Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Bwrdd 8Wareheldwaid Limarwst.

ICapel Curlg.

Penrhyndeudraeth.

News
Cite
Share

Penrhyndeudraeth. Gan GEE PEE. Helynt y Llwybr yn Minffordd. Yr oedd cyn cof lwybr yn croesi dros y Llinell Gul o'r ffordd fawr i ffordd Plasne- wydd, er cyfleusdra i fyned o ran uchaf yr ardal i'r rhan isaf. Pan y gwnaed llinell y Cambrian, y Station, a'r Slate Wharfes yn Minffordd, cauwyd yr hen lwybr i fyny. Er hyn ni roddodd y cyhoedd heibio i groesi ar hyd y llinell mor agos ac y gellid i'r hen lwybr. Yn ddiweddar gosododd cwmni y Cambrian rybuddion i fyny yn gwahardd i bob! ei deithio, ond dal yn wrol at eu hawliau yr oedd yr ardalwyr. Yn ddiweddarach, rhoddwyd gwifren bigog fel na ellid yn hawdd fyned dros y lie. Galwodd y Cyngor Plwyf sylw y Cyngor Dosbarth at y gwa- harddiad yn flaenorol i hyn. Ar ol gosod y rhwystr diweddaf ar y dramwyfa, trefnwyd i gyfarfod Mr Dennis, Rheolwr y Cambrian. Yr oedd Mr Thomas Roberts, cyfreithiwr, Porthmadog, a Mr Griffith Parry Jones, un o'r aelodau lieol yno dros y Cynghor. Pryd- nawn Sadwrn diweddaf yr oedd Mr A. Os- mond Williams, A.S., hefyd yn bresenol i gefnogi, ac i amddiffyn hawliau y cyhoedd a'i denantiaid yntau, ynghyd ac amryw dystion oeddynt yn cofio ac wedi arfer y llwybr cyn gwneyd y rheilffordd. Yr oedd Map yn dangos y llwybr cyn gwneyd y Rheilffordd wedi ei baratoi. Dywedodd Mr Dennis ar unwaith eu bod bwy yn gweled fod yno hen lwybr fel y dywedid, ond eu bod yn meddwl fod y cyhoedd wedi boddloni i'w gau. Nid oedd ef yn bersonol wedi rhoddi gorchymyn i roddi unrhyw rwystr arno, ac yr oeddiyn gofidio yn fawr fod hyn wedi ei wneyd. Yr oedd yn wastad yn awyddus i fod ar delerau da gyda'r cyhoedd. Trefnwyd fod llwybr newydd i'w wneyd gan y cwmni ar eu tir, ac i'w gau allan oddiwrth y llinell, yr hyn a wneir yn ddiymdroi wedi cael cym- eradwyaeth y cyfarwyddwyr, yr hyn yn ddi- au a geid yn rhwydd. Llawenydd oedd iddo ef weled y mater yn dod i derfyniad mor foddhaol i'r ddwy ochr. Diolchwyd yn gynes i Mr Dennis. Nos Iau diweddaf cynhaliwyd y cyfarfod y bu hir ddisgwyi am dano, sef y cyngherdd oedd i fod yma Ddydd Gwyl Dewi. Cymer- wyd y gadair gan Dr Jones, Treffynon, a chaed anerchiad hapus iawn ganddo. Cym- erwyd rhan yn ychwanegol at y cor dan ar- weiniad Mr D. Lloyd Evans, gan y Mri Arthur Penrhyn, J. D. Jones, D. Francis, a Miss Sallie Lewis o Ffestiniog, a Mr Hughie Jones o'r Penrhyn. Cyfeiliwyd gan Meir- ionwen Deudraeth, a chaed gwasanaeth Cerddorfa Porthmadog. ceir cyngherdd cyffelyb yn fuan eto.

Maentwrog.,

Cynuddiad o Ladrafta Da Pluog…

I Llythyr o South Affrica.…

Blaenau Ffestiniog.

I R.Llanrwst.----