Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

-CYNGOR -DINESIG -LLANRWST.…

\^vwwvvwwwvwvwvvwvw BWRDD…

News
Cite
Share

\^vwwvvwwwvwvwvvwvw BWRDD ADDYSG DOSBARTH FFESTINIOG. LLECHI A'R ATHRAWON. Cyfarfu y Rheolwyr Canlynol yn yr Adeiladau Sirol, Blaenau Ffestiniog, prydnawn ddydd Iau, Mri. J. Lloyd Jones, W. P. Evans, Moses Kellow, Richard Roberts (Llan- decwyn), R. T. Jones, G. Parry Jones, Andreas Roberts, Ellis Hughes, John Owen (Rhosigor), R. O. Davies (Clerc), William Evans a William Jones (Swyddogion Gor- fodol). Cyflwynodd Mri. W. Jones a W. Evans eu hsdroddiad am eu dosbeirth. Ni bu yr Ys- goliop yn agored ond am wythnos ar ol y gwyliau, a chanmolai y ddau swyddog y plant am eu sel gyda dod i'r ysgolion ar gychwyniad y tymor. Yn y Dosbarth Dinesig (W. Evans) yr oedd 2106 o blant ar y llyfrau, a chyfar- taledd y presenoldeb yn 1937. Ymwelwyd a 107 o rieni oedd a'u plant yn absenoli eu hunain o'r ysgolion, a chsed fod 45 o honynt yn sal, a rhesymau amrywiol eraill dros eu habsenoldeb. Yr oedd 11 o'r Ysgolion yn y Rhestr Anrbydeddus (90 y cant) gyda phresenoldeb y plant, a dwy ysgol yn y Dosbarth Cyntaf (80 y cant). Mewn atebiad i'r Cadeirydd dywedodd Mr. Evans fod 150 llai ar y llyfrau nad oedd flwyddyn yn ol, ac achosid hyny trwy y symudiadau fu yn y Dos- barth ar gyfrif y dirwasgiad yn y fasnach lecbi.-Yn y Dosbarth Gwledig (Mr. William Jones) yr oedd 1025 o blant ar lyfrau yr Ysgol- ion Anenwadol, a chyfartaledd y presenoldeb yn 872. Yn yr Ysgolion Eglwysig yr oedd 260 ar y Ilyfran, a chyfartaledd y presenoldeb yn 208. Yr oedd 5 Ysgol Anenwadol ac un Eglwysig (Ty Nant) yn y Dosbarth Cyntaf, Ymwelwyd a 51 o rieni plant esgeulusai yr Ysgolion, a chaed fod 20 o'r plant yn seilion. Daeth gair oddiwrth Mr. Haydn Jones yn hysby4iapy bod yn symud yr Adeilad Coed o Gellilydari i Llanelltyd. Yr oedd trefniadau wedi eu gwneyd i gynal yr Ysgol yn y Capel fel o'r blaen, i arcs codi Ysgoldy parhaol yn Gellilydan. Y Clerc a ddywedodd fod Athrawon o'r Unol Dalaethau a'u bryd ar ymweliad a Phrydain er gweled pa fodd yr oeddid yn cario Ysgolion yn mlaen yn y deyrnas hon, ac yn rohiith lleoedd eraill yr oeddynt am ymweled a Blaenau Ffestiniog. Byddai iddo ef alw y Rheolwyr, Rheolwyr yr Ysgol Sirol, a'r holl Atbrawon trwy y Dosbarth at eu gilydd i roddi croesaw- iad iddynt. Datganodd y Bwrdd eu cymerad- wyaeth i'r cynllyn hwn. Yr oodd Mr. William Jones, P.T., wedi gadael Ysgol Ffestiniog, a'r Ysgolfeistr yn aw- grymu i Mr. William Morris gael ei benodi yn ei le, ond daeth gair oddiwrth Glerc Addysg y Sir yn hysbysu fod Staff yr Ysgol yn fwy nag y dylai fod heb William Jones, fel nad oedd eisiau dewis uh yn ei Ie. Gofynodd Miss Laura Roberts, Rhyd, am ganiatad i fyned i eistedd am yr Arholiad Rhagbaratoawl, a chydsyniwyd a'i chais. Mr. William Humphreys wrth roddi ei le i fyny fel Athraw Trwyddedig yn Ysgol Maen- offeren, a ddymunai ddatgan ei rwymedigaeth o'i ddyled mawr i Mr. J. Cadwaladr yn ystod yr amser y bu yn gweithio o tano, a bu yn gynorthwy arbenig iddo gyda'i ddyledswyddau. Yr oedd E. E. Owen yn ymddiswyddo yn Ysgol Maenofferen, a phenodwyd J. W. Thomas, B.A., Manod Road, yn ei le. Yr oedd Miss Ellen Jones Lewis yn cael ei symud o Ysgol Gellilydan i Ysgol y Babanod, Ffestiniog, am