Hide Articles List

8 articles on this Page

Cynnor Dinesig Ffestiniog.

News
Cite
Share

Cynnor Dinesig Ffestiniog. Cyfarfu y Cynghor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol y Mri William Owen, cadeirydd; E. M; Owen, is-gadeirydd Cadwaladr Rob- erts, E. Lloyd Powell. Richard Jones, John Cadwaladr, William Evans, J. Lloyd Jones, Hugh Jones, J. Lloyd Jones, (ieu) W. D. Jones, David Williams, W. J. Rowlands, Evan Jones, William Jones, Lewis Richards, H. H. Roberts, R. O. Davies, clerc; W. E. Alltwen Williams, Peirianydd ac Arolygydd; Ev?n Roberts, Clerc-cynorthwyol: Dr. R. JoneSv Swyddog Meddygol; a George Davies^ Swyddog Iechydog. Y NEUADD A SEINDORF Y LLAN.—Yr oedd Seindorf Arian Ffestiniog, wedianfon cais am fenthyg y Neuadd i ymarferyd. Cyfarfu pwyllgor arbenig i ystyried y cais, ac argymell- ent ganiatau y cais ar y telerau canlynol, y rhai a gymeradwyodd y Cynghor :—1, Fod y Sein- dorf i gael gwasanaeth Neuadd am ddwy noson ynyr'wythnos os na bydd cais arall am ei benthyg. 2, Nad oes yr un person arall o dan unrhyw esgus o fath yn y byd i fod yn bresenol ond aelodau y Seindorf a'r pwyllgor. 3, Nad oes myglus mewn unyhyw ffurf i'w ddefnyddio oddimewn i'r adeilad. 4, Nad oes dim o bethau y Seindorf i'w cadw yn y Neuadd na'i ystafelloedd. 5, Fod ardreth o dair punt y flwyddyn i'w godi am wasanaeth y neuadd am ddwy noson yr wythnos, a dwy awr bob nos, oddigerth ar achlysur neillduol pan y gellir estyn yr amser ar gais arbenig i'r perwyl hwnw Y flwyddyn i ddechreu o Ebrill laf, ac nid yw nos Fercher i'w chael o gwbl. CARTHFFOS Y DIFYR-FAES (Recreation) Cwynid yn achos gorlifiad y garthffos cysylltiol a'r Maes hwn yn nghefn Mr W. O. Willaims. Argymellid can y ffos yn y lie hwn i fyny gyda pibell ddigonol, a bod amcan-gyfrif yn cael ei roddi gan y Peirianydd am y gost o gwbl sychu y dwfr o'r Maes am yr hwn y cwynir yn barhaus ei fod yn cael ei orlifo. Gan fod cwrs y ffos redai yn ochr Tyddyn Gwyn i Manod Road wedi ei newid pan adeiladodd Mr D. Davies ac eraill dri yno, caed fod y ffos bresen- ol yn anigonol i gymeryd ymaith y dwfr wyneb a phenderfynwyd anfon at Mr P. Lloyd Fletcher ar y mater, gan mai efe ddylai wneyd y ffos i ateb y diben gwreiddiol. Difudd fyddai ffosu y maes heb gael y ffos hon yn iawn.- Gohiriwyd yr adroddiad yn mhellach hyd nes cael amcan-gyfrif o'r draul. YR YSGOL Nos.-Yr oedd yr Is-bwyllgor wedi tynu allan gynllun rhagorol at weithio yr ysgolion nos am y tymhor nesaf, a chyflwynwyd ef i'r pwyllgor Celfyddydol. Yr oeddid yn mhlith pethau eraill yn awgrymu cynal yr ysgolion ddwy noson yr wythnos, a gofyn i Gyi-^or yr eglvysi Rhyddion gynorthwyo trwy ryddhhau y nosweithiau hyny oddiwrth gyfar- fodydd yn y capelydè. Gofynid am gynorthwy Rheolwyr y Chwareli trwy roddi y flaenoriaeth i rai fydd wedi enill tystysgrifau o fedr pan yn dewis rhai i lanw swyddi. Fod Darlithoedd i'w traddodi gan ddynion galluog ar faterion addysgol &c. COKGI, MYNWENT ST DEWI.