Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
CYNGHOR DINESIG I' FFESTINIOG,
CYNGHOR DINESIG FFESTINIOG, Cyfarfu y Cyngor nos Wener. pryd yr oedd yn bresenol,?; Mri. William Owen (cadeirydd) E. M. Owen (is-gadeirydd) John Hughes, Cadwaladr Roberts, Owen Jones, W. D. Jones, J. Lloyd Jones (ieu.), E. Ll. Powell, William- Jones, Evan Jones, Hugh Jones, Rd. Roberts, Hugh Lloyd, Lewis Richards, W. J. Rowlands, David Williams, John Cadwaladr, R. 0. Davies (clerc); W. E. Alltwen Williams (peirianydd), ac Evan Roberts (clerc cynorthwyol). Adgyweirij y Prif-ffyrdd. I Cyfarfu Is-bwyllgor i ystyried pa dretniant fyddai oreu i'w wneyd at gadw y Ffyrdd am y tair blynedd nesaf. Dadleuai rhai dros i'r Cyngor ofalu am danynt, ac eraill dros eu gosod i Gymerwyr. Pasiwyd trwy 6 yn erbyn 2 i'r Cyngor wneyd y gwaith en hunain. Mr. E. Lloyd Powell a ddywedodd eu bod wedi arbed swm da wrth eu gosoi gan i'r holl waith gael ei wneyd am 900p yn lie 1600p. Cynygiai ef iddynt gael eu gosod eto. Cefnogodd Mr Evan,,Jones. Yatyriai ef fod gan y Peirianydd ddigon o waith gyda'r Carth- ffosydd newyddion heb osod gofala am y dynion I ar y ffyrdd eto ar ei ysgwydd. Mr Hugh Lloyd a gynygicdd tod y Cyngor yn gwneyd y gwaith. Yr oedd ganddynt beir- iant a malwr cerig. Yna byddai ganddynt gyfle i wella y ffyrdd, ac aid eu cadw mewn trefn yn unig. Mr. Cadwaladr Roberts a gefnogodd. Buont cyn dechreu y tair blynedd diweddaf yn gorfod cadw o 12 i 15 o ddynion ar Pontyrafongam er mwyn cael sylfaen dda iddi yna gallo'id y cymerwr wneyd ar dri neu bedwar o ddynion ar yr un ffordd. Mr. John Hughes a ddywedodd ei fod am gynyg gwelliant ar yr hyn oedd gerbron, sef fod yr holl fater i'w drafod yn irrhwyllgor y ffyrdd. Rhoddwyd y mater i bleidlais, a chafwyd fod 9 yn erbyn 6 o blaid i'r Cyngor ofalu am y ffyrdd, ac wedi hyny pasiodd eynygiad Mr J. Hughes i'r holl fater fyned i Bwyllgor y Ffyrdd. Y pwyllgor i gyfarfod nos Iau nesaf (heno). Y Goleuni Cyhoeddus. I Daeth llythyrau i'r Pwyllgor oddiwrth Cwm- ni y Goleuni Trydanol ac oddiwrth Mr. Yale yn nghvlch y cwynion am y goleu, a'r c.edi a gymerai le gyda eangu cylch y gwifrau. Pas- iwyd i'r Clerc ateb, a dywedyd wrth Mr. Yale eu bod yn ei ddal yn gyfrifol am effeithioldeb y goleuni, a phwys-) arno i eangu y wifrau yn ol y cytundeb. Go, saf i'r Peiriant Tan. I Yr oedd dau le mewn golwg at adeiladu gor- saf i'r Tan Gatrawd, a bu pwyllgor yn edrych y Ueoedd hyny ar y rhai a adroddasant i'r prif bwyllgor. Nid yw y mater hyd yn hyn yn, ymddangos nemawr nes yn mlaen nag ydoedd yri y dechreu, gan fod man anhawsderau yn codi yn barhaus yn nglyn a'r peth. Adroddiad Dr. Jones. -1 I 1. Darllenwyd adroddiad y Swyddog Meddygol am fis Ionawr. Yr oedd 27 o enedigaethau 11 Wedi eu cofrestru, a 18 o farwolaethau. Nid oedd yr un farwolaeth trwy glefydon wedi di- gwydd, ond yr oedd y marwolaethau yn mhlith y plant yn lluosocach nag arferol. Adroddiad y Swyddog lechydol. I Adroddai Mr George Davies i 11 o achosion o Glefydon Heintus gael eu Nhodi yn ystod y mis, ar