Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Cyfarfod Undeb y Chwarelwyr…
Cyfarfod Undeb y Chwarelwyr yn Blaenau Fesiiniog. Nos lau diweddaf, yn y Neuadd Gyhoedd- us, cynhaliwyd cyfarfod o dan nawdd Undeb y Chwarelwyr. Yr oedd yn noson ddrycinog, a chyfarfod arbenig yn nglyn a chladdedig- aeth y Parch. David Roberts yn cael ei gynal, er hyny daeth torf dda. ynghyd, ac yr oedd y cyfarfod trwyddo yn un hynod o gryf a brwdfrydig. Mr. Hugh Lloyd, y Llvwydd, a ddywed- odd fod cvtarfodydd o'r fath yn bwysig iawn iddynt fel gvveithwyr. Credai ef yn fawr mewn undeb gan mai trwvddo yr oedd gobaith y gweithiwr am hvyddiant. Yr oedd gan y Meistri adnoddau wrth eu cefn, tra mai undeb y naill weithiwr a'r Hail oedd eu hunig amddiffynfa hwy. Gwnaeth y gweith- wyr lawer at wella eu sefylifa trwy ddeddfau seneddo!, a gailent ddysgwyl liawer mwy yn awr wedi cael plaid Liafur yn y Ty. Eto dyiid cofio mai U naeo er amddiffyo, ac jinid i ymosod oedd eu Hundeb hwy. Gall Un- debau cryfion wneyd gwaith mawr eto, fel y gwaethant eisoes. Yr oedd mantais dda gan y chwarelwyr i uno am nad oedd pob! eraiil i'w caei allasent wneyd eu gwaith. Mr. Henry Cuiiiiington a gynygiodd y penderfyniad canlynol :— Ein bod fel Chwarelwyr yn llawenhau ffrr tifflr~ aa sydd Yn cynrychion yn Pl?u- (le??rn- umongyrcho! tudd¡anaU !!at?!'w?? ? ?-? as; a thra yn dyheu arn ?e)ed nifer dda. o ddeddfau er diogelu a rhyddhau g weith- wyr yn cael eu gosod a'r gof-!yfrau y Wladwriaetn, eto, yn gobeithio y ceir y deddfau sydd e^sioes mewn bod, i weith- rediad mwy ymarferol a chyfnedinol, ac y gorfodir gan y Llywodraeth, y swydd- feydd a swyddogion sydd yn gyfrifol iddi am ei gweithrediad allan i wneyd eu dyledswydd iddi, a thrwy hyny ddi- ogelu bywyd, iecbyd. a chysur y gweith- wyr." Ychydig a wnaeth y Rhyddfrydvvyr erioed dros y gwei'chvvyr, ond crafangu tir ac eiddo iddynt eu hunain. Clywodd ei fod yn dros- edd cosbadwy i ddyn sefyil yn hir hyd yn nod i ddim ond edrych ar eu tir oddiar y ffordd fawr. Dylid cenedlaethoii y tir, a chael blwydd-dal i hen bob!, Eiai y wlad hon fel Rwsia yn ferw o orii wnai y Llywcdrð symud yn m!aen yn fuan. Mr. D. R. Daniel a gafodd dderbyniad crcesawus. With gefnogi y penderfyniad dadleuai mai materion llafura* 1 oeddynt y rhai pwysicaf iddynt fel g weithwyr. Yr oeddynt oil yn Hawenhau am y kuddngol- iaethau gafwyd yn yr etholiad diweddaf, a bellach bydd ganddynt lais a dylanwad yn Senedd y wlad. Collwyd liawer yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, ac er i gyngaws y Taff Vale fyned yn eu herbyn, troes y fudd- ugoliaeth hono yn un golledfawr i'r Toriaid, gan iddynt golli liawer o'u seddau o achos y dyfarniad. Yr oeddid yn synu at y buddug- oliaethau, ac at y cynrychiolwyr yn y Senedd. Mae y Blaid yno mewn perygl i gael eu hudo, ond y maent hefyd mewn mantais i wneyd gwaith mawr. Gwnelai Mr. Parnell bob cwesliwn o fiaen y Ty yn un Gwyddelig, a dylai plaid llafur wneyd pob cwestiwn yn un llafurawl, Amcan Socialaeth oedd cyn- orthwyo a chyfarfod y wasgfa, ac unai pawb yn hyny ond y chwarelwyr. Credai y dylid cael Dadgysylltiad er mwyn symud y cwest- iwn oddiar y ffordd. Ofnai fod gormod o amser yn cael ei golli gyda man gwestiynau yn nglyn ag addysg. Dadleuid