Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

NODION O'R CYLCH. -_..-

I BDG;ÕvHEDwDvLLÑ: I I-"*,-I-…

Cyngherdd Seindorf Frenhinol…

I - BLAENAU -FFESTINIOG.

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. bPECIAL IINE-BPECIAL OFFER. Egg Plum only ljd. per lb. Prolific, Czar and all the best kind, only 3d. per lb., at E. B. Jones & Co., Blaenau Festiniog. NOFEL.-Gellir cael y Nofel newydd bob- logaidd Arwriaeth John Anthony, neu Ramant Bywyd Cymro" gan Lyfrwerthwyr y dref. Myned pawb olwg ar y llyfr hynod hwn. ODDICARTREF.—Yn Llangoed, Beumaris yn beirniadu y mae R. Jones (Perorfryn), nos Iau yr wythnos hon. Deallaf ei fod yn hen law gyda'r gwaith tua Ynys Mon. Llwyddiant iddo.—CYFAILL. CAPEL Y RHIW.—Pregethir y Sabboth nesaf yn Nghapel y Rhiw, gan y Parch. Enoch E. Jones, Portmadoc; ac nid y Parch. Wm. Jones, Conwy, fel yr hysbysir yn Ngholofn y Cyhoeddiadau. Y SEINDORF.- Yr oedd ein Seindorf boblog- aidd yn ymarfeydd a'u gilydd yn yr awyr ag- ored, prydnawn Sadwrn diweddaf, gerllaw y Band-room. Y maent hwy a'u hwynebau gog- yfer a Chystadleuaethau y Belle Vue a'r Eis- teddfod Genedlaetbol. Y PARTI MEIBION.-Pryd-,iawn Sadwrn di. weddaf, bu Parti Meibion y Moelwyn, o dan arweiniad Mr Cadwaladr Roberts, yn gwasan- aethu mewn cyngerdd yn Criccieth, er budd Wesleyaid y lie. Rhoddodd eu gwasanaeth foddlonrwydd cyffredinol. PIC-NIc-Prydnawn dydd Gwener diweddaf, bu Ysgol Sul Calfaria yn cynal Pic-nic ar ben y Crimea, a mwynhasant eu hunain yn fawr. GWIBDAITH.—Dydd Linn. aeth Aelodau Ysgol Sul Eglwys St, Martha, Tyddyngwyn, am wibdaith i Landudno, a mwynhaodd pob un ei hunan yn iawn. PENODIAD.—Da genym oedd clywed fod Mr. Robert Edmunds, Brynbowydd, wedi ei benodi gan Gwmni y Pearl i arolygu Dosbarth Dinbych. Dymunwn ei Iwyddiant yn ei le newydd. YN BEIRNIADU.—Yr oedd Mr. Ben T. Jones, Manod Road, ddydd Gwener diweddaf, yn beirniadu y Gystadleuaeth Hollti Llechi yn Arddangosfa LlangoUen. YR HEDDLU.—Bu Heddgeidwaid Ffestiniog o dan ofal yr Arolygydd Roberts, yn y Bala, dydd Gwener diweddaf, yn myned trwy yr archwiliad blynyddol, a rhoddasant foddlon- rwydd llawn. YN DYCHWELYD,—Dydd Gwener a Sadwrn diweddaf, yr oedd y gweddill o fechgyn Ffestiniog yn dychwelyd yn ol am y Pyllau Glo, wedi bod adref yn treulio eu gwyliau. MORDWYO YN OL. Prydnawn ddydd Mercher, yr oedd Mr. Richard' E. Thomas, gynt o Glynllifon Street, sef brawd i Mrs. Hugh Roberts, Meirion Terrace, a Mrs. John Thomas, Penygelli, yn mordwyo yn ol am yr America ar yr agerddlong Carmania, wedi bod drosodd yn yr Hen Wlad yn treulio ei wyliau. Fel y gwyr llawer, y mae yn awr er's oddeutu deuddeng mlynedd, yn oruchwyliwr chwarel, a phrawf yr anrhegion a gafodd gan y gweith- wyr a'r perchenogion pan yr oedd yn cychwyn am Gymru, mor uchel ydoedd yn eu golwg. Da oedd genym glywed ei fod wedi mwynhau ei hun yn iawn, a'i fod wedi caeladgyfnerthiad i'w iechyd. Yr oedd yn bleser cael bod yn ei gwipni yn ei glywed yn adrodd yr hyn a welodd yn ystod ei wyliau yn Ne a Gogledd Cymru, ac hefyd ar byd ei yrfa o 22 mlynedd yn yr America. Dyvvedodd iddo gael tal da am ddyfod drosodd a myned i lawr yr holl ffordd i'r Deheudir, pe ddim ond cael clywed y canu rhagorol a glywodd yn Nghapel yr Annibynwyr Ebenezer, Tonypandy. Talodd deyrnged uchel i Gyngor Dinesig Ffestiniog a'i Swyddogion, am yr olwg hardd a gafodd ar ei ardal genedigol.-heolydd glanwaith, tai rhagorol a chysurus, capelau heirdd, &c. Yr oedd yn myned yn ol gyda'r meddwl uchelaf posibl o'i ardal, a dymunwn ninau oil fel ardal bob llwyddiant iddo yn y dyfodol.