Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Curo yr Haddgeidwad yn Mhenrhyndeudraeth.
Curo yr Haddgeidwad yn Mhenrhyndeudraeth. Dydd Mercher, gerbron Iarll Win- cheslea a W. H. More, Ysw., cyhuddwyd Thomas Parry, Pant Penrhyn, o fod yn fecldw nos Lun, ac hefyd o ymosod ar yr heddgeidwad Morgan. Tystiwyd i'r diffynydd ddod adref o"r South, ac wedi dod, aflonyddu ar ei wraig, yr hon anfonodd am y swyddog Pan ymyrodd y swyddog tarawodd a chiciodd ef, fel y bu raid ei gloi i fyny. Dirwywyd ef i 51- a'r costau am feddwi, a lp a'r costau am ymosod ar y swyddog.
Ymneillduad y Parch. Evan…
Ymneillduad y Parch. Evan Jones, Caernarfon Ar ol deng mlynedd ar hugain o wasanaeth gweinidogaethol, y mae y Parch. Evan Jons, Caernarfon, yn bwriadu ymneillduo ddiwedd mis Mawrth. Yn Mhenal, Sir Feirionyd y ganwyd ac y magwyd Mr. Jones, a dygwyd ef i fyny fel argraffydd, mewn swyddfa yn Machynlieth. Ar ol bod yn Ngholeg Bala bu yn cymeryd erofal yr eglwys Fethedistaidd yn Nghoris, ac oddiyno i'r, Dyffryn; wedi hyny i Gaernarfon, lie y parhaodd yn un o wyr mwyaf cyhoeddus ei gyfundeb a'i wlad. Er yn ymddi- swyddo o fod yn fugail eto, mae llawer iw ddisgwyl oddiwrtho eto, i'r pwlpud ac ar yr esgynlawr.
CYNGHOR DINESIGI FFESTINIOG.
CYNGHOR DINESIG FFESTINIOG. V Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener, o dan lywyddiaeth Mr. E. M. Owen, yr Is-gadeirydd, ac yr oedd hefyd yn bresenol Mri. Cadwaladr Roberts, Owen Jones, Wm. Jones, J. Lloyd Jones, (ieu.), E. Lloyd Powell, Evan Jones, Hugh Jones, J. Hughes John Cadwaladr, William Evans. W. J. Rowlands, Richard Roberts, Lewis Richards Hugh Lloyd, W. E. Alltwen Williams, (Peirianydd), R- O. Davies, (clerc), Evan Roberts, (clerc cynorthwyol), George Davies, (Arolygydd Iechydol), a Dr. Richard Jones, (swyddog meddygol). -—~ w. Llongyfarchiad a Dymuniadau y Cadeirydd. Mr. E. M. Owen a ddywedodd ei fod ar ran y Cadeirydd a'i hunan yn dymuno i bawb yn y lie Hyderai yn fawr y byddai yn flwyddyn dda iddynt oil, ag y caffent gynorthwy i wneyd llawer ia,wn o ddaioni mewn cysylltiad a'n dyledswyddau ar y Cyngor, ac mewn cyfeiriad- au eraill. Gallent longyfarch eu hunain a'u gilydd ar y gwaith mawr a wnaed ganddynt yn ystod y fiwyddyn, yn arbenig y chwe mis olaf o honi. Nid oedd yr un Cynghor yn Nghymru yn gwneyd dim yn debyg iddynt. Yr oedd Neuadd Gyhooddus Ffestiniog wedi ei chwblhau ac wedi ei chyflwyno i'r trigolion mewn modd flurfiol. Daeth y cyfeillion yn y Llan allan yn anrhydeddus gyda'r mater, a chynorthwyodd y Cyngor hwynt mewn modd teilwng. Yr oedd- ynt hefyd wedi trefnu yn hynod o ddoeth gyda chymeryd Adran 3 o'r cynllun carthffosawl mewn Haw, a thrwy hyny ddarparu gwaith i'r rhai oeddynt allan o waith yn yr ardal. Buont abi i wneyd yr holl waith hwn heb fyned i ddyled yn yr Ariandy, ac yr oedd hyny yn beth hollol newydd yn hanes y Cyngor. Dymunai yn fyr fel hyn eu IIongyfarch ar y safle ffafriol yr oeddynt ynddi, a'r rhagolygon oedd o'u blaen, (cymeradwyaeth). Cydymdeimlad. Ar gynygiad Mr Richard Roberts a ohefnog- iad Mr Lewis Richards, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr W P Owen, eu trethgasg- lydd yn ei brofedigaeth o golli ei anwyl briod. Neuadd Ffestiniog. Mr Owen Jones a sylwodd fod y cofnodion yn cynwys gwahodrliad caredig Mr Ellis, yr Uchel Sirydd, i'r aelodau, a'r swyddogion i eistedd gydag ef wrth y bwrdd ar yr achlysur o gymer- yd i fyny yn ffurfiol, y Neuadd Gyhoeddus yn Ffestiniog. Ar ol y wledd hono fe gymerwyd y Neuadd i fyny gan y Cyngor, ac fe'i eyflwyn- wyd hi i gyfeillion y lie. Buddiol fyddai pasio penderfyniad ar hyny er mwyn ei dodi ar lyfr y Cyngor. Yr oedd yn cynyg i hyny gael ei wneyd.