—Cafwyd adroddiad yr is-bwyllgoy ar y lie hwn, a bu trafodaeth faith ar y mater, ond gan nad oedd y Peirianydd wedi gwneyd amcan-gyfrif o'r gost, cvflwynwyd yr Adroddiad i bwyllgor y Ffyrdd. Y TRETHI A'R DWFR.-Pasiwyd i faddeu trethi nifer fawr oeddynt yn rhy dlodion i allu eu talu. Pasiwyd i roddi rhybudd i berchenog Pen-y- bryn Bethania, oni adgyweiria yr hyn sydd yn ofynol ar y dwfr yn y lie ei fod yn cael ei ddatgan yn anghymwys i'w breswylio. IECHYDOL.—Pasiwyd i anfon at berchenog Llety Gwilym i osod y lie mewn cyflwr iechyd- ol. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mrs Thomas Cross Keys, yn nglyn a geudai Rhiwlas, ac yn cydsynio a chais y Cynghor.—Gofynai yn mhellach am dal am y niwed wneid i'w thir yn Cwmbowydd gyda'r gwaith newydd oedd y Cynghor yn ei gario yn mlaen yno. Penodwyd Mri W. Owen, Owen Jones, J. Lloyd Jones, y Clerc, a'r Peirianydd i ddod i delerau hedd- ychol aMrs Thomas ar y mater. Pasiwyd i'r Peirianydd adrodd ar fater y cwynid o'i herwydd yn ochr Park Square, lie y dodid pob math o garthion. LLYFRGELL.—Rhoddodd y Llyfrgellydd 1,464 o lvfrau allan yn ystod y mis, ar gyfer 1,002: cynydd o 462.-Yr oedd y coed agafodd y Cynghor o'r Llyfrgell amser y cyfnewidiad ar y lle yn werth 12s 6c, a phasiwyd i'r cyfryw gael ei dalu i drysorfa y Llyfrgell. ARIANOL.—Pasiwyd i gymeryd cwrs yn erbyn y personau oeddynt heb dalu eu trethi oni wnelent hyny erbyn Ebrill 10.—Pasiwyd i dalu biliau yn cyrhaedd 720p 14s. NWYDDAU A GWAITH.-Cymeradwywyd cynygion y rhai canlnnol :-Glo i lyfrgell y Llan, Mri F. & M. Evans Blaenau, Mr. W. Jones. Agerdd, Mr W. M. Owen y Gwaith Nwy, Mr Edward Owen. Am gario:-Ceffyl a throl, D, Owen; 7s y dydd Cerrig, W, G. Davies, Is y llwyth i'r Gwaith Nwy, 8c y dunell, O. H. Evans.— Symud y celyrnau, H. Hamer, 90py flwyddyn. Ysgaxtbion Conglywal, H. Hamer, 28p; ys- garthion Fourcrosses, R. Jones, 124p y flwydd- yn; ysgarthion Tanyt;"isiau, O. H. Evans, 48p y flwyddyn.-—Pasiwyd i ofyn i H. Parry wneyd y gwaith yn y Llan hyd nes y gwneid trefniad. --Am gyflenwi y Cynghor a Phylor &c., Mr. Andreas Roberts. ADRODDIAD YR AROLYGYDD IECHYDOL.— Adroddodd Mr Davies yn fanwl am sefyllfa an- foddhaol Llety Gwilym, ac oddiar y cyfryw adroddiad y pasiodd y Cynghor y penderfyniad nodir uchod.—Cafodd 7 o achosion o afiechyd- on heintus eu Nhocli I yn ystod y mis Cwddf- glwyf 5, Twymcoch 1, Rhwnglwyf 1. Yr oedd 11, wedi eu Nhodi y mis cynt. ADRODDIAD Y PEIRIANYDD.