Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

AT BIN GOHEBWYR.I

-O-I *, Nesur Addysg Rhif…

Esiampl Dda y Llywodraeth.…

Treuliau Llyngesoedd.

Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd.…

I Dedfryd Ankygoel. I

News
Cite
Share

Dedfryd Ankygoel. Mewn adroddiad a ddarllenasom yn y Liverpool Daily Post & Mercury am ddydd Sadwrn diweddaf, dywedir fod ys- gubwr Simneiau wedi cael ei ddwyn ger- bron Brawdlys Chwarterol yr Amwythig ar y cyhuddiad o ladrata plwm oddiar do ty lie yr oedd yn dilyn ei orchwyl. Cyhoeddodd y Cofnodydd (Recorder) ef yn ddieuog, a gollyngwyd ef yn rhydd. Fel rheswm (?) dros y fath ddedfryd ryfedd, dywedodd y Cofnodydd fod y plwm yn rhan o adeilad oedd wedi ei godi ar eiddo rhydd-ddaliadol, mai tir oedd yr eiddo rhydd-ddaliadol hwnw-fod y plwm yn rhan o'r ty, a'r ty yn rhan o'r tir, ac na ellir lladrata tir. Diau fod yr ymresymiad yn gywrain iawn, ac yn gyfreithiol dros ben, ond ni welsom erioed ymresymiad mor hollol ynfyd. Yn ol ym- resymiad a dedfryd Cofnodydd yn,Amwyth- ig, gallai y neb a welai yn dda symud ty yn ei grynswth, ac ni allai perchenog y ty roddi cyfraith arno oblegid ni fyddai yn euog o drosedd. 'Does bosibl y gadewir i dded- fryd fel hon sefyll. Os ydyw yr adroddiad yn wir, mae yn profi tu hwnt i bob dadl fod y barnwr hwn yn hollol anghymwys i'r swydd a <ldeil, a dylid ei symud o honi cyn iddo gael eyfle i wneyd ffolineb fel hyn eto. Gellir dywedyd hyny am ambell un arall na fyddai yn ddiogel i ni ei enwi.

I Mr. Austin Taylor, A.S.

Deddf Estroniaid, I

Costau Etholiadol Seneddol.…

IO—I ILlys y Manddyledion.…

Y Barnwr Cymroaidd. I

I Corwen. I

Advertising