Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
PI-LOTECTIOM-A is that which every man, woman, and Child, is looking for, ANSI < p Will get, if they only deal at SHOP- YR-ER YR, CHURCH S T., We guarantee to protect your pockets F1KS • 7 .■" of charge, by giving you the best possible value for money. Our H??S? jS?'?r?'SE? '? TRADE is increasing by leaps and bounds. Our store has beco'ffife tl shopping centre for the keenest buyers. You cannot do better than follow their example after Season goods cleared at Cost Price.
At ein Gohebwyr. j
At ein Gohebwyr. Oherwydd galwad mawr ar ein Colofnau yr wythnos hon, drwg Jgenym orfed gadael allan Ysgol y Cyfyng, a Beirniadaeth Mr. D. D. Parry, Llanrwst, ar y Tonau yn Eisteddfod Llithfaen, Pwllheli. Cant ym- ddangoa yn llawn yr wythnos nesaf.
NODI AD AU WYTHNOSOL
NODI AD AU WYTHNOSOL Dadgorphoriad y Senedd. AM 3-30 brydnawn dydd Llun, yr 8fed cyfisol, cynhaliodd y Brenin Gyfrin-Gyngor yn Mhalas Buckingham a dadgorphorodd y Senedd. Er y pryd hyny nid oes yn y deyr- nas y fath beth ag Aelod Seneddol; ac ni fydd chwaith hyd oni chympr y cyntaf o'r etholiadau le. Hyd hyny ni fydd gan neb hawl i gael y llythyrenau A.S. ar ol ei enw. Anfonwyd y gvvysiau allan yn ddiatreg, ac yn mhen ychydig ddyddiau bydd y wlad yn nghanol berw etholiadol.- Yn y bwrddeis- drefi y dydd cyntaf i enwebu ymgeiswyr ydyw dydd Iau, yr llfed, a'r dydd olaf dydd Gwener y 12fed cyfisol. Gall yr etholiad cyntaf ynddynt gymeryd lie ddydd Llun y 15fed, a rhaid i'r olaf gymeryd lie heb fod yn ddiweddarach na dydd Mercher y 17fed. Yn y Siroedd Enwebir o'r 13eg hyd y 19eg, a chymer yr etholiadau Ie rhwng yr 17eg a'r 27ain cyfisol. Cyferfydd y Senedd ar y 13eg o'r mis nesaf. Bydd yr etholiad y fath nad oes neb yn cofio ei debyg yn gymaint a bod nifer y Seddau yr ymleddir am danynt a nifer yr ymgeiswyr yn fwy nag erioed o'r blaen. Rhaid i bob diffyndollwr ymladd am ei sedd ag eithrio Mr. Lowther, y Llefarydd, a'r diffyndollwyr sydd yn ymgeiswyr am gynrychiolaeth y Prif-ysgolion Seisnig. Gwan iawn yn wir ydyw gobaith a thywyll ydyw rhagolygon y Blaid Doriaid tra y mae y Rhyddfrydwyr yn hynod hyderus a'u rhag- olygon yn oleu dros ben. Mae'n sicr yr enillir oddiar y Toriaid lawer o seddau sydd yn eu meddiant er cyn cof. o Yr Anghydffurfwyr a'r Etholiad. I GELLIR dywedyd yn bendant, heb y pet- rusder Ueiaf, yr etholir yn aelodau o Dy yr Cyffredin lawer mwy o Anghydffurfwyr nag a fu ynddo erioed o'r blaen. Gwelsom restr o'r Anghydffurfwyr sydd yn ymgeisio am Seddau, ac yr oedd yr enwau yn rhifo 171. Ond nid oedd y rhestr yn gyflawn gadawsid allan ohoni enwau amryw ag y gwyddom eu bod yn ymgeiswyr, ac y mae rhai ohonynt yn sicr o lwyddo. Ni chamgymerwn wrth ddy- wedyd nad yw y nifer lawn dan 200, a siomir ni yn ddirfawr oni cheir o'r hyn lleiaf 150 o honynt yn orchfygwyr, Mae enwau rhai ugeiniau o honynt yn dra adnabyddus i ni fel gwyr sydd wedi cymeryd