Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
MAE BRADLEYS WEDI i DYFOD. Un or Cwmni Dilladwyr Mwyaf yn Mhrydain Fawr, ac y mae .JOHN GRIFFITH. (Gynt o London House, Llanrwst), wedi ymuno a hwy. Bydd BRADLEY8 yn agor Masnachdy Newydd Dydd SADWRN Nesaf, yn yr Hen Stamp Office, Denbigh Street, Llanrwst, Drws nesaf i'r Bank Uchaf (Metropolitan Bank), i aros hyd nes y bydd Masnachdy Newydd y Crown yn barod GYDA STOC NEWiDD 0 BOB MATH o Ddilladau. Parod i Ddynion a Phlant. I ddathlu yr Amgylchiad bwriada BRADLEYS gynyg "Q A 13? '?T'?TT/??T' BARGEINION na welwyd eu cyffeiyb yn Llanrwst a'r Oylchoedd erioed o'r blaen. Mae gan Bradleys dros 80 o Gangheriau, ac o herwydd hyny mae ganddynt fantais fawr i brynu yn y Fasnach isaf, felly gallwch ddisgwyl Bargeinion Cynhyrfiol a Sylweddoi, fel ac i sicrhau eich cymeradwyaeth a pharhad o'ch cefnogaeth yn y dyfodol. Bydd yr 11011 Stoc wedi eu Marcio yn Blaen fel ag y gall pawb ddeall y PRISIAU. Cofier am Dydd Sadwrn Nesaf. Mae Canghenau nesaf BRADLEYS yn-Caernarfon, Dinbych, Rhuthyn, Wrexham, Treffynon, Wyddgrug a Connah's Quay.
Gwraig a'i Baban yn cael eu…
Gwraig a'i Baban yn cael eu Lladd. Tra yr elai y tren 7-17 i lawr o Lanrwst nos Sadwrn diweddaf, cymerodd un o'r dig- wyddiadau mwyat prudd le, drwy i wraig ieuanc 23ain. a'i baban bach gyfarfod a'u diwedd mewn modd adfydys iawn, Rhwng Llanrwst a Thalycafn y mae ffermdy bychan o'r enw Morfa, ar ochr y ffordd. Y mae cy meriad y fferm gan hen wr o'r enw Rd. Roberts,1 yr hwn gyda'i wraig sydd yno yn byw. Oddeutu deng mis yn ol, bu i Owen Roberts eu mab briodi a geneth ieuanc o gymydogaeth Abergele-o'r enw Maggie Roberts. Tua phedwar mis yn ol ganwyd iddynt fachgen bach. yr hwn yn ol pob tystiolaeth fagesid gyda gofal neillduol. Yn ot y tystiolaethau ar y trengholiad, aeth y wraig ieuanc allan o'r ty, ychjdig wedi 7 nos Sadwrn, a'r baban dan ei chesail. Y mae y ffermdy o fewn rhyw ddwy ergyd careg i linell y rheilffordd,-a Crossing gyda dau lidiart o bob ochr i'r tir a ddelir yn nglyn a'r fferm. Ar y pryd, pan aeth y wraig ieuanc allan, yr oedd y gwr ar y ffordd fawr yn myned i gyfarfod a'r gwas, yr hwn oedd wedi addaw myned gydag ef i Talycafn i ymofyn -porter i'w fam oedd yn glaf. Pan glywodd y gwr lidiart y crossing^yn cau, er meddai na wyddai pwy oedd wedi myned drwodd, aeth yno yn uniongyrchol, a chafodd hyd i'w wraig a'i plentyn arochr y gledr- ffordd. Cododd y plentyu yn uniongyrchol, a rhedodd ag ef t'r ty, a galwodd sylw y cymydogion y rhai a aethant i'r fan a'r He. Pan welodd y gwr hi gyntaf, yr oedd yn fyw. ond y plentyn wedi marw. Trodd allan yn amlwg tod y wraig wedi ei tharo gan y peiriant mewn rhyw ffurf neu gilydd.