-Hefyd, yr un diwrnod, ac yn yr un agerdd-long, yr oedd cyfaill arall yn dychwelyd, yr hwn hefyd oedd wedi treulio y rhan gyntaf o'i oes yn ein plith ni yn Ffestin- iog, sef Mr. Robert W. Roberts, o Pentrefelin, ger Porthmadog. Aeth ef i'r America oddeutu 24 mlynedd yn ol. Cyfaill o gerddor uchel ydyw ef, yn arweinydd corawl Ilwyddianus, ac wedi enill iddo ei hun gyda'i Gor bum' o dlys- au aur heirdd, &c. Bu.pan yma yn chwareu yr offeryn yn Nghapel yr Annibynwyr yn Salem, Rhiw; ac yr oedd yn falch o gael y cyfle i fyned yno nos Sabboth diweddaf. Da oedd genym glywed am y safle anrhydeddus y mae ynddi yn y byd cerddorol yn Ngwlad y Gorllewin, a dy- munwn Iwyddiant pellach iddo yntau, PRIODAs.-Dydd Mawrth, Awst 18, 1908, yn nghapel y Tabernacl, Blaenau Ffestiniog, gan y Parch. R. R. Morris, yn mhresenoldeb Mr. Richard Jones (Cofrestrydd), unwyd mewn glan briodas, Miss Gwen Roberts, 61, High Street, Blaenau Ffestiniog, a Mr. William Wil- liams, 20, Wylfa Road, Anfield, Liverpool. Gwasanaethwyd fel Morwynion gan Miss Williams, Misses Nancy Lloyd Jones, Library; Winifred Ll. Jones, Fronoleu; a Lily Evans, Gwerrfor Road, Lerpwl. Y Gweision oeddynt Mri. D. O. Jones (Cefnder y Briodasferch), a E. L. Evans, Llundain. Daeth llu mawr yn nghyd i'r gwasanaeth, ac fel y dywedodd y Parch. R. R. Morris, yr ceddynt oil yn ym- ddangos ar eu goreu yn datgan eu dymuniadau da i'r par ieuanc. Ar ol y gwasanaeth aeth- pwyd i dy y Briodasferch lie yr oedd darpar- iaeth gogyfer a'r gwahoddedigion. Cyn ym- adael am eu mhis mel i Sir Fon, aeth y par ieuanc a blodeuglwm i'w osod ar feddrod tad y Briodasferch (Mr. David Roberts) er cof am un ag oedd anwyl iawn ganddi. Yr oedd y Briod- asferch wedi gwisgo mewn Cream silk with real lace empire style, with hat of white lace and she carried a shower bouquet of Crys- anthums." Y gwahoddedigion oeddynt Mr. a Mrs. R. R. Morris. Mri. Richard Jones a Ivor Haul Jones, Mr. a Mrs. Jesse Roberts, Mr. a Mrs. Jones, Manchester House, Mr. a Mrs. Lloyd Jones, Library, Mr. a Mrs. T. W. Evans, Lerpwl, Miss Hughes, Misses M. E. Roberts Maggie Edwards, Kate Pritchard, Gwladys a Morfudd Morris, ac Annie E. Pierce. Chwar- euwyd y Wedding March gan Mp., E /ar Lev,s Roberts, Penygarth. LIuosog "lawa ydoec nifer yr anrhegion. AR YMWELIAD,-Hyfrydwch mawr i ni yw gweled Mr. Robert W. Parry, brawd Mr. W. W. Paery, Tanymarian, ar ymwelisd a i hen ardal. Y mae yn edrych yn heinyf. lach, a chadarn. Deallwn iddo gael ei foddhau mor fawr wrth glywed y Seindorf yn chwareu y noson o'r blaen fel y cyfranodd bum' punt i'r drysorfa. Dengys hyn nad yw wedi oeri yu ei sel at fuddianau cyhoeddus yr ardaI, a bod ei gariad atom yn dal mor dwymn Re erinad. Dymunwn ei hawddfyd tra yn aros gyda jii, ac wedi dychwelyd i'w wlad fabwysiedig. YN GWELL A.—Da genym fod ein cyfaill poblogaidd Mr. Richard Evans, Ty'nddclt Tanygrisiau. wedi gwella mor dda fel sg i droi unwaith eto yn ein plith. FESTINIOG TOWN FOOTBALL CunJ —The Committee of the Football Club are at present very busy making the Fixtures, See., for the coming season, which promises to be more popular and prosperous than any season s,.) far. All intending players desirous of joining the above Club are requested to give in their names immediately to the Secretary. The first League Matchwill be played on the 26th. of September, when Carnarvon will visit this town.-RICHARD MORRIS, Hon. Sec.

COR -MEIBION -PENMACHNO.

Nodion o Penrhyndeudraeth.

PENTREFOELAS.