Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

NODION O'R CYLCH. -_..-

I BDG;ÕvHEDwDvLLÑ: I I-"*,-I-…

News
Cite
Share

I BDG;ÕvHEDwDvLLÑ: I I RWST -I Cyfarfu y Bwrdd ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. John Roberts (Cadeirydd), D. G. Jones (Is-gadeirydd), Edward Edwards John Hughes, O. Ll. Jones, Parch. John Gower, Parch. Henry Jones, Parch. H. Rawson Williams, Edward Roberts, John Berry, T. T. Roberts, Parch. J. Llewelyn Richards, William Williams, John Williams, W. G. Jones, E. W. Roberts, Rowland Hughes, John Davies (Gwytherin), David Owen, Meredith Owen, R. R. Owen (Clerc), Edward Hughes (Meistr y Ty), T. C. Rob- erts ac 0. Evans-Jones (Swyddogion Elusen- ol). I Yr Elusenau alr Tlodion. I Y Clerc a adroddodd fod 22 o dlodion yn y Ty, ar gyfer 26 yr un tymor y Ilynedd. Yr oedd 291 yn derbyn Elusenau, ar gyfer 291 yr un tymor y Ilynedd. Talwyd £ 171 19s 6c o Elusenau yn ystod y mis ar g-ifer 6184 6s Oc yr un tymor y Ilynedd lleihad o £ 12 6s 6c. Yr oedd £ 734 19s 4c yn yr Ariandy yn ffafr y Bwrdd, ac wedi talu y gofynion heddyw o £ 109 7s 7c, byddai gweddill yn ffafr y Bwrdd o £ 625 11s 9c. Gofynid am £174 at yr Elusenau y mis nesaf. I Tlodion a'r Gwartheg. I Mr. T. C. Roberts. Swyddog Elusenol, a hysbysodd fod Archwiliwr y Llywodraeth yn gwahardd i roddi elusen i rai oeddynt yn cadw gwartheg, ac yn dywedyd y gorfodid y Bwrdd i dalu yr arian eu hunain os rhoddid elusenau iddynt eto. Pasiwyd i wrthod elusenau pawb oedd ganddynt yn perchenogion gwartheg. I Gwyllau. I Caniatawyd Gwyl i Mr. T. C. Roberts a I Meistres y Ty. Y Ty. I Cymeradwyai y Pwyllgor Ymweliadol i bwrcasu y pethau a nodai y Meistr oedd yn angenrheidiol at wasanaeth y Ty. Ymwelodd 85 a'r Ty yn ystod y mis ar gyfer 53 yr un amser y Ilynedd 32 o gynydd. Eg- lurodd y Meistr mai Gwaith Dolgarog oedd yr achos fod cynifer yn dod i'r Ty o'r dosbarth hwn yn bresenol, Adroddodd y Meistr am y Ty yn ystod y mis. Yr oedd Mr. William Thomas, crydd, o Ljjnrwst wedi marw, a chladdwyd ef yn myn- went Seion. Nid oedd y teulu yn abl i ddwyn y draul, ond anfonodd Mr. John Jones. nai fab 'chwaer i W. Thomas lythyr hynod o garedig at y Meistr yn gofidio oherwydd nad oedd y teulu mewn gallu i gyfranu at y costau. ond yr oedd wedi teimlo yn ddwys wrth weled y dull parch- us oedd gan y Bwrdd o hebrwng y tlodion i'r fynwent, i'r parch a delid iddynt ar eu diwedd. Derbyniwyd nifer fawr o gylchgronau oddi- wrth Mrs. Ashley, Cae'rgroes, at wasanaeth y Ty.—Pasiwyd i ddiolch yn gynes i Mrs. Ash- ley am gofio y tlodion oeddynt yn y Ty. Daeth geneth ieuangc i'r Ty yn ystod y mis yn ddrwg ei chyflwr. Un o Dolgellausydoedd. ond yr oedd wedi bod yn Llanrwst am sddigon o amser i gael dod i mewn heb fod yn rhaid gOfyn Undeb Dolgellau yn nglyn a hi. Daeth un o'r enw Hannah Williams i'r Ty o Undeb arall. Un o Llanrhochwyn ydoedd. Adroddodd y Clerc am y gost o'i symud i'r Undeb hwn. Hefyd. daeth Hannah Thomas, Scotlond Street, Llanrwst i'r Ty. Yr oedd hi mewn oedran, ac' yn debygol o aros i mewn. I Llorgyfarch. I I Y Cadeirydd a ddymunodd ddatgan teimlad I da y Bwrdd i'r Parch. Henry Jones ar yr amgylchiad o'i briodas. Nid oeddynt yn I gwneyd eithriad yn yr achos hwn, gan eu bod yn arferol a dymuno yn dda i Mr. Gower (chwerthin).