Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
14 articles on this Page
YNADLYS BETTWSYCOED. i
YNADLYS BETTWSYCOED. i PYSGOTA ANGHYFREITHLAWN. I Ddydd Sadwrn, o flaen y Milwriad Johnstone, I T, W. Jelf-Fetit, a T. Osborne Yale, Yswein- I iaid. Meddw ac Afreolus. I Cyhuddid Isaac Jones, Town Hill, Llanrwst, o fod yn feddw yn mhentref Penmachno, Awst 26aia. Addefai y trosedd, a gofidiai am a ddigwyddodd. Dirwywyd ef i swllt a'r costau. Cyhuddid Robert Davies, plastrwr, Scotland Street, Llanrwst, o fod yn feddw ac afreolus yn yr un lie ar yr un dyddiad, a dirwywyd ef i haner coron a'r costau. Chwareu Peli ar Gam-amssr. I Yr Uwcharolygydd Rees, a gyhuddai Emely Anne Reeve Lay, Cobden Hotel, Capel Curig, o ganiatau chwareu peli (billiards), yn ei thy ar ol deg o'r gloch. Ymddanghosai Mr. J. J. Marks i arwain yr achos ar ran yr Heddlu, a Mr. Hamlet Roberts, Penygroes, dros y ddiffynyddes. Rhoddwyd tystiolaeth yn yr achos gan yr Heddwas Pritchard, Capel Curig, yr hwn a ddywedai iddo fyned i'r Gwesty tua haner awr wedi deg, Awst 13, ac aeth i'r billiard room lie yr oedd Mr. Cobden yn chwareu peli gyda bcn- eddwr arall, Mrs. Cobden yn chwareu y berdoneg, a dyn arall yn canu, a bu iddo ymholi am y ddiffynyddes, a dywedodd wrthi y byddai iddo gymeryd cwrs yn eu herbyn, dywedcdd hithau y deuai i'r Llys am fod gan- ddi eisiau pobpeth yn iawn. Wrth Mr. Roberts.—Gwyddai am Cobden Hotel yn dda, a gallai weled y goleu o'r ffordd, Nid oedd wedi cwyno yn ei gylch hyd y tro hwn. Nid oedd y person oedd yn chwareu yn frodor o Capel Curig. Vivian Cobden a ddywedai mewn amddi- ffyniad eu bod wedi caniatau i'r ymwelwyr arhosent yn y ty, chwareu er's 14 mlynedd, ac ni chlywsant gwyn o gwbl. Ni fu iddynt ganiatau i breswylwyr y lie chwareu ar ol deg. Wedi i Mr. Roberts anerch, dywedodd y Cadeirydd eu bod o'r farn fod trosedd wedi ei gyflawni, ond eu bod yn taflu yr achos allan ar daliad y costau. Pysgota Anghyfreithlcn. Robert Willliams, ceidwad yr afonydd a gyhuddai John Lovell, Narrow Street, Llan- rwst o ddal eog drwy foddion anghyfreithlawn yn Afon Conwy, ar foreu Sul, Awst 16eg, ac hefyd cyhuddai ddau o'i frodyr, Seth a Joseph Lovell, o'i gynorthwyo. Erlynai Mr. C. T. Allard, ac amddiffynid John Lovell gan Mr. E. Davies-Jones, yr hwn mewn araeth ramantus a ddadleuai yn gryf nad oedd achos yn ei eibyn ac fod camgymeriad mawr wedi cael ei wneyd, a'i fod yn myned i alw tyst a ddywedai ar ei lw mai efe ac Did John Lovell oedd gyda'r ddau ereill, ac fod Dr. Lloyd Williams, Llanrwst, yn barod i dystio ei fod yn gweini ar y diffynydd tua'r amser y cyhuddid ef o fod wrth yr afon. Yr oedd y diffynydd wedi gwasanaethu yn y rhyfel yn Ne Affrig ac yr oedd wedi cael ei glwyfo. Hefyd yr oedd wedi cyfarfod a damwain yn ngwaith Dolgarog ac yr oedd yn myned i hawlio iawn. Yr oedd rhywbeth mewn enw, ac anffodus iawn i'r diffynydd oedd y ffaith mai John Lovell oedd ei enw, gan fod iddo gefnder o'r un enw yr hwn oedd yn hysbys fel hen droseddwr yn y cyfeiriad hwn. Yr oedd y diffynydd yn gweithio yn rheolaidd gyda'r Mri. Bott a Senett, yn Dolgarrog. Tystiai Robert Williams ei fod wedi gweled y diffynydd a dau eraill wrth yr afon