Y TRENGHOLIAD.-
Y TRENGHOLIAD. Dydd Mawrth cynhaliwyd trengholiad yn y ty gan Dr James Hughes, Dinbych. De- wisiwyd y Parch H L Davies yn flaenor. Atweiniwyd yr ymchwiliad ar ran yr heddlu, gan yr Arolygydd Woollam, Llanrwst, ac yr oedd trefniadau y trengholiad yn ngofal yr heddgeidwad J Davies, Eglwysbach. Wedi i'r rheithwyr gymeryd y llw arferol aethant i weled y cyrph, y rhai a dodwyd gyda'u gilydd mewn un arch. Y tyst cyntaf oedd Owen Roberts, y gwr, yr hwn am gryn amser ddolefai allan Maggie Bach," ac Dh Iy mhlentyn anwyl i," ddywedai iddo nos Sadwrn fyned allan tua 7 o'r gloch. gan feddwl myned i Talycafn i ymofyn stout i'w fam oedd yn glaf. Yr oeddd y gwas wedi addaw myned gydag ef, yr hwn a aros- ai yn y ffordd. Pan felly yn aros y gwas yn y ffordd, clywodd lidiart y Crossing yn cau, yn y pellder o tua 400 o latheni, Ar 01 clywed hyn, ystyriodd ychydig, ac aeth yn mlaen ar hyd y ffordd, ond trodd yn ol gan fyned drwy yr heol heibio y ty. Yr oedd yn parhau i ddisgwyl y gwas. Ond gan nad oedd wedi cyraedd aeth yn mlaen at y Crossing, rhag ofn i'r merliwns oedd yn y cae ddod allan ac yno gwelodd y plentyn bach ar lawr, rhwng y terfyn a'r metling. Yna gwelodd y wraig rhyw lath en yn uwch i fyny yn gorwedd. Ar y pryd yr oedd yn fyw, er na 6iaradodd air. Yr oedd y tyst erbyn hyn eto wedi tori aHan i ddolefain, ac meddai y Blaenor, "Nid oes angen y swn mawr yna o gwbl." Y tyst yn myned yn mlaen Yr oeddym yn byw yn hollol gytun gyda'n gilydd, sef ei dad a'i fam, ynghyda bachgen bach pump oed. Ei blentyn ef oedd y bachgen—nid gwr gweddw oedd. Yr oedd ei wraig yn hoff iawn o'r bachgen bach, er mai nid y hi oedd ei fam. Yr oedd yn ffrindia mawr hefyd gyda'i dad a'i fam. Yr oedd ei wraig wedi dweyd wrtho y carasai gael ty ei hun. Nid oedd yn gwybod i'w wraig. gael cweryl o gwbl gyda'i fam y diwrnca hwnw. Yr oedd yn bosibl fod hyny wedi digwyddddau fis yn ol. Yr oedd ei fam yn gariadus iawn o'r wraig bob amser Pan ddaeth o hyd iddynt ar ochr ygledr- ffordd, gafaelodd yn mraich ti wraig, a gwaeddodd, Maggie, Maggie," ond nid atebodd, a sylwodd fod ei phen yn gwaedu. Cipiodd y plentyn, a rhedodd ag ef i'r ty. Nid aeth yn ol i'r lie drachefn, ond rhedodd i alw J. Thomas, Sychnant a John Hughes, ac anfonodd hwy i'r lie at ei wraig. Mewn atebiad i'r Blaenor dywedodd mai unwaith y caed cweryl gyda'i fam. Y rheswm meddai paham y gadawodd y wraig yno oedd, am nas gallai gymeryd y ddau i'r ty ar unwaith. Catherine Robetts, 66 oed, mam yn nghyfraith y drancyddes a dystiai fod y wraig ieuanc yn nursio y babi tua 7 o'r gloch nos Sadwrn. Yr oedd yn byw gyda hwy er's oddeutu tri mis. Cawsant swper gyda'u gilydd nos Sadwrn, ac yn ymddang- os yn hollol law an. Ar ol i Owen Roberts, ei mab fyned allan, aeth hithau y wraig ieuanc allan. Nid oedd ganddi (y tyst) yr un syniad i ba le yr oedd yn myned. Medd- yliodd mai gyda Owen Roberts yn yr heol yr oedd. Nid oedd iselder ysbryd ami, ac nid oedd ball ar ei hystumog. Ni fygythiodd gymeryd ymaith ei bywyd, drwy wybod iddi hi. Wrth y Blaenor-Nis gwyddai paham yr aeth allan, os nad mewn natur ddrwg, am fod Owen yn myned i nol stout'' iddi hi. Ni ddywedodd air wrth fyned allan. Yr oedd yn chwareu a'r babi