Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

AT BIN GOHEBWYR.I

-O-I *, Nesur Addysg Rhif…

Esiampl Dda y Llywodraeth.…

Treuliau Llyngesoedd.

Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd.…

I Dedfryd Ankygoel. I

I Mr. Austin Taylor, A.S.

Deddf Estroniaid, I

Costau Etholiadol Seneddol.…

News
Cite
Share

Costau Etholiadol Seneddol. Nos Fawrth, cafwyd dadl ddyddorol yn Nhy y Cyffredin ar gynygiad a ddygwyd ymlaen gan Mr. Rowlands. Cynygiodd fod costau y Swyddog Dychweliadol mewn etholiadau seneddol i gael eu talu o bwrs y wlad, ac nid o logellau'r ymgeiswyr fel y gwneir yn awr; heblaw hyny cynwysai'r cynygiad ddatganiad fod y costau hyny yn uwch nag y dylent fod. Cyfrifir fod costau'r swyddogion hyn trwy'r wlad (mewn etholiad cyffredinol) yn cyraedd y swm anferth o E200,000. Mae hwn yn swm llawer mwy nag y dylid galw ar yr ymgeiswyr na'r Trysorlys chwaith i'w dalu. Rhoddwyd cymeradwyaeth gyffredinol iawn i'r cynyg- iad, a dywedodd y Twrne Cyffredinol nas gallai ef feddwl am ddim i'w ddywedyd yn ei erbyn, a bod y Llywodraeth vn ei dder- byn. Gofynwyd iddo a ddygid ymlaen fesur i roddi grym cyfraith yn y penderfyn- iad yflwyddyn hon. Ei atebiad oedd fod yn anmhoslbl gwneyd pob peth eleni, ac nad oedd brys o gwbl am wneyd y peth yma. Yr hyn oedd ganddo yn ei feddwl, pan yn dywedyd hyn (wrth reswm) oedd nad yw yn debygol y cymer etholiad cyffredinol le yn fuan. Gobeithiwn y dygir ymlaen yn y man fesur a fydd yn darparu fod holl dreuliau etholiadol ymgeiswyr i'w talu o bwrs y wlad. Prin y mae yn rhaid dywedyd y bydd yn angenrheidiol gwneyd hyny ar amodau a rwystrant ymgeiswyr na fydd cysgod o obaith am iddynt lwyddo rhag amlhau. Nid ydym yn tybied y bydd tynu allan amodau felly yn waith anhawdd o gwbl.

IO—I ILlys y Manddyledion.…

Y Barnwr Cymroaidd. I

I Corwen. I

Advertising