Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

NODION O'R CYLCH.

-Dwy Ghwarel. I

[No title]

COR Y GARN AC EISTEDDFOD_I…

- - -TYLOTTY - -LLANRWST.…

ILLANRWST."v

- ...... ,..- .... "......…

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. SPECIAL LINE—SPECIAL OFFER. Egg Plum only 2d. per lb. Prolific, Czar and all the best kind, only 3d. per lb., at E. B. Jones & Co., Blaenau Festiniog. NOFIEL.-Gellir cael y Nofel newydd bob- logaidd Arwriaeth John Anthony, neu Ramant Bywyd Cymro" gan Lyfrwerthwyr y dref. Myned pawb olwg ar y llyfr hynod hwn. YN DARLiTHio.—Nos Sadwrn diweddaf, yr oedd y Parch. Peter Jones-Roberts yn darlithio yn Nghapel y Wesleyaid, Maentwrog. Ei destyn ydoedd "Gipsy Smith." CALFARIA.—Y Sabboth diweddaf, cynhal- iwyd cyfarfod pregethu blyiiyddol Calfaria. Yr efengylwyr eleni oeddynt y Parchn. W. S. Jones, Llwynpia; a J. Lee Davies, Brynaman. Traethant y gwirioneddau gyda bias. Am 2 prydnawn Sadwrn, cynhaliwyd Cyfeillach, a siaradwyd ynddi gan y gweinidogion uchod. Y SiciNrORF. Talodd Seindorf Arian Oakeley ymweliad a Llan Ffestiniog, pryd- nawn Sadwrn diweddaf. Mawr ganmolir eu chwareuadau proffeswrol gan yr ardalwyr. BLWYDD-DAL I'R OEDRANUS.—Bu yr Is- bwyllgor lleol y cylch hwn yn eistedd dydd Iau diweddaf yn y County Buildings, i ystyried y trefniadau at gario allan ddarpariaethau y Ddeddf newydd uchod. Y FYDDIN DIRIOGAETHOL.—Galwyd i fyny ein Catrawd Leol nos Sadwrn diweddaf, am Ymarferiad Arbenig (Special Drill), yr hon a gymerodd le yn Hen Ysgoldy Dolgarregddu. DAMWAIN. Dydd Mawrth, bu i Mrs. Elizabeth Williams, priod Mr. William Williams, 2, Glan'rafon Terrace, Tanygrisiau, gyfarfod a damwain erchyll i'w braich, wrth syrthio ar gareg yn y drws. Gweinyddwyd arni gan Mr. Thomas Lewis, Gwyndy. SEION.Deallwn mai y Parch. R. Parry, Aberdulais, un o gyn-weinidogion yr Eglwys, fydd yn gwasanaethu yn Nghapel Seion, y Sabboth nesaf. CANTATA.—Wythnos i nos Iau, bydd Cor o dan arweiniad Mr. J. Lloyd Edwards, A.c., yn perfformio Goruchafiaeth Joseph yn y Neu- add. Cymerir y gadair gan Dr. Jones, Isallt. Bydd yn wledd i glywed y Gantata hon. PLAID LLAFUR.—Y mae Plaid Annibynol Llafur yn gwneyd paratoadau at Ymgyrch o blaid y mudiad yn Ngogledd Cymru. Yr wythnos nesaf, bydd Mr. James Parker, yr Aelod Llafur dros Halifax, yn anerch nifer o gyfarfodydd,—y Sabboth yn Wrecsam dydd LIun yn y Rhyl; dydd Mawrth yn Blaenau Ffestiniog; dydd Mercher yn Llandudno a dydd Iau yn Bangor. CANU PENILLION.—Yn Eisteddfod Llan- erchymedd, ddydd Gwener, enillodd Mr. J. D. Jones (loan Dwyryd) y Bathodyn Aur am ddatganu Penillion. Pan gofid ei fod yn nghartref Datganwyr gyda'r Tanau y mae y fuddugoliaeth hon yn un y gall fod yn falch o honi. Llongyfarchwn ef yn fawr ar ei lwydd. MARWOLAETH SYDYN.