rhan flaenllaw yn ngwaith y gwahanol gyfundebau Crefydd- ol y perthynant iddynt ac wedi eu profi yn ffyddlon. Maent yn Anghydffurfwyr md mewn enw yn unig ond mewn gweithred a gwirionedd hefyd. Yn eu plith ceir nid ychydig sydd wedi profi eu bod yn dwyn sel dros eu hegwyddorion trwy wrthod talu treth at gynal yr ysgolion Eglwysig. Gwerth- wyd hwy i fyny." Deddf Addysg 1902, dybygwn sydd yn cyfrif am amlhad ymgeis- wyr Anghydffurfiol. Pe buasai yn Nhy y Cyffredin yn y flwyddyn hono 150 o Anghyd- ffurfwyr gwir egwyddorol a phenderfynol, ni lwyddasai Mr. Balfour i osod y gyfraith hono ar ddeddf-lyfr y wlad. Felly er nad oes rwymedigaeth arnom i deimlo yn ddiolchgar i'r boneddwr hwnw, iddo ef y mae yn rhaid priodoli'r ffaith fod Ymneillduwyr y deyrnas wedi cael eu deffroi i'w hawliau ac wedi sylweddoli maint eu gallu, ac mewn canlyniad wedi dwyn allan fel ymgeiswyr gynifer o wyr cymwys o'u plith eu hunain. Seddau Aelodau y Weinyddlaeth. I GELLIR cyfrif fod Seddau agoe yr «U o! aelodau y Weirvyddiaeth yw fediiant ii*gel [ iddynt. Gobeithia y Toriaid fod gorchfygiad tri neu bedwar o honynt yn bosibl, ac y maent yn ymegnio i gyraedd yr amcan hwnw Y ddau ag y parai eu gorchfygiad y llawen- ydd mwyaf iddynt ydyw y Mri. Lloyd- George a John Burns, ond nis gallwn gredu fod yn bosibl. Mae'r ffaith syml fod ethol- wyr Bwrddeisdrefi Arfon wedi ethol Mr. Lloyd George yn 1900, pan yr oedd ei blyg- iadau ar ryfel y Transvaal mor anghymer- adwy gan nifer fawr o honynt yn ei wneyd yn beth anhygoel i ni y gwrthodant ef yn awr. Pe gwnaent, byddai yn gywilydd iddynt. Ond ni wnant. Yn 1900 pleidleis- iodd 5860 o etholwyr Battersea dros Mr. John Burns, a 5606 dros ei wrthwynebydd Toriaid. Felly nid oedd ei fwyafrif yn ddim ond 254. Gan mor eithafol o awyddus ydyw y Toriaid i ddiseddu y gweithwr sydd wedi ei wneyd yn Llywydd Bwrdd LIywodraeth Leol, byddent yn foddlon i golli haner dwsin o seddau yn y brif-ddinas er mwyn enill Battersea. Nid oes genym ond gobeithio fod siomedigaeth chwerw yn eu haros. Gwr arall ag y byddai yn dda neillduol ganddynt ei orchfveu vdvw Mr. Thomas LouQh. Ysgrifenydd Bwrdd Addysg. Yn 1900 nid oedd y mwyafrif a gafodd ef ar ei wrthwyneb- ydd yn Ngorllewin Islington (Llundain) yn ddim ond 19. Pleidleisiodd 3,178 drosto ef, a 3,159 dros ei wrthwynebydd. Yn ngwyneb hyn mae'n naturiol i'r Rhyddfrydwyr fod yn bryderus ac y mae yr un mor naturiol i'r Toriaid fod yn hyderus. Sylwn, fodd bynag fod nifer yr etholwyr y pryd hyny yn 9,460, ac mai 6,337 o honynt a gymerasant y dra- fferth i bleidleisio. Mae'n ddiameu genym mai Rhyddfrydwyr oedd y mwyafrif anferthol o'r 3,123 a arhosasant gartref ddydd yr Etholiad, oblegid felly y mae wedi arfer bod. Y pryd hyn mae'r Rhyddfrydwyr yn llawer iawn mwy effro nag y buont erys talm, ac mae hyny yn ffafr Mr. Lough. Da iawn fyddai gan ganlynwyr y Mri. Balfour a Chamberlain pe methai Mr. Winston Churchill enill y sedd