Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

YN NGHWMNI NATUR. I

BETTWSYCOED. I

rvvvvvvvvvvvvvvvvwvwvvwvv\…

[No title]

ADOLYGIAD Y WASG. I

0 QADAIR YNYS FADOG._______j

HARLECH.

ICwymp Angeuo! yn Ngwallgofdy…

News
Cite
Share

I Cwymp Angeuo! yn Ngwallgofdy Dinbych. Cynhaliwyd trengholiad ddydd Mercher, gan Dr. J. R. Hughes (Trengholydd Gorllewin Sir Ddinbych). ar gorph Phoebe Williams, 72 mlwydd oed, gynt o Love lane, Dinbych, un o ddeiliaid y gwallgofdy, yr hon a fu farw fel canlyniad i syrthio 36 o droedfeddi i lawr siafft. Dywedodd Dr. Herbert, uno swyddog- ion meddygol y sefydliad, i'r drangciedig gael ei derbyn i'r gwallgofdy yn 1893. Dioddefai oddiwrth y pruddglwyf. Yr oedd ganddi y syniadau rhyfeddaf. Gwrthodai yn ami gy- meryd bwyd gan ddywedyd nas gallai dalu am dano. Credai ei bod wedi pechu, ac na chai faddeuant. Meddyliai yn ami ei bod yn clywed ei wyres yn gwaeddi arni, a dywedai fod y plentyn yn newynu. Gwelodd ef hi ar ol y ddamwain, ac yr oedd yn wybodol. Bu farw yn mhen ychydig ar ol ei chodi o waelod y siafft. Dywedodd Jennie Williams, un o'r swydd- ogion oedd ar ddyledswydd y cos, fod yn rhaid ddarfod i'r drangcedig, tra yr oedd hi (y dyst) yn newid dillad gwely un o'r deiliaid claf, fyned i fyny'r grisiau ac i'r ystafell uwchaf, a syrthio i lawr y siafft. Yn mhen ychydig wedi hyny clywodd ruddfan, a gwelodd y drancedig yn ngwaelod y siafft. Dychwelwyd rheithfarn o Farwolaeth ddamweiniol." Argymhellai y rheithwyr fod clo yn cael ei gadw ar ddrws yr ystafell, ac fod i berson cyfrifol gadw yr agoriad. Nid oeddent yn honi fod bai ar neb am y ddamwain. VSAAAAAAAAAA^WVVWWWWSAA^

TRAWSFYNYDD.

Marwolaeth Mr. Sankey.

Damwain Angeuol gyda Modur.

I ARWEST FARDDONOL GLAN ,GEIRIONYDD..

I - - - - - - PENMACHNO.

ICRIOCIETH.

LLANGERNYW.

[No title]