gyfer tri y mis cynt, a 5 yr amser oyferbyniol y llynedd. Yr oedd saith o'r achos- ion yn Wddfglwyi, un yn angeuol, a'r rhai yn y Llan o'r ansawdd waethaf. Nododd Dr. G. J. Roberts 5 achos, Dr. Evans 3, Dr. Jones 2, a Dr. Vaughan Roberts 1. Awgrymai amryw bethau ddylid edrych i mewn iddynt, ac oddiar yr awgrymiadau hyny pasiwyd i'r perchenogion yn Rhiwiau Cochion, Rhiwlas, Penfforridgoch, A 2, Llwynhir Terrace, wneyd y trefniadau a Qodai yr arolygwr. Pasiwyd plan ty newydd gyferbyn a Chapel Maenofferen i Mri. Thomas a Williams, Cegin Gefa yn Wynne Road i'r un personau, a chyfnewidiad ar ffrynt masnachdy Mr. Richard .Jones, ciiydd, High Street. Pasiwyd amryw drefniadau gyda golwg ar y Carthffosydd Cyhoeddus ceddynt yn mynod trwy dir y Reilffyrdd. Ymyraeth a'r Gweithwyr. I Gofynwyd i'r wasg wneyd sylw o'r pender- fyniad canlynol Nad oes yr un aelod o'r Cyngor i gymeryd arno ei hun i roddi unrhyw orchymyn i'r un o weithwyr y Cyngor." Y Cadeirydd a synai wrth feddwl fod neb o'r fcelodau yn meiddio ymyraeth a'r gweithwyr. Nid oedd gan yr un o honynt allu o gwbl oddi- allan i ystafell y Cyngor. I Y Llyfrgelloedd. I Cafwyd yr adroddiad mwyaf ffafriol a gyf- lwynwyd erioed i'r Cyngor am y Llyfrgell er ei sefydliad yn yr ardal. Rhoddodd y Llyfrgell- ydd (Mr. J. Lloyd Jones) 1029 o lyfrau allan yn tnis Ionawr, ar gyfor 1055 yr un amser y llyn- edd cynydd o 154. Yn mis Chwefror rhodd- odd 1530 o lyfrau allan, ar gyfer 973 cynydd ° 557. Fel na byddo camgasglu yn nglyn a'r hyn a ddarllenid, pasiwyd i ddosbarthu y Hyfrau i'w hadranau arbenig eu hunain, gan fod y peth yn eithriadol yn hanes y Sefydliad. Fel hyn y saf&i :-Gweithiau Duwinyddol ac Eg- lwysig, 66 ar gyfer 21 cynydd o 45, sef 63.1 y cant. Hanesiaeth, Teithiau, &c., 134 ar gyfer 104, cynydd o 30 neu 22-4 y cant. Celfau, Gwyddoniaeth, a Hanesiaeth Naturiol, 83 ar gyfer 81, cynydd o 2, neu 2-4 y cant. Bardd- oniaeth a'r Ddrama, 9 ar gyfer 4, cynydd 0 5, neu 55'5 y cant. Ffugchwedlau, 834 ar gyfer 500, cynydd o 334, neu 40 y cant, Llen- yddiaeth amrywiol a Thraethodau, 145 ar gyfer 41, cynydd o 4, neit 9 y cant, Llenyddiaeth Gymreig, 251 ar gyfer 190, cynydd o 61 neu 24-3 y cant. Traethodau Crefyddol, 108 ar gyfer 32, cynydd o 76, neu 70'4 y cant., I Y Cadeirydd a lawenhai weled y cynydd yn y cangeni mwyaf sylweddol. Y gwyn oedd mai y dosbarth ysgafnaf o lenyddiaeth oedd yn cael sylw ieuengctyd yr ardal, ond yr oedd pethau wedi newid er gwell. Pasiwyd pleidlais o ddiolch i Mri. H. Jones, Fferyllydd, Dr. R. D. Evans, a R. Roberts, Plasmeini, am eu rhoddion o lyfrau gwerth- fawr. Nid oedd y Clerc wedi gorphen y trefniadau gyda golwg ar y eynygiad i gael ail-agor y GangeD-ddarllenfa yn Tanygrisiau a Chongly- wal. Pasiwyd i brynu cr Cymrn yn gyfrolau o'r dechreu hyd yn awr gan Mr D. Roberts, Llyfr- werthwr, am X3 6s 8c. Pwyswyd ar i'r pwyllgor orphen ei waith gyda'r Rhestr Llyfrau. Y mae y mater ar eu Haw er's amser maith. Pasiwyd i anfon diolch cynes i'r Arglwyddes Osborne Morgan am ddarlun o'i diweddir briod, yr un modd Mrs. D. G. Williams am ddarlun o'i phriod, a Mr. Osmond Williams, A.S., am ddarlun o hono ei hun. Adroddiad y Pwyllgor Arianol. Gwrthodwyd ganiatau cais Mr. D. Davies, Ffestiniog, am fenthyg y Neuadd at gynal Dawnsfa ynddi.