Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Advertising
W. S. WILLIAMS (LLANRWST), LIMITED, LONDON HOUSE, LLANRWST. NEW STOCK OF CARPETS, RUGS, MATS, LINOLEUMS, OILCLOTHS, &c. A Magnificent Range of Lace Curtains, Madras Muslins, and the new Brise Bise Blinds. HOUSEHOLD LINENS of all kinds; and everything to add comfort to the Mansion or the Cottage. BLANKETS AT SUMMER PRICES. IMrOKTANT _The Time to buy Linoleums and Oilcloths is NOW: Prices are Lower than at any time during the past 10 Years. IMPORTANT. WE HOLD IMMENSE STOCKS, and our Customers can obtain just what they fequire at Rock-bottom Prices. NEW LONDON HOUSE, BLAENAU FESTINIOG.
Llys Ynadol Bettwsycoed.
Llys Ynadol Bettwsycoed. DIRWYO TRWM AR LANCIAU YSPYTTYIFAN. Dydd Sadwrn o flaen y Milwriaid Johnson, (cadeirydd) J. W. Jelf Petit a R. Parry, Ysweiniaid. NIWEIDIO.—Henry Lloyd, Tai'nymaes, Yspytty Ifan (dros yr hwn yr ymddangosai Mr E. Davies Jones), a gyhuddai Henry Williams, Dylasa Uchaf, Penmachno D. Ellis Jones, Eidda Fawr, Yspytty Robert D. Roberts a David Davies, Gwernhowel, Uanciau o 15 i 17 oed faros y rhai yr ym- ddangosai Mr A. Lloyd Griffiths), o fod ar nos Sul, Chwefror 18fed, wedi taflu craen ar ben ei blentyn bach gan beri niweidfau corff- orol. Bu yr achos o flaen y Faingc bythefnos yn ol, ond gohiriwyd er gweled sut y byddai y plentyn. Tystiai Dr Williams, Penmachno, a Dr Pritchard, Bettwsycoed fod y plentyn allan o berygl, Parch R. M. Edwards, Yspytty a dystiai iddo weled y plentyn y noson dan sylw yr oedd archoll ar ei ben. gwelodd y craen wedi dymchwel i'r ffordd, ond nis gallai ddweyd pwy taflodd ef. Nid oedd yn meddwl fod bechgyn Yspytty yn waeth ra bechgyn eraill ond yr oedd yn awgrymu i'r Fainc y dylid cael heddgeidwaid yn y lie yr oeddynt yn talu trethi yno. Nid oedd yn gwybod am y cyhuddedigion ond nad oedd gan rai o honynt air da. Evan Hughes, Llanrwst, perchenog y craen a dystiai ei fod yn ei le ddydd Sadwrn ac fod yn ofynol dipyn o nerth i'w ddymchwel. Tystiodd yr heddgeidwad Davies, Pen- machno i'r cyhuddedigion addef iddynt redeg ymaith, Mr E. Lloyd Griffiths a ddywedai nad oeddynt yn gwadu i'r craen syrthio, ond na wnaed gydag unrhyw ymgais i niweidio neb mai damwain hollol ydoedd, ac mai achos i'r County Court oedd, ac nid llusgo bechgyn mor ieuainc i'r llys hwn. Holwyd 3 bechgyn yn galed gan y Cyf- reithwyr, ac yr oedd yr oil yn ddieuog o dailu y craen, ond rhoddent y bai y naill ar y llall. Ar ol i'r trydydd ddweyd ei stori hysbysodd Mr Griffiths nad oedd am gymeryd amser y Faingc gan mai yr un peth oedd gan y pedwerydd i'w ddweyd. Y Cadeirydd,—" Na gadewch i ni glywed pwy yw v goreu am ddweyd anwiredd." Ymneillduodd y Faingc, a rhoddwyd dirwy « 2p a ] p o gostau ar bob un ATAL TRAFNIDIAETH.