yr un cyflog ( £ 30), a phenod- wyd Miss Nellie Owen, 1, Maenofleren, i fyned i Gellilydan fel Athrawes Gyflenwol (siippli- mentary). Derbyniwyd lluaws o geisiadau am leoedd fel Athrawon ac Athrawesau, ac anfonwyd y cyfryw i Ysgrifenydd Addysg y Sir fel ag i fod wrth law pan fyddo lleoedd gweigion. Gan nad oedd lie yn awr fel P.T's nis gallai y Bwrdd wneyd dim yn nglyn a'r ceisiadau dan leoedd fel y cyfryw. Anfonodd Miss J. G. Griffith, ei hymddi- swyddiad i mewn fel Athrawes yn Ysgol Maen- ofteren. Yr oedd wedi cael lie fel Athrawes Gyflenwol yn Sir Gaernarfon. Er ei bod yn Athrawes yn ngwasanaeth y Bwrdd er's tair blynedd nid oedd wedi cael ychwanegiad yn ei chyflog, ac nid oedd unrhyw ragolwg am gael hyny. Datganodd y Bwrdd eu gofid wrth glywed fod Athrawes mor alluog a Miss Griffith yn meddwl am eu gadael, a theimlent yn fawr oblegid y rheswm dros ei bod yn myned ymaith.—Y Clerc a sylwodd nad oedd eisiau symud yn mlaen gyda dewis un yn lie Miss Griffith gan ei fod wedi pasio i uno y ddwy ysgol, ond nad oedd hyny i'w wneyd hyd nes y byddai rhai o'r athrawon yn symud. Yn awr elai y mater yn ol i'r Is-bwyllgor i wneyd y trefniadau angenrheidiol er catio allan y penderfyniad hwnw. Hysbyswyd fod trefniad wedi ei wneyd gydag Ysgol y Penrhyn ar gyfrif ei bod wedi ei gor-lenwi, a bod Miss Grace Davies o Talsarnau i aros yno hyd nes y gwneid trefniadau pellach gyda'r adeiladau. Mr. Andreas Roberts a alwodd sylw difrifol- af y Bwrdd at y ffaith eu bod yn talu llai i'w Hathrawon nag a delid mewn siroedd eraill, ac felly yr oeddynt yn colli Athrawon rhagorol" ddylasai barhau yn eu gwasanaeth. Dylent gael y Raddfa wedi ei phasio heb oediad pellach.-Y Cadeirydd a sylwodd eu bod yn talu yn uwch i'w Hathrawon na'r Siroedd cylchynol ond mewn rhai amgylchiadau.—Mr. Andreas Roberts, Y mae hyny yn anghyson iawn a'r ffaith fod rhai o'n Hathrawon goreu yn ein gadael. Dyma ddau yn myned o Ysgol Maenofferen yn awr o achos y cyflog, ac nis gallwn fforddio colli rhai fel hyn."—Y Cadeir- ydd, "Bydd yn fwy boddhaol wedi i ni gael y Raddfa. Yr helynt gydag Addysg yn y Sir yw y rheswm na fuasai y Pwyllgor Sirol wedi tynu y Raddfa allan er's talm.Mr. R. T. Jones; Y mae lleoedd mawrion yn gallu cymeryd athrawon oddiarnom ac nis gallwn gystadlu a hwy mewn mater o gyflog.Alr. J. Cad- waladr, Y mae y Cadeirydd yn iawn pan yn dweyd fod cyfartaledd y cyflogau yn uwch yn y Sir hon na siroedd eraill ar gyferpobplentyn, ond y rheswm am hyny yw fod Ysgolfeistri Trwyddedig ac Athrawon trwyddedig mewn Ysgolion bychain trwy y Sir, a thrwy hyny y mae cyfartaledd y cyflogau yn myned yn uehel. Bydd pasio y Raddfa yn sicr o fed yn fanteisiol at gadw Athrawon ac Athrawesau da gyda ni. Teimlai y Bwrdd yn unfrydol y dylai y Raddfa gael ei phasio heb oediad pellach. Mr. R. T. Jones a alwodd sylw at Ysgol Llandecwyn. Nid oedd y tir o'i chwmpas wedi ei gau i mewn, ac yr oedd -y lie yn ddi- frifol fel y mae yn bresenol.—Y Clerc a ddy- wedodd iddo anfon ddeufis yn ol at Glerc Addysg y Sir, ond nid oedd dim wedi ei wneyd i'r lie, ac yr oedd gan Mr. John Roberts aches cyfiawn i gwyno oherwydd cyflwr y lle.