—Mr Cadwaladr Roberts, a ddymunai gefnogi y cynygiad, gan ychwanegu ato bleid- lais o ddiolch i Sir Fletcher Wynne am ei rodd anrhydeddus o'r tir a'r adeiladan oedd arno i'r plwyf gweithred ddYlid ei chydnabod ar gyfrif ei bod yn un anghyffredin yn eu hardai, a'r perchenogion tiroead wnelent weithred o'r fath yn amlaf iawn yn eu plith. Hefyd, eu bod yn pa'3io pleidlais o ddiolch i Mr. G. H. Ellis, am ei rodd anrhydeddus at godi yr adeilad. Gweithred fyddai yn rhag-redegydd i luaws o rai cyffelyb allant eu dysgwyl eto gan yr un boneddwr haelionus, yr hwn yr oeddynt oil yn falch o'i weled yn agor ei galon a'i logell i'w cynorthwyo i wneyd gwelliantau yn y lie.— Daeth cyfeillion y Llan allan yn rhagorol mewn atebiad i rodd Mr. Ellis.-Slr. Owen Jones a ddywedodd ei fod yn cydsynio, a chvmeryd y ddwy bleidlais hyn i mewn i'w gynygiad.- -Pasiwyd yn unfrydol. II Y Ffyrdd. .1 .I Darlienwyd cofnpdion pwyllgor y Ffyrdd, yri hysbysu fod Mr. Thomas E. Jones wedi rhoddi gofal y Ffyrdd i fyny.—Fod y Cyngor yn eym- eryd cwrs i gael y < £ 15 dyledus iddynt gan Jones am wasanaeth y Roller.-Fod y Cyngor yn cymeryd gofal y Ffyrdd i'w dwylaw eu hun- ain, a bod cerrig yn cael eu gosod arnynt. "I Goleuo. I Hysbyswyd fod Mr. Yale am osod i fyny lampau, &c., ar ei gost ei hun trwy yr ardal, ag I eithrio tri o leoedd newyddion a nodid, ptl. rai oeddynt i'w gosod gan y Cyngor. Eisiau Gwaith. I Yr oedd nifer fawr o geisiadau am waith wedi I eu derbyn, a phasiwyd i ohirio yr ystyriaeth I ohonyut am fis. Iechydol. I Y Cadeirydd a ddatganodd eu llawenydd o weled Dr. Jones, eu Swyddog Meddygol, wedi gwella, fel ag i fod yn abl i ddod i'w plith (cymeradwyaeth). Hyderent oil ei weled wedi cwbl wella. Dr. Jones a ddialchodd yn gynes i'r Cyugcr am ei caredigrwydd ato, ac i'r Cad- eirydd am eu sylwadau. Byddai ei Adroddiad Blynyddol yn baryd at y Cyngor nesaf. Yr oedd y Frech Goch wedi teithio trwy y plwyf o Tanygrisiau i'r Llan, a gobeithiai ei bod am eu gadael yn awr. Yr oedd yn rhaid cadw ysgol y Llan yn nghauad am wythnos eto, gan fod lluaws o blant o dan yr afiechyd yno. Yr oedd yn llongyfarch y Cyngor ar eu gwaith yn cym- eryd i fyny Adran 3 o'r Cynllun Carthffosawl. Yr oedd y dull a fabwysiadwyd at drin y carth- ion, y goreu oedd yn wybyddus yn y byd. Wedi gorphen yr Adran hon, gobeithiai y byddent yn cymeryd Adran 4 i fyny yn ddioed. Yr oedd angen mawr am drefniant felly yn Tanygrisiau, yr hwn le a gynwysid yn yr adran, (cymeradwyaeth). Arianol. I Bu dadleu hir ar gyflog gyrwr y Peiriant. Anogai y pwyllgor iddo fod yn 4s 9cydydd pan fyddai gyda'r peiriant, ac yn 4s 6c pan fyddai gyda rhyw waith arall. Yr oedd codi agerdd at ddechreu gweithio yr un amser a'r chwareli yn golygu dwy awr rhagor o amser na'r gweith- wyr eraill. Pasiwyd iddo gael chwe' cheiniog yr awr ar gyfrif hyny, fel y bydd ei gyflog yn 5s 6c y dydd, ar gynygiad Mr W Jones a chef- dogiad Mr John Hughes.