—Yr Arolygydd Rees a gyhuddai Evan Hughes, perchenog y craen o'i adael a'r draws y ffordd dros y Sul Mr E. Davies Jones a hysbysai fod Hughes, yn gofidio am yr hyn gymeroid le ac iddo fyned at dad y plentyn anafwyd i ddangos ei gydymdeimlad. Taflwyd yr achos allan ar dalu y costau. YMOSODIAD YN YSPYTTY IFAN. Benjamen Lloyd, (dros yr hwn yr ym- ddanghosai Mr E. Davies-Jones). a gyhuddai John Jones, gwas Penbryn Eidda, Yspytty, (dros yr hwn yr ymddangosai Mr A. Lloyd Griffiths), o fod wedi ei daro a darn o bridd caled, ar yr 28ain o Chwefror nrs peri archoll ar ei dalcen, Yr oedd yn cynorthwyo gydar peiriant dyrnu yn Ty Ucha, a thra yn siarad yn nghyich clnfr ar ddefaid, dywedodd un Robert Roberts wrtho ei fod yn cymeryd plaid yr heddgeidwaid pa rai na wyddent ddim mwy na theiliwr fcm glaff. Ar ol hyny tarawyd ef yn ei dalcen, a chyhnddodd John Jones yr hwn oedd yn y llofff o fod wedi gwnejd. j Mr E. Davies Jones ddywedai fod yn bryd rhoddi ttalfa ar y gang o hollgans oedd yn y rhsn yma o'r wlad, yr oeddynt yn ddiarhebol er s yn '.gos i fiwydd/n. Rhingyll Rees a dystiai iddo fyned i Yspytty Ifan er ceisio dod at wreiddyr y drwg. er fod poblogaeih ei ddosbarth yn 5,5000 yr oedd mwy o gwynion o Yspytty na'r un He arall. Oddeutu mis yn 01 daeth dyn ieuanc i gwyno i rywynyrnosod arno ef a'i ferch ifanc, yr oedd ei ddillad yn waed a'i het wedi tori. Mr A. Lloyd Griffiths a ddadleuai nad oedd yn deg dod a hyn i fyny heddyw. John Jones a dystiai ei fod yn cynorthwyo y dydd dan sylw yn Ty Ucha, yr oedd ef gydag eraill yn y liofft a Benjamin Lloyd a R. Roberts yn v gwaelod yn codi gwellt, cafodd ddarn o bridd yn y gwellt a thaflodd ef allan, nid oedd bwriad o gwbl i daro Lloyd. John Parry, Blaen eidda, a gadarnhai y dystiolaeth ac mai ef roddodd y pridd i John Jones i'w daflu. Cadeirydd—" Pam na fuasech yd ei datln eich hun ?"—Nid wyf yn gwybod. Dirwy lp a lp 13s o gostau.
I I __Llys Ynadol Llanrwst.
Llys Ynadol Llanrwst. I Y Tafarnwyr law yn lIaw a'r Oir- I westwyr yn erbyn Caniatau Trwydded. Dydd LIun, o flaen y Milwriad Johnson, y Milwriad Higson Major Priddle, J. W. Jelf Petit, H. J. W. Watling, W. J. Williams, a John Blackball, Ysweiniaid. Trwydded i Werthu Gwinoedd. Mr. Arthur Parry, Fferyllydd, Llanrwst (dros yr hwn yr ymddanghosai Mr J. E. Humphreys), a wnaeth gais am drwydded llawn i werthu gwinoedd. Yr oedd pedwar o feddygon y dref wedi rhoddi tystiolaeth ei fod yn berson cymwys i gael y cyfryw. Yr oedd yn llwyr ymwrthodwr ei hun, a'i unig amcan oedd cadw gwmoedd at alwadau y claf. Yr oedd yn gorfod