ag y mae yn ymladd mor ddewr am dani yn Manceinion. Yn 1900 dychwelwyd Syr W. H. Houldsworth yn ddiwrthwynebiad, ac Undebwr oedd ef. Yn ffodus y mae ef wedi cilio o'r maes. Gorchwyh anhawdd iawn i Mr. Churchill fuasai ei drechu ef, oblegid y mae yn wr cymeradwy gan bawb o bob plaid. Credwn y llwydda i orchfygu y gwr sydd yn ei wrth- wynebu yn awr, oblegid heblaw fod Mr. Churchill yn ymgeisydd mor ragorol, y mae pob rheswm dros gredu fod Manceinion a'r Sir y saif ynddi wedi llwyr flino ar y Dori- aeth y troisant ati er's llawer o flynyddoedd bellach. Gallwn fforddio bod yn ddibryder ynghylch etholiad holl aelodau eraill y Wein- yddiaeth. —n— ■ — Ffeithiau Ystyfnig. I DYWEDODD rhywun mai pethau ystyfnig ydyw ffeithiau," ac y mae Mr. Chamberlain yn gorfod teimlo hyny ar hyn o bryd. Mae wedi treulio tair blynedd o amser gwerthfawr i haeru fod Masnach Prydain Fawr yn myn'd o ddrwg i waeth yn gyflym iawn. Myn i ni gredu ei bod yn myn'd o ychydig i lai, ac yr el cyn bo hir o lai i ddim. Gosodir yn erbyn ei haeriadau ef y ffeithiau y ceir tystiolaeth iddynt yn yr adroddiad sydd newydd gael ei gyhoeddi gan Fwrdd Masnach. Rhaid fod Mr Lloyd George, Llywydd y Bwrdd hwnw, ynhapus dros ben. Dengys yr adroddiad yn eglur fod masnach y deyrnas wedi cynyddu yn rhyfeddol y flwyddyn diweddaf. Gwerth dadforion 1904 oedd £ 551,038,628 yr oedd gwerth dadforion 1905 yn C565,279, 402. Dengys hyn gynydd o £ 14,240,774. Gwerth yr all-forion yn 1904 oedd zC300,711, 040; yn 1905 yr oedd eu gwerth yn £ 330.023,467. Dengys hyn gynydd o £ 29,312,427. Felly yr oedd ein holl fasnach yn 1905 yn werth C43,553,201, mwy nag oedd y flwyddyn o'r blaen. Er mor fedrus ydyw y gwr o Birmingham i gam-drin ffigyrau, nis gall wneyd ymaith a'r ffeithiau ystyfnig hyn. Da y gwneir i gyhoeddi y ffigyrau hynod yma yn mhob etholaeth trwy'r deyrnas. Yn ol pob tebyg mae hyny wedi ei wneyd eisoes, oblegid y maent yn ffigyrau ag y mae'n bwysig iawn eu gwneyd yn hysbys ?r wlad cyn ddyddiau yr etholiad. f Mr. Leif Jones Yn mhlith y lluaws sydd yn nghanol brwydr boeth iawn y mae Mr. Leif Jones, gwr ag y cymerir dyddordeb neillduol ynddo gan nid ychydig o'n darllenwyr. Nid oes ond ychydig amser er's pan etholwyd ef i gynrychioli Gogledd Westmoreland trwy fwyafrif o 220. Ei wrthwynebydd y pryd hyny oedd y Milwriad Noble. Oherwydd gwaeledd lechyd rhwystrwyd y boneddwr hwnw rhag ei wrthwynebu y waith hon, a chymerwyd ei le gan Arglwydd Kerry, mab i Arglwydd Lausdowne, Un peth eithriadol ynglyn a'r etholaeth yma ydyw y lleihad yn nifer yr etholwyr er adeg yr etholiad o'r blaen, y pryd hyny rhifent 6,700; yn awr 6,570 ydyw eu nifer. Gan fod y llanw Rhyddfrydol wedi codi cryn lawer yn ddiw- eddar, mae rhagolygon Mr. Leif Jones yn lied addawol. Anghydffurfwyr ydyw Ilawer iawn o etholwyr Gogledd Westmoreland ac y mae anghydffurfiaeth Mr. Jones yn gryn fantais iddo felly. Da fydd genym ddarllen am ei fuddugoliaeth.