—Mr Cadwaladr Roberts a roddodd rhybndd eu bod yn cael cyfrif o holl gostau y peiriant hwn er gweled a'i nid oedd y dull o roddi gwaith i hen bobl i dori cerrig yn llawer rhatach nag ydyw y peiriant.— Pasiwyd i Yswirio Neuadd y Llan am E500; ac i dalu biliau y mis, y rhai eeddynt yn .£852 18s 10c.—Mr O. Jones a aeth yn fanwl trwy y cyfrifon, a dywedodd fod f.708 2s 2c yn yr Ar- iandy ar gyfer 9524 y llynedd. Ac yr oedd ganddynt wedi talu yr oil o'u gofynion X230 3s 4c wrth gefn. Deuai X2654 i law o hyn i ddiwedd Mawrth. Yr oedd y sefyllfa yn lied fodd haol. Allan o'r biliau y mis hwn yr oedd .£134 yn myned at Adran 3 o'r cynllun carth- ffosawl, a chant v rhai hyny yn ol yn y benth- yciad oeddynt i'w gael. Penodi Ceidwad Neuadd Ffestiniog. I Yr oedd pedwar wedi anfon eu henwau i mewn am y swydd hon, a gofynent y tal sydd wrth eu henwau am wneyd y gwaith R. R. Evans, B"yn Meirion. 3s 9c yr wythnos, neu 9p 15s y flwyddyn Thomas Jones, Clochydd, Club House, f,5 Os Dc y flwyddyn; Pierce Jones, Sunnyside, .£12 Os Oc y flwyddyn J. Pritchard, 12, Ty'nymaes, £10 Os Oo y flwydd- yn. Pleidleisiodd 2 dros R. R. Evans, a'r gweddill dros Thomas Jones yr hwn a benod- wyd i'r swydd.—Gwnaed yn eglur fod y Neuadd i'w gosod yr un modd a Neuadd y Blaenau trwy Swyddfa y Cyngor. I Ffeiriau Ffestiniog. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Thomas Jones, Bank, yn gofyn am gydweithrediad y Cyngor i riewid dyddiad Ffeiriau y Llan fel ag i beidio doi i wrth-darawiad a Ffeiriau y Bala. Y r oedd yr holl ddyddiadau yn aros fel y maent yn awr ag eithrio un Mawrth, yr hon oedd i'w nhewid o Mawrth 7 i Mawrth 16.—Mr Owen Jones a ofynodd gwestiwn. Onid yw tymor ffeiriau wedi darfod ? Onid oedd pob cyfleusdra yn awr yn ngbyraedd yr holl amaethwyr i wneyd eu mhasnach a'u gilydd y cynulliadau llygredig hyn? Onid oedd yn bn-d roddi terfyn ar yr arferiad ffol hwn a'r cyfle u, roddir i'r fath anuwioldeb ac aflendid ?—Cadeirydd, Yr wyf yn hollol gydweled a Mr. Jones, ond nid yw y wlad yn aeddfed i hyny eto.-Pasiwyd i newid y dyddiad yu unol a'r cais, a'r cyngor hysbys- ebu y peth. Trethu. I. Pasiwyd i gefnogi deiseb yn ffafr Ueihn gwerth tirol (land value). Gw th. Pasiwyd i gefnogi deiseb Cyngor Totticham i waith Cenedlaethol gael ei roddi i'r rhai oedd yn awr allan o waith trwy y Deyrnas. Cyflogau y Gweithwyr llythyr dienw. Darllenodd y clerc lythyr yn gofyn am i'r Cyngor ail-ystyried mater cyflogau y gweith- [ wyr,àa dywedai awdwr y llythyr ei fod ya anfon dros ei gyd-weithwyr.—Cadeirydd, Nid oes enw neb wrth y llythyr, ac felly nis gallwn ei ystyried. Yr wyf mewn Hawn gydymdeimlad a'r gweithwyr ydynt yn gofyn mor resymol am i ni ystyried eu hachos, ond nis gallwn wnej d hyny ar sail llythyrau dienw." Mr E Lloyd Powell a gynygiodd i'r llythyr gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith.—Mr. W. Jones, Dylid t>i gyflwyno i bwyllgor o'r hllo Gyngor.—Clerc, y mae yn rhaid rhoddi o'r neilldu y Rheolau sefvdlog cyn y geUir ei drafod c gwbl.