—Hefyd collodd y cynygiad i wrthod gosod y Neuaddau i gynal cyfarfodydd ar ol 11 o'r gloch y nos heb fod cais arbenig am hyny yn dod o flaen yr holl Gyngor. Y Clerc a hysbysodd fod £ 405 12s 10c yn y Bangc yn ffafr y Cyngor, ond wedi talu heno y swm o 91074, byddent yn fyr o JE650. Yr oedd' ganddynt aripii mewn trysorfa. arall, a deuai arian i mewn, fel yr oedd yn hyderu na thynid dim drosodd o'r Bange yn ystod y mis nesaf. Y Cwis Addysg Celfyddydol. I Cyflwynodd Mr. John Cadwaladr, trefnydd yr Ysgolion Nos ei adroddiad ar y gwaith. Yr oedd y Darlithoedd gafwyd gan Mr. G. John Williams, Aroiygydd y Chwareli, ar Chwarel- yddiaeth yn mhell o fod yn deilwng o ran y rhai ddaethant wrandaw arno. Yr oedd hyn yn beth i ofidii yn fawr o'i"herwycld, am ei fod yn cyffwrdd a phwnc bywoliaeth dynion ieu- aingc yr ardal. Nid oedd gweled dim ond 20 i 30 yn galonogol o gwbl.—Mr. Owen Jones a ddywedodd fod amgylchiadau yr ardal ar nos- weithiau y Darlithoedd yn anffafriol iawn, ac yn cyfrif am absenoldeb amryw fuasent yn bresenol onibai hyny. Yr oedd ef yn methu deall paham nad ellid cael rhywbeth teilwng yma fel yn Wiltshire. Dylid cael rhestrau ac athraw yma er cael ysgol Fwnawl deilwng. Erfyniai am sylw y pwyllgor at y peth. Cyn- ygiodd wobr am y cofnodiad goreu o'r Darlith- oedd er mwyn enyn dyddordeb ynddynt. Y Cadeirydd a deimlai yn siomedig ar y cynulliadau. Yr oedd Mr. Williams wedi sylwi ar rai o'r Llan yn bresenol yn y darlith- oedd. Cafodd gynulleidfa dda yn Llanrwst, a gallesicl yn sicr ddysgwyl peth felly yn y Blaenau. Ofnai nad oedd y bechgyn ieuaingc yn gwerthfawrogi yr y«go!ion nos gollyngant gyfleusdorau trwy eu dwylaw heb wneyd defaydd o hinynt. Pasiwyd i ddiolch i Mr. Williams am ei Ddarlithoedd, ac i Mr Mills am ei wasanaeth gyda'r Lantern. Amrywiol. I Cynygid 350 tunell o gerig o'r Tlodtv i'w dodi ar y Ffyrdd yn ol 4s y Ilwyth ond gan nad oedd angen rhai nis gellid eu cymeryd. Cyflwynwyd y cais am gael pibell ddwfr at y tai newyddion yn Wynne Road i sylw y pwyllgor. Mr Owen Jones a roddodd adroadiad dydd- orol am y Gwelyau Bacteraidd yn Towbridge ao yu Devizes, y rhai oeddynt yn gweithio yn ardderchog. Gwneid hwy i fyny o lechi Ffestiniog. Cafwyd llythyr oddiwrth y TVst-feistr Cyffrediuol yn dywedyd uad oeddid wedi llwyddo i gael y cant enwau oedd yn ofynol cyn y gellid estyn y Telephone rhwng yma a Porthmadoc. .«. "i!2t, lJ!omB;Q
Y Diweddar Barch. DavidI Roberts,…