myned i gyrchu gwinoedd yn ami i wneyd i fyny yr arcbebion dderbyniai. Mr A. Lloyd Griffith a wrthwynebai ar ran Tafarnwyr y dref. Nid oedd vn deg i Mr Parry gael trwydded am L2 10s y flwyddyn, tra hwy yn gorfod talu rhenti a chostau uchel eraill. Yr oedd trwydded o'r fath yn gyfle i fenywod i ymyfed. Mr E. Davies Jones dros Gymdeithas Pdirwestol y Dref, a wrthwynebai. Yr oedd yn dda ganddo weled y Tafarnwyr law yn llaw a'r Gymdeithas Ddirwestol yn gwrth- wynebu agos cyfleusdra ychwanegol i fen- ywod. Yr oedd ef, (Mr. Jones) wedi clywed y boreu hwn nad oedd o un diben gwrth- wynebu gan fod aelodau y Faingc wedi eu canvassio ar ran caniatau y drwydded. Y Cadeirydd—Y mae y sylw yn hollol anheg, ni fu neb yn canvassio. Yr Arolygydd Wo'lam a wrthwynebai ganiatau trwydded llawn. Ymneillduodd y Faingc, a dywedodd y Cadeirydd fod mwyafrif y Faingc yn gwrthod y .drwydded, ond pe buasai Mr Parry yn gofya am Medicated Wine Licence yn nnig y cawsai un. Arfej Iaith Aflan yn y Tren. Mr. Fenna, ar ran Cwmni y L. & North Western a gyhuddai un James Haigb, teiliwr, 14, Marine Cresent, Deganwy, o'r trosedd uchod. Vmddengyslfod Mrs Jenkins, Eirianfa, Llanrwst, yn dychwelyd o Llandudno Junct- ion gyda'r tren 2-10 Rhagfyr SOain, 1905, ac i'r diffynydd ddod i'r un cerbyd a hi, gan ddyweyd Credaf y gallwn deithio, heb syrthio allan a'n gilydd." Gan nad oedd yn hoffi yr ymadrodd aeth allan i gerbyd arall. Yn ngorsaf Glan Conwy daeth y diffynydd ati gan arfer iaith rhy aflan i'w rhoddi yn ein colofnau. Rhoddwyd yr hysbvsrwydd yn ngorsaf Llanrwst, Galwyd amryw dystion, Amddiffynwyd Haigh gan Mr. Wheeler, Llandudno. Yr oedd yn gwadu y cwbl, ac na welodd y foneddiges erioed, ond barnodd y Fainc yn wahanol, a chafodd dalu 2p a'r costau. Clafr ar Ddefaid. Yr Arolygydd Woollam a gyhuddai un Griffith Roberts, Talybont, Llanrwst, o fod a defaid yn ei feddiant a clafr arnynt. Yr amddiffynistd oedd nad ei eiddo ef oeddynt gan iddo eu gwerthu i Mr. Robert Williams, ond eu bod ar ei dir. Efe oedd perchenog y myharen, a thystiai yr Arolygydd a thyst- ysrif y ffarier mae hwnw oedd yn dioddef fwyaf. Dirwy 5s a'r costau. I Meddw ae Afreolus. Yr heddgeidwad Evans aigyhuddai Han- nah Thomas, Scotland Street, o'r trosedd I uchod. Dirwy 2s 6c a'r costau. Gweithio Merlen a Briw arni. Arolygydd Hakins dros Cymdeitras er atal creulondeb at Anifeiliaid a gyhuddai Thomas Owen, Henblas, Llanrwst, o weithio merlen ar yr 20fed o Chwefror tra yr oedd briw o dan y golar, a chyhuddwyd William Williams, ei feistr, o ganiatau iddi weithio. Dadleuai Thomas Owen fod pob gofal yn cael ei gymeryd. Dirwywyd y gwas i Is a'r costau, a'r Meistr i lp a'r costau.
