Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

AT BIN GOHEBWYR.I

-O-I *, Nesur Addysg Rhif…

Esiampl Dda y Llywodraeth.…

Treuliau Llyngesoedd.

Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd.…

I Dedfryd Ankygoel. I

I Mr. Austin Taylor, A.S.

News
Cite
Share

Mr. Austin Taylor, A.S. Yr wythnos cyn y ddiweddaf, sylwasom ar waith y boneddwr hwn yn gadael ei le yn mhlith y Toriaid yn Nhy y Cyffredin, ac yn myn'd i eistedd yn mysg y Rhyddfrydwyr. Mae Cymdeithas Doriaidd Dwyrain Tox- teth (Lerpwl) wedi ei chythruddo yn ddir- fawr, ac wedi pasio penderfyniad yn galw arno i ymddiswyddo, gan ei hysbysu mai dyna yr unig beth y gall ei wneyd yn an- rhydeddus. Pe buasai y Gymdeithas hono wedi ei fabwysiadu fel ymgeisydd, neu wedi cefnogi ei ymgeisiaeth, buasai ganddi achos i gwyno yn erbyn Mr. Taylor, a rhywbeth tebyg i hawl i alw arno i ymddiswyddo. Ond ni wnaeth y naill na'r llall o'r pethau hyn. Pan gynygiwyd gan un o'i haelodau, cyn yr etholiad, ei bod yn ei fabwysiadu fel ymgeisydd, gwrthodwyd y cynygiad trwy fwyafrif mawr iawn. Mewn canlyniad safodd Mr. Taylor fel ymgeisydd anibynol, a gwnaeth ei olygiadau ar brif gwestiynau y dydd yn hollol hysbys i'r etholwyr. Enweb- wyd ef gan Ryddfrydwyr a Thoriaid gyda'u gilydd. Felly, mae yn rhydd i eistedd lie y myno yn Nhy y Cyffredin, ac yr ydym yn gobeithio na fydd iddo wneyd sylw o ben- derfyniad haerllug a sarhaus y Gymdeithas Doriaidd. Pe gwrandawai ami, a phed ym- ddiswyddai, yr ydym yn teimlo yn lied sicr yr ail-etholid ef trwy fwyafrif- mawr, ond nid ydym yn gweled fod anrhydedd na synwyr cyffrediu chwaith yn galw arno i gymeryd y fath drafferth ac i fyn'd i'r fath draul yn ofer.

Deddf Estroniaid, I

Costau Etholiadol Seneddol.…

IO—I ILlys y Manddyledion.…

Y Barnwr Cymroaidd. I

I Corwen. I

Advertising