Hide Articles List

7 articles on this Page

ICYFARFOD CHWARTEROL I I-MEIRION.-I

Bwrdd GwarcheidwaidI Llanrwst.

I-WISE and OTHERWISE.--

I Capel Salem (W.) Cylchdaith…

--Penrhyndeudraeth.

Advertising

NODION O'R CYLCH. ]

News
Cite
Share

NODION O'R CYLCH. ] Ewyllys Mr. Kitchen, Trefriw. I Pan yr oeddys yn cyfeirio at gymunrodd- ion y boneddwr uchod rhyw bythefnos yn ol, rhanol oedd y wybodaeth ynghylch holl fan- ylion yr ewyllys, ac oherwydd hyny tybiai rhai y gallasai fod rhywbeth mewn stor i bentref bychan y ffynhonau. Erbyn hyn y mae yn ymddangos fod ewyllws diweddaf Mr Kitchen wedi ei thynu allan ddeuddeng mlynedd yn ol-tiir blynedd cyn iddo ym- gartrefu yn Nhrefriw. Mae y ffaith yma yn un rheswm cryf dros nad yw Trefriw wedi cael ystyriaeth j n yr ewyllys o gwbl. + Mabwysiadu Cynrychiolydd Meirion Yn NoIgellau dydd Iau, o dan lywydd- iaeth Mr. William Owen., Plasweunydd, Ffestiniog, cyfarfu Cymdeithas Ryddfrydol y Sir. Pi-if ivaith y cynulliad oedd ystyried pwy oedd cynrychiolydd y Sir i fod yn y dyiodol. Yr oedd y Sir bron yn gyflawn yn ei chynn chiolaeth a'r teimladau mwyaf dym- unol at yr hen aelcd yn cael eu hamlygu. Nid peth iddo, mewn Sir oedd wedi bodyn rhanol ar ei ddewisiad, oedd gweled y fath unfrydedd—dim cymaint ac un eithriad-am ei ail ddewis. Mae Mr. Williams wedi gwneyd ei oreu i'w sir enedigol fel dyn a christion, dan iau orthrymus y Toriaid; ac i raddau belaeth wedi llwyddo i wneyd llawer o waith, yn enwedig mewn pwyllgorau ang- hyoedd. Os bu felly yn y gorphenol, gellir dan Weinyddiaeth ei frodyr ddisgwyl llawei mwy. Ar yr oil o brif bynciau y dydd, mae Mr. Osmond Williams yn iach, fel y gwelir oddiwrth ei areithiau yn Mon ac Arfon. Sefyllfa Arianol Foddhaol Cynghor Dinesig Ffestiniog. Yn absenoldeb Cadeirydd y Cynghor nos Wener diweddaf, bu i Mr. E. M. Owen, Cadeirydd y Pwyllgor Arianol, wneyd ad- roddiad hynod o ffafriol am sefyllfa arianol v Cynghor,—os nad ydym yn camgymeryd, dywedodd Mr. Owen na bu erioed mewn sefyllfa mwy boddhaol. Nid ffaith annydd- orol, o dan amgylchladau nor wasgedig.— Dywedir wrthym nad yw holl ddyledion a beathyciadau y Cynghor heddyw yn cyrhaedd 10,000p., tra y mae ei allu i fenthyca yn llawer iawn mwy. Mae deng mil ar un olwg yn ymddangos yn swm anferth, ond pan ystyrir y gallu i ad-dalu a'r gwaith mawr sydd wedi ei wneyd yn yr ystyr iechydol, yn peri ei fod yn llawer llai. Mae trefi eraill yn Ngogledd Cymru gyda threthiant a gallu gwanach wedi gosod eu hunain dan gyfrifol- deb llawer mwy. Pan y daw olwynion masnach unwaith eto i droi yn symlrwydd, nid hir y byddis heb gael clean slate, a phawb yn talu ei dreth yn galon ysgafn. Cyffuriau Perchenogol. I Y mae cyfaill wedi anfon cutting i ni o'r British Medical Journal/ ynglyn a chyffur- iau perchenogol (patent medicines), y rhai, ymddengys sydd yn bethau cyffredin iawn yn yr America, ac yn cael eu hadnabod a'u 1 galw fel y twyll mawr Americanaidd. Mewn cyfarfod blynyddol o Gymdeithas lechydol New Jersey, a gynhaliwyd Rhagfyr 8fed., dywedai un Mr. Samuel Hopkins, newyddiadurwr, y trosglwyddid Mesurau yn fuan yn y wlad hono, ac os pesid hwy, y rhoddid atalfa ar ddwyn allan ddarpariaethau cyffuriawl dirgelaidd. Mae y Mesurau yn cynwys darpariaeth i orfodi y perchenogion i argraffu o'r tu allan holl gynwys y botel, ynghyd a phrisiau y gwahanol gyffuriau. Dywedir fod yn yr Unol Dalaethau ganoedd a miloedd o wahanol feddvginiaethau (?) yn cael eu dwyn allan gan ddynion hollol ang- hyfarwydd a chynwys yr hyn a werthir ganddynt. Mor effeithiol meddant, ydyw eu "darpariaethau fel y gwellhant bob afiech- yd. Yr ydym wedi gweled rhai o honynt yn dod drosodd i'r wlad hon, ac yn gwneud honiadau yn ymylu ar fed yn rhyfygus ond nid yn hir y parhaodd eu rhwysg, yr oedd yr effeithiau yn profi yn wahanol, am eu bod yn dod o'r Ametica." Yr oedd pobl y wlad hon yn credu yn eu rhinwedd fel y mae 11 wer yn credu