yn nghylch y catecism ceiniog a'r prawf-lw, ac eto gos- odid rheidrwydd ar yr athraw i ddarllen rhanau penodol o'r Beibl i'r plant. Tynu y Beibl o'r Ysgol ddylid, ac nid ei adael fel pel dreed i'r Person a'r Gweinidog i'w gicio. Dylent uno i gael iawnderau, a chofio mai felly yr oedd eu gobaith am lwyddiant (cym- eradwyaeth maith). Pasiwyd y penderfyniad yn unfrydol. Mr R. T. Jones, Tan'rallt, a gynygiodd, Fod y cyfarfod hwn yn dymuno datgan ei werrhfawrogiad o Undeb cryf fel cyfrwng mwyaf effeithiol i weithwyr i sicrhau eu hawl- iau teg a chyfreithlon." Yr anhawsder oedd cael y gweitnwyr i gredu fod eu buddiant yn un. Rhaid ydoedd meithrin cydymdeimlad pan fyddai cyd-gamwri yn cymeryd lie. Gallai dyn pabwr daflu y chwarelwr i lawr. Y chwarelwr oedd y creadur tywyllaf am ei amgylchiadau ei hun, o'r un yn y deyrnas. Mr. Ellis W. Davies, cyfreithisvr, Caer- narfon, a gafodd dderbyniad brwdfrydig. Llawenhai we led y bobl ieuaingc yn y cyfar- fod. Yr oedd yn arferol a chysylltu tri pheth a Ffestiniog capeli heirdd, cyfun- drein addysg ardderchog, a gwiaw tragwydd- ol. Gwelodd beth o'r gwlaw heddyw (chwerthin mawr). Synai na fuasa i y capeli wedi dysgu hunan-abetth, a'r ysgolion ddysgu y pwys o uno er mwyn llwyddiant rnasnachol. Hanes yr hol! fyd ydoedd uno er mwyu llwyddiant, ond yr oedd syniad y chwarelwyr yn wahanol. Pwy oedd yn iawn ?-Y chwarelxvyr, ynte yr boll fyd ? Dyben yr Undeb ydoedd cael cyd-ddeall- twriaeth am yr angen a sut i'w gyfarfod. Dylai angen yr holl deulu ddod i mewn i'r cytundeb am gyflog, ac nid angen y dvn ei hun. Yr oedd cvtundeb teg '-n fanteisiol i grefydd. Meddylier am sefylifa yr hen a'r methedig gwaith yr Undeb oedd gofalu am y rhai hyn. Yr oedd ymddygiad Cymru at ei benafgwyr yn sarhad ar ei chrefydd. Yr oedd arferiad yn mhlith yr Indiaid i'r hen wr ffarwelio a'r teulu, a myned i unigrwydd y goedwig i farw yn ei henaint a'i iesgedd ond yn y wlad holo yr oedd yr hen a'r methedig yn marw o ddydd i ddydd yn nghanol cyfoeth a gloddest pobl o'i gwmpas. Darperid ar gyfer yr hen yn Denmarc, Ffraingc, a'r Trefedigaethau, ond beth a wnelent hwy gyda hyn. "0 b'le daw yr arian ?" oedd y gofyniad tra y dylid gofyn, I ba le y mae'r arian yn myn'd ?" Gwas- traffwyd haner can' miliwn ar y Llynges, a miliwnau ar dwyll gyda nwyddau yn Neheu- dir Affrica, ond dim i'r hen bob!. Y gweith- wyr oedd yn talu tair miliwn a'r ddeg y flwyddyn trwy y doll a'r de a siwgr. Talodd y bendefigaeth swm cyffelyb ar ol eu perth- ynasau cyfoethog fuont feirw. Ceid syKv trwy Undebau y Gweithwyr ar drethi y wlad, a gosodid hwy ar ysgwyddau y cyfoethog fel ag f wneyd ei allu i otthrymu y tlawd yn llai. Anwadalwch, diffyg cyd- weithrediad, a diffyg cyd-ddealltwriaeth oeddynt wendid y chwarelwyr. Yr oedd gormod o ganu yn eu crefydd, a rhy fychan o weithio. Pa les canu- Llwybrau ceimion, culion, caled, Sydd i'w teithio yn y byd." oni wneir ymdrech i'w uniawni! Beth oedd- ynt am ei wneyd at y dyfodol ? Yr oedd gwerin ddigrefydd LIaegr yn gweithio lie'r oeddynt hwy ? Elsii yr ymdrech yn mlaen, a oeddynt hwy arli wneyd eu rhan, ynte gorphwys fel Isaacha-f a'i hysgwydd o dan y baich ? (cymeradwyaeth mawr). Wedi pasio y penderfyniad a thalu y diolchiadau arferol, ymwahanwyd.
