Hide Articles List

14 articles on this Page

YNADLYS BETTWSYCOED. i

TALSARNAU. I

HEDDLYS LLANRWST. I

0 GADAIR YNYS FADOG,I

Adolyjgiacl y Wasg.i

Beirniadaeth -Seindorf -OakeleyI…

IArddangosfa y Diwydianau…

OYNGOR GWLEDIG LLANRWST,

BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST.

News
Cite
Share

BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST. Cyfarfu y Gwarcheidwaid canlynol ddydd Mawrth, Mri. John Roberts (Cadeirydd); D. G, Jones (Is-Gadeirydd) O. Lloyd Jones; H. Rawson Williams; John Hughes T. T. Roberts; J. Llewelyn Richards; Evan Williams John Berry John Davies (Bryniog); William Williams; John Davies (Gwytherin); Edward Edwards; W. G. Jones Edward Roberts E. W. Roberts Robert Williams; David Owen; H. R. Williams (Arolygydd y Llywodraetb); R. R. Owen (Clerc) Thomas Hughes, (Clerc Cynorthwyol); O. Evans-Jones a T. C. Roberts (Swyddogion Elusenol). Sylwadau yr Arolygydd. Gwnaeth Mr. Williams sylwadau bron ar yr holl achosion a ddaeth o flaen y Bwrdd, a plbwysodd ar y Bwrdd i fod yn fwy penderfynol gyda'r rhai y credant mai y Ty fyddai oreu iddynt. Ni ddylent adael i'r tlodion eu gorch- fygu. Yr oedd yn cymell yn gryf i'r plant gael eu hanfon i gartref: yr oedd cartref da yn Bontnewydd ac yn Nghaernarfon. Caent bob gofal a chyfarwyddyd mewn lie felly, a chychwyniad da mewn bywyd. Bil trwy y Ty ac yr oedd yn dra boddhaol ar bobpeth yn y lie a r modd ei cedwid. Am sefyllfa yr Undeb, yr oedd yn lled dda. Carai gael mewn o amser i edrych i mewn i'r achosion lle'r rhoddid elusen cyn myned i feirniadu dim, ond gwelai fod lleihad yn nifer y tlodion, tra yr oedd swm yr elusen yn codi. Efallai mai achosion o wir angen oedd y rhai byn. Yr oedd yn dda ganddo weled eu bod yn rhoddi amser dyladwy i ystyried bob achos ddeuai ger eu bron. Eu diffyg oedd gweithredu yn y fath fodd fel ag i rwystro pobl i ddod ar eich gofyn ac felly eu hatal i fyned yn dlodion. Dylent beidio ofni cynyg y Ty mewn achosion y credent mai y Ty fyddai oreu ac wedi pasio i rai ddod i'r Ty glynu wrth y penderfyniad fel na byddo i'r tlodion eu gbrchfygu a thrwy hyny wneyd cam a hwy eu hunain ac a'r Bwrdd. Hen ddadl yn erbyn symud rhai i'r Ty ydoedd fod yn reeyn symud yr hen o'i gartref; ond teimlad yn unig oedd hyny gan fod pobl ag eiddo ganddynt yn gorfod gadael eu hen gartrefi yn amI. Eu diffyg mawr oedd peidio gweithio yn fanwl wrth gynllun. Gwyddai am rai Undebau na chaffai neb oedd yn cyffwrdd diferyn o ddiodydd ddimeu o elusen a rhai eraill y cynygid y Ty yn mhob achos yr oedd hyny yn oreu, a'r canlyniad oedd Ilai o dlodion. Tra mewn undebau eraill yr oeddid yn llac a dibenderfyniad a chynyddai y Tlodion ar bob llaw.