-Mr. Gower, 0 ie, yr oeddwn i yn meddwl am son am y peth. Dynes yn iawn yw Mrs. Jones. Yr wyf wedi ei gweled, ac wedi dymuno yn dda i'r ddau. Mae Mr. Jones wedi dwyn un o'n pobol ni fel Eglwyswyr (chwerthin) y mae yn sicr o fod yn hapus iawn. Yr wyf yn uno a'r Bwrdd i ddymuno yn dda i'r ddau." I- Y Ddau Fachgen. Yr oedd amryw geisiadau wedi dod i law am gael y ddau fachgen oeddynt yn y Ty, i'r rhai yr oedd y Meistr yn rhoddi gair nodedig o uchel. Pasiwyd i un fyned at Mr. Evan Jones, Ty Llwyd, Bala, a'r Ilall at y Parch. John Gower, Trefriw. Yr oedd un o Penrhyn- heudraeth yn gofyn o 14/- i 151- am eu cadw- raeth; ond ni ofvr:ai y ddau uchod am ddim ond dillad gyda hwy. Myned am Seibiant. Dr. W. Michael Williams, Penmachno, a ymddaegosodd o flaen y Bwrdd i ofyn am ychydig seibiant i fyned am iechyd. Yr oedd wedi trefnu gyda Dr. Hill i ofalu anvy tlodion oedd o dan ei ofal.—Y Cadeir/dd, Yr ydym un ac oil yn teimlo yn falch iawn o ganiatau i chwi yr hyn a ofynwch. Buoch yn Swyddog ffyddlon o gofalus i ni am dair blynedd-a'r- hugain ac ni chawsom achos o gwbl i gwyno am ddim a wnaethoch. Yr ydym yn mhellach yn dymuno i chwi bob llwyddiant, ac yn go- beithio y cewch well had llwyr a buan. Ni raid i chwi bryderu dim am danon ni, na'r tlodion tra y byddwch i ffwrdd: gofala Dr. Hill am wneyd pobpeth drosoch."—Mr. Gower, Yr wyf finau yn dymuno yn dda i Dr. Williams. Gobeithio y deuwch yn ol yn hollol iach a chryf."—Dr. Williams, "Yr wyf yn ddi- olchgar iawn i chwi fel Bwrdd, ac yn edrych yn mlaen gyda hyder am gael llawer o flyn- yddoedd eto i'eh gwasanaethu." Y diweddar Mr. Hugh Pierce. Y Cadeirydd a gynygiodd eu bod yn anfon eu cydymdeimlad dyfnaf a dau fab y diweddar Mr. Hugh Pierce, Bu am 25 mlynedd yn Glerc i'r Bwrdd, ac yr oedd rhai o'r aelodau yn cofio yn dda am dano. Bu yn Swyddog ffyddlon iddynt, ac yr oedd ei farn ar fateriou perthynol i Ddeddi y Tlodion yn eithriadol. Magodd un ddaeth i'w le sydd yr un mor gyf arwydd ag yntau am waith yr Undeb.—Mr. Gower a gefnogodd. Ni bu gwell clerc gan yr un Bwrdd yn y deyrnas nagydoedd Mr. Pierce. —Mr, Rawson Williams a ddywedodd ei fod yn ategu pobpeth a ddywedwyd. Yr oedd Mr. Pierce yn ddyn tyner, ac ar yr un pryd yn ddyn cadarn a grymus. Yr oedd ganddo bersonoliaeth a gariai ddylanwad ar bawb.— Mr. Edward Edwards a ddywedodd ei fod yn cofio Mr. Pierce yu casglu tretbi cyn dod yn Glerc i'r Bwrdd dyn tyner gofalus ydoedd. Yr oedd pobpeth a wnelui yn cyfateb i'w syn- iad uwchof am ddyiz. Byddai ef yn gwahan- iaethu oddiwrtho yn ami mewn barn ar bethau, ond ni chollai byth ei dymer, ac ni thram- gwyddai wrth neb am ei groesi.—Cododd yr boll aelodau ar ei traed i basio y bleidlais. Arbed. Y Meistr a roddodd adroddiad am y modd y rhoddai y Bara allan i'r Tlodion. Yn lie toti swm neillduol ar gyfer pawb fel eu gilydd, yr oedd yn rhoddi i bawb yn ot fel y gallai fwyta, ac arbedodd 360 pwys yn ystod y tri mis diweddaf trwy y dull hwnw,—Teimlai y Bwrdd yn foddhaol iawn ar yr Adroddiad. Crwydriaid. I- Y Meistr a adroddodd am dri crwydryn ddaeth i'r Ty, ac a wrthodasant wneyd eu gwaith, Arferodd bob tynerwch tuag atynt, ond er y cwbl bu raid cjmeryd y tri o flaen yr Ynadon. Anfonwyd hwy i garchar am bythefnos gyda llafur caled.—Cymeradwyodd y Bwrdd waith y Meistr, a chyfarwyddwyd ef i fod yn benderfynol gyda'r dosbarth hwn yn y dyfodol.

Cyngherdd Seindorf Frenhinol…

I - BLAENAU -FFESTINIOG.

COR -MEIBION -PENMACHNO.

Nodion o Penrhyndeudraeth.

PENTREFOELAS.