y dydd a nodwyd. Daeth John oddiwrth yr afon ac eog yn ei law. Aethant i gyfeiriad y Felin Blwm. Yr oedd dillad goleu am John, ac yr oedd yr afon yn isel iawn ar y pryd. Yr oedd yn sicr mai y diffynydd oedd yno. Yr Heddwas Jones, Llanrwst, a dystiai iddo weled y cyhuddedig yn dyfod allan o'i dy y boreu dan sylw rhwng tri a phedwar, ond aetb yn ei ol pan welodd y tyst. Gwelodd ddau eraill yn dyfod o'u tai yn Chapel Street. Evans, Gwiga, Talybont, a ddywedodd nad oedd wedi gweled Mr Davies-Jones o gwbl, Ei fod yn myned adref o Lanrwst y boreu Sul dan sylw, wedi lletya dros y nosyn 7, Plough St. Ar ei ffordd adref gwelodd Seth Lovell ac un arall y tybiai ei fod yn frawd iddo, ac aeth gyda hwy at yr afon. Pan wnaeth y Ceidwad ei ymddangosiad o'i blanhiga, rhedodd ef i gyfeiriad Trefriwi Yr oedd yn sicr nad oedd John Lovell yno o gwbl. Wedi gwrando'r dystiolaeth hon, dywedai y Cadeirydd eu bod yn taflu yr achos yn erbyn John Lovell allan, a chaniattawyd gohirio yr achos yn erbyn y ddau eraill am fis. Heb Drwydded. Cyhuddid Seth a Joseph Lovell o bysgotta yn afon Crafnant, Awst 28, heb drwydded. Nid ymddanghosant a dirwywyd hwy i bunt a'r costau bob un, neu fis o garchar a llafur caled.
TALSARNAU. I
TALSARNAU. I Nid oes dim ac yr ydym yn llawenliau yn fwy o'i herwydd na chlywed fod ein Bechgyn a'n Genethod yn Llwyddo i basio Arholiadau pwysig ynglyn ag Addysg. Yr wythnos ddiweddaf derbyniodd Miss Gwennie Evans, Fucheswen, Talsarnau, air ei bod wedi pasio Arholiad Bwrdd Canolog Cymru, trwy ragori mewn Rhifyddeg, Cymraeg, a Choginiaeth, Y mae, er yn ieuanc, wedi bod hyd yma yn dra llwyddianus. Bydded iddi eto yn y dyfodol barhau i esgyn ar hyd risiau dysg ac anrhyd- edd nes cyrhaedd pen yr ysgol. Gan i rywun brysur daenau y chwedl mai boneddwr o Ffestinicg oedd perchenog y Modur aeth i wrthdarawiad a Mr. William Evans, ar Allt y Ddinas, Bettwsycoed, ac mai un o Talsarnau oedd gyrwr y Modur hwnw, dymunaf ddatgan mai anwiredd oedd y cwbl. Nid yr un o honynt oedd gyda'r Modur hwnw. —GWYLIEDYDD.
HEDDLYS LLANRWST. I
HEDDLYS LLANRWST. I Dydd LIun, o flaen y Milwriad Johnstone y Milwriad Higson Syr Charles Mc Laren, A.S.; Dr. T. E. Jones; O. Isgoed Jones; H. J. W. Watling Parch. H. Rawson Williams; W.J.Williams; William Hughes a J. R. Williams, Ysweiniaid. Iaith Aflan. I Yr Heddgeidwad Holgate a gyhuddodd Alice Owen, River Terrace, Llanrwst, ac Ellen Jones, o'r un lie, o fod yn ymladd a'u gilydd ac arfer iaith anweddus Awst 23. Yr oedd y ddwy, yn ol tystiolaeth yr Achwynydd a'r Uwcharolygydd Woolam, yn achosi llawer iawn o boen i'r cymydogion trwy en dull ewer- ylgar ac afreolus. Ni fuont erioed o flaen y Faingc hyd y tro hwn gan i'r Swyddogion eu goddef yn amyneddgar i edrych a fuasant yn diwygio.—Dirwywyd y ddwy i haner coron a'r costau. Gwr a Gwraig. Yn achos Ellen Davies, Brynrhys, Glan Conwy, a John Davies ei gwr, gofynodd Mr. J. E. Humphreys am obiriad gan fod cytundeb ar gael ei dynu allan i John Davies dalu 10/- yr wythnos at gynhaliaeth ei wraig a'i blant.