Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Cynnor Dinesig Ffestiniog.

, Talybont. I

"'-'Harlech. I

Glanau'r Fachno. J

I',Ymchwiliad y Bwrdd Lleol…

News
Cite
Share

I', Ymchwiliad y Bwrdd Lleol yn Ffestiniog. Ffestiniog yn Benthyca Naw Mil ac Wyth Gant o Bunau at Carth- ffosydd. Am haner awr wedi deg boreu ddydd Gwener, yn Swyddfeydd y Cyngor Dinesig Ffestiniog, cynhaliwyd Ymchwiliad Cyhoeddus gan sMr. E. A. Sandford Fawcett, M. Inst., C.E., o Fwrdd y Llywodraeth Leol, i gais wneid gan y Cyngor i Fenthyca y swm o _f 8607 at amcanion Carthffosol a thrin Carthion yn nglyn ag Adran 3 o'r Cynllun Carthffosol, a £ 400 at y Gwaith Dwfr. Yr oedd yn bresenol Dr. W. J. Dibdin, F.I.C., F.C.S.; Mr. H. Berham Nicholson, M. Inst., C.E. 11, Victoria Street, Westminster (o Firm o Mri. Beesley, Son, & Nicholas, y Peirianwyr Carthffosol adnabyddus) Mri, William Owen (Cadeirydd y Cyngor) R. O. Davies, (Clerc) W. E. Alltwen Williams (Arolygydd a Pheiranydd); Evan Roberts (Clerc Cynorthwyol); Dr. Jones (Swyddog Meddygol); George Davies (Arol- ygydd Iechydol) David Williams, J. Lloyd Jones, Hugh Jones, Evan Jones (Aelodau o'r Cyngor); Andreas Roberts, J. S. Foster, C.E. a John Morris Jones (Cyn-Arolygydd Sirol). Bu i'r Dirprwywr holi y Clerc, y Peirianydd, Cadeirydd y Cyngor, Dr. Dibdin, a Mr. Nicholson. Nid oedd neb yn gwrthwynebu y cais. Gwnaed y pethau canlynol yn hysbys :— Arwynebedd y plwyf ydoedd 16,322 o erwau, gyda 200 erw o lynau. Yr oedd y boblogaeth yn 1880 yn 11,073, yn 11,425 yn 1900, ac amcan-gyfrifid ei bod yn awr yn 11,650. Y gwerth trethiadol ydoedd £ 52,829 2s 2c, a'r gweddill o'r benthyciadau heb eu talu i fyny ydoedd _f 9,242. Nid oedd dyled yn yr Ariandy, ond £ 80 ar y cyffif oedd yn bod yn barhaus rhyngddynt (current ale). Gofynid am 40 mlynedd o amser i dalu y benthyciad yn ol. Yr oedd yr oil, ond £ 15, wedi eu gwario -1'1 5 ",ec-ii eu gwario eisoes ar y Gwaith Dwfr, er nad oeddid wedi dechreu gosod i fyny y screens at lanhau v dwfr. Ymgymeryd a'r gwaith yn bresenol am fod cynifer o ddynion all an o waith. Yn nechreu Rhagfyr y cychwynwyd ar y carth- ffosydd, ac yr oeddid yn dal i weithio arnynt. Nid oeddid wedi dechreu ar y gwelyau at drin y carthion. Nid oedd yr amcan-gyfrifon wedi eu gwneyd fel ag i gynwys taliadau arbenig i neb ar wahan i'r swyddogion presenol. Cytunwyd a Mr. Nicholson am swm penodol yn cynwys pob costau, ac yr oedd tal Dr. Dibdin i mewn yn y cytundeb yn nglyn a chyflenwf y llechi at wneyd y gwelyau, Dau swllt y bunt oedd y dreth o dan y Cyngor, a threth y tlodion yn 5s y bunt. Mr. Lloyd Fletcher ydoedd y Tirberchenog ar Llyn y Morwynion ag eithrio rhan o hono. Yn Mai 1880, bu i'r Cyngor gymeryd i fyny y Gwaith Dwfr o law y Cwmni oeddynt wedi ei wneyd. Cafwyd prydles ar y lie am 99 