—Nos Wener, yn hynod sydyn pan ar ymweliad a'r Rbingyll Lloyd, bu farw Mrs. Elizabeth Jones, anwyl briod Mr. Thomas Jones, o Fanceinion. Nid oedd Mrs. Jones ond 46 mlwydd oed, a chydymdeimlwn a'i phriod, a Mr. a Mrs. Lloyd yn ngwyneb y brofedigaeth sydyn. CYFARFOD YSGOL.—Cynhaliwyd y cyfarfod ysgol y Sabboth diweddaf yn nghapel y Tabernaci, o dan lywyddiaeih Mr. Thomas J. Roberts, Rhiw. Yr oedd y cyfarfod cyntaf yn gael ei gynal nos Wener yn y Garregddu. Am 9 boreu Sul, holwyd Swyddogion y ddwy Ysgol-Trefeini a Tabernacl, gan Mr. E, E. Roberts, Gwylfa. Am 10, holwyd y Plant o'r Safon IV. hyd y IX. yn Hanes Noah. Am 11, agorwyd y mater, sef Y pwysigrwydd o bresenoli ein hunain yn gyson yn yr Ysgol Sul," gan Mr. Owen R. Owen, Maenofferen. Am 2, Holwyd y Dosbarth Canol yn hanes y "Gweddnevádhd," a'r plant lIeiaf yn y vi. benod o'r Rhodd Mam. Am 6, holwyd y Dosbarth Hynaf yn Matthew, xvi. benod, o'r 13—28 o'r adnodau. Yn absenoldeb y Parch. John Owen, M.A., yr holwyddorwr appwynt- iedig, cymerwyd ei le gan y Parch. R. R. Morris. Yr oedd yr hoii a'r ateb yn un o'r pethau goreu fwynhawyd yn ystod y dydd. Ar ddiwedd yr oedfa hwyrol, bu i Gor yr Eglwys, o dan arweiniad galluog Mr. Lewis Jones, Frondeg, ganu y Cydgan, Efe a Ddaw" (T. Price); tra y dilynai Miss Mary I Lloyd Edwards, Gelli, yn feistrolgar ar yr Organ. Cafwyd cyfarfod ysgol rhagorol drwyddo draw. YR YSGOL SIROL.-Cyfarfu Rheolwyr yr Ysgol Sirol prydnawn ddydd Gwener, pryd yr oedd yn bresenol Mri. John Lloyd Jones (Cadeirydd), W. P. Evans, R. Walker Davies, B A., Miss Brymer. Mrs. Jones, Isallt; Miss Jones, Parch. T. H. Hughes, Dr. R. D. Evans, F. P. Dodd, M.A. (Prif- Athraw), ac R. O. Davies (Clerc). Awd trwy restr y rhai oeddynt yn gofyn am y Pierce's Grants, a cbaed nad oedd'ond Mey- rick Fughe, Erwcoed, yn dod i fyny a'r telerau gosodedig yn nglyn a hwy, a phasiwyd i'w argymell i'r Ymddiriedoiwyr. Penodwyd pwyllgor o dri:—Mr. Walker Davies, Dr. Evans, a Miss Brymer i ystyried beth ellid ei wneyd gyda darparu He eistedd yn y Laboratory pan oeddid dan orfodaeth defn- yddic y lie yn Classroom. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr. Haydn Jones yn hysbysu fod Miss Elsie Vaughan 1 Hoskins wedi cyraedd y He uwchaf yn y Sir gyda'r Arholiadau, a bod Ysgoloriaeth o £ 10 yn dod iddi. Caniatawyd traul teithio i ferch Mr. Owen Tones, Croesor. Y Prif-athraw a hysbysodd y gellid ad- newyddu ysgoloriaethau 12, Yr oedd 21 yn eu dal yn bresenol, ac nis gallai argymell peidio adnewyddu ond rhyw 2 o honynt.—Gadawyd heb benderfynu ar y nifer hyd nes y cyferfydd y Cyngor Dinesig.—Cyfarfu y Cyngor, ond aeth yn rhy hwyr i'r pwyllgor eistedd, ac felly bu raid galw y Pwyllgor nos Lun. Pasiwyd i dalu £ 3 yr un i'r rhai oeddynt wedi eu henill. A. &

I---TREFRIW.

PENRHYNDEUDRAETH.

ROE WEN.

Advertising

TANYGRISIAU --I

Family Notices