- Bd Llywodraeihwyp Ysgolioni…
Bd Llywodraeihwyp Ysgolion Dosbarth Ffestiniog. Cyfarfu y Llywodraethwjr caclynol yu Tr Adeiladau Siro!, prydaawn ddydd Gwerior Parch J. Rhydwen Parry (yr ls-gadeirydd yn y gadair). Dr R. D. Evans, Andreas Roberts, Dr R. Roberts, Parch John Owen, M.A., W. J. Williams (Trawcfynydd), Parch J. Hughes, Moses Kellow (Llanfrothen), John Cadwaladr, Ellis Hughey, D. G. Jooes, R. 0 Jones, Clerc; Edward Jones, Clerc cynorthwyol; a William Evans, Swyddog gorf odol. Anffyddlondeb yr Aelodau, Fel y gwelir oddiwrth yr enwau uebod, nid oedd ond dau aelod oddiallan i Ffestiniog yn bresecol. Neb o'r Penrhyn, a'r Swyddog Gor- fodol (Mr William Jones) hefyd yn abser.ol, yr hwn nad oedd heb anfon Adroddiad na gair o fath yn y byd o eglurhad. Nid oedd y pwyllgor Arianol wedi gwneyd ei waith am nad oedd digon o'r aelodau yn bresenol i'w gyral. i Cydymdeimlad. Ar gynygiad y Cadeirydd a chefnogiad y Parch John Hughes, pasiwyd pleidlais o gyd- ymdeimlad dwys a. theulu y diweddar Barchedig David Roberts, yn eu profedigaeth o golli un a gerid mor fawr ganddynt. Ethol Pwyllgorau. Darllenwyd adroddiad y Pwyllgor Detholiad- ol, yr hwn a ad-drefnodd yr holl bwyllgorau I sefydlog, a chymeradwyodd y Bwrdd eu gwaith. BentnygYsgol. Caniatawyd cais Eglwys Moriah M.C.. Trawsfynydd^am fenthyg yr ygol yn ystod yr adeg y byddidyn adgyweirio y erpel.-Hefyd caniatawyd i'r Coedwigwyr gael benthyg yr ysgol unwaith yn y mis at gynal eu cJwb, yn ol punt yn y flwyddyn. Gosodid hi ar delerau, a gwaherddid poeti sudd myglys &c., ar y lloriau. Athrawesau. Anfonodd Miss C. Edwards, ysgolfeistres Tansgrisiau ei hymddiswyddiad i mewn, a chaniatawyd iddi gael ei rhyddhau yn niwedd Ebrill,-Hysbyswyd fod Miss Mary Williams, Lerpwl weai bod yn Ysgol y Ilenrhyn. Nid oeddid yn ei ystyried yn ddoeth i ymgymeryd a'r trefniant, trwy gyfnewid Miss vvilliams am Athraw cynorthwyol trwyddedig o'r Biaenau. I- Arianol, Pasiwyd i Iyflwyno yr holl filiau i Mr Owen Jones a Hugh Jones i'w harchwilio, gan fod yn ofynol eu talu ddechreu yr wythnos. Ysgoloriaethau y Brenin. Hysbyswyd fod yr Arholiad am Ysgoloriaeth- au y Brenin i'w cynal Ebrill 10, yn Ysgol Uwchraddol y Genethod. Presenoldeb" y Plant. Hysbysodd Mr William Evans; fod 2,390 o blant ar y llyirau yn ei ddosbarth ef, a bod eyfartaledd y presenol yn 1,960. Cwynid yn ddirfawr oherwydd afiechyd ar y plant, yn enwedig yn Llan Ffestiniog, lie bu dwy farwol- aeth o'r Diphtheria wedi digsvydd. Dywedwyd fod i ysgolion y Rhyd, Llantrothen, a Penrhyn wedi bod yn gauedig am rai wythnosau, a pharhai y ddwy flaenaf i fod felly yr wythnos hon.
" Y SARPH BRES." -I
Y SARPH BRES." Syr.—Yn atebiad i Ymofynydd yn elch rhiiyn diweddaf, fel y canlyn y ceir y cwpled y cyfeirir ati yn Awdl y Parch David Jones, Treborth, ar y Sarph Bres," yr hon a gyfan- soddwyd ganddo pan yn nyddiau ei ieuengctyd Gwaed y groes a god y graith, I orphen gwella'n berffaith." Dyna'r gwreiddiol, ac nis gellir amheu nad y Parch. David Jooes, oedd y gwir awdwr. Yn llyfr gweithiau D. Jones, yr hwn gyhoeddwyd gan D. C. Evans a J. Jones, yn y flwyddyn 1879, ceir yr Awdl, a'r llinellau uchod ynddi. Priodolir yr efelychiad o'r ddwy linell i loan Madog ac i Tegidon, yr hyn ni all fod yn wir. Ac onid oes mwy o synwyr yn y gwreiddiol heb son am farddoniaeth ? Pwllheli, Pwllheli, G.A.J. Chwefror 26in, 190d.
