Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

Advertising

AT BIN GOHEBWYR.I

-O-I *, Nesur Addysg Rhif…

Esiampl Dda y Llywodraeth.…

News
Cite
Share

Esiampl Dda y Llywodraeth. Da genym weled fod gan y Llywodraeth ewyllys i weithredu tuag at y rhai sydd yn ei gwasanaethu mewn gwahanol gylchoedd mewn yspryd m\vy mawrfrydig nag y gweith- redwyd tuag atynt hyd yn hyn. Cofir fod y diweddar Bostfastr Cyffredinol, Arglwydd Stanley, wedi dangos yn ddigon eglur nad oedd yn ei galon ddim cariad at Undeb Gwasanaethyddion y Llythyrdy. Bu gan hyny, dybygwn, gryn lawer i'w wneyd a'i orchfygiad gan Mr Wilson (Aelod Llafur) yn yr etholiad diweddar. Da genym oedd gweied hysbysiad tua thair wythnos yn ol fod ei olynydd, Mr Sydney Buxton, wedi amlygu yn hollol wirfoddol, (cyn i gais gael ei wneyd a to) ei barodrwydd i drafod materion o ddyddordeb a phwys'grwydd i'r rhai a was- anaethant yn y Llythyrdy a swyddogion a phwyllgor yr Undeb. Ychydig ddyddiau yn 01 dilynwyd ei esiampl gan Mr E. Robertson o Swyddfa'r Morlys. Dywedodd yn Nhy y CySredin ei fod yn bwriadu ymweled o bryd i bryd a gweithfeydd-Hongau y Llywodraeth, a rhoddi cyfle i gynrychiolwyr y gweithwyr draethu iddo unrhyw gwynion a ddichon fod ganddynt, a thrafod materion ynghylch y rhai y dylai fod cyd-ddealltwriaeth llawn rhyr gddynt hwy a Swyddfa'r Morlys. Aeth yn mhellach na hyn. Pan alwyd ei sylw at y ffaith fod cyflogau y llafurwyr cyffredin yn y gweithfeydd a enwyd yn afresymol o isel, ac y cynygiwyd gan Mr Jenkins benderfyn- iad i'r perwyl y dylai y gweithwyr gael cyflog heb fod yn is na chyflog safonol Undebau Llafur, dywedodd ei fod yn cytuno yn h«llol. Gan fod y penderfyniad yn cael ei gynyg fel gwelliant ar gynygiad ffurfiol ag yr oedd yn rhaid ei basio, nis gallai ei dderbyn yn ffurfiol, ond sicrhaodd y cynygydd ei fod yn derbyn ysbryd y gwelliant. Nid rhyfedd oedd gweled Mr Keir Hardie yn codi ac yn tystio gyda phwyslais cryf ac mewn ton foddhaus y parai geiriau Mr Robertson law- enydd mawr i holl weithwyr y Llywodraeth. Prin y mae yn rhaid dywedyd fod y gwelliant wedi ei dynu yn ol gyda'r parodrwydd mwyaf. Mae'n amlwg oddiwrth y pethau hyn fod ysbryd gwir Ryddfrydol yn llywodr- aethu'r Weinyddiaeth. Bydd hyn yn fodd- ion i gadarnau ei nerth hi, bydd yn fantais uniongyrchol i weithwyr y wlad yn gyffred- inol.

Treuliau Llyngesoedd.

Mr. Lloyd George yn Nghaerdydd.…

I Dedfryd Ankygoel. I

I Mr. Austin Taylor, A.S.

Deddf Estroniaid, I

Costau Etholiadol Seneddol.…

IO—I ILlys y Manddyledion.…

Y Barnwr Cymroaidd. I

I Corwen. I

Advertising