—Mr W Jones, a oes rheolau sefydlog gan y Cyngor ? Ni fabwysiadwyd yr un yn Mawrth.-Clere, Gwir fod y Rheolau i'w mabwysiadu bob dechreu blwyddyn, ond y maent yn aros mewn grym beb hyny, hyd nes y pesir i'w ddiddymu. Mr. Owen Sones.—A ydyw yn ddoeth ystyr- ied Ilythyr dienw? Nid wyf yn dywedyd dim ar gynwys y llythyr, ondy fEaith mai dienw ydyw, ae felly y mae allan o lei siarad dim arno. Mr John Hughes, Dylasai y dyn hwn adodi ei ew wrth y lljthyr os oedd yn anfon dros ei ydweithiwr neu droso ei hun. Dyla«ai tod: a digon o asgwrn cefi^ g^nndo l ddoui e^enw w?th ¡ ei waith. Y mae eisiau i weithwyr y lie fod yn fwy gonesit a theilwng i roddi eu heuwau wrth ?7,ti f on i'r papurau, ae eu llythyrau. Y mae va anfon i'r papurau, ac yn gortod i hoddi eu henwau priodol i'r Golygydd, p,ham iitd ei i-oidi i'r Cyngor, os oedd yn disgv--1 i'w gais gael syi* ? Cadeirydd, Nid wyf yn iawn ystyried y llythyr gan nad oes enw WI tho-Mr. W Jones nid wyf yn sycu dim at; v gweithwyr Cadeirydd, Chwareu teg i'r gweithwyr Ni ddylid dvwedyd dim yn eu herbyn ond nis gellir tiV v Ilythvi, hwn am y rheiwm a Lodais. Yr w., f yn cydy mdeimlo yn fawr a'r gweithwyr vdypt yn cwyno oblegid bychandra y mae rheswm dr,os y cyflog —Mr Hugh Jones, y maa rheswm dros hyn. Yr oedd ef yn gwybod am rai wedi dyoddef yn y gorphenol oblegid dodi eu henwau wrth geiskdau fel hyn.- Mr. John Hughes a gynygiodd eu bol yu cael Cyngor arbenig i. drafod mater vpyflogau. —Mr Hugh Lloyd, yr oedd rhesymailr dros beidio dodi yr enw wrth y llythyr gan i rai orfod dyoddef am gymeryd rhan amiwg mewn amddiffyn y gweithwyr. Nid oejd yn rhyfedd gweled nn oedd yn y gwaelod, a dim o'i flaea ond y Tlodty os collai ei waith, yn ofni dodi ei enw wrth ei gais. Cynvgiodd Mr John Cadwaladr a chefnogodd Mr .bhn Hughes eu bod yn rhwyddhau y ffordd at y Cyngor arbenig trwy basio i roddi y Rheolau o'r neilldu. — Mr Owen Jones, nid oedd cais cywir o'u blaen, ac yr oedd yn ddrwg ganddo feddwl fod neb yn ofai bod yn ddigon gwynebagored i ddodi ei enw wrth y llythyr. Eisteddodd y pwyllgor amryw weitbiau i ystyr- ied mater y cyflog, a chadarnhaodd y Cyngor eu gwaith. Os gelwir Cyngor arbenig dylid dodi yn eglur ar ei raglen beth sydd i fod o dan sylw.—Mr H Lloyd, nid oedd y cyflogau yn perthyn i waith y pwyllgor, ac yr oedd presen- oldeb ambell un yn codi ofn ar y gweithwyr i ddodi eu henwau i lawr.—Mr Owen Jones, Yr oedd pwngc y cyflogau ar ganol cael ei drafod pan ddaethym i'r pwyllgor, fel y meddyliais ei fod i gael ei ystyried yno. Byddai yn ddrwg iawn genyf feddwl am eistedd ar y Cyngor hwn os ydyw fy mhresenoldeb ar ffordd unrhyw weithiwr- i focl yn ddyn digon gonest i ddodi ei enw wrth ei gais, neu i ddywedyd ei gwyn yn wynebagored.—Mr John Hughes, nid oes achos i'r un gweithiwr ofni yr un o honom gan mai hwy sydd wedi ein hethol ar y Cyngor. -Pasiwyd i gynal Gyngor arbenig nos Iau nesaf i drafod pwngc cyflog y gweithiwr. Ail-ddewis. I Ail-ddewisiwyd Dr Richard Jones, Yj swydd- og Meddygol y Cyngor, a'r Arolygydd Roberts yn swyddog o daa Ddeddf y Trefi a'r Heddlu. Addysg. Darllenwyd Ii ythyr oddiwrth Awdurdod 4ddysg y Sir yn hysbysebu eu bod wedi pasio 1 fenthyg at godi ty i Ysgol-feistr yr Ysgol-Ganolraddol.