Y Diweddar Barch. David I Roberts, Rhiw. Y Gwasanaeth Cotfa a'r Angladd. Cynhaliwyd Gwasanaeth Coffadwriaethol n nghapel y Rhiw am 1 o'r gloch pryd- nawn dydd Iau, diwrnod angladd y diweddar Barchedig David Roberts. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu teyrnged o barch, ac i weinyddu y gymwynas olaf i'n diweddar hybarch Weinidog. Gwasanaeth trwm a phruddaidd oedd y gwasanaeth trwyddo draw, ac amlygiadau helaeth o chwithdod a galar, ar ol un oedd anwyl iawn genym fel tref, gwlad, ac enwad. Dechreuwyd trwy ddarllen than o'r Ys- grythyr, gan y Parch. D. O'Brien Owen, Caernarfon, a dilynwyd ef mewn gweddi gan y Parch. E. J. Evans, Penrhyndeudraeth. Cymeiwyd arweiniad y cyfarfod gan y Parch. David Jones, Garregddu, yr hwn ynghyd ag amryw eraill a wnaethant sylwadau am yr ymadawedig. Dywedodd y Parch. D. Jones ei fod yn adnabod Mr. Roberts pan yn ddyn ieuanc yn y Bala, ac yr oedd o'r pryd hwnw hyd ddiwedd ei oes wedi cymdeithasu a'r Ar- glwydd, yr Hwn a'i cynhaliodd yn rjmus ar hyd y daith. Bvddai yn chwith iawn gan- ddo feddwl na chaffai ragor o'i gymdeithas felus. Y Parch. Evan Roberts, Dolgellau, a sylwodd iddo ddod i adnabyddiaeth o'r diweddar David Roberts yn mis Medi yn y flwyddyr 1858. Dyn da iawn oedd Mr. Roberts, yr o?dd y da oedd ynddo yn cuddio ei fawredd. Ac fe fyddai yn dda i ninau gredu mai fel hyn y dylai fod. Nid oedd yn bregethwr poblogaidd, ond yr oedd yn bregethwr da iawn, ac yn gadarn yn yr I Ysgrythyrau. Perthyn yr oedd yn fwyaf neillduol i'r dosbarrh athrawiaethol. Yr oedd hefyd yn ddyn o ddylanwad mawr, nid yn unig ar y rhai oedd yn ei adnabod, ond ar rai nad oeddynt yn ei adnabod hefyd. Y Parch. William Williams, Glyndyfrdwy, a ddywedodd ei fod yn adnabod Mr Roberts er's blynyddoedd lawer, ac yr oedd yn ei gael bob amser yn ddyn tawel, addf^yn a charedig, ac yn byw llawer iawn yn y byd ysbrjdol. Yr oedd ei ymddangosiad yn cario argraff ddofn arno, a bydd yn chwith ganddo ei golli. Dywedodd y Parch. T. H. Hughes, Ficer, Blaenau Ffestiniog, ei fod bob amser yn teimlo rhyw agosrwydd at y brawd ym- adawedig, ac wedi ei gael yn gyfaill cywir. Yn sicr bydd colli un fel ef yn golled drom i bawb a'i hadwaenai, Ond serch hyny, llawenychwn am i'r Arglwydd ei gadw yn gadarn, a diysgog hyd y diwedd. Gallai ddyweyd yn ngeiriau yr adnod hono am ein hanwyl frawd, ymdrechodd ymdrech deg, a gorphenodd ei yrfa." Y Parch. John Davies, Bontddu. Gallai dystio am y diweddar Mr Roberts ei fod nid yn unig yn ddyn da, ond ei fod hefyd yn gadarn yn yr Ysgrythyrau. Un hefyd ag oedd yn Buritan pur, gallai ymddiried y cwbl i Dduw. Hoff iawn gan Mr Roberts oedd troi gryn lawer o gwmpas Crist a'i groes, o'r lie daeth y neith, a'r grymusder oedd yn perthyn iddo, Yr oedd y gallu hwnw hefyd yn Mr Roberts i ddysgu, a chyfarwyddo rhai yn y pethau mawr eu pwys-pethau yr Efengyl. nes eu dod yn athrawon, ac yn swyddogion oeddynt l ddal pwysau yr achos yn y lie. Yn sicr bydd ei goffadwriaeth yn fendigedig. Y Parch. J. Rhydwen Parry, Bethania. Festiniog sydd lawer tlotach heddyw nag oedd wythros yn ol yn ei duwioldeb, oher- wydd cymeryd o'r Arglwydd ein hanwyl frawd oddiyma, ond bydd dylanwad ei gymeriad pur, a'i fywyd glan yn aros. Mae yn ofidus meddwl na chawn weled, na chlywed "Tywysog y Pwlpud byth mwy. Y Parch Francis Jones, Abergele. Yr oedd ganddo adnabyddiaeth helaeth o'r brawd anwyl sydd wedi ein gadael, er's yn agos i