Etholiadau Gogledd Cymru.
Etholiadau Gogledd Cymru. Mon. I Gwrthwynebir Mr. Ellis Jones- Griffith gan foneddwr a'i enw Mr. Priestly. Etholwyd ef yn ddiwrth- wynebiad yn 1900, ac y mae ei etholiad y waith hon mor sicr a phe na buasai neb yn dyfod allan yn ei erbyn. Bwrdeisdrefi Arfon. I Yn 1900 yr oedd mwyafrif Mr. Lloyd I George far y Milwriad Platt yn 295. Mae ei wrthwynebydd presenol, Mi. Nay lor, wedi bod wrthi er's amser yn gwneyd rhywbeth nad oes llawer rhyngddo a cbeisio llwgr-wobrwyo yr etholwyr, trwy roddi te iddynt a rhanu eeiniogau a thair-ceiniogau-gwynion i'r plant. Dylai peth fel hyn fod yn foddion i chwyddo mwyafrif Mr. Lloyd George ac nid i'w leihau, a chredwn y bydd hefyd. I Arfon. -1 Er fod sedd Mr W. Jones yn diogel, daw un Mr. Arthur Hughes allan yn ei erbyn yn unig er mwyn peri blinder iddo. Gwyr pawb nad yw Mr. William Jones yn ddyn cyfoethog am eu bod yn gwybod hyny mae'r Toriaid wedi penderfynu gwneyd iddo wario arian yn ofer. I Eifionydd. I Fel y bu yn 1900, felly yn awr, ni wrthwynebir Mr. Bryn Roberts. Gwaithhollol ofer fuasai ei wrthwynebu. I Meirion. I Mae Mr. Osmond Williams yntau yn cael llonydd yn Meirion, ac y mae wrthi a'i holl egni yn cynorthwyo yn effeithiol dros ben mewn etholaethau eraill. Dinbych (Orllewinol). I Ni fydd raid i Mr. Herbert Roberts I ymladd am ei sedd. Oinbych (Ddeheuol). Etholir Mr. Samuel Moss yn ddiwrth- wynebiad fel y gwnaed bum' mlynedd yn ol. Bwrdeisdrefi Dinbych. I Mr. G. T. Kenyon a Mr. Clement Edwards sydd yn ymladd gornest yma. Yn 1900 cafodd Mr Keuyon 110 mwy o bleidleisiau nag a gafodd Mr. Edwards. Mae'n debygol mai Mr. Edwards a orchfyga yn awr. Sir Fflint. I Mr. Samuel Smith a'r Milwriad Howard oedd yr ymgeiswyr yn 1900, ac yr mwyafrif Mr. Smith yn 606. Gan fod Mr. Smith wedi penderfynu ym- neilldno, dewisiwyd Mr. J. Herbert Lewis i sefyll yn ei le. Ei wrthwyneb- ydd Tortaidd ydyw Mr Harold Edwards, mab Esgob Llanelwy. Nid oes berygl, dybygwn, y try Sir Fflint ei chefn ar Mr Herbert Lewis, un o'i meibion ag y mae ganddi achos i fod yn falch o hono. Bwrdeisdrefi Arfon, I Dewisisdd y Rhyddfrydwyr Mr. Howell Idris i sefyll yn lie Mr Herbert Lewis, a dewis-ddyn y Toriaid ydyw Mr Eldon Bankes. Nid oedd y mwyaf- rif Rhyddfrydol yn 1900 yn ddim ond 347, a rhaid iddynt ymegnio i'w rwystro rhag cael ei leihau, os nad rhag cael ei 1 ddileu. Mae Mr. Eldon Bankes yn I im geis1 ddcryf iawn, rhaid addef na eltir dywedyd byny am Mr. HoweU I Idris. Mae yn yr etholaeth hono lawer o Wyddelod, a debyna cryn lawer ar eu pleidlais hwy. I Matdwyn. I Etholir Mr. D. Davies, Llandinam, i I heb wrthwynebiad. I' I Bwrddeisdrefi Maldwyn. I Yn 1900 ymgeisiodd y Milwriad Pryse Jones a Mr, J. A. Bright; pleidleisiodd 1478 dros y blaenaf, a 1309 dros yr olaf. Felly yr oedd y mwyafrif Toriaidd yn 169. Yn awr gwrthwynebir y Milwriad Pryse Jones gan Mr. J. D. Rees, ond bydd ar ei oreu yn ei orcbfygu. Ofer ydyw gwadu fod y Milwriad yn bersonol yn wr tra chymeradwy. Ond y mae yn Ddiffyndollwr eithafol, ac yr oedd yn un o gefnogwyr mwyaf aiddgar y Mesur a wnaed yn Ddeddf Addysg 1902. Dylai hyny fod yn ddigon i selio ei dynged, ond nid ydym yn sicr y bydd.