amser swper. Un ffrae gawsant erioed, a hyny ynglyn a chorddi. Clywodd hi yn dweyd y carasai fyned i'w thy ei bun, a bygythiai fyned i wasanaeth. Gofynodd hithau beth wnai a'i babi, ond nid oedd yn wir iddi hi (y tyst) ddweyd ei gwnai hi ei fagu os a'i i le. Nis gallai roddi rheswm dros iddi fyned allan y noson hono, os nad am tod Owen wedi myned i nol "stout." a Dr Huw Williams, Llanrwst a dystiai iddo gael ei alw. Yr, oedd cyflwr cyffredinol y waig yn dda, a'i meddwl yn hollol iach a chlir. Yr oedd yn y ty tua 9-15 nos Sadwrn P?n gyrhaeddydd yr oedd y fam a'i phlentyn bach wedi marw. Yn ganlynol desgrifiodd Dr Williams y briwiau ar y pen ar ochr y wyneb, fel yr oedd yr ymenydd yn rhedeg allan. Nid oedd archollion. ar y corph amgenypen. Yr oedd y baban yn gynes, ond ei ben yntau wedi ei dori yn y cefn. Dim briwiau eraill ar y corph. John Hughes, Glanddol, dystiai iddo glywed p-enethod bach yn gwaeddi nos Sadwrn tua 7-30, ac aeth i g) feiriad y Morfa i edrych beth oedd y mater. Cafodd hyd i Margaret Roberts ar y line," Yr oedd yn gorwedd ar ei gwyheb. Symudodd hi rhyw lathen o'r ffordd, ac yna aeth i ymofyn yr heddgeidwad. Ni adawyd neb gyda'r corph. Yr oedd dan yr argraff mai hysbysu yr heddlu oedd ei ddyledswydd gyntaf, Y Blaenor-Dylasech wybod mai eich dyledswydd fuasai cario y corph yn union- gyrchol i'r ty, ac nid ei gael fel ysgerbwd ar lawr. J. Williams, gyriedydd v tren 7 ddv.wedai na welodd, ac na theimlodd ddim oddiwith yr hyn gymerodd le. Dydd Sul yr hysbys- wyd ef. Evan Owenly gwas dystiodd ei fod yn cael swper gyda'r teulu nos Sadwrn, ac yr oedd y drancedig yn siarad yn siriol, ac mewn iechyd da. Ni chlywodd hi yn bygwth cymeryd ei bywyd o gwbl. Yr oedd wedi trefnu i fyned gyda'i feistr i Talycafn i nol porter. Ni chlywodd un math o gweryl yn y ty o gwbl er pan oedd yno—pythefnos o amser. P.C. Davies, dystiai iddo gael ei hysbysu o'r digwyddiad 8-40 nos Sadwrn. Wrth gerdded o Talycafn, daeth o -hyd i shawl goch gyda'i fod wedi gadael yr orsaf. Daeth ar draws y corph, 9-15 ar ochr y lhnell, a chludodd ef i'r ty yn uniongyrcbol. Nid oedd yn adnabod y drancedig o gwbl isiarad a hi. Ellen Roberts. Tynycoed, Maenan, a dystiai ei bod yn chwaer i'r drancedig. Gwelodd hi pan oedd y babi yn saith wyth- nos oed. Dywedodd wrthi uuwaith, ond nid yn rhyw blaen iawn, fod arni eisiau myned o'r Morfa i fyw i dy ei hun. Ni ddywedodd dim o i chwyn wrthi. Nid oedd hi (y tyst) wedi bod yno wedyn, ac nid am nad oedd yn licio y bobl y cadwodd oddiyno, ond am ei bod yn brysur, ac wedi blino ar ol diwrnod o waith. Ar ot i'r rheithwyr fod yn gweled y fan y cafwyd y trancedigion, dywedodd y trenghol- ydd fod y tystiolaethau yn eglur yn prop eu bod yn byw yn gyfeillgar a heddychol gyda'u gilydd. Nid oedd unrhyw brawf o greulon- deb o gwbl. Beth gymerodd le nos Sadwrn nis gellir dweyd i sicrwydd. Gan hyny yr oedd yn argymell eu bod yn dychwelyd rheithfarn agored. Fod i'r ddywedig Maggie Roberts fyned ar y llinell-ond nad oedd tystiolaeth i brofi y modd y bu farw. Ymneillduodd y rheithwyr a chydsynient ag awgrymiad y trengholydd/gydag awgrymu y dylasai y teulu gael cerydd,—fod bai yn rhywle-yr oeddynt wedi cael y gwir, ond nid yr holl wir.