haner can' mlynedd. Yr oedd yn ddyn da, a duwiol, fel y sylwyd eisoes. Ni glywn yn ami am ambell un ei fod ef fel hyn, a'i fod ef fel arall, ond, ei fod yn ddau-eiriog, ac fe glywn am un arall ei fod yn bobpeth, ond ei fod yn ddifater. Ah dyma un nad oes yr un ond yn perthyn iddo. Yr oedd hefyd yn feddianol al." ty meddylddrych duw- iol ag sydd yn nodweddu y gwir Gristion, a Gwr Duw. Rhyfedd onite fel y mae gyda ni heddyw. Y pregethwr yn bregeth, a'r bregeth yn y pregethwr. Chwith iawn genym feddwl na chawn ei gwmni rhagor. Amsaith o'r gloch yn yr hwyr, cafwyd Pregeth Apgladdol gan y Parch. Evan Jones, Caernarfon. Daeth tyrfa fawr dra- chefn i'r oedfa hwyrol hon. Cymerodd yn destyn Hebreaid 3 ben, 5 adn. Wele am- linelliad o'i sylwadau Mae gwaith Moses yn yr adnod hon yn \gyfaddas, ac yn gosod allanj rai elfenau oedd yn nghymeriad y brawd ymadawedig. 1. Ei ffyddlondeb. Yr oedd yn hynod am ei ff yddiondeb., oedd hefyd yn tfyddiog, ac oherwydd hyny yr oedd Mab Duw yn ymddiried iddo am Ei deyrnas. Ni fyddai byth yn ameu, gwell ganddo oedd credu yr oil. 2. Cyfanrwydi ei ffyddlondeb. Ffydd- lawn oedd ein brawd yn ei holl dy, megy? ag y bu Moses yn ei holl dy. Mae Ilawer o honom yn ffyddlawn i'r ty, ond faint o henom sydd ffyddlawn i'r holl dy. Yr oedd ein brawd yn ffyddlawn hefyd i bethau bach, yn gystal a phethau mawr. Yr oedd yn gallu myned ar ol yr Arfaethau, trwy ddyfroedd dyfnion athrawiaethau, gallai fyned ar ol y Rhufeiniaid, a'r Ephesiaid, gallai fyned i'r Gymdeithabfa a'r Cyfarfod Misol, a byddai bob amser yn y Seiat a'r Cyfarfod Gweddi, byddai bob amser yn gweinyddu cysur i'r cleifion, a dyddanwch i rai mewn trallod. Ffyddlawn oedd efe. 3. Ei wylder a'i ostyngeiddrwydd. Hyny yw, yr oedd yn adnabod ei Ie-" megys gwas." Yr oedd yn glir ac yn gadarn yn Ngair Duw. Ni roddai fwy o bwyslais ar rhyw ran o'r athrawiaeth ar draul esgeuluso'r rhan arall. Na yr oedd yn wylaidd a gos- tyngedig gyda phethau mawr yr Efengyl. 4. Ei ffyddlondeb i amcanion uwchaf ei weicidogaeth. Dyn mawr oedd ein brawd, ag a fu ffyddlawn i bethau mawr. Goruch- wyliaeth rhagbaratoawl ar gyfer y gogon- iant oedd goruchwyliaeth ein brawd tra yma. Ni bu ein brawd yn fyr o gflawni ei ddyledswydd yn y weinidogaeth. Gallai ddweyd with ddyn fod eisiau ei ail-eni, a'i ddwyn i heddwch a Duw, a'i fod hefyd yn Fod tragwyddol. Ffyddlawn oedd efe yn v pethau mawr. Mae heddyw wedi myn'd at yr Hwn y bu yn son cymaint am dano. Che's'a'st ti ddim poblogrwydd, da, da, da. Gweddiaist dy bregethau, da, da, da. Buost ffyddlawn yn yr holl dy, yn holl bethau yr Efengyl. "Am hyny was da a ffyddlawn, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." A diameu nad oes amheuaeth yn meddwl neb na chafodd fynediad helaeth i mewn i'r deyrnas nad yw o'r byd hwn. Wedi y bregeth cafwyd anerchiad gan y Parch. John Owen, Bowydd, yr hwn a ddy- wedodd mai teimlad o chwithdod a cholled sydd i'w theimlo yma yr ydym wedi colli un o ddynion duwiolaf y fro. Dyma y peth amlycaf, oedd ei grefydd bersonol ei hun-ei dduwioldeb. Yr