- Caniatawyd y cais, a daw y mater i fyny yn y Llys nesaf. I Tadogi. I Yn achos Elizabeth Jane Davies yn erbyn Owen Roberts, hysbyswyd y Llys nad oedd y gwysion wedi eu gwasanaethu. Mary Catherine Hughes, Brynrhys, Glan- conwy, a ofynodd am archeb yn erbyn Thomas Owen Evans, o'r un lie i dalu at fagu ei phlentyn anghyfreithlon anwyd Mehefin 10. Ymddangosodd Mr. J. E. Humphreys dros yr Hawlyddes, a Mr. Joseph Lloyd, Llanelwy, dros y Diffynydd.—Yr oedd y tystiolaethau y fath nad yw yn weddus eu cyhoeddi.—Gwrth- ododd y Faingc wneyd Archab o ddiffyg tyst- iolaeth gadarnhaol. Meddwi. I Yr Uwcharolygydd Woollan a gyhuddodd David Davies, Twnan, Colwyn, o fod yn feddw yn Llanrwst, Medi 10.—Tystiodd y Swyddog fod y Diffynydd yn amaethwr parchus, a chafodd ef yn nghwmni dwy y gwyddai na byddai yn ddiogel gyda hwy a chlodd ef i mewn hyd nes y sobrodd,—Dirwy swllt a'r costau. Y Modurwyr Jehuaidd. Yr Uwcharolygydd Woolam a gyhuddodd chwech o Fodurwyr o droseddu y gyfraith gyda'u Moduriau,—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros yr Heddlu i erlyn yn yr holl achosion. Hysbyswvd y Llys nad oeddid wedi llwyddo i wasanaethu gwys ar olaf Max Mattbien, ac felly nad ellid myned yn mlaen gyda'r achos yn ei erbyn. Yr achos cyntaf ydcedd yn erbyn boneddwr ieuangc o'r enw Ernest Henry Wheeler, Bel- mont, Wardla Road, Sale, Manchester, yr hwn a amddiffynwyd gan Mr. O. Aneurin Evans. Y cyhuddiad yn ei erbyn ef ydoedd am yru i beryglu bywyd y cyhoedd ar y ffordd rhwng Talycafn a Llanrwst ar Awst 24ain.— Parhaodd yr achos hwn am dros ddwy awr, a'r unig dyst ynddo ydoedd Miss Elsi Jelf Petit, Bodhyfryd, Llanrwst. Tystiodd hi ei bod yn cerdded adref o Talycafn, ac i Fodyr y Diffynydd a Modur arall basio eu gilydd mewn lie cul yn hollel ar gyfer y lie y safai hi fel y bu raid iddi bwyso ar ochr y clawdd i ochel y modur yr hwn oedd o fewn modfedd i'w thraed." Yr amddiffyniad ydoedd na welodd Mr. Wheeler mo honi, neu y buasai yn atal ei fodur. Yr oedd yn foneddwr uchel ei barch ac yn dal trwydded Modur er's tair blynedd a baner. Ni chwynwyd wrtho erioed o'r blaen yn nghyich ei yru.-Dadleuai Mr. O. Aneurin Evans na fuasai y peth yn cael sylw o gwbl, a chaniatau ei fod:wedi digwydd oni bai mai;Miss Petit, merch un o'r Ynadon oedd yn digwydd bod ar y ffordd ar y pryd.—Dywedodd y Cad- eirydd fod y Faingc yn ystyried fod yr achos wedi ei brofi, a'u bod yn d'rwyo y Diffjnydd i bum' punt a'r costau arferol, ac yn atal ei drwydded am dri mis.—Rhoddwyd rbybudd yr apelid yn erbyn y ddyfarniad. Cyhuddwyd William Francis Holcroft, Drayton House, Stourbridge, o yru ei Fodur yn gyflymach nag oedd caniatad ar Medi 6ed. —Addefwyd y trosedd, a dirwywyd i bunt a'r costau. Ralph Birket Lines, Englefield, Queen's Road, Llandudno, a gyhuddwyd o yru yn gyflymach nag oedd caniatad ar Medi 6ed.- Addefwyd y trcsedd, a dirwywyd i bunt a'r costau. John Burton, 11, Pheobe Ann Street, Lerpwl, a gyhuddwyd o yru dros y cyflymder caniataol ar Medi 6.-Addefwyd, a dirwywyd i bunt a'r costau. William Edward Watson, The Gables, Colwyn Bay, a gyhuddwyd o yru yn rhy gyflym trwy dref Llanrwst Medi 6, ac o fethu dangos ei drwydded pan ofynwyd am dani.— Addefwyd y cyhuddiadau, a dirwywyd ef i bunt a'r costau am y trosedd cyntaf, a thynwyd y cyhuddiad arall yn ol gyda chydsyniad y Faingc.