[Llys Ynadol Ffestiniog.II
Llys Ynadol Ffestiniog. Cynhaliwyd yr uchod bore heddyw gerbron Dr. Rt. Roberts, (cadeirydd) R Roberts, a W. P. Evans, a J. P. Jones, Ysweiniaid. Yr Heddwas Evan Davies agyhuddai Ann Jones, Tyddyn isaf, Trawsfynydd, o gadw ci heb drwydded. Taflwyd yr achos allan ar daliad rhan o'r costau. Yr heddwas Owen Jones a gyhuddai Chas Thomas Jones, Tanyfron o fod yn feddw ac afreolus. Nid ymddangosodd. Dirwy o goron a'r costau. Yr heddwas Owen Jones, a gyhuddai John R. Owen, Tanyfron o fod yn feddw ac afreolus. Dirwy o goron a'r costau. Yr un Swyddog a gyhuddai H. Thomas, Cwmbowydd o'r un trosedd. Dirwy o goron a'r costau; hefyd 8s 6c, sef dirwy roddwyd arno rhyw naw mis yn ol. Yr heddwas John Jones a gyhuddai Wm. Humphreys, Penygroes, Bethania o fod yn feddw. Dirwy o Is a'r costau. Belli Joseph a gyhuddai John Morgan Roberts, Dorfil Street o fod wedi ymosod atno.-Y Cadeirydd Beth oedd genyt eisieu yn y siop ? Chips Y Cadeirydd Wel mi gefaist chips iawn (chwerthin). Dirwy o J31 a'r costau. Robert Evans, Trethgasglydd, Ffestiniog a gyhuddai Owen Jones, 35, Lord Street, o ymosod arno. Ymddangosodd Mr R 0 Davies i amddiffyn. Ymddengys fod Mr Evans wedi myned i'r ty i gasglu treth yr Incwm. Drwy swllt a'r costau. Sarah Roberts, 1, Parry's Terrace, a gyhuddai R. Morris Jones, 2, Parry's Terr., o ymosod ami. Ymddangosai mam y bachgen drosto. Vstyriai y fainc yr achos yn un difrifol, felly anfonidf ygbachgen i garchar am 14 diwrnod.! Ann Jones, 6, Brynafon, Tanygrisiau. a gyhuddai Rd. Jones, 4, Brynafon, o ymosod ami. Ymddangosai Mr White Phillips i erlyn, a Mr. R. 0. Davies yn amddiffyn. —Galwyd amryw dystion i ddywedyd fod y diffynydd yn gafael yn yr achwynyddes, ac addefodd yntau hyny, ond mai mewn hunan- amddiffyniad y gwnaeth hyny am fod y di- ffynyddes yn codi meini i'w daro.— Rhwymwyd y ddwy ochr i gadw'r heddwch.