mlynedd, yn ol ?25 o ardreth ac yn Gorphenaf 1880, cafwyd prydles ar y darn arall o'r Llyn gan Mr. John Edwards, am 99 mlynedd yn ol ?7 10s Oc o ?,a?.rdreth. Hefyd cafwyd Trwydded gan y Goron i fyned i'r tir perthynol iddi. Golygid fod deng mil yn defnyddio y dwfr, ac yr oedd y cyflenwad lyn ddigonol at roddi o 20 i 25 galwyn y dydd i bob un o honyrit. Yn 1900 yn unig y gwelwyd ychydig brinder ar y dwfr. Bydd y gost o osod i fyny a phrynu screens newyddion yn £ 250. Yr oedd gosod y pibelli i Pantllwyd, lle'r oedd tua 40.0 dai, wedi costio £ 146, ac yr oedd nerth y dwfr yn y pwynt uwchaf yno yn 70 pwys y fodfedd. Yr oedd pwysau y dwfr yn ddwbl wedi glanhau y prif- bibelli trwy y dosbarth. Y-i oedd pedair adran yn y cynllun carthffos- awl :—Adran 1 yn cynwys yr oil o Ffestiniog, ac yn gwasanaethu i pymtheg cant o drigolion Adran 2 yn cynwys yr oll'o Caeclyd, Conglywal a Manod Road hyd Bont Tanymanod, a gwasanaethai bymtheg cant o drigolion Adran 3. a gymwysai yr oil o Fourcrosses, a gwas- anaethai bum' mil o drigolion ac Adran 4, a gynwysai y Rliiw, Glanypwll, a'r oil o Tanygrisiau at wasanaeth tair mil o drigolion. Yr oedd Adran 1 a 2 wedi eu cwblhau, a gweithient yn foddhaol iawn. Am Adran 3. Hon oedd mewn Haw yn awr, at ei chwblhau y gofynid am y Benthyciad. Elai yr holl garthion yn bresenol i'r afonydd, ac yr oedd yr oil ond 40 i 50 yn wygelli (W.C's.) Golygid cymeryd naw mil o latheni o Garthffosydd i mewn i'r Garthffos newydd. Nid oeddid yn gwneyd cais yn awr at Adran 4, ond gwneid hyny mor fuan ag y byddai y trefniadau gyda chael tir at drin y carthion wedi ei gwbl benderfynu. Y Clerc a ddywedodd yn mhellach, fod tri Benthyciad ar gael eu talu allan, a byddai yr olaf o'r tri yn glir yn mhen tair blynedd. Aeth Mr. Nicholson i mewn i fanylion yn nglyn a'r gwelyau, a dangosodd y mesurau a gallu pob un o honynt at wneyd eu gwaith. Darperid ar gyfer tair gwaith y swm cyffredin o wlawogydd. Yr oedd gwneyd y gwelyau o lechi o'r tomenydd rwbel yn arbediad lie, a cheid llawer o fanteision eraill drwyddynt. Dr. Dibdin a fanylodd ar y cynllun o drin carthion gyda llechi: arbed lie a hwylusdod gyda glanhau y gweylau oeddynt y pwyntiau pwysig yn ei ffafr. Dr. Jones a ddywedodd fod gwlawogydd eithriadol yn yr ardal, a dylid darparu .ar gyfer hyny. Atebodd Mr. Nicholson eu bod wedi gwneyd trefniad at y gwlawogydd eithriadol yn y cynllun, Ar gynygiad Mr. W. Owen a chefnogiad Mr. R. O. Davies diolchwyd i'r Dirprwywr am ei ddull teg a di-dramgwydd yn cynal yr Ymchwiliad. Bu Mr. Fawcett yn ngolwg y Llyn a'r Gwaith Carthffosawl, ac aeth yn fanwl trwy yr holl blaniau. Yn y Cyngor Dinesig nos Wener pasiwyd i ofyn rhagor o £ 800 nag oeddid yn ei ofyn uchod.

-I Ymosod ar Ohebydd.

IMarwolaeth Cyn-gyfreithiwr…

/Schos Modrwy Caergyhi. I