I Y CHWARELWR A'I DDYFODOL.…
Y CHWARELWR A'I DDYFODOL. Syr.—Byddaf yn dra diolchgar i chwi am ychydig ofod i draethu fy lien ar y penawd uchod. Buasai yn dda genyf fod yn ddigon galluog i fathu penawd a roddai syniad clir ar y dechreu am gynwys hyn o ygecrif i ddarllenwyr lluosog y RHEDEGYDD ond fe allai y cydym- ddygir a mi am y tro. Dichon y dylwn nodi yn y fan hon mai yr hyn a'm cynhyrfodd i ysgrifanu yw y ffaith ofidus ein bod fel dosbarth o weithwyr yn hepian ynghanol gortnrwm a thrais tra mae cyfleusderau ein hiachawdwriaeth yn dianc heibio dyma un cyflensdra ardderchog sef, yr etholiad diweddaf-yn mhlith y pethau a fu, a ninnau heb arweinydd na gwaredwr o unrhyw fath i ddadleu ein hawliau ac i wylio ein btiddianau yn Senedd y wlad. Ni raid ond prin dafliI golwg ar restr yr etholedigion Plaid Llafur na welir fod pob dosbarth nifeius arall o weithwyr wedi bod yn fyw i'w hamgylchiadau. Beth tybed sydd yn cyfrif na fuasem ni ? Ai yn foddhaol ar bethau fel y maent yr yuym ? Os felly paham yr ochain a'r grwgnach oherwydd y cyni a ffyna yn ein plith ? A ydym yn canfod drwy gaddug y pres enol ry ev weledigaeth sy'n awgrymu fod dyddiau gwell i wawrio ? Oes genym sicrwydd pe byddai i hyny droiyn ffaith y ca'em ein hiawndera-u ? Beth mae profiad y gorphenol wedi ei ddysgu i ni ? Credwn ei fod wedi dysgu dwy wers bwysig beth bynag am ragor, sef sin bod ar hyn o bryd yn medi o gyn- hauaf ein hynfydrwyc'd ac fod yn rhaid arnom weithio allan ein hiachawdwriaeth ein hunain, ] ofer disgwyl wrth neb arall. Rhaid i ni ym-1 ryddhau oddiwith bob peth sydd yn debyg o beri anfantais i ni. Mae hyn wlth gwrs yn golygu sryn lawe- oolegid gesyd arnom yr I anghenrh^,iCiyvvydd i dori lawer o hen gysylltiad 1\1,\ CySegtedig ac anwyl. Gyda'r gwyleidd-dra inwyaf y dymunwn sangu y dinogaetn bon, (md teimlaf mai fy nyledswydd yw datgan yn groevv argyhoeddiadau dyfnaf fy marn a'm rheswn. Cymerwn ddechreu y pleidiau gwleidyddol yr ydym wedi arfer eu cefnogi, sef Toriaeth a RhyddfrydiaetB, beth tybed y maent wedi ei wneyd ar hyd y blynyddoedd i hyrwyddo eiu buddianau ? Nid wyf am anwybyddu dim ar a wnaethant, ond yn fy myw y gallaf gredu eu bod yn gwneyd digon i gyfiawnhau cefnogaeth pellach oddiir ein dwylaw fel dosbarth gweith- ioJ. Dywedir wrthym fod Rhyddfrydiaeth yr un o ran ei hysbryd a'i dyheadau ag ydyw Plaid Llafur ond gosodiad hollol gai-rai weiniol ydyw oblegid y mae iddynt eu delfrydau (ideals) gwahanol, ac fe geir prawf ymarferol o hyny cyn hir. Pwy hefyd yw cynrychiolwyr y Biaid Ryddfrydig yn y Senedd ac ar holl gynghorau y wlad, onid y dosbarth sydd mewn lleiaf o gydymdeimiad. a ni ? Tybed mewn difrif nad ydym yn bradychu ein hawliaa a'n hiawnderau drwy godi stiwardiaid trahaus, landiordia-id digydwybod, a chrib-deilwyr rhag- rithiol i'n cynrychioli ar bob Cynghor mawr a bychan, pan y mae digonedd o ddynion cymwysach i'w cael yu ei piith ni ein hunain. Chwarelwyr goleuedig a diwylledig Cymru yn wir Mae y fath ymadrodd honiadol yn drosedd anfaddeuol ar synwyr cyffredin yn ngoleuni gorphenol ein hanes. Pa le mae ffrwyth ein diwylliant heddyw? Pan y mae dosbarthiadau eraill o weithwyr yn magu Ael- odau Seneddol ydynt yn anrhjdedd i'r byd, nid ydym ni mae lie i ofni er ein holl ymffrost wedi dechreu siglo cryd yr un. Credai ei bod yn hen bryd i ni ddefiro ac ymborthi ar rhywbeth heblaw rdyw wynt afiachus o'r natur yma. Mae ygallu ynhoilol yn ein dwylaw, y cwestiwn mawr yw ein cael ni i sylweddoli hyny; oblegid nid oes odid i Sir yn Lloegr na Chymru nad all y dosbarth gweithiol anfon cynrychiolydd i Senedd Prydain er gwaethaf pob plaid arall. A pha faint o'r gwaed sugnwyr a nodasom eisoes a gaffent gyfle i arddangos eu trahausder a'n hunan- bwysigrwydd ar seddau y gwahanol Gynghorau pe dewisem hyny ? Gan mai ni fel