-Mr. Richard Roberts a ddywedodd fod yn eifwriad alw sylw at y peth, ond gwnaeth Mr. Jones hyny o'i flaen. Dylai y lie gael ei gau ar unwaith. Nid yn unig yr ccM yn anghyfaddas i'r plant fel y mae, ond yr oedd yn galled fawr i Mr. John Roberts eu bod yn rhedeg ar hydei dir yn mhob cyfeiriad.—Pasiwyd i anfon llythyr cryf eto at y Clerc Sirol ar y mater. Yr oedd rhestrau o'r pethau gofynol yn y gwahanol ysgolion wedi dod i law, a theimlai y Bwrdd yn gryf iawn yn nglyn a rhai o honynt. Tra yr oedd rhai o'r ysgolian yn gwneyd gyda rwydau i'r swm o 3/4 y plentyn, yr oedd ysgol- ion eraill yn cyraedd y swm o 7/6 i 8/6 y plent- yo. Yr oedd Mr Cadwaladr a holl Yfgolion Maenofferen wedi dod a rhestr a phrisiau y nwyddau ofynid am danynt ar ddalen wahanol, tra nad oedd yr Ysgol Uwchraddol na'r nifer luosocaf o'r Ysgolion eraill wedi dodi pris o gwbl wrth y pethau a ofynid am danynt, ac yr oedd hyny yn anfantais fawr i'r Bwrdd basio i'r pethau gael eu prynu.—Mr. Andreas Roberts, Pe bae pawb yn gwneyd fel Mr. Calwaladr byddai pobpeth yn iawn !"—Y Cadeirydd, Ie, Mr. Andreas Roberts sydd wedi arwyddo taflen Mr. Cadwaladr, ond yr wyf yn sicr pe byddai i ni ei roddi o dan arholiad am y rhan fwyaf o'r pethau yma na wyr ddim am danynt (chwerthin) Nid oes neb o honom a fuasai yn gwarafun unrhyw beth sydd gan yr Athrawon eu hangen at wneyd eu gwaith, ond dylem gael yr holl restrau wedi eu gwneyd i fyny fel un Mr. Cadwaladr, ac felly gallwn wybod y swm ar gyfer pob plentyn, a gweled a oes diofalweh yn rhai o'r Ysgolion.Mr. R. T. Jones, "Y mae Ysgol Talsarnau bron yn uwch o'r haner na'r ysgolion eraill.Mr. Cadwaladr, "Nid yw yn deg cymeryd un chwarter i ystyriaeth gan y gallai hyny olygu llyfrau newyddion a, phethau eraill na bydd eu hangen drachefn am, flwyddyn. Y ffordd oreu yw cydmaru y flwyddyn, ac nid tri mis o honi."—Fasiwyd i anfon y rhestrau yn ol er mwyn cael y prisiau wrth bobpeth a ofynid am ei bwrcasu. Caniatawyd benthyg Ysgol y Llan i gyfeill- ion Engedi, Medi 14, yn unol a'u cais. Gadawyd ar y Rheolwyr Lleol i wneyd trefniadau gyda golwg ar lanhau yr Adeiladau cysylltiol ag Ysgol Llanfrothen. Yr oedd Mr. Jones wedi anfon cwyn yn eu cylch,—Eglur- wyd gan Mr. Kellow fod trefniant wedi ei wneyd i lanhau yr adeiladau wrth Ysgol Croesor fel na byddai achos cwyno eto yn eu cylch. Mr. Andreas Roberts a ofynodd am gael galw sylw at un peth ddylasai ei grybwyll pan oedd Rhestrau o'r pethau gofynol i'r Ysgolion gerbron. Yr oedd ef, a chredai bob un o honynt yn teimlo fod y Rhestrau hyn yn myned yn gostus iawn i'r trethdalwyr, ac y gellid arbed canoedd lawer o bunau i'r Sir pe y mabwysiedid y Llechi ysgrifenu yn ol yn lie- papur. Yr oedd y gost o brynu ysgrif-binau, ingc, papur, &c., yn fawr iawn, tra y gwnelai un Lechen a phin careg y tro i bob plentyn. Yr oedd papyr yn niweidiol i olwg y plant.— Mr. J. Cadwaladr, "Argymelliad y Bwrdd Addysg ydoedd gwneyd i ffwrdd a'r Llechi. Nid oes modd cael dim glanach ac iachach yn llaw plentyn na Ilechen." Mr., J. Lloyd Jones, "Y mae Cyngor Sirol LIundain wedi pasio i gael Llechi gleision i'r Ysgolion yn lie papur, ac os yw gallu mor bwysig a hwnw yn pasio y peth, yn sicr fe ddylem ninau wneyd byny.Ar gynygiad Mr. Andreas Roberts a chefnogiad Mr. R. Roberts, pasiwyd i argymell yn gryf ar y Pwyllgor Sirol i gael Llechi yn ol i'r Ysgolion ar gyfrif eu bod yn rhatach ac yn iachach na phapur.

Advertising