Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

Advertising

AT EIN GOHEBWYR. I

AT EIN DERBYNWYR. I

INODIADAU WYTHNOSOL.

Pwysig I Uudebau Llafur.

Masnachu ar y Sut. [

I Y Darllaw-wyr mewn caledi.I

Nos LAM yn Nky y CyVredHa.-I…

Mr. Phillip Snowden.

News
Cite
Share

Mr. Phillip Snowden. Nid oes eisiau dywedyd mai un o brif gynrychiolwyr Llafur ydyw Mr. Snowden, a'i fod yn Sosialydd hefyd. Cyfrifir ef yn un o'v siaradwyr mwyaf hyawdl yn yr holl wlad. Mae yn ddyn o feddwl diwylliedig. iawa, mae wedi cymeryd trafferth i gael gwybodaeth o'r gwirionedd am gyflwr cym- deithas, ac wedi cymeryd poen i gael allan pa foddion yw y moddion mwyaf effeithiol i'w weilhau. Mae sel dros ryddid a chy- fiawnder yn ei ysu, ac y mae ganddo grefydd a'i ffrwyth yn sancteiddrwydd a gweithredoedd da. Cafodd wrandawiad hynod astud pan gododd i gymeryd rhan yn y ddadl yr ydym wedi son am dani. Er ei fod yn pleidio Masnach Rydd, daliai fod yn rhaid cael rhywbeth at Fasnash Rydd i ddwyn y wlad i'r cyflwr y dylid ei dwyn iddo. Mae'r cyfoethogion yn myn'd yn gyfoethocach, a'r tlodion yn myn'd yn dlotach-byther y rhyfel mae mwy o dlodi, ac mae gwaith yn brinach. Ond gyru pethau o ddrwg i waeth wnai Diffyndollaeth. Rhaid newid cyfundrefn dirol y wlad o'r gwaelod i fyny, a rhwystro Cwmniau'r Rheilffyrdd rhag cludo nwyddau tramor am dal llai nag a godant am gludo nwyddau cartrefol, &c. Yr oedd dull traddodiad, cynwys ac eglurder araeth Mr. Snowden yn gosod angenrhaid ar yr holl aelodau i'w wrando yn astud, ac yr oedd yno lawer yn cytuno yn Ilawn a rhan helaeth o'r hyn a ddywedodd.

I Mwyafrif Mawr.

IY DIWEDDAR BARCH. DAYID -ROBERTS,…

Advertising