—Mr Cadwaladr Roberts, y mae y pwyllgor rhyfedd hwnw wedi pasio i fenthyca tuir mU a haner at godi dau dy i Ysgolfeistri. Yy oedd y fath beth yn afresymol i feddwl am dano a'r holl ddirwasg- iad nrasnachb! yn y wlad. Yr oeL4d yn ddrwg ganddo weled fod y pwyllgor hwn wedi pasio i roddi £ 5 o'r tiethi at Glwb Football Dyma fyned ar y waered er y Diwygiad oedd yn y wla )—Clerc, Pymtheg cant o bunau sydd yn dod i Ffestiniog a'r gweddiil i'r Abermaw. Mil o bunan fydd yn myned at godi ty i'r Prif- athra.w, yr hwn a fyddai yn talu rhent rhesymol am dano, sef o £ 30 i £ 40 y flwydd- yn mwy na digon i dalu y llogau a'r hawl yn ol. Aiff y gweddill at drefnu tir i'r ysgol, sydd yn awr fel anialwch. Plenir coed &c yno Yr oedd yn sicr yr addefai Mr Cadwaladr Roberts fel cael ymarferiadau corphorol yn anhebgorol i iechyd y plant. Yr oedd y pwyll- gor eisoes yn rhoddi gwaith i nifer fawr o ddynion, oeddynt kllan o waith yn y lie, i drefnu y tir (cymeradwyaeth).—Mr Cadwaladr Roberts, Yr wyf yn foddlawn ar yr eglur- had, ond os oedd He i chwarau i fed i blant, beth am blant TanygrisiV'ii oeddynt heb ddim lie felly wrth e» hysgohon. Dylid bod yn deg at bob ran o'r plwyf."
- - - - - WILLIAM JONES, A.S.I
WILLIAM JONES, A.S. I I. Y mae Arfon yn awr yn nghanol brwydr I etholiadol. Cerdda yr ymgeisydd Rhyddfrydig trwy bob rhan o'r gynrychiolaeth o Lanberis i Landudno, ac oddiyno i Gwm Benmschno. Y ma.<j'r tânyu cyneu, a'r etholwyr yn ymdeimlo a'u dyledswyddau, ac yn ymgasglu o gwtnpas ei harweinydd yn llawn sel a brwdfrydedd. Hwyrach na fyddn.i gair neu ddau o hanes bywyd yr ymgeisydd yn anerbyniol gan ddarllenwvr lluosog y Rhedegydd. Ganwyd ef mewn tyrJdyudu bychan ar Ian afon Caint, ar waelod dyffryn prydferth Llanffinan, yn Mon. Collodd ei dad pan yn dair oed, ond dygwyd ef i fyny dan o £ *l mai-n ofalos-un o'r Puritaniaid cryfaf ei meddwl, Cafodd ei addysg yn ysgol Frytanaidd Llangefni. Ystyrid ef y cyflymaf ei feddwl a fagwyd yn yr ysgol hono erioed. Yn ysgol Sul Capel Dinas, Llangefni y dysgodd ddarllen Cymraeg yn bur ieuanc. Yn nghyfarfodydd lienyddol Llangefni y teimlodd ddyddordeb gyntaf mewn llenyddiaeth. Meistrolodd rcolau barddoniaeth Gymreig, ac ymgydnabyddodd a llenyddiaeth ei wlad pan yn faehgen ieuanc. Wedi gorphen ei waith fel pupil teacher yn Llangefni treuliodd ddwy flynedd yn Ngholeg Normalaidd Bangor. Bu am ychydig yn Ysgolfeistr yn Nghymru, ond symudodd yn fuan i'r Brifddinas. Yno, a3 yn Rhydychain y treuliodd ei amser wedi hyny. Datguddiodd allu arbenig i siarad pan yn euangc iawn. Bu cystadlu mewn adrodd yn Eiateddfodau Llangefni a chyfarfodydd lienyddol y cylchoedd hwn, a meithrinodd y gallu hwn i siarad yn ofalus ar hyd ei fywyd, fel erbyn yn daiddadl y mae yn un o siaradwyr goreu y deyrnas, yn Saesneg ac yn Gymraeg. Ni wyddom am neb yn siaract Oymraeg yn fwy Cymreig nag èf. Y mae graen lenyddol ar ei arddull, a ceir tan biwdfrydedd gwirioneddol yn llosgi yn ei areithiau, ac y mae gwybodaeth eangj gwir ddiwylliant, a barn addfed yn nodweddu pobpeth a wna. I Dan gvmhelliad y diweddar Thomas Ellis ac eraill, ufuddhaodd i lais Arfon yn galw arno Fw) chynrychioli yn 1895. t Gwnaeth ei waith bob amser yn