- - - - - - - -I INodion o…
-I Nodion o Bethesda. Dyma ninau fel ardal wyr wedi ein tafiu i'r pair etholiadol. Y mae y ddau wersvll wedi ymsymud ac y mae arweinwyr y llu wedi ymddangos. Y fyddin gyntaf i ymddangos ar y maes yr un Geidwadol. Galwyd hi ynghyd i Neuadd y Farchnad rhyw wythnos yn ol, a bu dadwrdd ddigon cyn ei hymddangosiad. Yr oedd y fCadfridogion Toriaidd ac eglwysig yr I holl fro wedi ymgasglu ynghyd ac un neu ddau o'r tu hwnt i derfynau yr ardal un o Lerpwl (sais) ar llall o Gaernarfon—Twrne stad y i Penrhyn, Mr Lloyd Carter, Er yr holl ymddangosiad o'r awdurdod oedd yno amlwg nad oedd hyny yn llesteirio y rhydd- frydwyr oedd yn bresenol i roddi vent i'w teimladau pan oedd galw am hyny. Baicb areithiau yr holl ohonynt ydoedd ceisio dangos mae yr achos o wendid ym myd masoach y^llechi ydoedd y doll godir gan wled- ydd tramor ar ein llechi ni tra y gadawn rhai tramor ddod i'r^wlad hon yn ddidoll. Ac y mae nifer o chwarelwyr i'w cael yn ddigon ehud i goelio peth fel hyn. Rhyw gyfarfod peirian- yddol gfwyd, nid oedd y peth hyw hwnw i'w gael ynddo, Ymddangosai yr esgynlawr, fel pe bai holl alluoedd a dylauwad Castell y Penrhyn yn myned i gael ei roddi ar waith yn yr etholiad hwn. Daeth yno :air ar bapyr oddiwrth Arglwydd y Ciistell ei hun yn dymuno yn dda i'r ymgeisydd. Un o Swyddogion Yatad y Penrhyn ydoedd y leadeirykid ac ar y stage yr oedd Prif Stiward y stad a Phrif swyddog y chwireI, sef Mri French a Young ynghyd a llu mawr o fan stiwardiaid. Ac yr oedd hoi glerigwyr a chiuradiaid Y cylch o'u cwmpas. Gwelem fod yr ymgeisydd oeidwadol-Mr Arthur Hughes, mewn cwmni pur swyddogol a dweyd o leiaf. Nos Sadwrn cafodd yr ymgeisydd Rhydd- frydig -Mr William Jones gyfleusdra i ddangos gwegi yr ymhoniadau wnaed gan y Tori drl. Yr oedd neuadd y Farchnad yn oriawn o Ryddfrydwyr aiddgar a bu yr ymge sydd am ddwy awr yn trafod yn glir a phwyllog ar y gwahano! gwestiymu a? nid y ileiaf ohorr: nt eedd perthynas Diffyndollaeth a'r lleehau. D\ngosodd yn ol yr hyn a drivwedwyd gan wyr cyfarwydd yn masnach y llechi yn y wlad hon ¡ yn ogystal a gwledydd tramor, mae'r pryd y dechreuwyd anfon lieehi i'r wlad hoa o ddim pwjs ydoedd yn amseF streic y Pen'hyn, a dywedai hefyd fel yr oedd ef ag eraill wedi rhybuddio mewn pryd mai dyma fyddai yn un o ganlyniadau yr anghydfod a chymerwyd mantais ar y dybiaeth i wasgu ar Awdurdodau y chwarel i ddod i gymmod a'r gweithwyr ond ni thyccia n a rhybudd na chyngor, ac nid yn unig hyny cymmaint ydoedd ystyfnigrwydd y rhai oedd mewn awdurdod fel y gommeddwyd gwrando ar nebna. dim, a gwrthodwyd er pob cynyg roddi y mater i gyfialareddiad