heddyw, nad oes angen ond myned drosodd i'r America, nad ellir byw ar y gwynt yno. Deddf Cau Cynar y Masnachdai. Fel y mae yn wybyddus, canlyniad yr ym- chwiliad wnaed yn Ffestiriog, pa un fabwys- iedid y ddeddf uchod a'i peidio, oedd ar- gymeH y Cynghor Sirol i beidio gorfodi yr ardal i fyned dan y ddeddf, a dyna yn wir vstyr yr hysbysiad swyddogol yr wythnos hon. Nid ydym heddyw yn myned i ddad- leu yn erbyn y Cau Cynar, ond y mae un peth yn sicr mai camgvmeriad fuasai mab- wysiadu Deddf i orfodi y masnach wyr i wneyd hyny. Mae y Ddeddf eisoes wedi peri profedigaeth i amryw o rai sydd wedi myned dani, yn eu gwaith, yn amryfus, yn methu ei chadvv. Diwedd yr wytnnos, erlyn- 1 iwyd dau fashachwr yn Birkenhead, .am wneyd masnach ar olwith o'r gloch y nos, noson y 19eg o Ragfyr, a dirwywyd hwy tra mewn achos arall y dirwywyd eilliwr i 5/- a'r costau am eillio dyn oedd wedi digwydd myned i'w fasrachdv cyn 8, ac iddo yntau fethu cwblhau ei wsith erbyn yr adfegbenoded-1 ig i gau. Fel hyn bu masnachwyr Ffestiniog j yn ddoeth yn eu gwaith yn ystyried y Ddeddf yn ei holl adranau cyn ei mabwysiadu. Nid gwiw beio y swyddogion gwladol am edrych ar fod deddf yn cael ei chadw ar ol i bobl, a'u llygaid yn agored, syrthio i'w thelerau ond ar ol hyny dod i deimlo fod y cyfryw yn rhy gaeth. Wedi y cwbl nid yw y ffaith fod yr ardal wedi ymwrthod a rheolau caethion deddf, yn unrhyw rwystr i'r Masnachwyr eu hunain wneyd trefniadau i ateb yr un pwr- pas. Fe wneir hyny mewn ardaloedd eraill, a phaham na ellir yn Ffestiniog. Mae yr achosion sydd yn ddiweddar wedi eu dwyn i'r llysoedd yn profi yn eglur, mai gwynebu ar y Ilys ynadol y buasai llawer o'r masnachwyr hyny gymerent eu rheol gan y ddeddf; gan hyny mae y pwyll a gymerwyd ystyried y mater wedi ateb diben rhagorol. Y Gyflafan ger Talycafn. I Mae y cymydogaethau rhwng Talycafn a Llanrwst wedi bod yn hynod o ran prudd- der y digwyddiadau yn ystod y blynyddau diweddaf ond o'r holi 0 honynt nid oes yr un mor ddifrifol a thorcalonus a'r un gymer- odd le nos Sadwrn diweddaf, pan y lladdwyd mam ieuanc a'i baban ar gledrffordd y Cross- ing yn ymyl ffermdy y Morfa. Parhaodd yr ymchwiliad am yn agos i ddwy awr, ac v mae yn r haid i ni ddweyd iddo brofi yn un manw! dros ben. Credwn fod y chwedleuon oedd yn cael eu taenu ar hyd ac ar led, yn cyfreith- loni yr ymchwiliad mwyaf manwl; er yn y diwedd y gorfuwyd i'r rheithwyr ddychwelyd rheithfarn agored o berthynas i'r achos, ac amgylchiadau y farwoheth, ac hefyd pasio pleidlais o gerydd ar y teulu, neu yn hytrach dywedai y blaenor ar eu rhan, y dylid cer- yddu, am fod bai yn rhywie- ddynt gael rhan o'r gwir, ond nid yr holl wir. Mewn achos mor bwysig teimlai y dylasai y rheith- wyr fod yn fwy clir i egluro yr hyn oeddynt yn feddwl. Pa brawf oedd na chawsant yr holl wir ? Pwy sydd wedi bod yn euog o ddarnguddio, os bu hyny ? Gofynwyd cwes- tiynau hynod o blaen i bob tyst, ac yr oedd yr atebion yn weddol bendant. Ar yr ochr arall, hwyrach y galleaid fod yn fwy llaw- drwm yn eu gwaith yn gadael y corff ar lawr am gymaint o amser. Tystiwyd i'r gwr gipio y plentyn a'i gymeryd i'r ty, a gadael y wraig yno, ac yno y bu am dros awr ar lawr. Gallesid yn briodo! iawn geryddu am y fath ddiofalwch ac oerfelgarwch, yn peidio ei chludo hithau i'r ty yn gynt nag y gwnaed. Mae dau beth pwysig na ddarfu i'r ymchwil- iad daflu dim goleuni arno (1) Beth barodd iddi fyned allan o'r ty fel yr aeth ac (2) Sut y cyfarfu a'i diwedd-pa un a'i gorwedd as- ochr y gledrffordd, ynte sefyll yr oedd pan darawyd hi gan y tren. Pa r'un bynag o'r ddau, yr oedd y cyffyrddiad mor ysgafn fel na welodd, ac na theimlodd y gyriedydd ddim oddiwrtho. Fel y crybwyllwyd o'r blaen, y mae y digwyddiad alaethus wedi cymeryd lie, ac wedi gadael mesur mawr o aneglurder o'i gwmpas o bethynas yr am- gylchiadau, ag y buasai yn foddhaol iawn fod y rheithwyr yn gallu rhoddi rheithfarn bendant.