dosbarth sydd yn y mwyafrif yn y wlad, dylem ofalu am gydryohiolaeth gyfartebol i'n rhif yn mhob man, o'r Cynghor Plwyf distadlaf i fyny i Dy'r Cyffredin. Beth tybed ydyw yr yrfa sydd yn y wlad ar hyn o bryd gan rhyw bleidiau neillduol i sefydlu clybiau ? Nis gallaf fi weled dim yn angen ynddo nac ymgais i wrthweithio dylanwad cynyddol athrawiaeth iach a dyrchaf- ol Plaid Llafur, ae y mae o'r pwys mwyaf ini beidio cymeryd ein hud-ddenu gan hyrwyddwyr y cyfryw symudiadau gofalwn am ffurfio ein materion heb ymyriadau y Philistiaid hyn a'u tras. Elfen amlwg a phwysig arall ac yr ydym yn derbyn llawer o anfantais oddiwrthi yw yr un grefyddol, yr hon a gamenwir yn rhy fynych yn Gristicnogol. Rhag i neb ein cyhuddo o wneyd datganiad amrwd a disail, ceisiwn egluro ein hunain yn y wedd ganlynol. Dywedwn yn gyntaf ein bod fel dosbarth gweithiol yr un mor ddarostyngedig i lywodraethiad y dosbarth canol mewn cylchoedd eglwy-ig ac yr ydym mewn cylchoedd eraill a chan mai prif amcan y dosbarth hwn ydyw ein cadw i lawr er mwyn dychafu eu hunain, yr ydym o angenrheidrwydd yn colli ein safle fel dosbarth yn yr unig fan ac y buasem yn disgwyl ei gael. Dyma fel yr achwynai un gohebydd yn ddiweddar yn un o'r newyddiaduron Seisnig-" There are two gover- ing powers, i.e., ministers and money, the latter being the more powerful. Outside'the church there is scope for a person with brains to use his or her talents for the public good, but brains are not recognised inside unless the owner has money in addition. I know cases where wealthy men of small intelligence are allowed to control the affairs of the church." Dyfynir hwu genym i geisio dangos beth yw ein tynged yn nwylaw eraill. Wrth gwrs gwyddom mai cyfundeb lied geidwadol yw yr un y cyfeirir ato eto i gyd credwn ei fod yn ddangoseg lied gywir o'r oil, oblegid y mae yn ffaith ddiymwad mai ar linellau hollol gwrth- ddemocrataidd y cerir yr oil yn mlaen, ac nad oes ariiw o gydraddoldeb i'w ganfod yn un man o'u mewn; Cwe tivvn sydd wedi bod mewn bri ac yn cael ei gyfaddasu yn fynych at wahanol amgylchiadau y blynyddau diweddaf, yw yr eiddo Sheldon, sef, "Beth wnai'r lesu yn ngwyneo yr amgylchiad hwn neu arall ?"" a chredwn ei fod yn un hynod o briodol i ninnau wneyd defnydd o hono y dyddiau hyn, Tybed mewn difrif y byddai iddo bregethu ini ein rhwymedigasthau i gyfranu yn haelionus at weinidogahth nad yw yn teimlo y gronvn lleiaf o ddyddordeb yn ein hachosion ? Tybed y byddai iddo wasgu arnom y ddyledswvdd o beidio suddo i lyfrau y masnachwyr, a chyda'r un anadl ein hannog i redeg i filoedd o bunau o dd vIed i adeiladuaddoldai gorwych a gyf- yn "DemIan y Duw byw"-pan mewn gwir- ionedd nad yw liawer o honynt angen na nythleodd cenfigen ac ymgecraeth a nurseries ffug-barchedigaeth ? GaJlesid yn hawdd lenwi colofn a gofyuiadau o'r un natur ondymataliwn Clywsom awgrymu y dydd o'r blaen y priod- oldeb o gynal cyfarfodydd gweddio i ofyn i'r Arglwydd drugarhau wrthym yn ein hadfyd. Ffordd esmwyth a rhad iawn yw hon i oresgyn anhawsderau bywyd, dylid cofio nad yw Duw yn foddlawn ein cynorthwyo os nad ydym am gynorthwyo ein hunain. God helps the man that helps himself." Na, credwn fod llawn gormod o gyfieusderau i ragrithio wedi bod yn ein cyraedd y misoedd diweddaf, Beth fyddii yn fwy gwrthun na chlywed tai berchenogion anrhugarog sydd yn codi gormod o 50 y cant o ardreth oddiarnom am eu cytiau afiach yn dad- leu ein hachos ger bron yr orsedd ? Beth yn fwy anioddefol na chlywed masaachwyr crib- ddeilgar sydd yn nychu ein bywyd drwy eu twyll yn rafio mewn hwyl a afiaeth ar ein rban yn mhresenoldeb y Jehofa ? Peth arall y dylid ei gofio hefyd ydyw, mai nid brwydr gyda chyfalaf yr unig ydyw hon i fod, ond brwydr i gael uwchafiaeth ar athrawon a gorthrymwyr yn mhob man, LLEF LLAFUR.