0 GADAIR YNYS FADOG,I
0 GADAIR YNYS FADOG, TYFU "BULBS.Os derfydd am y fasnach lechi, mae gobaith am fasnach arall yn Mhorth- madog. Os gwywa y naill fasnach hyderir y "blodeua" y Hall. Yn y Traeth, dydd Sadwrn, p!anwyd chwech o bulbs gan Mrs. Lloyd George ar gais pwyllgor gwelliantau y dref. Wrth wneyd hyny dywedodd y gellid gwneyd masnach eang mewn tyfu blodau. Cynghorasai y diweddar Mr. W. E. Gladstone ffermwyr y wlad feithrin ffrwythau a blodau, gyda'r canlyniad fod llawer o fferm- wyr yn awr yn gwneyd mavy o arian oddiwrth hyny nac oeddynt wrth dyfu ydau.-Dywed- odd Cadben J. R. Pritchard y bwriedid planu canoedd o'r "bulbs" yn y Post a Morfa Bychan. Anfonid gwerth miloedd o bunau o flodau o Holland i Loegr bob blwyddyn. Pabam nad ellid gwneyd masnach gyffelyb yn Mhorthmadoc ? Diolchwyd i Mrs. Lloyd am ei gwasanaeth caredig ar gynygiad Mr. J. Davies a chefnogiad Mr. J. R. Owen. Y LLONGAU.—Ychydig iawn o longav sydd yn y porthladd y dyddiau hyn. Y "Charabanc."—Ni phrofodd y "Char abanc" modur redai rhwng Pwllheli, Tre- madoc, a Beddgelert yn llwyddiant. Aeth teimlad yr ardaloedd yn ei erbyn trwy ei fod yn ymyryd a gwaith cerbydwyr Ileol. YMRYSONFA CWN DEFAID.-Dydd Sadwrn cynhaliwyd yn y Traeth ymrysonfa cwn defaid. Yr enillwyr oeddynt:—Dosbarth laf. 1, T. Roberts, Llantysilio, Llangollen; 2, J. Moses, Brogyntyn; 3, Edward Evans, Brynbriglas, Bala. Dosbarth 2il. 1, R. Williams, Traws- fynyddd 2, Wm. Jones, Plas Nant, Corwen 3, E. Evans, Bala. Dosbarth 3ydd. 1, W. Jones, Brynrodyn, Ffestiniog 2, T. Roberts, Llangollen (yr hwn hefyd gafodd y wobr am feddu y llywodraeth oreu ar ei gi) 3, G. R. Roberts, Llanllyfni; 4, W. Owen, Llansannan. Cafwyd hefyd cystadleuaeth cneifio defaid.— 1, Hugh Evans, Cwrt, Trawsfynydd; 2, E. Jones, Penystryd, eto; 3, R. Roberts, Hafod If an, Ysbytty. MARWOLAETH CADBEN LLONG.-Yr wyth- nos ddiweddaf, claddwyd Cadben Evan Jones, Henblas, Pwllheli. Efe oedd ysgrifenydd Ileol bywydfadau Criccieth, Pwllheli, Aber- soch a Phorthdinlleyn. Hen lane ydoedd. Ei bleser oedd materion y mor. Yr oedd yn ddyn hynaws, o dymer ragorol, ac yn hollol unplyg yn ei eiriau a'i ymddygiad, Bu ei rieni yn cadw y Llythyrdy yn Mhwllheli am lawer o flynyddoedd, Cadben Jones, y Post yr arferid ei alw. Yr oedd yn ymhyfrydu yn y gwaith o ofalu am y bywydfadau. Anhawdd fydd cael ei gystal i'r gwaith hwnw. VS/VA/\A/VVS-AAA/SAAAAA/*WAAAAAA/VVV
Adolyjgiacl y Wasg.i
Adolyjgiacl y Wasg. CYMRU.—Yr ydym yn croesawu Cymru mis Medi yn galonog iawn, a chawsom bleser gwirioneddol wrth ddarllen yr ysgrifau a gynwysa. Ceir darlun o Ben Bowen ar y dechreu, a dilynir gydag ysgrif ddarllenadwy "Llcnorion, a Llyfrau, Llanllenorion, Rhys Llwyn Du (gan y cyfaill doniol Elis o'r Nant), Owen Jero (gan Elfyn)," a lluaws o rai eraill. Ysgrif gref yw eiddo Iolo Caernarfon ar Gymeriad Moesol," ac y mae yn nodwedd- iadol o'i hawdwr galluog. Brithir y rhifyn a darnau barddonol chwaethus, ac a nifer dda o ddarluniau. M.A.B. Daeth rhifyn Awst-Medi o'r cyhoeddiad hwn i law: rhifyn Cymreig ydyw yn cynwys ysgrifau gan Mri. O. M. Edwards, Ernest Rhys ac eraill. Testyn Mr. Edwards yw "Cymru-Gwlad y Mynyddau," ac "0 Adelphi i Aberdaron" sydd gan Mr. Rhys. Y mae ein dyIed feI Cenedl yn fawr i Mr. T. Fisher Unwin, y cyhoeddwr anturiaethus am ddwyn allan y llyfrau a wna ar faterion Cymreig.