I Glanau'r Fachno.I
Glanau'r Fachno. I [GAN YR HEN DDYRNWR]. ,I Eelurhad. Mae yn gywilydd o beth fod yn rhaid i ysbryd chwilfrydig wisgo enwau personau dieuog ni chewch byth wybod pwy ydwyf, pa waeth hyny; nid pwy ydwyf, ond beth ddywedaf sydd i fod yn wybyddus i'r darllen- wyr. Y Cwm. At luaws o angenrheidiau cymdeithasol ddylai fod yn gwasanaethu trigolion rhan- barth: anghyfleus fel y Cwm. Dymunwn alw sylw ar hyn o bryd at yr anghenrheidrwydd o gael llyfrgell a goleuo yr ardal. Mae amryw lecynod yn dywyll a pheryglus; fel y mae yn syndod fod cyn lleied o ddamwainiau wedi digwydd. Goleuni i'r hen, llyfrgell i'r ifanc, dyna ddau anhebgor y teithydd llwyddianus, ddylai fod yn feddiant iddynt. Pe ceid ael- odau Cynghor Plwyf y Cwm i ddeffro o'u cysgadrwydd ac i fod yn rhywbeth amgen na dumies. Gellid cario y peth'drwodd erbyn Hydref, i wasgar goleuni deublyg. Yn y tymor hwnw o'r flwyddyn mae natur yn fwy- af ceidwadol; os ra symudir yn fuan bydd fy ffyst yn gwneyd llawer o honynt yn ddi- werth fel dumies. Gwaith Dwr. Symud yn ddifrifol iawn yn ei flaen mae hwn a'i gostau vn treblu ac arian y treth- dalwyr yn cael eu^lluchio yn ddiystyr mewn swyddau yn y gwaith. Bydd genyf air yn rhagor arno cyn hir. Proneswr. Nos Lun Mawrth 5ed a nos Iau dilynol, bu y Proffeswr W. Hopkins Jones o Goleg Bangor, yn anerch ar "Dyfu llysiau a ffrwyth- au mewn gerddi bychain,aRgerddi.marchnad.¡ Darlithiau rhad' o ddewisiad y Cynghor Plwyf, ir amcan i gefnogi yr awydd g&rddwr- ol cyffredinol sydd yn yr ardal. Bydd tair eto yn dilyn am fis bob nos Lun. Cadeirydd oedd y doniol a'r galluog Dr Williams M. B., Mostyn Vilfa. Y Diwygiad. Ofnwn mai oeri i riiddau mae gwres diwyg- iadol yn y gymdogaeth yma. Ofnwn fod yr ysbryd beirniadol wedi tarfu Ysbryd Duw o'n plith, ac nad oes yn aros ond yr hyn sydd ddynol; a chwyno parhaus sydd oherwydd hyn, er ar yr un pryd yn edmygu sel a brwdfrydedd; ond waeth heb os nad ydyw y "gwirioneddoi" genym. Ofnwn weithiaufod goimod o'r dynol yn mynu gwthio ei huh i'r amlwg. Mae'n bryd deffro'r eglwysi. Dy- wedodd cyfaill wrthyf yr wythnos o'r blaen, "Ei fod yn aelod parchus" ebe fe "o unrhyw Eglwys yn Mhenmachno y dyddiau presenol, yr unig berh sydd yn angenrheidiol ydyw talu ardretb ei eisteddle, cyfranu yn hael at i gyflog y Gweinidog, a cad- ei hun yn Ian a thrwsiadus, .ni ofynir ychwaneg ganddo. Nid ydyw yn angenrheidiol fod ganddo gar- iad Ileiaf tuag at ei gymydog, nac unrhyw feddwl am ymadael ag un o'i gotiau, nid oes angen iddo fod yn elusengar, yn addfwyn, nac yn ostyngedi r, nac yn gymedrol ynmhob peth, na chymeryd trugaredd ar y weddw ar amddifad, gall sandio ei siwgr a phethau cyffeiyb, a dweyd yn ddrwg am ei gv-myd- og, ac eto bod yn aelod parchus o'r eglwys." Mae