LLYS ,MANBDYLEBiCmI BLAENAU…
LLYS MANBDYLEBiCm BLAENAU FFESTINIOG. Dydd Iau Mawrth laf o flaen ei snrhydedd y Barnwr William Evans, gwraudawyd nifer an- arferol o achoaion a rhai o honynt yn cyueryd cryn amser f'w trafod. Yr oedd ei Anrhydedd yn gwisgo y Geninen yn ei got ac felly hefyd y gwnai holl swyddogion y Lljs. Y Gwysiau Carchaol. Yr oedd cynifer a 52 o'r rhai hyn wedi eu rhoddl allan, a daeth y rhan fwyaf o honynt yn mlaen am wrandawiad. John Roberts, Dilledydd, Llanllyfni, a wysio bump er cael archeb garcharol yn eu herbyn. Yn yr achos cyntaf, deg swllt yr wythno3 a enillai y dyn at gadw ei wraig a'i dy, a gwrth. ododd y Barnwr wneyd archeb.— Y n yr ail achos, 14s Ie yr wythnos oedd eyflog y dyn. gwrthodwydarchebgatcharol ond dyfarnwyd iddo dalu 2s 6c y mis,—Gwnaed archeb yn y tii achos arall, un am 6 niwrnod, a dau am dri diwrnod yr un. Gofynid am archeb yn erbyn Richard Roberts Pengwern Farm gan Dr R D. Evar.s a Gwalia Clothing. Gwnaed archeb am 4s yr wythnos yn y ddau achos, neu ehwe diwrnod yn y uaill a'r llall. Yr oedd dau fasnachwr yn gofyn am archeb yn erbyn Alfred Johnson, casglwr Mwsogl a Migwyn, Maentwrog. Gofynoid ei Alllhydedd pwy oedd y Diffynydd, ac atebodd Mr R. 0. Davies, ei fod yn dywedyd ei hun fod ei fusnes yn un enillfa, a'i fod yn gwneyd masnach dda trwy anfon ei nwyddau i'r gerddi i Loegr.—Y Barnwr (wrth y Bailiff) "Cook, a ydych yn gwybod rhywbeth am y dyn yma ?"—Mr H. Cook, Gwn, eich Anrhydedd. Dylai fedru talu. Mae arno arian i bawb yn y cwmpasoedd yma, ond ni thala i neb. Y Barnwr, 0 Ond rhaid iddo dalu neu fynd i garchar. Dau .swllt y mis neu dri diwrnod yn y ddau achos. Gwnaed'archeb o dd diwrnodFyn erbyn John Jones, (Bowler), lletywr yn y Dduallt, ar gais Mrs G. J. Williams, 2, Frongoch, Maentwrog. Arian dyledus am lety yw y rhai hyn, ac oni thelir yn ol 3s y mis, daw yr archeb uchod i rym. John R. Thomas, Liverpool House, Pen- machno, a ofynodd am archeb yn erbyn Hugh Evans, chwarelwr gyda gwraig a 5 plentyn,-38 yn y mis neu bedwar diwrnod.—Yr un hawlydd yu erbyn Humphrey Owen, gof, gyda gwraig ag wyth o blant, 2s y mis neu bedwar diwfnod.- Yr un hawlydd a ofynodd am archeb yif erbyn Robert Edwards, (leu), chwaielwr gyda gwraig ag wyth o blant, 4s y mis neu bedwar diwrnod. Wedi Settlo. Mr R. O. Davies ar ei ran ei hnn dros Mri Williams a Thomas, Manod Road, a Mr D. White Phillips yr hwn oedd dros Griffith Griffiths 1, Penybryn Terrace, Blaenau, a ddywedodd eu bod wedi settlo, trwy gydsyniad am y swm o 5p 5s Oc,-Rhoddodd ei Anrhydedd archeb am y swm hwnw i'w dalu yn ol 103 y mis. Dim Tramps nag Iuddewon. Yn achos un oedd ar ol gyda'i daliadau o dan archeb Weinyddiadol, gofynodd y Barnwr Am ba beth y mae y dyledion hyn ? y dull cyffredin o fasnach o ddrws i ddrws, mae'n debyg "-Mr J. Jones-Morris, Na, does yma ddim tramps dillad nac Iuddewon yn yr achos hwn, er fod liawer iawn gormod o'r dosbarth hwnw o gwrpas. Y mae yma swm bychan am ddillad.'k-Y Barnwr, Rhaid gohirio yr achos bu'r gwiFyn wael yn hir, ac y mae allan o waith yn bresenol. lawn i Weithiwr achos Pwysig. W. Lloyd Griffiths, 11 Penygelli Terrace, a hawliai iawn gan Gwmni chwarel Rhiwbach am y Diweidiau