—Y Cadeirydd a ddywedodd fod Mr. Williams yn sicr o fod wedi taraw ar eu man gwan fel Bwrdd cerid hwy yn ormodol gan deimlad ar draul esgeuluso edrych ar yr hyn sydd gyfiawn. Diolchai dros y Bwrdd i Mr. Williams am ei gyfarwyddiadau gwerthfawr, Llythyrau. Anfonodd Dr. W. Pierce, Southern, i ddiolch drosto ei hun a'i frawd am gydymdeimlad y Bwrdd a hwy yn eu profedigaeth ogolli eu tad. Dr. W. Michael Williams a anfonodd i hys- bysu ei fod ar symud i Sanatorium er lies ei iechyd, a bod Dr J. D. Jones, wedi dod i'w le yn ystod ei absenoldeb.—Pasiwyd i dderbyn Dr. Jones fel Diprwy Dr. Williams, a dymuno adferiad llwyr i'r meddyg poblogaidd. Daeth gair oddiwrth Gwmni y Climax: off- eryn diffodd tan, yn egluro ei ragoriaetbau.- Gohiriwyd gwneyd dim yn mhellach am fis. Yr oedd Mr. Evan Jones, Tyllwyd, Bala,' wedi bod yn ymofyn un o'r bechgyn oedd yn y Ty, a bwriadai ei fabwysladu.—Gohiriwyd caniatau i'r bachgen arall sydd yn y Ty gael myned allan hyd oni wneid ymholiadau pellacb. Yr oedd Bwrdd y Llywodraeth Leol wedi anfon gair yn rhoddi caniatad i wario £ 43 7s Oc ar awyru y Ty. Daeth gair o Fwrdd y LIywodraeth Leol yn hysbysu fod merched priod i rieni tlodion yn rhwym o gyfranu at eu cynal os bydd gan- ddynt foddion anibynol ar eu gwyr. Pasiwyd i gyfranu 10/- at draul Cynhadledd Deddf y Tlodion gynhelir yn Mangor Medi 22 a 23. Yr oedd yr alwad olaf o'r ddau Gyngor Sirol yn ddyledus: Arfon £ 573 12s 8c, a Dinbych £ 818 17s 6c, a phasiwyd i'w talu. Adroddiad y Meistr. Y Meistr a hysbysodd i un John Meitchel, Tramp, ddod i'r Ty Awst 18, wedi tori ei goes yn Ngwaith Dolgarrog.-Awst 25, daeth Wm. Roberts (Wil Dogell), Llanrwst, i'r Ty.—Bu i Dramp fu yn y Ty falu y gell a'r ordd, ac yna dori 26 o wydrau ffenestr: niwed o 27/ Awd ag ef o flaen y Faingc, y rhai a'i traddodasant i dri mis o garchar gyda llatur caled.—Diolch- wyd i Mrs. Ashley a Mr. Isgoed Jones am. anfon cyhoeddiadau wythnosol i'r Ty. Yr llusenau a'r Tlodion. Nifer v tlodion yn y Ty 21 ar gyfer 28: llai o 7. Nifer y tlodion yn derbyn elusen ydoedd 287 ar gyfer 289: llai o 2. Talwyd oelusenau yn ystod y mis, £ 175 Is 6c, ar gyfer £178 16s lc lleihad o £ 3 15s 5c. Yn llaw y Trysor- ydd £ 602 19s 3c, biliau i'w talu heddyw £ 1483 10s 2c, yn gadael gweddill yn ddyledus c880 10s 10c. Dyledus oddiwrth y gwahanol blwyfi £ 1930 10s Dc. Addysg i'r Tlodion. Gwnaeth Miss Davies o Gymdeithas y Deill- ion, Bangor, gais am i David Roberts, dyn dali o Gapel Garmon, gael myned am gwrs a Addysg. 2/6 fyddai y draul wythnos, fel na chostiai ddim ond chwech cheiniog yn rhagor. -Cydsyniwyd a'r cais, Gofynodd y Meistr am seibiant o bedwar diwrnod, a chaniatawyd y cais.

IGWYTHERIN. - ....... - -…

TRAWSFYNYDD.

. - ...............- ....-…

- -CAPEL CURIG.

[No title]