Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

AR BRIO DAS I

HAFDDYDD PRIODAS. !

ER COFFA I

Y FRANCO BRITISH EXHIBITION.…

CYFLWYNEDIG I

[No title]

0 TORONTO I'R NIAGARA. I

News
Cite
Share

0 TORONTO I'R NIAGARA. I Hanes taith pump o Gymry c Toronto, Can- ada i Raiadr y Niagara sydd genyf y tro hwn. Breuddwydiais a dychmygais a chlywais lawer o son am Raiadr y Niagara. Gwnaethom ben- derfyniad gael golwg ar un o "saith ryfeddod- au y byd." Enwau y cwmni ydoedd Mri. John Williams, o Talybont, G. C., a'i frawd William p? rai sydd yn y wlad hon er's tro Henry Roberts, o Sir Fflint, Dafydd Powell, o RbOS-/ Uanerchrugog, Organydd yr achos Cymreig yn Toronto; a'r HaH, wrth gwrs, ydoedd yr Ys- grifenydd. Yn wir mawr oedd y parotoi. Aeth BiH Williams a minau i sicrhau tocynau y noson cynt. Cyfarfod ein gilydd am saith o'r gloch, Sadwrn Awst 1. Yr oeddym wedi par- otoi rhaglen hon oedd o dan ofal John Williams. Yn sicr yr oedd yn dra ddyddorol wrth gych wyn bu agos i ni a cholli yr Agerlong. Yr oedd oddeutu 600 o honom ar ei bwrdd. Llawer o son am benwaig yn yr halen." felly ninau yn hollol oeddym ar y daith hon. Dyna arwydd a ffwrdd a ni ar draws llyn mawr Ontario. Yr oedd pob golwg fod pawb yn mwynhau ei hun. Cododd y gwyyt dechreu- odd luchio yr hen lestr yn ol a blaen. Erbyn hyn yr oedd amryw yn brysur fwydo y pysgod. Collasom olwg ar un o'n cwmni ninau, aethum i edrych pa le yr oedd. Cefais ef ar waelod y llestr mewn awydd cael rhoddi ychydig o'i foreufwyd i'r pysgod; ond yn wir methu yr oedd, felly y gadawais ef. Erbyn hyn yr oedd un arall o honom yn dechreu newid ei wedd, a gwyddoch beth oedd canlyniad newid gwedd. Attolwg wele'r trydydd yn teimio yn gysglyd a'i ben dros ymyl y llestr, yn ceisio gweila ei hun. Yn wir bu'r Ysgrifenydd ac un arall yn teimlo yn hollol iach wrth y gwaith o geisio dal ambell ifenyw druan ar ei thraed. Buom am dros dair awr yn croesi un congl o'r Ilyn enfawr; ond wele arwyddion am ein glanio, Yr oedd I y cleifion erbyn hyn yn dechreu adfywio pan gyrhaeddasom le a elwir St. Catherine. Yno yr cedd nifer fawr o gerbydau trydanol yn ein haros, ac yr oedd pawb am y cyntaf i sicrhau eisteddle. Aeth y Welsh Brigade dros ymyl y liestr, ac ymaith a ni, a chawsom le gyda'n gilydd. Yr oeddym fel Cadwen. Ymaith a ni trwy wlad ardderog, coedydd mawrion, ffermydd braf, afcnydd dyfnion, maesydd lawer yn llawn o'r Gwinwydd. Yr oedd prysurdeb anghyffredin gyda'r ydau. Yr oeddym yn teithio o dan faner Prydain trwy dir Canada am vn agos i ugain milldir. Daethom i olwg I y Niagara. Yn gyntaf yr oedd yn rhaid cael ymborth 1 lanw cylla gweigion rhai ohonom. II Gwelem Westy ag enw Williams, ac am fod enw Cymraeg arno aethom i mewn yn cael ein I harwain gan un oedd wrth y gwaith o hel pobl i fewn. Yna cawsom giniaw, a chefais ei well lawer gwaith yn Nghymru am haner ei bris. Aethom allan, yna daeth rhyw ddyn du bychan attom eisiau myned a ni am dro yn ei gerbyd cheap drive meddai, ond attebasom yn hen iaith ein hunain. Dyna'r moddion goreu i droi hwynt draw oedd siarad Cymraeg llawer yn I meddwl mae y "Degos" ydym. Wedi cael go lwg o ochr Canada ar y Rhiadr, aethom