na Bwrdd Cymod. Oherwvdd hyn oil rhoddai Mr William Jones ran fwyaf o'r bai am ddyfodiad llechi tramor i'r wlad hon, ar ysgwyddau awdurdod- au chwalrel y Penrhyn oherwydd eu hyatyfnig- rwydd yn gwrthod cymmodi ar gweithwyr. Yr oedd yn amlwg ar y dorf fawr fod y siaradwr ar ganol y sianl pan yn dyweyd hyn, canys yr oedd y gymeradwvaeth yn fyddarol. Pa?iwyd pleidlais unol i wneyd pob ymdrech i sicrhau ei ddychweliad. Arhosai Mr William Jones, dros y Sul yn Fengoed gyda Mr a Mrs D. G. Davies, a bu yn Nghapel Jerusalem mewn Cwrdd gweddi noa Sul. Cafwyd gwledd gerddorol o radd uehel nos Fercber diweddaf yn Nghapel Jerusalem Cafwyd Organ Recital gan Dr Roland Rogers a chwareuodd yntau nifer fawr o brif ddarnau allan o weithiau y Prif awduron, ar yr Organ hardd sydd yn y Capel hwnw. Hefyd datganwyd yn wir feistrolgar ac effeithiol gan Miss May John a Mr R. R. Morris, Prif fasawr Eglwys Gadeiriol, Southwell. Maentwrog. j Diolchgarwch.—Dymuna Mrs Morris, Tanlan, arnom gyflwyno ei diolchgarwch gwres- ygaf hi a'i mherch am y cydymeimlad cyffredinol a'r caredigrwydd mawr ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth lem o golli eu hanwyl fab a brawd, y diweddar Mr R. E. Morris, C.M., ein hysgolteistr. CYMDEITHAS Ymdrkch Grefyddol.—Cynhal- iwyd yr uchod lonawr 4ydd o dan lywyddiaeth Miss Richards, Cemlyn. Dechreuwyd drwy ddarllen a gweddio gan y lywyddes. Prif at- dyniad y cyfarfod ydoedd y ddadl Pa un a'i Cymeriad a'i Talent sydd yn cario dylanwad fwyaf ar Gymdeithas," Agorwyd y ddadl dros Gymeriad gan Mr J. R. Jones, ("GeralltJ a thros Dalent gan Mr Thomas Jones, Penlan. Cymorwyd rhan yn mhellach gan amryw a rhoddwyd ef i bleidlais y cyfarfod, pryd y caf- wyd mwyafirf dros Gymeriad. Cafwyd can swynol gan Miss Annie Williams, Ty'nybryn Yr oedd yn gyfarfod gwir ddyddorol ac adeiladoi. — —. — —
Trawsfynydd.
Trawsfynydd. Boreu Sul diweddaf, bedyddiwyd un brawd ar gyffes o'i ffydd yn M,¡b Duw, yn afon Prysor, yn ngwydd tyrfa fawr o edrych wyr. Gweinyddwyd yr ordinhad gan y Parch John Philips, gweinidog newydd y Bedyddwyr yn y lie. Deallwn fod dau wedi dychwelyd yn ol or tir pell yn ystod yr wythnos ddiweddaf. Llawen genym am iwyddiant y frawdoliaeth yn Salem y dyddiu hyn. Gwasanaetbwyd pwlpud Sion y Sul diweddaf, gan Mr. Stephen Jones, Porthmadog. Cafwyd ganddo bregethau gwir ailuog ac effeithiol. Nos Fercher cyn y ddiweddaf, bedyddiwyd dau yii Nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, sef Dr. Humphreys ai fereh. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan Parch. D. Huws, Gweinidog patchus aphobiogaidd I yr eglwys yn Movish.-P.ENTREFWR.