oedd hefyd yn feddyliwr I mawr, yr oedd yn gallu hebgor amser i fyfyrio. Mynai gael hamdden rhywfodd i wneyd hyny. Yr oedd hefyd yn byw allan o ruthr y byd, trwy ei fod yndal cymundeb a Duw yn barhaus, a hyny mewn tawelwch. Yr oedd yn barchus o'r Sabbath. Ni fyddai am ddarllen ond yn unig ei Feibl, a byddai yn dwys fyfyrio uwch ei ben. Yr oedd rhyw dynerwch, rhyw ledneisrvvydd yn ei wyneb. Yr oedd ganddo wyi eb un o bendefigion Duw. Yr oeddgwaith gras Duw ar Mr. Roberts yn am!wg. Yr oedd yn amlwg ar ei olwg fod yna ran o'r nefoedd. Yr ydym hefyd wedi colli gweddiwr mawr, gwasan- aethwr mawr i achos crefydd yn yr ardal. Y Parch George Davies, Brynbowydd. Yr cedd yn barod yn dechreu teimlo chwith- dod ar ol Mr Roberts. Yr oedd wedi dod i gyfeillach agosach a Mr Foberts yn y blyn- yddoedd diweddaf, yn fwy hyd yn oed na'r un gweinidog arall tuallan i'r enwad y perthynai iddo. Daliodd Mr. Roberts i fynu y llusern aur yn ei weinidogaeth, yn ei gym- eriad pur, a'i fywyd glan, a heno y mae yn disgleirio yn llachar. Mae Mr Roberts er weli marw yn llefaru eto. Mr Thomas J. Roberts, Aelybryn. Gor- chwyl pruddaidd iddo ydoedd dweyd gair am y diweddar weinidog anwyl, gyda'r hwn y treuliodd 32 mlynedd fel swyddog eglwysig- Yr oedd ei brofedigaethau ef, yn brofedig- aethau iddo yntau. Cawsant y fraint o glywed efengyl bur, a gosodai urddas ar bob peth yr Efengyl. Yr oedd yn credp ei fod yn derbyn ei genadwri oddiuchod, a dyna y rheswm am yr urddas, a'r arddellad oedd ar ei bregethau. Dylanwad ei gymeriad pur oedd yn peri fod y lath warogaeth yn cael ei thalu iddo ddiwrnod ei angladd. Y mae wedi magu to ar 01 to o ddynion cryfion yn yr eglwys hon, y rhai'n gyda'r rhai sydd wedi myned oddiyma, allant ddwyn tyst- iolaeth i'w gymeriad pur a'i fywyd glan. Y Parch. Moses Roberts, Seion. Y mae un o ser mwyaf disgiaer y gymydogaeth, yn mherson Mr Roberts, wedi ei chymeryd oddi arnom. Mewn pwyllgor a phwyllgorau yn nglyn ag achosion da, y cafodd y fraint o ddod i adnabyddiaeth o Mr Roberts. Yr oedd yn wr cadarn a sefydlog, ag yn ur y bydd colled fawr iawn ar ei ol. Yr oedd yn selog dros achos dirwest, ac y mae wedi bod yn un o gyfarwyddwyr penaf ynglyn a dirwest yn yr ardal. Y Parch T. Isfryn Hughes (W.) Gallai ddatgan ei gydymdeimlad ei hun, a thros y rhai y oedd yn troi yn eu plith, hwynt yn eu profedigaeth. Yr oedd i Mr Roberts air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Duw a fendithio ei lafur a'i waith i fod yn fendith i ninau oddiwrtho. Yr oedd yn ymwneyd a phethau mawr yr Efengyl, a thrwy hyny yr oedd yn fawr yn ngolwg pawb. Bydded ei goffadwriaeth yn fen- digedig gan bawb o honom. Y Parch D. Jones, Garregddu, a ddywed- odd ar derfyn yr oil o'r anerchiadau, am i bawb gadw mewn cof yr hyn ddywedwyd am ein hanwyl frawd, a bod yn ffyddlawn yrt mhob peth gydag achos yr Arglwydd, fel ag y bu ef ei hur. Ar ein cael gan Dduw yn ddiargyhoedd, ac yn ddifrycheulyd oddi- wrth y byd." g Terfynwyd trwy weddi gan y Parch J. W. Davies (A), Hyfrydfa. "i!í;tt;¡r"
Bettwsycoed.
