Hide Articles List

7 articles on this Page

NODION O'R CYLCH. -_..-

News
Cite
Share

NODION O'R CYLCH. FEL y gwelir, yr ydym yn cyhoeddi Adrodd- iad gweddol lawn o weithrediadau Cyngor Dinesig Ffestiniog yr wythnos hon. Y mae nifer luosog o gwynion wedi eu gwneyd i ni gan y trethdalwyr ein bod yn cadw gweithrediadau y Cyngor yn ystod y misoedd diweddaf, oddi- wrthynt, ac y mae rhai o aelodau y Cyngor, meddir wrthym, yn dywedyd yr un peth. Gallwn sicrhau ein holl ddarllenwyr nad oes y saii leiaf i'r gwyn hon, a gwyr holl aelodau y Cyngor hyny yn dda, ond fod rhai o honynt yn llechu yn nghysgod beio eraill er ymolchi o'u beiau eu hunain. Y mae pob cyfarfod gynhal- iwyd yn agoredwedi ei osod o flaen y cyhoedd; ond am y llu cyfarfodydd gynhaliwyd yn ddirgelaidd, a ddylasant fod yn gyhoeddus, nis gallwn ond gadael eu hanes dan y lien y buwyd yn ei chysgod yn cario pethau perthynol i'r trethdalwyr yn mlaen fel nad allent wybod am danynt yn ol dull holl Gyngorau eraill y wlad. Pe cynalesid y cyfarfodydd oil yn gyhoeddus, arbedasai yr amheuaeth cyffredinol sydd yn nghylch amgylchiadau y Cyngor, a rhaid fydd i'r cwbl ddod i'r goleu yn fuan. Llawer iawn gwell fuasai hyny, na bod aelodau y Cyngor yn adrodd rhanau o'r gweithrediau, athrwyhyny achosi drwg dybiaeth lie na ddylai dim a'r fath fodoli. LLAWEN oedd genym weled Mr. Lewis Richards wedi gallu dod i'r Cyngor ar ol ei hir waeledd. Yr oedd ganddo genadwri gwerth dod yr holl ftordd o Cefn Panwl i'r Blaenau i'w thraddodi, a dyna yr unig beth a wnaeth nos Wener yn y Cyngor. Cenhadaeth fawr ein cyfaill y tro hwn fel ami i dro yn flaenorol, ydoedd canmol1 y Cambrian News am alw sylw at y Llan fel lie i ymwelwyr. Paham canmol un o'r newyddiaduron a gynrychiolir yn y Cyngor mwy na'r lleill sydd ddirgelwfih i ni. Nid yw y Cambrian News wedi gwneyd dim ar nad yw y lleill wedi ei wneyd yr un ffunyd. Peth arall teilwng o sylw yw, ei bod yn talu i'r Swyddfa hono ganmol y Llan. Onid un o'r Swyddfa hono ayflogwyd gan wyr doeth y Llan i ysgrifenu Guide Book iddynt ? Onid oedd neb yn y Llan ei hun allasai wneyd hyny ? Onid yn Swyddfa y Cambrian News yr argraffwyd y Llyfr, a hyny heb ofyn pris neb arall am wneyd y gwaith Hwyrach y cawn wybod gan Mr. Lewis Richards yn y Cyngor nesaf faint dalwyd am y Llyfr, bydd hyny yn gynorthwy i ni wybod ychydig o'r rheswm sydd dros waith y newyddiadur sydd on the brains gan Mr. Richards am gan- mol y Llan mor selog. Y mae rhywbeth yn peri bob cath lyfu'r pentan beblaw huddygl." WRTH grybwyll fel hyn am y newyddiadur- on a'r Cyngor uchod, hwyrach ita byddai allan o !e ynom grybwyll am fater arall. Yn mhob cyfarfod braidd a gynhelir rhaid i'r wasg gael cryn sylw, tra nad oes a wnelo y Cyngor ddim oil a'r wasg mwy nag sydd a wnelynt a gwneyd ifyrdd trwy gorsydd y lleuad. Rhaid cyfar- wyddo y wasg sut i wneyd beth i'w gyhoeddi, a pheth ibeidio, a hyny ynbarhaus. Yn y Cyngor diweddaf gwnaed y sylwadau a ganlyn Yr wyf yn siwr y gwna y wasg sylw o hyn."— Gobeithio y bydd y wasg mor garedig a pheidio cyhoeddi dim a ddywedodd Mr. r~—"Dylid chwilio i'r peth er mwyn i'r wasg ei kyhoeddi," &c. Credwn mai "gadael at dcoecmneb y gohebwyr," fel y sylwodd Mr. William Owen, yw y goreu o dan bob amgylch- iad, ac yna ni bydd lie i neb feio y Cyngor am ymyraeth a'r wasg. Hefyd, yr ydym yn edrych yn mlaen am i'r un breintiau gael eu hestyn i ni yn y He hwn ag a roddir i gynrych- iolwyr oddiallan. Os oes blaenoriaeth i fod, y wasg leol ddylai ei gifel gan eu bod yn dwyn baich y "hi yn y He, tra nad yw y rhai oddi- allan yr* talu dimeu o dreth yn y Dosbarth. Blin genym wneyd y sylw hwn, ond anhegwch digymysg yw dangos ffafr a phleidiaeth, ac ni chaiff hyny basic heb wrthdystiad pan gymer Ieeto. YN Heddlys y blaenau ddydd Iau, gwysiwyd pump 0 langciau, y dodwyd eu hoed i lawr ar bapurau y Llys