Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

YNADLYS BETTWSYCOED. i

TALSARNAU. I

HEDDLYS LLANRWST. I

0 GADAIR YNYS FADOG,I

Adolyjgiacl y Wasg.i

Beirniadaeth -Seindorf -OakeleyI…

IArddangosfa y Diwydianau…

OYNGOR GWLEDIG LLANRWST,

News
Cite
Share

OYNGOR GWLEDIG LLANRWST, Cyfarfu y Cyngor prydnawn ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol y. Parch. H. Rawson Williams (Cadeirydd), John Davies (Is-gadeirydd), John Davies (Gwytherin), William Williams, Edward Edwards, David Owen, Robert Williams, R. R. Owen (Clerc), a Maurice Roberts (Arolygydd). Y Clerc a roddodd adroddiad manwl o'r trefniant oedd at ddewis olynydd i Dr. Frazer fel swyddog Meddygol. Y swm oeddynt hwy yn arferol a'i dalu at y cyflog fyddai £ 29, ond bydd yn awr yn £ 35. Nis gellid dadgysylltu a'r Cyd-bwyllgor hyd 1910. Yr oedd Dr. Tarvis wedi ei benodi yn Swyddog Meddygol i'r ysgolion yn ochr Sir Ddinbych. Ar gynygiad yr Is-gadeirydd ail ddewisiwyd Mr. M. Roberts yn Arolygydd, a diolchodd yntau i'r Cyngor am hyny. Anfonodd y Swyddog Meddygol ei adroddiad ar y Carthffosydd perthynol i Westy Talycafn, ac nad oedd unrhyw achos i gwyn yno yn awr. Teimlai y Cyngor yn foddhaus cael diwedd ar y mater hwn'Jsydd wedi llusgo cyhyd, a pheri y fath drafferth iddynt. Ganwyd 11 yn ystod mis Awst yn y Dosbarth a bu farw pedwar. Ystyrid yr Adroddiad yn un boddhaol iawn ar gyfrif nifer bychan y marwolaethau. Gan fod cynifer o blant yn cwyno o dan y pas yn Llanddewi a Llangernyw, pasiwyd ar gyfarwyddyd Dr. Travis i gau yr ysgolion yno am dair wythnos. Hysbyswyd fod Mr. J. L. Edwards, Wrex- ham, wedi ei benodi yn Arolygydd y Llaw- weithfeydd yn lie Mr. Hilditch. Wedi trafodaeth faith, pasiwyd i ddodi penor" (chwedl Mr. Robert Williams) yn lie camfa y Dryll, Eglwysbach. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Milwriad Higson a'i gyfreithiwr yn nghylch y L!wybrau yn Llanddoged, a phasiodd y Cyngor i anfon rhybudd ato i agor y llwybrau cyhoeddus i'w ffurf cyntefig o fewn 28 niwrnod.

BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST.

IGWYTHERIN. - ....... - -…

TRAWSFYNYDD.

. - ...............- ....-…

- -CAPEL CURIG.

[No title]