—Cyflwynodd y Peirianydd ei Adroddiad am waith y mis, ac yr oedd ei wahanol ranau wedi ei ystyried yn yr Is-bwyllgorau eisteddent ar y materion hyny. Elai y gwaith yn Cwmbowydd yn mlaen cystal ag y gallesid ddisgwyl gyda'r tywydd anffafriol a gafwyd, Yr oedd tua haner cant o ddynion yn gweithio yno yn bresenol. SEL Y CYNGOR.—-Dodwyd sel y Cynghor ar y cytundeb gyda Chwmni y Great Western yn nglyn a'r Carthfiosydd a groesent eu llinell. —Cytunwyd a'r trefniant wnaed gydag ym- ddiriedolwyr Capel Gwylfa (M.C.) Conglywal i gael lledu y Brif-ffordd yn y fan hono. SEFYLLFA ARIANOL.-Y Clerc a eglurodd y sefyllfa Arianol. Casglwyd 571p 12s 9c yn ystod y mis, a chafwyd 86p o'r Cyngor Sirol. Yr oeddid 65p mewn dyled ddydd Mawrth, ond heddyw 20p wrth gefn. Yr oedd 720p i'w talu y fory. Talodd y Cynghor 900p ar waith dwfr Pantllwyd a'r Garthffos newydd yn Cwm- bowydd ac oni buasai im hyny, buasai 200p wrth gefn.—Eglurodd y Clerc yn mhellach am yr ymchwiliad a gynhaliwyd y diwrnod hwnw i'r cais am fenthyg arian at y Gwaith Dwfr a'r Carthffosydd. Cafwyd traferth fawr i gael yr Ymchwiliad hwn ond hyderai yn awr y deuai gair cyn pen yr wythnos o'r Bwrdd yn cymer- adwyo y benthyciad. Yr oeddynt wedi cael cynyg arian ar delerau rhesymol iawn. Ar wahan i'r trethi oeddynt heb eu casglu, deuai 600p i law o ffyn-honellau eraill, fel yr oedd yn hyderus iawn na byddai y Cynghor ar yr ochr chwith ar derfyn y flwyddyn er y gwariadau eithriadol fu ar y gwaith newydd (cymeradwy- aeth). Mr Cadwrladr Roberts a ofynodd paham na wneid y gwaith yn Tanygrisiau oeddid wedi pasio i'w wneyd ?—Y Clerc a atebodd fod y gwaith hwn wedi ei atal am fod y caniatad gofynol heb ei roddi gan Gwmni yr Oakeleys, ond diau y ceid ef cyn hir. GWELLA Y CAIS AM FENTHYC.—Eglurodd y Clerc i'r Arolygydd o Lundain awgrymu y priodoldeb i'r Cynghor ddarparu yn eu cais am fenthyg at y Carthffosydd newyddion ar gyfer tal i'r Arolygwr Gwaith, tal y Peirianydd, a'r gost gyda'r Automatic Valves." Bydd y valves yn 620p, yr Ymchwiliad yn 8p, a'r Ar- olygydd Gwaith yn 80p :-SOOp. Nid oedd yn rhaid gwario y swm hwn, ond gwell ydoedd darparu at bethau o'r fath os penderfynid i'w cael.—Pasiwyd i ofyn am y swm. LLYTHYR MR. G. J, WILLIAMS.—Yr oedd Mr Williams yn cydnabod yn ddiolchgar, deimladau caredig y Cynghor iddo ynglyn a'r gyfres o Ddarlithoedd a draddododd i'r Ysgol- ion nos. Nid oedd ef yn teimlo yn siomedig oblegid y cynulliadau gan fod y nifer ddaeth yn nghyd yn ymddangos yn cymeryd dyddordeb mawr yn y gwaith a wnaed. NODACHFA Y LLAN.—Caniatawyd cais cy- feillion y Llan am fenthyg y Neuadd at gynal Darlleniadau Ceiniog bob wythnos hyd mis Awst. Yr holl elw o'r Cyfarfodydd a'r Nod- achfa i fyned i drysorfa y Neuadd. Y LLYTHYRDY.-Y Cadeirydd a ddywedodd i air ddod dro yn ol yn gofyn am gynorthwy y Cyngor i sicrhau lie i'r Llythyrdy. Yr oedd y cais wnaed i symud y Llythyrdy y tro hwnw wedi syrthio trwodd. Gofynid yn awr a oeddid am helpu i gael lie ?