleuaeth Hechi tramor (yr hon sydd yn gwanhau o flwyddyn i flwyddyn) ond i'r ffaith mai ychydig iawn mewn cydmariaeth o adeiladau newyddion sydd yn cael eu codi yn y wlad er's mwy na blwyddyn bellach. Dan rith gofal am danom ni, ceisiodd Mr Mac Iver gyfle i ddywed- yd gair dros diffyndollaeth. Mae hyn, fodd bynag, i 'w dywedyd yn ei ffafr:—yr oedd ef yn diffyndollwr rhonc pan oedd ei arweinydd presenol, Mr Joseph Chamber- lain, yn Radical eithafol ac yn un a bleidwyr Masnach Rydd. Mae Mr Mac Iver yn euog o fod yn gyson ag ef ei hun, ac y mae hwnw yn fai ag y mae y gwr o Birmingham yn hollol rydd oddiwrtho. Pwy fydd ei Olynydd ? I Bu farw yr Anghydfurfiwr cryf a'r Cymro gwladgar y Barnwr Gwilym Williams, a bydd yn rhaid penodi un i gymeryd ei swydd yn Llys Sirol Morganwg. Pwy fydd? Ni ryfeddwn os symudir y Barnwr GwiIym Evans o'i gylch presenol i Forganwg. De- allwn y byddai hyny yn dyrchafiad iddo. Os byddai, llawenhaem yn ei symudiad, er y byddai yn ddrwg genym ei golli. Os hyny wneir, credir y rhoddir ei le i Mr Bryn Roberts, neu Mr Ellis Jones Griffith, neu MrSamuel Moss. Yn mhlith cymhwysderau y ddau gyntaf i'r swydd, mae eu gwybod- aeth o'r Gymraeg. Gwyddom eu bod yn Gymry yn mhob ystyr i'r gair. Os nad ydym yn camgymeryd, mae hyn yn wir am Mr. Moss hefyd. Er mai enw Seisnig sydd arno hysbysir ei fod nid yn deall Cymraeg yn un- ig, ond yn abl i'w siarad mor rhwydd a neb ohonom hefyd. Gesyd hyny ef, os ydyw yn ffaith, ar yr un tir a'r ddau foneddwr arall a enwyd. Ymhlith y Deheuwyr a enwir fel "rhai tebyg," mae Mr. LIeufer Thomas a Mr. D. Jones Lewis, dau fargyfreithwyr yn nghylch Deheudir Cymru. Nid ydym yn tybied fod y perygl lleiaf i un heb fod yn deall ac yn siarad ein hiaith gael ei benodi.

NODION 0"R -CYLQH.

Dyledwvr yn cofio dim.I

ACHOS OWEN HUGHES.