Hide Articles List

13 articles on this Page

NODION O'R CYLCH.

News
Cite
Share

NODION O'R CYLCH. Y MAE y Moduriau yn brysur fyned yn bla, bron can waethed a'r cymysg-bla gynt, ar els. gwld, ac nid oes dim ond braich gref Meinriau Ynadol a ddug y nifer Iuosocaf o'r Modnrwyr i'w pwyll. Nid yw dirwyo yn tycio dim, a rhaidd fydd carcharu cyn y rhoddir terfyn ar y gyrwyr gwallgcfus sydd yn eu mysg. Yr oedd chwech achos yn Llys Llan- rwst ddydd Llun, a dan yn y Blaenau ddydd Iau, Yn yr achos cyntaf yn Llanrwst yr oedd boncddwr ieusngc yn cael si gyhuddo o yru i beryglu bywyd y cyhoedd. Gwnaed yn hollol amlwg nad oedd yn gyru yn gyflym, ond fod modur arall yn pasio mewn lie neiliduol, a bod boneddiges ieuangc yn digwydd bod yn y lie hwnw ar ochr y ffordd. Am deilyngdod yr achos ni ddywedwn air, gan mai y Faingc oedd yr awdurdod i benderfynu hyn ar sail y tyst- iolaethau oedd o'u blaen; ac yn mhellach, deaUwn fod apel i'w wneyd yn erbyn eu dyf- arniad. Ein hamcan yn cyfeirio at yr achos yw hyn :-Yr oedd Miss Petit, Bodhyfryd, yn dyst,—yr unig dyst, o'r trosedd honedig. Pobpeth yn dda. dangosodd ei bod yn fonedd- igs mewn gwirioned'd ac nidmewn enw, a rhoddodd ei thystiolaeth yn glir a diamwys. Ond paham yr oedd eisiau i'r Milwriad John- stone, Cadeirydd y Faingc, godi o'i sedd yn nghanol yr Ynadon, a myned trwy eu canol i gyrchu Miss Petit o ystafell gyfrinachol yr Ynadon, a dod a hi i mewn trwy ganol y Faingc i'r tyst-Ie, a hithau fyned yn ol pan orphenodd dystio trwy yr un ffoidd i'r un ys- tafell ? Ni ddylasai yr un ynad symud oddiar ei eisteddle i gyrchu yr un tyst gan nad pwy ydoedd, gan fod yr Uwch-Arolygydd a'i swyddogicn yn y Llys i ofalu am y tystion. Nid ydym ar un cyfrif yn awgrymu fod dim o'r fath wedi dylanwadu ar y Faingc yn eu dyf- arniad, ond yr oedd yn beth na welsom erioed yn digwydd mewn unrhyw Llys arall yn ystod ein profiad cyhoeddus o'r Llysoedd am gyfnod o dros ddeng mlynedd a'r hugain. Llys i farnu achosion heb adnabod personau yn dystion na phleidiau yw yr un Ynadol, a drwg genym i'r peth uchod gymeryd lie yn Llys Llanrwst ddydd LIun. YN nghyfarfod Rheolwyr Addysg Dosbarth Ffestiniog ddydd Iau, bu trafodaeth faith ar adfer y Llechi ysgrifenu i'r Ysgolion yn lie papur. Y mae Cyngor Sirol Llundain wedi pasio eu cael yn ol ar gyfrif eu bod yn iachach a bod y draul yn llai. Cafwyd profion diamheuol fod papur yn andwyol:i olwg plant gyda liygaid gweiniaid, a bod y llechan las yn esmwyth i'r liygaid ac ateb pob pwrpas yn llawn gwell. Pasiwyd penderfyniad cryf i'w anfon i'r Pwyllgor Sirol i argymell arnynt basic i gael llechi eto i'r Ysgolion. Gan fod costau y Sir gydag Addysg yn swm mor fawr, diau y rhoddir sylw dyladwy i'r awgrym, ac y cawa weled y llechen las mewn urddas etc yn holl Ysgolion y Sir. YN yr un cyfarfod bu yftyriaeth ddwys uwch- ben y ffaith fod y Dosbarth yn colli rhai o'i Athrawon goreu oherwydd y cyflogau. Prof- wyd fod cyfartaledd y cyflogau ar gyfer pob plentyn yn Ysgolion y Sir yn uwch na'r Siroedd cy!chysc!» £ ond aad eedd.y Raddfa cyflogau yn un gyfartal a theg, a'r canlyriidd yw fad Ath- rawon yn symud i leoedd eraill lie y cant gyflog cyfartal i werth eu gwasanaeth. Colled arbenig i Blaenau Ffestiniog fu symudiad mwy nag un o'r rhai aethant ymaitb yn ddiweddar. Addewir gwell trefn, ond,gall y peth ddod yn rhy ddiweddar oni ymysgydwir yn bur fuan. TALODD Mr. R. H. Williams, Arolygydd y Llywpdraeth gyda Deddf y Tlodion ymweliad a Bwrdd Llanrwst ddydd Mawrth. Peth newydd yw gweled Swyddog o'r fath yn eistedd yn y Bwrdd i wrandaw ystyriaeth o bob achos sydd ar y llyfrau. Gofynai am reswm dros fod elusen o gwbl yn cael ei ganiatau mewn amryw: aShosion, pabam can lleiad o elusen mewn achosian eraill, a phabam cymaint yn y lleill. Rhoddodd y Gwarcheidwaid eu rhesymau, ond mewn lluaws o achosion prof- wyd yn glir mai teimlad yn fwy na barn deg oedd yn rheoli wrth basio yr elusenau. Bu achosion y rhai oeddynt yn cael elusen ac yn cadw gwartheg o dan sylw, a chyfarwyddwyd fod yn rhaid gwneyd i ffwrdd a'r gwartheg neu ar elusen. Teimlad cyffredinol y Bwrdd oadd, fod syhvadau Mr. Williams yn agoriad Ilygad iddynt, a byddent yn sicr o facteisio arnynt. Mae ganddo ef fantais neillduol i gyflawni ei Iswydd bwysig gan iddo fod yn Archwyliwr o dan y Llywodraeth am bymtbeng mlynedd cyn cael ei benodi iddo. Heblaw byny, y mae yn gymro twmn-galon, ac yn siaradwr Cymraeg llitinig.

-Dwy Ghwarel. I

[No title]

COR Y GARN AC EISTEDDFOD_I…

- - -TYLOTTY - -LLANRWST.…

ILLANRWST."v

- ...... ,..- .... "......…

I---TREFRIW.

PENRHYNDEUDRAETH.

ROE WEN.

Advertising

TANYGRISIAU --I

Family Notices