ffyddlon, deheuig a medrus, ac ar adegau danghosodd ddisgieirdeh gallu i.nghvffred n. Gweithiodd yn selog dros chwareJwyr y Penrhyn yn y Ty a t h dlaa I'r Ty. Nid anghofir byth ei areitiii « gan y rhai a'i clywsant. Llwyddodd i rhau gan y llywod- raeth doriaidd addewid ddiwygo deddf lawn y gweithwyr. Hefyd ar -.eth fedrus o'i eiddo ef a ddylauwadodd ar y llywodraeth i Aidaw deng mil o bunaii i Gymsu. at Auigueddu a Llyrfa Gymreig. Cofis, darllenwyr y Rhedegydd yn dda am y ddadl arweiniwyd ganddo ar Ddad- gysyllliad yn Nhy'r Cyffredin," y ddadl oreu a gafwyd erioed ar v pwno ya ol barn Syr Alfred Thomas ac eraill. Nid acfyddiol hwyrach fyddai gosod i lawr yma rai o sylwadau gwr enwog y wlad hon ar Mr. Jones, fel seneddwr. Ltythyr oddiwrth yr Anrhydeddus John Burns. Nis gall&f wrthsefyll y demtasiwn. yn ol graddf, ac o herwydd teilyngdod o ysgrifenu atoch i ddymuno i chwi bob ilwydd yn eich etholiad agoshaol. Yn y Senedd, ac hefyd tuallan iddi, cyflawn- asoch eich dyledswyndau i'ch cydwladwyr, mewn materion lleol a gweitbfaol, yn ogystai ag mewn hyrwyddo yr arwedd oreu i addysg genedlaethol, a phob mesur a dueddai at lwyddiant a llesiant y bobl. Barn Syr William Ansom. I Y siaradwyr dwy-iaithog yw y rhai gallu- ocaf yn Nhy'r Cyffredin, ac yn ol fy marn i, y rhai galluocaf oil ydynt, y Mri. Lloyd George a William Jones." Barn Henry W. Lucy (" Toby, M.P."). I Swyna Mr. William Jones glust y gwrandawr gan ei lawenhau a drych feddyliau dyrchafedig, mewn iaith syml a brawddegiad perffaith. 0 dan ei agweddiad gwylaidd a'i ymddygiad boneddigaidd dylifa lava" berwedig cenedl farddonol. Pan gynhyrfir ef ymddyrchafa y uchafbwynt hyawdledd, Sieryd megis y can yr ehedydd am mai dyna reddf ei natur.dwg ar g6f i mi Bright a Gladstone." Rhoddasai ami un lawryfon a chyfoeth lawer yn gyfnewid am y derbyniad a rydd Ty'r Cyffredin i'r Ysgol- feistr o Gymru. Barn y Wasg am ei Araeth ar Ddadgysyllriad. I Dywed Gohebydd LIundain y Faner-Nid wyf fi yn cymeryd arnaf esbonio dirgelweh dy- lanwad ei areithyddiaeth ar Dy y Cyffredin ond y mae yn ffaith nad oes yn mhlith y 670 o aelodau senyddol neb sy'n abl i gario yr un a'r unrhyw ddylanwad ar ei wrandawyr seneddol a'r aelod dros Arfon. Enilla gymeradwyaeth nid yn unig ei ochr ei hun ond hefyd yr ochr wrthwynebol; ac fe'i canmolir gan ei wrth. wynebwyr yn llawn cymaint a chan ei gyfeillion Nid oes odid i newJddiadurwr yn yr oil o'r Gallery heb ddihysbydiiu ei ansodd-eiriau uwch ei ben, ac mae'r prif erthyglwyr yn talu gwar- ogaeth iddo fel pe bae'n Cabinet Minister. I Gymru, drwy hyn oil, y mae clod o'i blegid. O'r Daily News Y r oedd y perderfyniad yn nwylaw Mr. Wm. Jones, un o'r ychydig ysgolheigion sydd yn y Ty, ac un o'r ychydig wyr ag y mae ei ymddygiad llednais yn addurn i'w feddwl difrifol a syml. Ni fuasai y Ty, fe allai, yn derbyn amlinelliad cyflawn o hanes crefydd Cymru, pa mor fyw bynag y byddai, gan neb ond Mr. Jones. Nis gallai neb arall ei gyffwrdd gyda'r fath swt,,n cenedlaethol, teim- lad crefyddol, a chywirdeb hanesyddol. Yr oedd pob nodyn yn beraidd. Y mae Mr. Jones yn ffafrddyn ar bob ochr i'r Ty, ac y mae ei wynebpryd gonest, ei frwdfrydedd calonog, ei ddeall ysgolheigaidd, a'i ddull