Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Bwrdd 8Wareheldwaid Limarwst.

ICapel Curlg.

Penrhyndeudraeth.

Maentwrog.,

Cynuddiad o Ladrafta Da Pluog…

News
Cite
Share

Cynuddiad o Ladrafta Da Pluog yn Gwytherin Mewn Llys Arbenig yn Llanrwst dydd Llun diweddaf gerbron Dr. Jones fcadeirydd); a Jelf Petit, Tsw., cyhucdwyd James Conlaw, eylohwerth- wr, River Terrace, Llanrwst o fod wedi Iladratta pedair o leir perthynol i William Pritchard,Pfcnyeefn,Gwytherin; nos Iau j Mawrth laf. Tystiai Ellen Pritchard, fod ganddynt 10 o ieir, ac iddi ei cau i fewn yn cwt y mochyn oddeutu 7 o'r gloch nos Iau, a canfyddod wrth eu gollwng allan boreu dranoeth fod pedair o honynt ar goll, rhoddwyd hysbysrwydd i'r heddgeidwad Elis. Yr oeddyut yn werth 10s, ac yr oedd yr un ddanghosodd yn y Llys yn un o honynt, yr oedd yn ei hadnabod wrth y paent oedd ar ei haden, ac yr oedd y plu ddanghoswyd o'r un lliw a'r ieir eraill. William Prithard, ei phriod a gadarn- hai y dystiolacth uchod. Arolygydd Woollam a dystiai iddo fyned i dy y carcharor gyda'r hedd- geidwad Ellis dydd Gwener, mewn atebiad i'w gwestiynau dywedodd iddo fod yn Gwytherin dydd Iau yn prynu rags a chrwyn gwningod, ac iddo gychwyn o dafarn Gwytherin ddeg o'r gloch a chyrhaedd Llanrwst eabyn 11. Hysbysodd ef fod pedair o ieir wedi eu colli o Penycefn, yr hwn le oedd ar oehr y ffordd, ac atebodd y carcharor fod ffarmwr yn cydgerdded ag *ef i groes- ffordd Pandy Tudur, ac na wyddai ddim am yr ieir acfod croesaw i'r swydd- ogion chwilio ei dy bu iddynt wneyd a chatwyd plu yn nghanol hen ddillad yn y llofft, y rhai ddangoswyd yn y llys. Yr oedd hefyd blu a phen un o'r ieir yn yr afon yn ymyl ei dy. Cymerwyd ef i'r gell a phan yn ei gyhuddo dywedai ei fod yn ddieuog y tro hwn betbibynag. Wedi gwneyd ymholiad pellach cafwyd ei fod wedi gwerthu un iar i Elizabeth Jones, Scotland Street, am Is 6c. Cadarnhawyd tystiolaeth yr Arol- ygydd gan yr heddgeidwad Ellis. Peter Hughes, River Terrace, a dystiai i'r carcharor ddod i dy ei ferch a chynyg iar am Is 6c, gofynodd iddo lie y'i cafodd ac atsbodd mae swabio yn y wlad ddarfu. Evan Evans, Llenyrch Felus, Pandy Tudur, a dystiai ei fod yn Gwytherin nosllau, bu i'r carcharor gydgerdded ag ef am ryw ddeugain llath, ond gadawodd ef cyn cyrhaedd- Penycefn o oddeutu haner milldir. Gwedid y cyhuddiad yn bendant, ac mai cael un iar ar y ffordd yn ymyl Pandy Tudur ddarfu. Anfonwyd ef i sefyll ei brawf yn y Frawdlys a gynhelir yn Dimbych ar y 6ed o Ebrill nesaf.

I Llythyr o South Affrica.…

Blaenau Ffestiniog.

I R.Llanrwst.----