Cynghor Eglwysi RhyddionI…
Cynghor Eglwysi Rhyddion I Ffestiniog. (Adroddiad yr Ysgrifenydd am 1906.) I Cyfarfyddodd ein Cynghor gynifer ag un- arddeg o weithiau yn ystod y liwyddyn sydd newydd derfynn, ac fel y geliid disgwyl gwnaeth gryn lawer o waith distaw. ond ym- arferol ac uehel ei amcan. Nis gellir dweyd iddo lamu yn fras i gyfeiriad diwygiadau mawr ond er hyny ba yn gyfrwng bsndithiol i feithrin undeb a chariad cydrhpngddom fel Eglwysi yn y He ac i'n cadw t gydsymud mewn pethau oedd yn dal perthynas a'n llwyddiant cyfftedinoi. Gwyliwyd symudiadau y diwygtad crefyddol grymus a brofwyd genytn yma fel mewn lleoedd eraill a rhoddwyd pob ystyriaeth a hyrwydd- iant i bob cais oedd yn ol ein barn niyn ddoeth- af i'w gymeryd. Fel arfer newidiwyd pwlpudau gan y gweinidogion lleol y Sabbath cyntaf yn Ebrill a chaed pob arwyddion o werthfawrogiad a chymeradwyaeth teimiad goreu yr Eglwysi i'r trefniant brawdol hwn o'n heiddo. A diimeu nad oes nemawr ardal yn Nghymiu lie y mae undeb a brawdgarwch rhwng gwahanol lwyth- au yr Arglwydd yn cael' eu meithrin yn fwy, Ymwelodd Cymdeithasfa Chwarterol y Methodistiaid a'i lie yn ystod yr haf. A phenderfynasom roddi croesawiad iddi trwy anfon dirprwyaeth i gynrychioli ein dyrnuniadau da. Derbyniwyd ein dirprwyaeth yn garedig gan y llywydd. Ni chafodd pwne mawr y dvdd sef y Cwestiwn Addysg ddim aro3 heb ini gB-el dangos ein dyddordeb dyfnaf ynddo a'n se dros ein negwyddorion. Anfonwyd genym gynrychiolydd drosom i rai o'r cvnhadleddpu cenhedlaethol gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn i ymdrin a'r mater. Trefnwyd yn yr Hydref gyfres o gyfarfod- ydd d i-tygiadol, Cawsosn wyr galluog a chyfaddas iawn i'n hanerch ynddynt sef y Parahn Owen S. Jones, Deganwy T. Isfryn Hughes (W.). W. Pari Haws, B D., Dolceliau a H. Harris Hughes, B.A., B.D. Y dystiol- aeth unfryd ydoedd fod y testynau penodedig ar areithiau gafwyd arnynt yu dra amserol, ac na chafwyd odid un amser gyfarfodydd gariodd ddyfnach argraphiadau trwy oleuo'r meddwl, dyfnhau egwyddorion a dwyshau teimladaa, yr ydym yn bendithio yr Arglwydd am Bertha ae arddel ei weision yn yot-od yr wytltnos. Caweorn fel Cynghor ac ardal golled fawr y ffwyddyn ddiweddai trwy ymadawiad- y Parch T, Lloyd. Engedi, o'n plith. Bu yn aelod tra ffyddlon o'n Cynghor er ei sefydliad cyntaf. Gwasanaechodd ef fel Ilywydd; a gwerthfawr ini fu ei arweiniad medrus a'i gynghor doeth lawer adeg. Ar ei ymadawiad trefnasom mewn cyd-ddealldwrijeth a'i eglwys ein bod fel Eglwysi Rhyddion yn dymuno cael t&flu ein hatling i drysorfi ei dysteb ?. chael cyfarfod cyhoeddua er cael mantais i ddadgan ein gwerthfawrogiad o', gymeriad a'i lafur. Cafwyd cyfarfod anrhydeddus a chynrychiol- aeth drosom yn cymeryd rhan ynddo Gwelir, os ydym wedi symnd yn doistaw, ein bod wedi myn'd tros gryn lawer o dir i bob cyfeiriad a gwnaeth yr oil gyda'r unfryd- edd mwyaf, ac ni a hyderwn yu yr ysbryd goreu. Y Swyddogion am 1906 ydynt,- Cadeirydd, Parch R. T. Phillips Ysg, R. M. Roberts, (W) Trys, Mr R. Roberts, Pias- meini. R. T. PHILLIPS, YSG.
Blaenau Ffestiniog.