diymhongar- bron fel plentyn ysgol-o wisgo man tell ei ddysg, yn llwyr feddianu bryd ei wrandawyr. Go brin y byddai yn ormod dywedyd i'r ddadl ddechreu a diweddu gyda araeth Mr. Jones. O'r Morning Leader —Y mae Mr. Jones yn feistr ar fath o hyawdledd nad oes neb arall yn y Ty yn gallu ei gyrhaedd hyawdledd di- ymgais ysgolhaig Celtaidd ydyw. Oni hai fod Mr. Jones yn un o'r cymeriadau mwyaf syml posibl Ty'r Cyffredin yn sicr o'i ddyfetha, gan y bydd llongyfarchiadau y Ty bob tro y sieryd yn ymdywallt arno, Mynegai Mr. Asquith, Syr Wm. Harcourt, a Mr. Richie deimlad yr holl Dy wrth ei longyfarch. O'r "Daily Cronicle "Nis gallai neb a wrandawai ar Mr Jones beidio sylwi ar y modd y meddianai y Ty. Gwrandawai yr aelodau fel mewn cyfaredd ar olrheiniad canrifau o fywyd yr Eglwys yn Nghymru. Hanes pethau dyfnaf bywyd cenedl oedd yr araeth, ac nid hanes marw mohono. Yr oedd fel cerdd fawr, yn yr hon y canai ysbryd y canrifau aethant heibio. Yr oedd meddwl a theirnlad Cymru—bob amser yn erbyn Eglwys yr estron-yn ysbrydoli y tra- ddodiad ohoni. Ffydd yn yr ysbryd Celtaidd, balchder yn annibyniaeth meddwl Cymru, na ildiodd erioed i Eglwys y concwerwr, ac ysbryd o orfoledd urddasol oherwydd yr hyn a wnaeth Ymneillduaeth mewn dysg a chrefydd, oedd arbenigrwydd yr araeth. Anodd darlunio y fath ymadrodd ofnwn ei alw yn hyawdledd. Can ydoedd yn ffynonellu, nid yn nghalon y siaradwr, ond yn nychymyg byw ei gyd-genedl. O'r Westminster Gazette."—Bydd Mr. Jones yn ficr o glust y Ty bob amser. Neithiwr yr oedd yn hyfrydwch gwrando arno. Cod odd ei destyn yn mhell uwchlaw pwnc plaid. Cymerodd safle genedlaethol, gan ddadleu er mwyn yr Eglwys ei hunan, i'w rhyddhau, fel y gallai nofio yn ffrydlif yr ysbryd cenedlaethol Cymreig. Yr oedd cymeradwyaeth frwd yn calonogi y Cymro ieuanc poblogaidd a phan eisteddodd derbyniodd flbeddiadau eymeradwyel na welir ond anfynych eu tebyg. O'r Manchester Guaidian,Agorodd Mr. Wm. Jones y ddadl mewn araeth ysgolheigaidd ac hyawdl. Anfynych y bydd y Ty yn cael y fantais o wrando ar ddoriiau y siaradwr hwn ac y mae ei lais tyner a pheraidd, ei fynegiant ysbrydlawn, a'i ystum fywiog, ond diymgai-q ar unwaith yn denu sylw', ac hefyd drwy gyfuniad a theithi dysg ac hyawdledd gwirioneddol, y mae bob amser yn sicrhau gwrandawyi fyddant wrth eu bodd. Yr oedd araeth Mr. Jones, yr hon, fel y dy- wedocfd Mr. Asquith, a addurnwyd a chymaint o deleidion a dderbyniodd gan natur, a thrwy ei ymrbad, yn cynwys engreifftau o'r dull mae Anghydffurfiaeth Cymru yn tylinio bywyd y gentdl-yn wleidyddol, lienyddol,a duwinyddol Dyfyniad o araeth Mr. Asquith.—Yr oedd araath Mr Jones yn un o'r rhai mwyaf eyfar- eddol a hyawdl a glywyd erioed—yn engraipht o'r hyn all Y mneiildu-aeth Cymru gynyrchu, nid yn unig mewn diwylliant ac hyawdledd, ond hefyd mewn tymher ac ysbryd. Nid oedd ond gwastraff ar anadl ei longyfarch gan fod ei alluoedd disgker yn hysbys i'r holl Dy. Proffwydodd Syr Alfred Thomas yr wythnos ddiweddaf, mai Mr Wm. Jones, fydd y nesaf o Gymru i gael ei apwyntio i wasanaeth y wlad gan y llywodraeth bresenol. Hyderwn er gwaethaf bygythiad un gwr mawr yr etholir ef yn aelod dros Arfon eto gyda mwyafrif gwir anrhydeddus.