lie i ofni fed yr hyn ddywed yn ffaith. Mor wrthwynebai i ddysgeidiatth Crist onide! I Cleifion. I Ya mhlith llawer sy'n rhodio ar Ian llyn Bethesda, mae yr hen lenor William M. Jones (Gwilvm Machno). Nis gwn beth ddaeth o hono ef ai wiers. Calon drom afiechyd sydd i'r brawd R. M. Jones Llys Ifor. Y mae Mr Jones yn un o'r rhai mwyaf diymhongar, a dirodres, yn gyf- aill cywir, gonest a charedig, yn foneddwr a Christion. Brawd arall sy'n cwyno yw yr hen bererin Owen Roberts (Owain Fardd) Cwm. Ni welwyd gwr mwy boneddigaidd a charedig yn troedio ein ystrydoedd, ei ymddanghosiad urddasol, a'i barabl ystwyth. Ymholai'r trigolion am dano. Hyderwn y gwelir yr oil yn fuan wedi Ilwyr wella. Priodas. Yn nghapel Bethania (W) cymerodd yr amgylchiad dydaorol hwn le foreu Sadwrn diweddafj sef uniad hapus John T. Jones, Bridge St Llanrwst, gydag un o wyryfon ein hardal Miss Maggie Roberts Swch Isaf. Boed i wenau deufyd belydru ar eu bywyd I tra gwel yr Hollc lluog yr oreu i glwm eu priodas barhau. Manion. l-yarhwng nos badwrn a boreu bul bu i rhywyn neu rhywrai dori i efail Rhys Jones Gof, a chymeryd oddiyno eiddo neilltuol. Gresyn na cheid allan pwy oeddyut a'u cosbi am eu beiddgarwch. Deallwn fod materion pwysig yn cael eu trafod uwchben y gwpan de, a bod tipin o wlith ac arddeliad, a diwedd y visit hyn, hyn fydd "er gwell ac er gwaeth," Beware.
I JOHN ELWYN !
JOHN ELWYN Anwyl blentyn Mr. a Mrs. John Cadwaladr, Ysgol Maenofferen, Blaenau Ffestiniog. JOHN ELWYN sy'n dwyn i'w dad-adloniad Leinw'i frwd ymserchiad Sieryd a'i ddinam Fam fâd, Gu iaith amlwg ei theimlad. I Mawrth laf, 1906. CYFAILL,
I OWEN A. ROBERTS.
OWEN A. ROBERTS. Anwyl faban Mr. a Mrs. Roberts, 2, Ty'nyeoed, Carneddi Road, Bethesda. Wele rodd o nefol ryw-yn Owen- Ieuanc berl dynolryw Swyna pawb a'i dlysni byw, A dedwydd ei fyd ydyw. 0. R. WILLTAMS (Eos Gwynant), Nantgwynant.
I_____ENGLYNION CYFARCHIADOL
ENGLYNION CYFARCHIADOL I Mr. D. H. Parry, M.P.S., Chemist, Harlech, Cadeirydd Cyfarfod Llenyddol y Tabernacl (B.), Harlech, Chwefror 28ain, 1906. Gwr lion, pwy geir yn Hawnach ?-i'w godi I'r gadair yn aingenach Ei godi'n awr, i gyd yn iach, Heb ballu, gwnawn bawb bellach. TREBOR LLECH. Pwy geir fel ein Cadeirydd ?—mae yn dwr, Mwyn a doeth Gymreigydd El geinion teg a'i gynydd, Loewa'i daith fel goleu dydd. Fferyllydd, craff wr o allu-ddaw a gwiw, Feddyginiaeth i deulu Y claf trist, wna'n CHEMIST CU, 0 gwynion i fyg wenu. Am helynt crydcymalau-hwn a wyr Settla'r ddanodd hithau Er hyntoedd brwydrau'r heintiau, 0 och rhwydd, hwn wna'ch rhydddau. Hir einioes o bur anian-i'w harwain, Fo i Parry fwvnlan; O'i 'wyllys gweithied allan, Ei wir lef dros Gymru lan. Harlech. DEWI EDEN,
ER SERCHOG GOFF ADWRIAETH