Blaenau Ffestiniog. Ai agorwyd yr ysgolion elfenol dydd Llun diweddaf ar ol gwyliau y Nadolig. Nos Sul diweddaf yr oeddlMr J. Tudor Owen, yn canu yn Nghapel :Charing Cross, Llundain. Cafwyd dadl frwd ar y Fiscal Policy yn Nghapel Brynbowydd noR Iau diweddaf. Ar y diwedd pleidleisiodd y mwyafrif dros Fasnach Rydd.' Mae tri neu bedwar o lanciau ieuaine yr ardal wedi myned i Durham ddechreu "yr wythnos hon, yn mha le y dywedir mae gwaith i'w gael. Ar hyn o bryd mae rhai o blant yr ardal yn sefyll arholiad gerddorol yn y Brif Ddinas. Lwc dda iddynt. Yr wythnos ddiweddaf bu Madame Williams (Llinos Gwalia) yn cynorthwyo Parti Meibion Aherpennar dan arweiniad Mr T. Glyndwr Richards. Da genym weled Dr Williams cynorthwywr Dr Jones, Isallt wedi dychwelyd o'r Brif Ddinas lie bu yn treulio pythefnos o wyliau. Nos iau nesaf, cynhelir Cynghor Dinesig arbenig i ail-ystyried cwestiwn cyflogau y gweithwyr. Bydd deiseb wedi ei harwyddo gan y gweithwyr yri_"cael"ei aiifon y flaen yr aelodau. Cylarfu Mri Ellis Evans, Penygelli, a W. J. Jones, Bethania, a damwain dydd Iau diwedd- af yn Chwarel y Llechwedd. Da genymglywed eu bod yn gwella, m Nos Fercher yn-59 mlwydd ced bu farw Mrs Davies, 51 High Street, anwyl briod Mr Thos. Davies, Town Crier gynt, ar ol gytudd maith. Derbynied y teulu galarus ein cydymdeimlad llwyraf. Wythnos i nos Wenergnesaf bydd Mr G. J. W?lliya.. yn traddodi yr ail ddarlith ar Ddaeareg yn Ysgol Uwchraddol y Merched. Mynediad i mewn yn rhad ac am ddim. Dibwestcl,—Cynhaliwyd cyfarfod dirwest- ol o dan nawdd Band of Hope Brynbowydd yn Schoolroom Jerusalem, o dan lywyddiaeth Mr Rt Edmunds. Caed cyfarfod da,—T R. Cynhelir Cyfarfod Gweddi yn y Neuadd Gynull dydd Sadwrn nesaf lonawr 13eg am ddau o'r gloch. Ceir cyfleusdra ar ddiwedd cyfres o gyfarfodydd gweddi ar wahan i gyd ddiolch am freintiau a bendithion yr hen flwyddyn, ac i gyd|ddymuno am barhad o wenau graslawn yr Arglwydd ar hyd y flwydd- yn newydd. Hyderwn y daw tyrfa ynghyd i'r amcan hwnw.—Yr eiddoch, GGORGE DAVIES, YSG. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL Jerusalem.— Cynhaliwyd y gymdeithas uchod nos Fawrth diweddaf o dan lywyddiaeth Mr G. Parry, (Namor Wyn) pryd y darllenwyd papur Mr. Idwal Thomas ar Gastell Caernarfon, oherwydd rheswm neillduol gan Mr T. A. Evans. Yna darllenodd Mr R. A. Jones bapyr ar Gastell Conwy a chafwyd sylwadau pellach gan y llywydd a Mr H. Williams. ST. MARTHA. -Cynhaliodd yr uchod gyf- arfod o'r Gymdeithas Ddiwylliadol nos Wener diweddaf dan lywyddiaath y Parch W. J Williams, pryd y cafwyd Dadl "Pa un a'i mantais a'i anfantais, fuasai Catrawd o Wir- foddolwyr yn Miaenau Ffestiniog. Cymerwyd yr ochr gadarnnaol gan Mr E A Williams ar nacaol gan Mr J P Roberts. Wedi dadieu brwd o boptu caed fod y mwyafrif o blaid gwirfoddelwyr adroddiad gan G H Pugh. TerfyaAjd trwy ganu Duw gadwo'r Brenm, —Aklgb. Parhad yn tudalen 8.