LLINELLAU COFFA
LLINELLAU COFFA Am fy anwyl Briod, yr hon a hunodd yn yr IEsu, Tachwedd 12, 1905. Dyma un o'i brawddegau diweddaf cyn ymadael, a'r dagrau yn treiglo dros ei gruddiau —" 0 gwelwch fi yn hwylio'i farw. 'Rwy'n cofio borau oes, Yn ysgafn droed a lion, Y casglwn flodau'r maes, Heb boen o dan fy mron Ond heddyw'n wael, a'ngrudd yn welw 0 gwelwch fi yn hwylio i farw. 'Rwy'n cofio'r adeg pan Yr unwn gyda'r Cor, I ganu moliant glan Am ras fy Arglwydd lor Ond heddyw, waeled yw fy nelw, 0 gwelwch fi yn hwylio i farw. Bu imi newid byd, Ce's newydd gartre'i fyw A dedwydd, hafaidd hin, Yn llawn cysuron gwiw Ond trodd y rhod mae'n storom arw, 0 gwelwch fi yn hwylio i farw. Bu gwanwyn yn fy oes, Bu iddi haf oedd gu, Bu iddi hydref llawn Ac hefyd gauaf du Ond ffarwel haf a gauaf chwerw, 0 gwelwch fi yn hwylio i farw. Rhagluniaeth wenai'n deg Am ran o'r anial maith Ond weithiau cwmwl llawn A wgai ar y daith Ond heddyw derfydd byd a'i dwrw, 0 gwelwch fl yn hwylio i farw. Er hyny os yn nos Nid yw yn hollol ddu, Mae'r golau'n (lod i'm cwrdd Dros ben Calfaria gu Mae'r nef o fewn y goiau hwnw,$ A chaf ei wel'd wrth hwylio i farw. Os ydyw'r storm yn gref Mae engyl yn y glyn, Yn sisial am y wawr A gyfyd ar ol hyn Na wyled neb-y nef sy'n galw- Os ydwyf fi yn hwylio i farw. Yn rhodio arall lan Yn nghwmni Mab y Dyn Y gwelaf ddedwydd lu Fu'n ofni fel fy hun I fyn'd i'w plith o gyraedd gwaew, Mor foddlon wyf i hwylio i farw. Mae lesu'n lleddfu'r don A gwen o arall fyd Mae'r boen yn troi yn falm A'r glyn yn gan i gyd Rwy n croesi tua'r lan dryloew, Lie na bydd eisiau hwylio i farw. RICHARD JONES. Fourcrosses, Blaenau Ffestiniog.
Advertising
r"Therefore  im strongest." 1m Bj_? [CWBOlyi c o c 0:,?.   ?===?   HOW TO MAKE K E OF PURE COCOA. No cocoa is pure which contains substances not naturally present in the Cocoa Bean. Many of the so-called cocoas now on sale are merely cocoa preparations, containing additions of such things as skimmed milk, starch, sugar, hops, etc., which lessen the quality of cocoa, and therefore give an inferior beverage., To make sure of obtaining pure cocoa, ask for and see that you get Cadbury's." Cocoa is strongest when pure; and in its natural .state contains all the elements necessary for physical well being. Cadbury's cocoa is abso- lutely pure,, and contains no added ingredients whatever., There is no cocoa so easy of diction and assimilation w, Cadbury's cocon.