IBettwsycoed. -I
I Bettwsycoed. I I Y Gymdeithas Elusengar. I Cynhaliodd aelodau y gymdeithas ragorol hon eu gwyl flynyddol y Sadwrn diweddaf, ac er ei. bod wedi eu sefydlu, ac wedi cael ei chynal bob blwyddyn yn ddifwlch er's 51 o flynyddau. Llaw. en i'w ei weled yn edrych mor flodeuog ac yn myned ar gynydd y naill flwyddyn ar ol y llall. Yr oedd y to ar holl ddanteithion ag oedd wedi eu paratoi mewn modd mor ragorol ar y byrddau am 3 o'r gloch, a daeth canoedd ymlaen i fwyn. hau y wledd. Am 0 o'r gloch, cafwyd gwledd i'r meddwl. Cymerwyd y gadair gau S. A. London, Ysw., ac arweiniwyd ya ffraeth a digwmpas fel arfer gan Mr. D. Williams, Peuyelogwyn, pryd y gwasanaethwyd gan y rhai canlynolUuawd Bwthyn yr Amddifad' gan Mr Ellis Lewis; Can y Cryd' gan Olwen Davies, Bod Iddon Dyma Feibl anwyl Iesu' gan Albert Jones fieu) Glan Llugwy; deuawd Y Lili ar Rhosyn gan Mri A Jones, A.c., a D C, Hughes canu penillion gyda'r delyn gan Talynor Berwyn, a chwareuwyd y delyn gan Mr Arthur Owen (Telynor Elsi).- Adroddiad 'Colli y tien gan J Henry Jones, Cyrau view, a chafwyd dau adroddiad rhagorol gan Miss Pritchard, Caernarfon. Cy&iadleuaeth adrodd Dychweliad Jdhn cyiraedd Mr. D T Pugh a M Olwen Williams; cystadlouaeth unawd i blant, daeth 9 i'r ymdrechfa, 1, M Olwen Wms, Machno villa; 2, Annie Wynne, Station 3, E Owen, Mynydd Bychan. Cafwyd gwasanaeth y Gramaphone pan Mr D. Lloyd. Drama gan y Parti YmweHad SThomas Bartley a'r Bala.' rhoddodd yr adroddiad foddlonrwydd mawr, a chyn i'r Parti ymneillduo oddiar y llwyfan, ac ar gais yr henafgwr Thomas Bartley, rhoddodd Mr D Williams, Ffridd cottage, ddatganiad swynol o'r gan Hen brecor bach gloew fy Nain." Gwesanaethwyd yn y cyfarfod gan Gor Plant yn hynod swynol dan arweiniad Mr A. Jones, A.c. Cyfeiliwyd gan Miss Edith Roberts, a gwasan- aethwyd fel beirniaid gan yr Arweinydd a Mr. W Owen, Station. Gwobrwyo Gwas Da. I Yr wythnos diweddaf, cyflwynodd aelodau Urdd yr Odyddion ddarlun hardd i Mr. Samuel Davies, Blaen-y-ddol, ar gyfrif blynyddoodd maethion o wasanaeth ffyddlon fel swyddog yn y Gyfrinfa, a deallwo eu bod wedi ei cldewis i lanw yr uu swydd am flwyddyn eto.
Advertising
MAE RHAID MYNED. AT Y GWAED. Y Gwaed ywlr Bywyd. Y Gwaed ywlr Nerth. Y Gwaed yw Pobpeth. Yfixiae pawb-y chwi yn eu mysg-yn agored i nifer fawr o glefydau. Paham felly ? Am fod Amnhurdeb yr Awyr, Anmhurdeb y Dwfr, &nmhurdeb Bwydydd, ac Anmhurdeb pethau amgylchynol yn creu Anmhnrdeb y GWAED. A phan bydd y GWAED yn cael ei lygru a'i wenwyno, mae yn gwneyd yn bosibl i'r SCURVY, Y CROEN, 'SCURVY, Y OROEN, RASH, PENDDYNOD, CORNWYDON, ECZEMA, LLYGRIADAU, OOESAU CLWYFEDIG RHEUMATISM, NEURALGIA, A llu o Glefydau eraill y Corff a'r Ymenydd, i ruthro ar wahanol ranau o'r cyfansoddiad. Fe ellir atal a rhagflaenu y rhan fwyaf o'r clefydau ag sydd yn blino yr hil ddynol, drwy gadw y GW AED yn BUR. Y mae miloedd yn barod i dystio a phrofi fod HUGHES'S BLOOD PILLS YN PURO Y GWAED, AC YN EI GADW YN