Beirniadaeth -Seindorf -OakeleyI…
Beirniadaeth Seindorf Oakeley yn Llangollen. Wele Feirniadaeth Mr. J. 0. Shepherd ar chwareuad Seindorf Oakeley yn Llangollen. Drwg genym na chaniata gofod i ni roddi ei feirniadaeth ar yr oil o'r Seindyrf. Testpiece: "TUTTI IN MASCHERA" I (R. S. and Co.) No. 1 (Royal Oakeley: Mr. J. E. Fidler).- Allegro A good start, well in tune and good tone and style; all well played cornet good in cadenza. Andante Cornet and rest of sex- tette excellent, the flugel in particular cres c dim. beautifully treated really fine all-round playing; a nice quiet finish. Allegro vivance: Fine playing, the change into G flat well in tune. Andante: Not precise at the opening; trombone and cornet good in duo, and well accompanied; beautiful all-round playing, but intonation failed at figure 28. Allegretto: Euph. very nice here, and accompts. equally good. Allo. Good, euph. cadenza also. Figure 32 Fine, dashing playing; chromatic run on cornet all righi; basses very neat in runs a brilliant finish to a really fine all-round performance. An artistic reading of the selection. (Second prize, J12. 1'- MARCH. I No. 4 (Royal Oakeley).—Well in tune, good tone and style all going well. A really fine all-round performance, but I prefer No. 3, and I like their march best.
IArddangosfa y Diwydianau…
I Arddangosfa y Diwydianau Cym- reig yn Llandudno. Cynhaliwyd Arddangosfa Cymdeithas y Di- wydiadau Cymreig yn L'andudno. Medi 10, 11, 12. Hwyrach mai nid anfuddiol fyddai ceisio egluro beth ydyw amcan y Gymdeithas uchod. Fe'i ffurfiwyd er's tua dengmlynedd yn ol gyda yr amcan o ddadblygu a chefnogi y Diwydianau Cymreig, trwy ddarparu i'r gwneithurwyr bat- rymau da, etc, a'u cynorthwyo i ddod o hyd i well marchnad i'w nwyddau. Disgwylir yn y dyfodol y bydd o rhyw ddefnydd tuag at rwystro pobl y wlad i bentyru i'r dinasoedd mawrion, trwy roddi waith cartref. Bwriada hefyd feithrin yr hen batryma Cededlaethol Cymreig a Gweadwaith llawer o ba rai sydd wedi bod ar ddarfod am danynt y blynyddoedd diweddaf, Ymegni y Gymdeithas i gyr- haedd yr amcanion uchod trwy ffqrfio cang- henau, ac ymrestru Nawddwyr, Stewards, Cyfranogwyr, ac aelodau trwy sefydlu ystor- feydd er gwerthiant y nwyddau, trwy gynal yn achlysurol Arddangosiadau ac Arwerthiant, trwy gefnogi Dosbarthiadau lie mae ceHau cain yn cael eu dysgu a'i hymarfer. A ganlyn sydd restr o'r hyn mae yn ei gefuogi. Weav- ing, Knitting, Embroidery, Lace, Crotchet, Needlework, Wrought Iron and Metal work, Wood Carving. Turning, Inlaying, Pottery, China, Enamelling, Photography, Bookbuild- ing, Leather work, Basket and straw plaiting. Cymerir hefyd archebion am Gaws Cymreig, Mel, Ymenyn, Fowls, ac Wyau, Eleni cymerodd yr arddangosfa le yn Llandudno, gan fod yno gymaint o bobl o bob rhan o Brydain Fawr, a chyfleusderau teithiol mor hwylus. Dyma yr Arddangosfa Genedlaethol gyntaf gawsom ni yn y Gogledd ac yn ffort- ynus iawn trodd allan yn llwyddiant perfiaith -er gwaethaf y tywydd ystormus. Agorwyd hi y diwrnod cyntaf gan y Grand Duke Michael o Rwssia. Yr ail ddiwrnod gan Lady Eva Wyndham Nuin, S. Wales, a'r trydydd diwrnod gan Lady Naylor Leyland. Yr oedd y pwyllgor yn Llandudno wedi ei hysbysebu yn bur dda, ac maent yn haeddu eu canmol am wneud eu gwaith mor drwyadl. Buont yn ffortunus iawn yn eu detholiad o Ysgrifenydd Mygedol, sef Mr. J. Jones-Marks ac yr oedd cyfrifoldeb mawr iawn yn disgyn arno. Clywais ef yn dweyd ei fod yn ddigon i ladd pedwar o ddynion cyffredin, ond trwy ei fod yn dwrna, mae yn fyw. Derbyniwyd o ariah wrth y drws tloo yn bur agos; a gwerth- wyd yn ystod yr Arddangosfa werth [1000. Er pan gychwynwyd y gymdeithas mae nwyddau gwerth c28,000 wedi cael newid dwy- law. Yr oedd y cynyrchion yn rhagorol yn mhob ystyr, ac yn haeddu y gefnogaeth lwyraf. Cedwid y neuadd yn hynod o fywiog gan yr Euterpean Orchestra yn cael eu harwain gan y Misses Scott, Lerpwl. Daeth 9 o wobreuon cyntaf i Sir Feirionydd, ac o'r 9 daeth 4 i'r dref hon, sef i Jacob Jones & Son. 1st ar Ladies dress length in stripe flannel. 1st ar Ladies coat and skirt one colour. 1st ar ddafedd sana at Fancy Stockings, ac hefyd 1st ar Linsey Skirting. Cynhelir yr Arddangosfa nesaf yn Llundain yn mis Mawrth, 1909 ac fe geir pob manylion gan ein hysgrifenyddes glodwiw Miss K. A. Patchitt, Allt Fawr, Barrpouth. I\AAAAAAAAAA.A.AA.AAA.AAA.A At. A A A AAA.
