Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

ICYFARFOD CHWARTEROL I I-MEIRION.-I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFARFOD CHWARTEROL I MEIRION. I Cynhaliwyd yr uchod yn Brynbowydd, Blaenau Ffestiniog, lonawr 3ydd a'r 4ydd. Y pwjllgorau am un o'r gloch y dydd cyntaf. Y gynhadledd am ddau o'r gloch, o dan lywydd- iaeth Mr J, Parry, Y.H., Bala, cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch D. Roberts Llaauwchlyn. Wedi darllen a chadarnhau cofnodion y cy- farfod'blaenorol. nenderfvnwvd.— 1. Fod y cyfarfod nesaf i'w gynal yn Rhyd-y- main, a'r Parch W. Wiiliams, Maentwrog, i bregethu ar y pwnc.' 2. Mabwysiadwyd adroddiad Pwyllgor yr Ysgol Sul (a) Fod y brodyr canlynol i fod yn, arholwyr y dosbarthiadau I., II., a III. Parchn W. Pari Hughes, B.D., Dolgellau J. D, Richards, Trawsfynydd a W. D, Evans, Aber- dyfi. (b) Mai buddiol fyddai cael rhan o'r Hen Destament bob yn ail a'r Testament Newydd yn faes llafur i blant dan 12eg oed. (c) Anog yr Undebau Ysgolion i geisio chwanegu yr ymgeiswyr am yr arholiadau. 2. Mabwysiadu adroddiad y Genhadaeth Gartrefol (a) Ymddiriedwyd cais Pwyllgor y Gronf i Mri Parry, Bala W. Hughes, Dol- gellau Francis Evans, Ffestiniog Dr. Lloyd, a Mr Williams, Towyn, yr ysgrifenydd. (b) Fod Pwyllgor Ysbytai i gael y symiau eanlynol ar gyfer y gwahanol ysbytai :-Liverpool, 28p 7s Manchester. 3p 3s Cartrefi Rhyl, ]3p Is Amwythig, 3p 3s. 4. Rhoddodd Dr Lloyd adroddiad o'r hyn a wnaed gan Bwyllgor Canolog Gogledd Cymru y Genhadaeth, a gyfarfu yn Nghaer yn mis Hydref diweddaf. yr hwn a dderbyniwyd yn galonog. 5, Dewlsiwyd y personau eanlynol i fod yn bwyllgor i ofalu am y Genhadaeth Dramor yn y Sir: Parchn J. Hughes, Tanygrisiau R. Thomas, Abermaw Rhys Davies, Dorris, a T. Talwyn Phillips, B.D,, Bala, yr hwn sydd i fod yn ysgrifenydd. 6, Fod cynygiad Mr Phillips, Bala, i gael ei gyflwyno i ystyriaeth y Pwyllgor uchod, ac i gael yr adroddiad yn y cyfarfod nesaf, 7, Cais i gael ei wneyd am wasanaeth y Parch R. Griffiths, Madagasgar gynt, i ymweled a rhai rhanau o'r sir. 8. Cyflwynwyd CymdeithasGwedctwoo Gweinidogion i sylw. y gynhadledd gan Mr Parry, Aberllefeni. Hyderwn y bydd i'w apel- iadau taer am. gymhorth i'r gymdeithas werth- fawr hon gael sylw ac ystyriaeth niwy cyffredinol. 9. Ein bod yn cymeradwyo y mudiad sydd ar droed i gasglu y swm o 5,000p at Golegdy Newydd Bala-Bangor, ac yn penodi Mri J. W. Davies, Hyfrydfa, a Gwion Jones, Bethel, i osod yr achos o flaen eglwysi y sir a derbyn y cyfraniadau tuag ato. 10. Derbyn pregethwyr. Yr oedd Mri R. W. Hughes, a J. Jones, Rhydymain; L. J. Thomas Rhiw. a Thomos LI, Jones, Borth, wedi rhoddi cais am gael eu derbyn yn y cyfarfod hwn, ond methodd yr olaf a bod yn bresenol. Ac yr oedd y rhai canlynol ya bresenol ac yn rhoddi cais am gael eu derbyn yn y cyfarfod nesaf Morris Griffiths a Rowland Evan", Dolgellau, a Mr Edmunds, Brynbowydd. Wedi derbyn y tri cyntaf yn rheolaidd, rhoddwyd cynghor i'r oil gan Mr Parry, y cadeirydd, yr hwn a werth- fawrogwyd yn fawr gan y brodyr ieuainc a'r gynhadledd. Cofir yn hir am yr anerchiad rhagorol hwn. Diolchwyd i Mr Parry am ei sylwadau byw ac amserol. 11. Ein bod yn liongyfarch Syr Henry Campbell-Bannerman, A.S., ar ei ddewisiad i'r swydd uchel 0 Brif Weinidog, ac yn mawrhau y modd doeth a ddangoswyd ganddo wrth flurfio ei Weinyddiaeth, yr hon sydd yn gyn- rychioliad mor deg o wahanol adranau y blaid Ryddfrydol. 12. Hefyd ein bod yn teimlo yn llawen am fod yr Anrhydeddus Lloyd George, J. Burns, Herbert Lewis, a McKenna yn aelodau o'r Weinyddiaeth, ac fod Cymru wedi ei chydnabod mor anrhydeddus am y waith gyutaf. 13. Fod yr Ysgrifenydd i ddatgan cyd- ymdeimlad y gynhadledd ag amryw gyfeillion sydd mewn trallod a galar. Yr oedd trefniadau yr Eglwys yn Bryn- bowydd yn rhagc-rol ar gyfer y cyfarfod, am yr hyn yr ydym yn dra diolchgar. Rhybudd gan Dr Lloyd, Y disgwylir i'r eglwysi fydd yn apelio am gymhorth o Drysor- fa y Sir i ymgynghori a Phwyllgor y Genhad- aeth Gartrefol cyn gweithredu lyn derfynol mewn galw gweinidog.' Caed cynhadledd luosog ac aed trwy yr holl waith mewn ysbryd rhagorol. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch D. S. Thomas, Towyn. MODDION CYHOEDDUS. Pregethwyd gan y Parchn G. Thomas, Arthog: H. W. Parry, Aberllefeni J. C. Jones, Borth J. R. Evans, Pennal Rhys Davies, Corris Gwion Jones. Bethel W. D. Evans, Aberdyfi, a D. Roberts, Llanuwchlyn, yr hwn a bregethodd ar y pwnc. sef Nerth a gwaith," a chafwyd pregeth gref a gwir amser- ol. Pregethwyd yn Bethel gan Mr Philips, Bala. Cafwyd cyfarfod rhagorol yn mhob ystyr. Mae MriDavies a phobl ei ofal yn 11awn o ysbryd eu gwaith, ac y mae ychwanegiadau pwysig wedi eu gwneyu at y capel yn ddiwedd- ar, fel y mae yn un o'r ad loldai mwyaf dymun- ol a chyfleus yn Ffestiniog yn awr. IJ, PRITCHARD, Ysg. Druid, Corwen.

Bwrdd GwarcheidwaidI Llanrwst.

I-WISE and OTHERWISE.--

I Capel Salem (W.) Cylchdaith…

--Penrhyndeudraeth.

Advertising

NODION O'R CYLCH. ]