dros I y Bont enfawr sydd yn croesi y trobwll. Tal- asom 10 cent am groesi y Bont, pan ar groesi y trotbwy'r wlad ewythr Sam holwyd am ein I trwydded. Cawsom ein hunain o dan y faner Americanaidd. Yr oedd pawb ohonom yn mwynhau ei hunain yn arddercdog yn swn yr land yn siarad trwy ei ffroenau, I guess." Aethom drwy y brif beol Niagara, yna trwy goed mawr. Yno yr oedd llwybrau pwrpasol i I gyfeiriad yr Afon. Yr oedd edrych ar y dyfroedd yn treiglo i lawr yn arswydus i fedd* wl. Aethom i lawr hvd risiau i gael golwg ar Rhiadr Pedol Ceffyl." Fe ddywedir fod tros filiwn o dunelli o ddyfroedd yn treiglo i lawr bob munyd. Clywais lawer gwaith am yr enfys, we! gwelsom ddwy o honynt, yr oedd pobpeth yn archerchog. Yr oedd un o r cwmni wedi penderfynu cael dernyn o'r graig i gofio am ei ymweliad. Yr oedd wedi ymgolli yn y gotygfeydd. Meddyliasom am yr Unawd poblcgaidd Niagara." Synied ofnadwy oedd meddwl fod neb wedi ei gipio dros yr ymyl. Mae y golygfeydd o gwmpas yn werth edrych arnynt. Oddi yma y maent yn c3el y gallu trydanol i oleuo a gweithio cerbydau trydanol Toronto, mae'n sicr fod hwn y gallu cryfaf yn y byd. Erbyn hyn aethom i lawr i'r gwaeiod i'r Agerlong sydd yn teithio yn ol a blaen o dan y Rhiadr. Yno yr oedd dillad pwrpasol gan fod cymaint o ddwfr yn cael ei luchio dros yr Agerlong. Enw yr agerlong ydyw Maid of Mist." Yn wir profiad ofnadwy ydoedd teimlo y dwfr yn disgyn o'r uchder. Rhaid oedd trci yn ol. Aethom yn ol drachefnar hyd llwybrau cyhoeddus hyd i'r Dref. Yr oedd yn rhaid wrth rhywbeth i gynal corph i fyny, cawsom ein digoni a lIaeth a dwfrgwlad yr land, yn sicr yr oedd yn effeithiol, hefyd ar ddiwrnod poeth. Aethom i gael sigarenau, maent vn hynod o isel eu pris i'w cydmaru a Canada, felly yr oeddem yn tynu mwg ohonynt a'n holl egni. Pan gyrbaeddasom hyd y bont, aeth un o'r ewmni i gryn brofedigaeth methu yn glir faes a chael gafael ar ei docyn trwyddedol, tra y bu y swyddogion yn disgwyl iddo ddodo hyd iddo, aeth arall beibio gydag ycnydig o lanci trich, sef, heibio beb roddi ei docyn. Erbyn hyn cawsom ein hunain ar dir Canada unwaithyn rhagor. Disgwyl y cerbydau trydanol: aeth rhai ohonom i ieddwl csel ymolchi ond dyma I waeddi; rhaid oedd myned a chawsom ein hunain yn teithio yn ol. Yr oedd embell i hen f gymeriad yn meddwl ei fod yn cael hwyl neillduol wrth ganu; ond druan o hono, efe ei hun oedd yn ei fwynhau: tawbdd yr hen gymeriad. Cawsom gryn ddigrifwch wrth deithio gan ein bod yn siarad hen iaith y Cymry. Yn wir yr oeddynt o'n cwmpas yn methu deall beth oeddym ac erbyn saith o'r gloch yr oeddym yn yr hen Ager- long. Cawsom daith lied hapus yn ol, y cwmni yn iach a boenus neb yn teimlo awydd porthi y pysg, diolch am hyny hefyd. Cyr- haeddasom Toronto a chanasom ninau Hen Wlad fy Nhadau," o chawsom gymeradwyaeth fyddarol. Cawsom ein hunain yn Young St., prif heol Toronto erbyn ychydig wedi deg o'r gloch, aethom i gael swper gyda'n gilydd: gwleddwyd, a chafwyd digon mi gredaf. Aethom pawb i'w letty, a ihystiolaeth yr oil ydoedd mac hapus daith gafwyd, llawn gwerth am fyned i weled un o saith ryfeddodau y byd. -Ai-, GELERT.

TREFN O.EDFAON Y SUL

Advertising