Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

NODION O'R CYLCH. -_..-

I BDG;ÕvHEDwDvLLÑ: I I-"*,-I-…

Cyngherdd Seindorf Frenhinol…

I - BLAENAU -FFESTINIOG.

COR -MEIBION -PENMACHNO.

Nodion o Penrhyndeudraeth.

News
Cite
Share

Nodion o Penrhyndeudraeth. Nos Wener diweddaf, aeth nifer o ddynion ieuanc oddi yma i ben y Wyddfa. Yr oedd y tywydd yn bobpeth ellid ei ddymuno, a ba iddynt weled yr haul yn codi yn ei ogoniant. Yn anffodus bu i un o'r cwmni ddiffygio gymaint wrth ddringo fel y gorweddodd ar ymyl y llwybr, ac nid oedd dicho-i ei berswadio i ddod i ben y mynydd. Felly gorfod oedd i't cwmni ei adael yno, ac yr oedd yn yr un far. pan ddychwelasant yn cysgu yn braf. Yroedd tua cant a haner ar ben y Wyddfa y noson hono. Nos Sul, yn mghymdeithas Nazareth, cafwyd hoIi ac atteb ar y Gweddnewidiad." Yr holwyr ydoedd Mr. G, R. Jones, Brya Llewelyn. Nos Sadwrn nesaf, disgwylir y Parch. Isfryn Hughes i lawr i anerch aelodau Plaid Auni- bynol Llafur. Bydd y cyfarfod yn agored i bawb. Da genym ddeall fod y Blaid hon yn myn'd ar gynnydd yn yr ardal. Trist iawn oedd gweled cynifer yn gorfod cefnu ar yr ardal y dyddiau diweddaf. Yr oedd y rhan fwyaf yn troi ei gwydebau tua'r pyllau glo. Tywyll iawn yw y rhagolygon at y ganaf dyfodol os na thyr y wawr yn fuan bydd yn rhaid i ragor droi eu cefnau ar eu cartrefi. Ychydig o ymwelwyr ddaeth i'r ardal y flwyddyn hon, a chwyna y rhai sydd ganddynt dai i'w gosod yn enbyd am nad oes yma ddar- pariaethau digonol ar gyfer y byddlgions." Gan mai gweithwyr yw y rhan fwyaf sydd yn byw yn yr ardal. Credwn y dylid yn gyntaf wneyd peth yn bosibl tuagat eu cysur hwy. Wedi hyny cawn wneyd yr hyn aallwn i ddenu y dyeithriaid i'n plith.

PENTREFOELAS.