—Mr. E. Lloyd Powell a deimlai yn bleidiol i gynorthwyo i gael lie cyfleus.-Y Cadeirydd, Beth sydd arnynt ar y lie presenol ? Yr ol a ddeallai ef, y rhent oedd y cwbl. Paham nad all y Llywod- raeth fel rhywun arall yn y lie dalu rhent am eu hadeiladu ?—Mr. Hugh Jones a ddywedodd ei fod yntau yn methu a deall paham nad allai y Llywodraeth dalu rhent rhesymol fel rhywun arall.—Mr. John Cadwaladr a ddywedodd i ddyn fod yn edrych am le yn Meirion Terrace.— Y Cadeirydd, "Y mae hyny wedi syrthio trwodd. Buont yn ceisio cael lie yn Park Square hefyd, yn ol a gyhoeddwyd yn y newyddiaduron. Eisiau lie cyfleus i'r holl ardal sydd genym ninau."—Ar gynygiad Mr. John Cadwaladr a chefnogiad Mr. David Williams, pasiwyd yn erbyn symud y Llythyrdy o'r Brif Heol, a'i fod yn awrmewn lie canolog. ADRODDIAD DR. Richard Jones .-Darllenodd Dr. Jones ei adroddiad am fis Chwefror. Gan- wyd 29 a bu farw 22: Y marw yn uchel. Gof- idiai ddywedyd fod y Gwddfglwyf yn drwm yn y Llan: 35 o achosion yn rhanbarthau Teigl a Chynfal, a thri ohonynt yn angeuol, Yr oedd y dwfr a'r carthffosydd yno mewn cyflwr rhag- orol, fel yr ofnai mai yr ysgolion oedd yn gyf- rifol: y hand trays a'r wooden pencils, Cyf- arwyddai i ysgolion y Llan gael eu cau hyd dros wyliau y Pasg, fod yr hand trays ar wooden pencils i gael eu symud o'r ysgolion yu mhlith y Babanod, a bod y darluniau diles ydynt ar y muriau yn dal llwch a hadau afiechydon yn cael eu symud, a'r ysgolion eu glanhau a'u diheintio.—Mr John Cadwaladr a ddywedodd i'r hand trays a'r wooden pencils gael eu pasio i'w symud, ond ni wnaed hyny. Dylid anfon at y goruchwylwyr i'w symud.—Mr Richard Jones a ofynodd paham nad oedd y pethau basiwyd wedi eu cario allan ?—Cadeirydd, Mae y Clerc yma, efe yw Clerc yr awdurdod addysg. -Mr R. Jones, Ein gwaith ni yw amddiffyn iechyd yr ardal, a dylem weled fod y peth yn cael ei wneyd.—Mr William Jones a ddywed- odd nad oedd o'r un farn a'r Doctor. Yr oedd y trays ar pencils yn yr ysgolion eraill fel yn rhai y Llan, ond nid oedd y Gwddfglwyf yn- ddynt. Ofnai mai diffyg glendid gofal am y plant yn eu cartrefi oedd achos y gwyn am iech- yd y Llan.—Y Cadeirydd a ddywedodd mai er's tri mis yr oedd yr afiechyd hwn yn y Llan, a bod y lie cyn hyny bron yn hollol glir oddiwrth bob clef yd heintus. Oni fyddai yn well cael pwyllgor arbenig i ystyried Adroddiad Dr. Jones a'i Adrodiad Blynyddol ?-Mr John Cad- waladr, "A fydd y Wasg yn bresenol?"— Cadeirydd, Fe basiwn i gael Cynghor Arben- ig ynte," a phasiwyd hyny. Y Cynghor i fod nos Iau nesaf (heno).

, Talybont. I

"'-'Harlech. I

Glanau'r Fachno. J

I',Ymchwiliad y Bwrdd Lleol…

-I Ymosod ar Ohebydd.

IMarwolaeth Cyn-gyfreithiwr…

/Schos Modrwy Caergyhi. I