Bettwsycoed. YMADAEL,-Dechreu yr wythnos hon yr oedd y gwr ieuangc Mr D. P. Roberts, Deresby House, yn cychwyn am Canada, lie y bwriada aros am chwe mis. Hyderwn y bydd Dafydd Jonea yn garedig wrth tra ar ei gefn. MARwoLAETH.- Y mae genym yr wythnos hon eto y gorchwyl gofidus o gofnodi am un o frodorion y lie, wedi ei symud i'r wlad tu draw i'r lien, sef Mr John Owen, Mynydd Bychan yr hyn gymerodd le Chwefror 28ain, ar ol cystudd maith a fh cenus. Yr oedd ein cyfaill yn un o ddychweledigion y diweddar ddiwyg- iwr y Parch Richard Owen. Ond dywedai mai pan yr oedd yn yr Ysbytty yn Liverpool, tua tair blynedd yn ol, ac newydd fod o dan orach- wyliaeth y llawfeddygol y daeth mater mawr ei enaid i bwyso arno gyda difrifwcb, daeth adnod i'w feddwl gyda rhyw nerth nes peri iddo feddwl fod ei ddiwedd wedi dod, neu o'r hyn lleiaf nad oedd i gael gwella o'r afiechyd oedd wedi cymeryd meddiant o'i gyfansoddiad. Bu mewn tywydd mawr ond ymroddodd i geisio dod i heddwch a'i Dduw, a thystiolaeih ei luosog gyfeillion a fu yn ffyddlon iawn yn eu ymweliadau ag ef yn ei gystudd, ei fod yn un o'r pererinion yn ddiamheuol. Hyfryd fyddai gwrando arno yn canmol daioni Duw iddo ar hyd ei gystudd a'i fod yn gallu toddi ei ewyUya fach ei hun i'w ewyllys fawr Ef. Tua pythef- nos cyn ei ymadawiad, galwodd ei holl deulu ato, a dywedai ei fod ar fin eu gadael, a chof- iwch meddai, ni buasai mor dda arnoch oni bai fy Ngwaredwr, ac fe fydd Ef hefo chwi ar ol i mi eich gadael." Yr oedd yn 59 mlwydd oed, a gedy weddw-5 o feibion ac un ferch i alaru ar ol priod hoff a thad tyner a gofalus, gyda pha rai y mae cydymdeimlad yr ardal yn gyffredinol. Dydd Sadwrn, daeth tyrfa fawr i dalu eu cymwynas olaf iddo, a chafodd gladdedigaetb dywysogaidd. Darllenwyd a gweddiwyd yn wir deimladwy ac effeithiol cyn cychwyn gan ei hen gymydog a chyfaill Mr Eilis Roberts, Pyllan, ac yn ysgol y plant prydnawn Sabboth, lie v,.bu yn athraw am flynyddau, canwyd yr emyn Ar ol gofidiau dyrys daith," &c., o barch i'w goffadwriaeth. Yr ydym wedi colli llawer o'r saint o'r gymydogaeth hon yn ddi- weddar, ond er teimlo chwithdod am eu cyfeill- garwch yn gallu ymdawelu yn rhyfedd am ein bod yn gallu credu eu bod mewn lie gwell, ac yr ydym yn gallu canu- "Cyfeillion i ni heddyw sydd ?Cwn y fro yn lluoedd, Heb deimlo yno unrhyw loes, Na gofid blin, na chur, na chroes, Yn canu yn y nefoedd." DOD Adre.—Drwg iawn genyf ddeall fod Miss E. A. Roberts, y Gendades, dan orfod o herwydd afiechyd, i ddod adref o Sylhet. Ym- ddengys iddi gael ymosodiad trwm gan un o glefydon y wlad, a chan y tybiai ei bod wedi gwella aeth i fyny i Khasia, ond gan fod hin- sawdd y ddau le mor wahanol cafodd ail ymos- odiad, a chynghora ei meddygon ar iddi beidio mentro aros yno misoedd yr haf, onddychwelyd i'r wlad hon, a bydd yn cychwyn ar y 5ed o Ebrill. Hyderwn y ca tdferiad ac y bydd yn alluog 1 ddychwelyd eto at ei hoff waith tua Medi neu Hydref. Gwelliantau.—Dyma y g'\ir mwyaf cjffredin yn y gymydogaeth hon, ac eto ychydig o'r llu- aws gwelliantau sydd arnom eisieu ydym yn ei gael, ond diolch i Gynghor Geirionydi am wneyd o'r diwedd un gwelliant pwvsig, sef rhoddi y llwybr o'r AUt Isaf i Bont Ty Hull mewn tlefyllfa fel y gall yrnwelwyr* fyned ar hyd-ddo. Y mae yr oiygfa geir ar y llwybr hwn o Raiadr y Wenol yn rhamantus dros ben. Yn wir nis gellir gweled yr holl Raiaclr ar un- waith ond o'r ochr yma. Diau y bydd i lawer fanteisio ar y gwelliant hwn.
1- -danaa'p Fachno.