OYNGOR GWLEDIG LLANRWST,
OYNGOR GWLEDIG LLANRWST, Cyfarfu y Cyngor prydnawn ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol y. Parch. H. Rawson Williams (Cadeirydd), John Davies (Is-gadeirydd), John Davies (Gwytherin), William Williams, Edward Edwards, David Owen, Robert Williams, R. R. Owen (Clerc), a Maurice Roberts (Arolygydd). Y Clerc a roddodd adroddiad manwl o'r trefniant oedd at ddewis olynydd i Dr. Frazer fel swyddog Meddygol. Y swm oeddynt hwy yn arferol a'i dalu at y cyflog fyddai £ 29, ond bydd yn awr yn £ 35. Nis gellid dadgysylltu a'r Cyd-bwyllgor hyd 1910. Yr oedd Dr. Tarvis wedi ei benodi yn Swyddog Meddygol i'r ysgolion yn ochr Sir Ddinbych. Ar gynygiad yr Is-gadeirydd ail ddewisiwyd Mr. M. Roberts yn Arolygydd, a diolchodd yntau i'r Cyngor am hyny. Anfonodd y Swyddog Meddygol ei adroddiad ar y Carthffosydd perthynol i Westy Talycafn, ac nad oedd unrhyw achos i gwyn yno yn awr. Teimlai y Cyngor yn foddhaus cael diwedd ar y mater hwn'Jsydd wedi llusgo cyhyd, a pheri y fath drafferth iddynt. Ganwyd 11 yn ystod mis Awst yn y Dosbarth a bu farw pedwar. Ystyrid yr Adroddiad yn un boddhaol iawn ar gyfrif nifer bychan y marwolaethau. Gan fod cynifer o blant yn cwyno o dan y pas yn Llanddewi a Llangernyw, pasiwyd ar gyfarwyddyd Dr. Travis i gau yr ysgolion yno am dair wythnos. Hysbyswyd fod Mr. J. L. Edwards, Wrex- ham, wedi ei benodi yn Arolygydd y Llaw- weithfeydd yn lie Mr. Hilditch. Wedi trafodaeth faith, pasiwyd i ddodi penor" (chwedl Mr. Robert Williams) yn lie camfa y Dryll, Eglwysbach. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Milwriad Higson a'i gyfreithiwr yn nghylch y L!wybrau yn Llanddoged, a phasiodd y Cyngor i anfon rhybudd ato i agor y llwybrau cyhoeddus i'w ffurf cyntefig o fewn 28 niwrnod.
BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST.