dderl-yniodd yn au chwarel Mawrth 3, 1905.. Ymddangosai Mr W. Carr Jones, (firm Mri Lloyd George & George) dros yr liawlydd; Mr. R. 0. Davies dros gwmni Yswiriol London & Lancashire, a Mr D. White Phillips dros Gwmni y Rhiwbach. Achos yr hawlydd oedd iddo wrth weithio yn y chwarel fel labrwr am 18s yr wythnos, gyfarfod a damwain yno Mawrth 3, 1905, ond gan ei fod wedi colli liawer o herwydd y tywydd &c, nid cedd cyfattaledd ei gyflog am y 32 wythnos y bu yno yn dod yn fwy na 14s 6c Cafodd 7s 3c yr wythnos i fyny hyd Hydref 27. Yr adeg hono bu Dr Fox, Bettwsycoed :yn ei archwiho, ac ataliwyd ei gyfran wythnosol. Ei feddyg ef ydoedd Dr R. D. Evans,- Yr. amddiffyniad oedd y gallai weithio er Hydref 27, a boddlenid i dderbyn dedfryd am geiniog yr wythnos. Dr R. D. Evans a ddywedodd iddo weini ar yr Hawlydd ar ol y ddamwain. Yr oedd wedi anafu ei benglin yn dost iawn. N,d oedd y cymal wedi llwyr wella eto, ac yr oedd tuedd ynddo i gloi, ac olnai fod yr aelod wedi ei N anafu yn barhaol. Gallai drwg dori allan os cariai bwysau mawr, neu fyned i lawr i incline, gallai wneyd gwaith ysgafn, ar le gwastad ond rhedai y perygl o anafu ei hun, ac yna golli ti aelcd os na fyddai yn ofalus iawn gyda hi. Dr T. Carry Evans a ddywedodd iddo ar- chwilio y penglin y boreu hwnw, a chydsviiiii yn hollol a'r tyst diweddaf yn nghylch y perygl o anafu yr aelod yn barhaol. Di H. W. Fox, Bettwsycoed, a gydsyniai, ond y gallai yr hawlydd wneyd gwaith ysgafn, nis gallai wneyd ei waith ei hun. Mr Humphreys, Goruchwyliwr Rhiwbach a ddywedodd iddo fethu rhoddi gwaith i Griffiths pan ddaeth i'w ymofyn. Yr oedd dyn wedi ei benu i'w le, ac yr oedd pjb gwaith cysylltiol a chwarelyddiaeth yn galed ond yn y Peiriant pwyso. Mewn amddiffyniad dadleuai Mr R, O. Davies y gallai yr hawlydd wceyd gwaith ysgafn.-Barnwr, "Beth yw gwaith yagnfn ?" -Mr Davies, Gosod cledrau ar ffyrdd y chwarel, Oilio neu lanhau v peirianau." Y Barnwr, Nis gall ef ddod i'ch chwarel oherwydd yr incliries, pe byddai genych wait ysgrdn iddo. Mantais y Ddeddf yw cymery pobpeth i ystyriaeth." Gofynodd y dyn yn onest i'w hen feistr am waith a beth sydd ganddo at fyw ? A ydyw i goHi ei iawn am nad ellwch chwi roddi gwaith iddo ? Beth yw galla y dyn hwn i enill ? Y mae y diamwnt pan gyll ei bwynt yn colli ei werth. Mr R. O. Davies, "Felly y peth goreu 1 chwarelwr os bydd yn gweled chwarel ar sefyil neu fed ei waith 11 ef yn darfod, yw anafu ei hun, ond peidioi gwneyd hyny yn ddifrifol Maddeuwoh i mi, eich Anrhydedd am afael yn mh'.b gweiityn allaf gael fel hyn." Y Barnwr, Map yr achos yn un clir iawn Gall y dyn hwn wneyd gwaith ysgafn, ond nid oes gwaith felly i'w gael, Y mae yn deg iddo ef a phob gweithiwr, gael eu hawliau, yn ymarferol, y mae yn awr wedi colli ei allu i ecill ei fywoliaeth. Yr wyf yn dyfarnu iddo 7s 3c yr wythnos, set haner ei gyflog. Costau ar Reidfa B. Tal am dori cerrig. Hugh Pugh, Manod road, a ofynodd Thomas E. Jones, Maenofferen Street, o 7p 12s 9c, tal am dori ce ig iddo i'w dodi ar y ffyrdcl cyhyoeddus, pin oedd yn gofaiu am darynt d dan gytundeb a'r Cynghor Dinesig,—Ym- ddangosai Mr R. 0. Davies, dros Pughe, yr hwn a dystiodd iddo gael ei gyflogi i dori cerig yn ol 3s y llwyth, ond yr oedd y cerig wrth Sant Martha i gael eu tori am 2s 9c y llwyth. Yr oedd i gael ei dalu bob mis, ond nid oedd yn cael.