1- danaa'p Fachno. I [GAN YR HEN Ddyenwr]. Goddefwch i mi longyfarch y Rhedegydd a'r Gloch ar eu priodas euraidd,—y Rhedegydd yn desg o ddyddiau a chryf ei gerddediad a'r Gloch" yn fwynfelys ei sain ac yn ngwanwyn oes.—Dywedaf fel Gohebydd rheolaidd y tro cyntaf-" Hir ddyddiau dedwydd fyddo i'r uniad." Fel v gwelwch Yr Hen Ddyrnwr ydwyf, a swydd sydd "edi' bod yn bwyslg yn myd ffarmwrs flynyddau gynt, pan oedd trin tir yn galw am waith dyrnwr, ond wedi i'r ffarmwrs fyn'd i brynu pobpeth fel gweithwyr aech fy ngwaith yn brin fel nad oedd gemf ond troi yn Ohebydd. Cetsiaf fod yn ffyddlon i wirion- edd, heb archolli teimlad, yn gyfiawn ac an- enwadol, heb fod yn fyw i ddim hyd y gallaf ond yr:hyn esyd argraphiadau ar fy meddwl. Bydd genyf lawer o feirniaid, rhai o honynt o fy mhlaid er nad cardotta ffafr na chwenych clod fydd fy arwyddair. Bydd fy ffyst yn gyfleus hefvd os y digwydd i mi fynd i wrthdarawiad « i h ii o farn wahanol, a slefyd papyr newydd wedi eu meddianu fel y bydd ar adegau vn dod i flino llawer o honom. Nid wyf y tro hwn, yn meddwl cyfeirio at ddtm, ond yn unig baratoi y ffordd a chyd-ddealidwriaeth i gychwyn. I Dyrchaflad, Da genyf fod Mr David Davies, DoiwyddeJen (o Benmachno gynt) wedi ei bencdi vn Oruch- wylydd y Refuge Assurance yn Ffestiniog. Bu felly am flynyddau yn llafurus yn Dolwydd- elen a'r cylch, ac erbyn hyn maa yn medi o ffrwyth ei lafur. I Cyfarfod Llenyddol. Mae rhagolygon da i Eisteddfod cyfeiiron Shiloh. (W.), Cwm, at Mai nesaf-y testyllau ar j < yf-u yn rhai newydd a buddiol.
I ADOLYGSAD.
I ADOLYGSAD. CENINEN GWYL DFvvi.-Dyma y rhifvn hwn eto wedi dyfod i law eleni eto gyda'i gasgliad o gofiantau mewn rhyddiaeth a chan i wyr mawr meirw y genedl- y cewri Cymreig sydd wedi cwympo. Cofiantir goreugwyr ymadawedig pob enwad. Yn mhlith eraill y mae Llawdden, Hwfa Mon, Pirch John Price Roberts, Parch D. Lloyd Jones, Machno, yn cael teyrnged dy. ladwy o barch. Mae nifer y beirdd sydd wedi eyfoethogi y rhifyn a'u cynyrchion yn ddigon i ddigaloni neb i ddeehreu eu cyfrif, gellid medd- wl fod pob un o honynt wedi codi allan at y gwaith. Mae Ceninen Gwyl Dewi y tro hwn yn sicr yn rhagorol, ac yn haeddu cefnogaeth ar gyfrif y gwasanaeth gwerthfawr hwn y mae yn wneyd i goffadwriaeth gwrengwyr y genedl. 11 TLYsAu MoRiwYD. Cf TLYSAU Morlwyd."—Mae ein hen gyfaill « dyddan Mr Edward Williams (Morlwyd), wedi dwyn allan ail-argraffiad o'i lyfr bardd- onol. Gwelwn fod lluaws o honynt wedi enill y gamp yn Eisteddfodau y cylch, a hyny pan oedd Beirdd lied enwog yn gydymgeiswyr. Cawsom gryn bleser wrth ddarllen amryw o'r darnau, gan mor naturiol a digwmpasy dyry yr awdwr e) feddw I yn y llinellau. Yn y Mesur Rhydd y canodd Morlwyd y rhan fwyaf, ac y mae ei englynion, ar y eyfan, yn darllen yn lied rwydd. Cafodd ganmoliaeth uehel i'r ar. graffiad cyntaf, a sicr yw fod yr argraflfiad hwn yn rhagori yn fawr am fod lluaws o ddarnau newyddion i mewn. Pe buasai yn Homer neu Virgil nis gallasai y Beiidd sy'n ei longyfarch ar ddechreu y llyfr ddywedyd yn uwch am dano, a gall f Bardd deimlo yn falch o'r gan- moliaeth a dderbynia. Diau y gwertha y llyfr wrth y miloedd. Pulpud CYMRU A'R TYST Dirwestol. -Dy- ma rifyn Mawrth o'r cyhoeddiadau adnabyddus hyn, a ddygir allan gan Mri Davies ac Evans, Bala, wedi dyfod i law. Oynwysa y cyntaf bregeth gan y Parch Henry Rees (B.), Pwll- heli, ar Psalm i. 3. Pregeth fuddiol feddylgar ar wahanol agweddau cymeriad y dyn duwiol ydyw hon. Mae yn y rhifyn amryw ddarnau eraill mewn barddoniaeth a rhyddiaeth, ac yn eu plith Fyr-sylwadau gan Mr Evan Roberts, y Diwygiwr." Mae v Tyst Dirwestol yn llawn iel arfer o fater buddiol at wasanaeth rhai sydd yn arwain cyfarfodydd a mudiadau dirwestol. Yn mhlith pethau eraill y mae ynddo lythyr cryf gan y Parch H. Barrow Williams ar Aelodan Sen- eddol Cymreig a'r Llyeoedd Trwyddedol."