BWRDD aWARCHEIDWAID I LLANRWST. Cyfarfu y Gwarcheidwaid canlynol ddydd Mawrth, Mri. John Roberts (Cadeirydd); D. G, Jones (Is-Gadeirydd) O. Lloyd Jones; H. Rawson Williams; John Hughes T. T. Roberts; J. Llewelyn Richards; Evan Williams John Berry John Davies (Bryniog); William Williams; John Davies (Gwytherin); Edward Edwards; W. G. Jones Edward Roberts E. W. Roberts Robert Williams; David Owen; H. R. Williams (Arolygydd y Llywodraetb); R. R. Owen (Clerc) Thomas Hughes, (Clerc Cynorthwyol); O. Evans-Jones a T. C. Roberts (Swyddogion Elusenol). Sylwadau yr Arolygydd. Gwnaeth Mr. Williams sylwadau bron ar yr holl achosion a ddaeth o flaen y Bwrdd, a plbwysodd ar y Bwrdd i fod yn fwy penderfynol gyda'r rhai y credant mai y Ty fyddai oreu iddynt. Ni ddylent adael i'r tlodion eu gorch- fygu. Yr oedd yn cymell yn gryf i'r plant gael eu hanfon i gartref: yr oedd cartref da yn Bontnewydd ac yn Nghaernarfon. Caent bob gofal a chyfarwyddyd mewn lie felly, a chychwyniad da mewn bywyd. Bil trwy y Ty ac yr oedd yn dra boddhaol ar bobpeth yn y lie a r modd ei cedwid. Am sefyllfa yr Undeb, yr oedd yn lled dda. Carai gael mewn o amser i edrych i mewn i'r achosion lle'r rhoddid elusen cyn myned i feirniadu dim, ond gwelai fod lleihad yn nifer y tlodion, tra yr oedd swm yr elusen yn codi. Efallai mai achosion o wir angen oedd y rhai byn. Yr oedd yn dda ganddo weled eu bod yn rhoddi amser dyladwy i ystyried bob achos ddeuai ger eu bron. Eu diffyg oedd gweithredu yn y fath fodd fel ag i rwystro pobl i ddod ar eich gofyn ac felly eu hatal i fyned yn dlodion. Dylent beidio ofni cynyg y Ty mewn achosion y credent mai y Ty fyddai oreu ac wedi pasio i rai ddod i'r Ty glynu wrth y penderfyniad fel na byddo i'r tlodion eu gbrchfygu a thrwy hyny wneyd cam a hwy eu hunain ac a'r Bwrdd. Hen ddadl yn erbyn symud rhai i'r Ty ydoedd fod yn reeyn symud yr hen o'i gartref; ond teimlad yn unig oedd hyny gan fod pobl ag eiddo ganddynt yn gorfod gadael eu hen gartrefi yn amI. Eu diffyg mawr oedd peidio gweithio yn fanwl wrth gynllun. Gwyddai am rai Undebau na chaffai neb oedd yn cyffwrdd diferyn o ddiodydd ddimeu o elusen a rhai eraill y cynygid y Ty yn mhob achos yr oedd hyny yn oreu, a'r canlyniad oedd Ilai o dlodion. Tra mewn undebau eraill yr oeddid yn llac a dibenderfyniad a chynyddai y Tlodion ar bob llaw.—Y Cadeirydd a ddywedodd fod Mr. Williams yn sicr o fod wedi taraw ar eu man gwan fel Bwrdd cerid hwy yn ormodol gan deimlad ar draul esgeuluso edrych ar yr hyn sydd gyfiawn. Diolchai dros y Bwrdd i Mr. Williams am ei gyfarwyddiadau gwerthfawr, Llythyrau. Anfonodd Dr. W. Pierce, Southern, i ddiolch drosto ei hun a'i frawd am gydymdeimlad y Bwrdd a hwy yn eu profedigaeth ogolli eu tad. Dr. W. Michael Williams a anfonodd i hys- bysu ei fod ar symud i Sanatorium er lies ei iechyd, a bod Dr J. D. Jones, wedi dod i'w le yn ystod ei absenoldeb.—Pasiwyd i dderbyn Dr. Jones fel Diprwy Dr. Williams, a dymuno adferiad llwyr i'r meddyg poblogaidd. Daeth gair oddiwrth Gwmni y Climax: off- eryn diffodd tan, yn egluro ei ragoriaetbau.- Gohiriwyd gwneyd dim yn mhellach am fis. Yr oedd Mr. Evan Jones, Tyllwyd, Bala,' wedi bod yn ymofyn un o'r bechgyn oedd yn y Ty, a bwriadai ei fabwysladu.—Gohiriwyd caniatau i'r bachgen arall sydd yn y Ty gael myned allan hyd oni wneid ymholiadau pellacb. Yr oedd Bwrdd y Llywodraeth Leol wedi anfon gair yn rhoddi caniatad i wario £ 43 7s Oc ar awyru y Ty. Daeth gair o Fwrdd y LIywodraeth Leol yn hysbysu fod merched priod i rieni tlodion yn rhwym o gyfranu at eu cynal os bydd gan- ddynt foddion anibynol ar eu gwyr. Pasiwyd i gyfranu 10/- at draul Cynhadledd Deddf y Tlodion gynhelir yn Mangor Medi 22 a 23. Yr oedd yr alwad olaf o'r ddau Gyngor Sirol yn ddyledus: Arfon £ 573 12s 8c, a Dinbych £ 818 17s 6c, a phasiwyd i'w talu. Adroddiad y Meistr. Y Meistr a hysbysodd i un John Meitchel, Tramp, ddod i'r Ty Awst 18, wedi tori ei goes yn Ngwaith Dolgarrog.-Awst 25, daeth Wm. Roberts (Wil Dogell), Llanrwst, i'r Ty.—Bu i Dramp fu yn y Ty falu y gell a'r ordd, ac yna dori 26 o wydrau ffenestr: niwed o 27/ Awd ag ef o flaen y Faingc, y rhai a'i traddodasant i dri mis o garchar gyda llatur caled.—Diolch- wyd i Mrs. Ashley a Mr. Isgoed Jones am. anfon cyhoeddiadau wythnosol i'r Ty. Yr llusenau a'r Tlodion. Nifer v tlodion yn y Ty 21 ar gyfer 28: llai o 7. Nifer y tlodion yn derbyn elusen ydoedd 287 ar gyfer 289: llai o 2. Talwyd oelusenau yn ystod y mis, £ 175 Is 6c, ar gyfer £178 16s lc lleihad o £ 3 15s 5c. Yn llaw y Trysor- ydd £ 602 19s 3c, biliau i'w talu heddyw £ 1483 10s 2c, yn gadael gweddill yn ddyledus c880 10s 10c. Dyledus oddiwrth y gwahanol blwyfi £ 1930 10s Dc. Addysg i'r Tlodion. Gwnaeth Miss Davies o Gymdeithas y Deill- ion, Bangor, gais am i David Roberts, dyn dali o Gapel Garmon, gael myned am gwrs a Addysg. 2/6 fyddai y draul wythnos, fel na chostiai ddim ond chwech cheiniog yn rhagor. -Cydsyniwyd a'r cais, Gofynodd y Meistr am seibiant o bedwar diwrnod, a chaniatawyd y cais.