ER SERCHOG GOFF ADWRIAETH Am Mr. R. E. Morris, diweddar Brifathraw Ysgol GenedlaethoJ, Moeutwrog. Robert Edward, hardd ei rodiad, GJan ei fuchedd, par ei fees; Syrthiodd fel tywyssn addfed 0 dan heulwen boreu oes Cyfaill Hyddlawn a diweoiaith, Cymwynasgar ydoedd ef Ac yn erbyn brad a thwylledd Mewn eofndra coda'i lef. Dioddefodd "aml gystuddiau Yn ddirwgnach iawn a lion Cario wnaeth ei groes yn siriol Gyda gwanaidd nychlyd fron 'R oedd tawelwch ae addfwynder Yn addurno'i fywyd gwyn Ond yn mhoethder pair ei gystudd Purwyd eilwaith y rhai hyn. Ei luosog Ysgoleigion Yn amddifad heddyw gawn Wedi colli AtJiraw tyner Medrus a gofalus iawn Bydd ei ddylanwadau'n aros, Yn mywydau'r lluaws hyn, Ac o ffrwyth ei lafur etto, Cyfyd llawer blod'yn gwyn. Cyn i'r glaswellt orphen tyfu I addurno bedd ei chwaer, Galwyd yntau i gyduno Gyda'r dyrfa hardd a chlaer Tyner a gofalns oeddynt Rhag i'w gilydd roddi elwy' Ac yn angau'r ddau anwylaf Nid yn hir gwahanwyd hwy. At y teulu bach galarus Llifa cydymdeimlad byw; 0 mor fynych maent yn teithio 0 dan gysgod trwtn yr Yw; O'r hardd dyaid blant caruaidd Fagwyd mewn anwyldeb cun Gwaeda'r galon wrth adgofio Nad oes yma ddim ond un. Mae y byd i minnau heddyw Yn fwy gwag o'i golli ef, Llai o wir gyfeillion yma Mwy o dyniad tua'r Nef Bellach ffarwel, anwyl gefnder, Na nid ffarwel ydyw chwaith Sua'r awel dros dy feddrod Nad yn mhell yw pen fy nhaith." (Gynt Dolmynach), jynt Dolmynach), ANNIE WILLIAMS, Tiawsfynydd.
RHINWEDDAU CRIST.
RHINWEDDAU CRIST. Ton :—" PAID A'M GADAEL I." 0 fy Iesu, anwyl Iesu, Cyfaill pur yw Ef Cymorth fydd i'm henaid egwan, Hyd yn nheyrnas Nef. CYDGAN lesu, Iesu, Brenin nefoedd wen Rhoddaf finau drwy fy mywyd Goron ar Dy ben. 0 fy Iesu, anwyl lesu, Ffynon bywyd hael; Ynddo Ef mae pob cyflawnder I bechadur gael. 0 I fy Iesu, anwyl Iesu, Aberth mawr y GrlJe; Cafwyd ynddo for o haeddiant Drwy ei angeu loes. 0 fy Iesu, anwyl Iesu, Ceidwad cryf i'r gwan Yn Ei law drwy bob ystormyd& Daw y llesg i'r lan. fy Iesu, anwyl lesu, Prynwr f'enaid Heddf Dan y goron ddrain a'r hoelion TaloJd filiau'r ddeddf. 0 fy Itsu, anwyl Iesu, Fe ddaeth im'n Frawd Ynddo Ef mae hedd u theyrnas I'r pererin tlawd. C) fy Iesu, anwyl Iesu, Gobaith fenaid yw A gobeithiaf giel ei weled Draw yn Ngwynfa Duw. 0 fy lesu, anwyl Iesu, Madden fejau f oes Ac yna byth heb flino I Canaf am dy Groeg. 0 fy Iesu, anwyl lesu, Eiriol mae yn av, r Dros bechadur sydd yn goi-wedd1 Mewn fcrueni mawr. 0 fy Iesu, anwyl Ieau, Daeth i lawr o'r Nef Rhaes Ei fywyd dros bechadur Diolcrb Iddo Ef." 0 fy Iesu, anwyl Iesu, Arglwydd dae'r a, nen Gwna fi'n gymwys i breswylio 'R wiad tu dcaw i'r Hen. 0 fy lesn, anwyl lean, Bydd yn golofn dan Dyro'th Ysbryd i fy arwain I'r Gaersalem lan. 11, Tanyclogwyn Terrace. D, JONES,