—Y Barnwr (wrth y diffynydd) Paham na thalech yr arian i'r gweithiwr tlawd yma ? Nid yw yn ymddangos yn abi i enill liawer," —Y Dyiffyndd, Yr wyf wedi talu iddo. Dyma fy llyfr yn dangos" (gan gyfl wyno llyfr i'r Barnwi) Mr R. O. Davies, Llyfr newydd ydyw hwn jtedi ei wneyd at hecldyw. Lie mae'r llyfr oedd gen) eh 511 cadw cyfrif y dynion ?"—Y Diffynydd, Yr wyf wedi gwneyd yn deg a'r dynion."—Mr R. 0. Davies Ie, Ie, wyddom ni y gellwch wneyd liawer o bethau Lie mae'r cyfrif cyntaf ?" Yna" rhoddodd Mr Davies y cyfrif gedwid gan yr Hawlydd o'r tlt.liadau,- Y Barnwr, Mae'r cyfrif rhyngddynt yn un gymysgfa. Rhaid iddo fyned i'r cofrestydd. Gofynai Joseph Roberts, Pantllwyd yr un Diffynydd o lp 10s Oc tal am gerig a dorwyd ganddo ai ei wasanaeth,—Aichwyd i'r cyfrif fyned i'r cofrestrydd. Tal am godi Cerig. Richird Roberts, Pantllwyd, a ofynodd Henry Williams, Belle Vue, Ftestiniog o 2p 15s 5c, tal honid oedd ddylolus am godi cerrig at dy capel Shiloh. -Ym ddflngo sai Mr R. O. Davies dros Roberts, a Mr J. Jones Morris dros Williams. Yn ol y tystiolaethau yr oodd Rob- erts wedi cytuno i godi cerig yn ol Is 7c y llwyth, ac ar ol codi 35 llwyth, cytunwyd i godi wrth y llath a daeth dau battner at Roberts i godi. Yr oedd y ddwy ochr yn cytuno fod Robeits i gael tal am ei 35 llwyth ar wahan i'r tal iddo at partneriaid. Y ddadl oedd, a dalwyd iddo pan gafwyd tal y mesuriad cyntaf? Yr oedd hyny vn troi ar, a oedd ei gerig ef yn sylfaen y ty a'i nad oeddynt. Methai y Barnwr a chael cysondeb yn y tvstion yn hyn, a gofyn- odd a oedd y dyn a fesurodd y gwaith yn y Llys, ac os oedd y caffai gair hwnw fod yn der- fynol. At y dechreu dywedai nad oedd cerig Roberta yn y mesuriad a wnaeth, ond wrth aros yn hir yn y tystle (box) aeth i ddywedyd fel arall, ac ysgydwodd y Barnwr ei ben, gan arwyddo nad oedd y dystiolaeth yn gyson.—Mr R. O. Davies, M&e y tyst ym), IeHuodd y gwaith yn dyweyd nad oedd cerig yr Hawlydd yn y syifaen, a'i fod i gael ei dalu ar wahan am danynt.Y Barnwr, Oni y mae yn dyveycfr bob ffordd, fel nad oes ffordd gwybod beth sydd) gywir. Yr wyf yn cael fod y Diffynydd wedi talu 24p am y cerig djiefnyddiodd, talodd am y cerrig yn y swm hwnw, a'i fusnes ef oedd gofalu am ei gyfran o'r swm gafodd i ranu gydai bart- neriaid. Dedfryd i'r Diffynydd.—iVlr J. Jones Morris, Nid ydym yn gofyn y costau." Helynt yr wyth Sach. William JLowell, Dwyryd House, a ofynodd Griffith Jones, Cloth Hall, High Street, o lp 12s tal am wyth sached o bran roddwyd iddo.- Ymddangosai Mr J. Jones Morris dios Powell, a Mr R. 0. Davies dros Jones.—Yr oedd Jones yn dal na chafodd ond wyth sached o'r Orsaf, a'i fod weci talu am danynt i'r Cwmni o Porth- madoe tra y danghosodd Powell trwy lythyr o'r Orsaf bod Jones wedi arwyddo am wyth sached ddwywaith a hyny y fewn bythefnos i'w gilydfi. -Y Barnwr, "Mae'n amlwg fod y Diffynydd wedi gwneyd camgymeriad yn rhyw Ie. Dedfrjd i'r Hawlydd am lp 12s a'r costau Tal am Dresmas Defaid Pwysig i Amaethwyr. George Dufton a Harrison, gynt o Coedmawr".