IGWYTHERIN. - ....... - -…
GWYTHERIN. Cynnaawyd y Cyngor Plwyfol nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. Robert Jones (Cadeirydd), Owen Jones, Ellis Wiliiams, J. Jones, a R. ET Thomas (Clerc).-Y Cadeirydd a ddywedodd iddo fod yn analluog i drefnu i gael Darlithoedd ar Ddeddf Manddaliadau. ond disgwylid gallu Ilwyddo i gael rhai yn ystod mis Tachwedd pryd y deuai Mr. E. Davies-Jones atynt.—Erfyniai y Postfeistr Cyffredinol am sicrwydd o £ 7 10s 8c a berthynas i'r Pellseinydd.
TRAWSFYNYDD.
TRAWSFYNYDD. CYNHADLEIDD.-Cynhaliodd y Bedyddwyr Albanaidd eu Cynhadledd Flynyddol yn ngbapel Seion, Trawsfynydd, dydd Llun diweddaf. Y Llywydd eleni ydoedd Mr. D. Davies, Rhos, yr hwn a draddododd anerchiad amserol o'r Gadair. Daeth cynrychiolaeth dda o'r holl eglwysi, a thrafodwyd luaws o faterion perthynol i'r cyfundeb. Cymerodd yr eglwys fantais ar yr achlysur i gynal ei chyfarfod pregethu, pryd y pregethwyd gan Mri. Thomas Hughes, Rhos, James Jones,. Rhos, a J. D. Davies, Blaenau Ffestinlog.
. - ...............- ....-…
V v MAENTWROG. DARLITH. Nos Sadwrn diweddaf, yn nghapel Seion (w.), traddododd y Parch. P. Jones-Roberts, Blaenau Festiniog ei ddarlith ddyddorol ar Gipsy Smith." Yr oedd y capel yn orlawn o wrandawyr a chanmolid y ddarlith gan bawb o honynt. Diau y bydd gwybod hanes yr efengylwr hynod uchod yn, ysprydiaeth fyw i lawer o'r gwrandawyr. Y cadeirydd oedd Mr. Richard Jones, Salem Cottage, Rhiw, yr hwn a wnaeth ei waith yn ddeheuig iawn.—GOH.
- -CAPEL CURIG.
CAPEL CURIG. Cyfarfu y Cyngor Plwyf nos Sadwrn pryd yr oedd yn bresenol Mri. John Griffith, John,, Morris, G. Roberts, Rhys Hughes, William Griffith, J. R.Hughes, T. H. Hughes, a R. E. Thomas (Clerc).-Gofynodd Mr. Herbert Hughes i'r Cyngor wneyd trefniadau i'w gyf- arfod wrth Ysgol y Cyngor o berthynas i agor llwybr neillduol.-Rhoddodd Mr. G. Roberts rybudd o gynygiad i Bontbren gael ei gosod dros y Llygwy gyferbyn a Gorphwysfa, a phas- iwyd i'r Clerc ofyn ceniatad perchenog y tir.— Pasiwyd i'r Cadeirydd a'r Clerc gynrychioli y Cyngor yn y Gynhadledd gynhelir yn Nghaer- narfon o berthynas i'r Diwaith.
[No title]
Raphael Tuck's Birthday Cards and Picture Post Cards. Perfection of Art in all variety ot Subjects. Id each.—RHEDEGYDD OFFPCE.