BUR. weled llun y Galon ar bob box Heb n hyny Twyll ydyw. Os byddwch yn dioddef oddiwrth DOLUR PEN, AFU DDRWG, DIFFYG TRAUL CORFFRWYMEDD, POEN Y OEFN, NERVES EGWAN, BILIOUSNESS, ANHWYLDERAU Y GWYNT, CYLLA A'R ARENAU. ISEL YSBRYD, Oofiwch fod gwreiddyn y drwg yn y GW AED, a bod yn rhaid myned at y GWAED cyn y gellir cael iachad gwirioneddol. Mae HUGHES'S BLOOD PILLS yn cael effaith uniongyrchol ar y GWAED, a.c ar yr holl gyfansoddiad. Rhoddwch brawf arnynt. Ar werth gan bob Chemist a gwerth wyr Patent Medicine am Is lie, 2s 9c, 4s 6c, neu danfoner eu gwerth mewn Stamps neu P. 0. at JACOB HUGHES, M.P.S., L.D.S., Manufacturing Chemist, Penarth, Cardiff. -11 f, I ??o :?- ,I Rhoddwch braw ar Gomer's. Balm llTlllf l|||||||i|| II llll III I— MAE II GOMElt S BALM YN ELI AT BOB CLWYF, AO YN HYNOD AC ANFFAELEDIG AT BOB MATH 0 GLEFYDAU ALLANOL Y OCFFR. A oes genych Goes ddrwg. Y mae GOMER S BALM yn iachan y Clwyfau hy braidd yn wyrthiol. Hefyd Archollion. Ervsipela Llosgiadau, Tarddiantau y Cnawd, Externa. Cedwir llawer Aelod. Drwy ddefnyddio GOMER S BALM. Y mae yn iachau Crach ar y Pen a Gwynebau Plant, Yscaldanau, Piles Llygriadaa Plant a Benywod, Malaethau, Tarwden, Traed Chwysodig, Gout, GwynegoD, Scurvy. Blood Poison. Gair at Famau, Gweithwyr Haiarn, Alcan, Glo, Cerrig Ffermwyr, Morwyr, Engineers, Ymdeithwyr, Crefftwyr o bob math, ni ellir cael dim mor effeithiol a sicr aj Gomer's Balm at bob Archoll a. Damwain i'r Cnawd, a sicrhad Biood Poison marwol. SYNDOD YN SWYDD DEVON. Syr.-Mae eich Eli, sef Gomers li-dm, yn feddyginiaeth rhyfedd o effeithiol. Fe gafodd wyr i mi ei ysgaldanu yn ddrwg iawn yn ei gefn a'r bol. Fe gafodd y Gomer's Balm ei roddi arno mor fuan ag oedd yn bosibl, yn mhen yr wythnos yr oedd yn abl I'w gael ei wisgo, ac yn bur fuan yr oedd ei wellhad yn drwyadl. Ar ol hyny fe gafodd fy merch ymosodiad llym iawn e-an y Blast (neu Erysipelas) ar ei choes, ar ol dioddef am chwech wythnos aeth o dan driniaeth Doctor, yr hwn wnaeth mawr ddrwg iddi. Wedi hyny hi a ddefnyddiodd Gomer's Balvn yr hwn a'i gwellhaodd mewn ychydig ddyddian. Mae dwseni wedi bod yn gofyn am enw yr eli, ac y mae pawb wedi ei brofi yn anmhrisiadwy. Mae yn bity nad yw pawb ddim yn gwybod am dano.-H. LEWIS, Brixham, Devon. CLWYF GYMAINT A SAUCER. Syr.-Ni allaf byth ddiolch digon am eich Gomer's Balm, y mae yn iachati fy nglun yu gyflym iawn. Mae fy nglun wedi bod yn ddrwg iawn am bum' mlynedd. elwyf mawr cymaint a saucer, ac yn bcenus iawn, pawb yn rhyfeddu fy mod yn fyw, mae wedi esmwythauy poen yn rhyfedd. Yr wyf wedi gwario punoedd lawer i ddim diben. Fe ddylai pawb wybod am dano. J. BUTLER, Dale-end, Darlaston. Rhodder Prawf arno. Gofyner am Gomer's Balm. Na thwyller chwi, mynwch weled enw "JACOB M < HUCfflB8"arbobblwoh.|| 1 Ar werth gan bob Chemist neu werthwr Patent Medicine am la lic.) neu danfoner 00 gwerth mewn Stamps neu P, O. i'r gWLeutnurwr, JACOB HUGHES, M.P.S,L.D.s MANUIA UTURING CHEMIST, 46& PENARTH, CARDIFF •\