fel tua ugain, am luchio cerig at eu gilydd ar y brif-ffordd. Nid oeddid yn pwyso am ddirwy, ond cymerid y cwrs hwn yn eu herbyn am eu bob yn peryglu diogelwch y cyhoedd. Y mae y wers roddwyd iddynt yn gyfryw ag a ddylai gael argraff ddofn ar eu meddyliau. Hysbyswyd hwy fod bachgen yn yr ardal wedi colli ei lygad trwy i fachgen arall ei daraw a chareg. Hefyd rhybuddiwyd hwy i beidio sefyllian ar ochrau y ffyrdd, ac y gwysid hwy os gwnant. Canmolwyd yr heddlu am ddod a'r achos yn mlaen, a bod yn rhaid rhoddi arferion drwg fel hyn i lawr yn yr ardal. DICHON nad oes nemawr Gyngor trwy yr holl wlad sydd yn fwy trefnus gyda'i waith, ac yn ei wneyd yn fwy effeithiol, nag ydyw Cyngor Dinesig LIanrwst. Y mae y gwelliantau lluosog wnaed ganddynt yn ystod y blynydd- oedd diweddaf yn deilwng o Gyngor dengwaith ei faint. Rhoddasant wedd newydd ar y Neuadd lledwyd dwy gonglsgyfyng a pherygIus ar yr beolydd, a Jluaws o bethau eraill aliasem eu henwi, a'r oil yn ddidramgwydd iddynt eu hunain a'r trethdalwyr. Yn y Cyngor nos Wener, cyflwynwyd adroddiad Swyddogol Archwiliwr y Llywodraeth, yn datgan ei f odd had o gael pobpeth mor gywir a threfnus, a bod gweddill o 4_963 5s llc yn ffafr y Cyngor ar derfyn y flwyddyn. Llon- gyfarchwn hwy ar eu sefyllfa foddhaol. CAFWYD sylw yn Mwrdd Llanrwst ddydd Marwth ar y tlodion oeddynt dros ddeg a thri- ugain oed o fewn cylch yr Undeb. Yr eedd 81 o honynt ar lyfrau y Swyddogion, a theimlid y gallai meibion lluaws mawr o honynt drefnu i wneyd heb yr elusen gan eu bod yn cyfranu rhyngddynt bron yr oil a roddai y Bwrdd fel elusen. Pe Ilwyddid i gael y tlodion oeddynt yn a thros 70 mlwydd oed oddiar lyfrau yr Undeb am flwyddyn, deuant i mewn am ddeg swllt yr wythnos fel blwydd-dal, ac ni byddent yn "dlodion" yn ngolwg y gyfraith. Teimlai y Bwrdd fod yn bwysig i'r mater hwn gael sylw cyhoeddus. Yr oedd Penmaenmawr yn codi trysorfa at yr amcan hwn. YR oedd yn dda iawn genym weled Dr. W. Michael Williams, Penmachno, wedi gallu dod i'r Bwrdd uchod. Y mae y Doctor rhadlon a charedig yn cwyno er's cryn amser, ac wedi ei gyngori i gymeryd seibiant am fis neu chwech wythnos er adgyfnertbiad i'w iechyd. Efe yw swyddog meddygol hynaf yr Undeb, ac yn ystod y tair blynedd a'r hugain y bu yn y swydd ni chafwyd achos i gwyno am ddim a wnaeth. Y mae y tlodion yn agos at ei galon, a'i ofal am danynt yn eithriadol. Cydunwn a'r Gwarcheidwaid a'r holl wlad i ddymuno i'r Doctor hir oes, a llwyr adferiad. PROFODD y trefniant newydd gyda rhoddi bara allan i dlodion yr Undeb yn Llanrwst yn unol ag awgrym Mr. Hughes, Meistr newydd y Tlodty, yn ol fel yr oeddynt yn gallu ei fwyta yn hytrach nag wrth y pwysau, yn fanteisiol nodedig ac yn arbediad mawr yn ystod y tri mis a basiodd, gan i 120 pwys y mis gael ei roddi allan yn llai nag oedd ar y Tabl Bwyd yn ei ofyn. Wrth ei roddi fel ei defnyddid nid oedd dim yn myned yn ofer, ac yr oedd pawb yn cael eu digoni, a theimlo nad oeddynt yn cael eu bwyd wrth fesur a phwysau. Yr oedd yn dda iawn genym gael ar ddeall fod y tlodion mor ddedwydd o dan ofal Mr. a Mrs. Hughes, a'u bod hwythau mor garterfol yn ein plith. Y mae y Ty yn "gartref" yn ystyr lawnaf y gair oddiar yr amser y daethant yma, ac y mae bob tlawd sydd yn y lie yn teimlo hyny. CAFWYD Arwest nodedig o Jwyddianus ar lan Llyn Geirionydd ddydd Iau. Yr oedd y Beirdd, y Llenorion, a'r Cerddorion, mewn hwyl nodedig, Llawen oedd genym ddeall i'r Arwest gael cefnogaeth dynion o safle Bethel, Asaph, Penllyn, Wynn Davies, ac eraill. Wrth gwrs, yr oedd Elis o'r Nant, Isgoed, Ifan Dafydd, Ynyr, Dewi Mai o Feir- ion, loan Dwyryd, a'r Telynor Dall yno megis o augenrbeidrwydd. Anffawd anhapus iawn ydoedd yr hyn ddigwyddodd i'r Delyn trwy i ysgythr-wynt ei thaflu yn yr Orsedd pan ad- awyd hi yno yn ystod y seibiant gafwyd ar ganol y gweithrediadau. Tybed fod Ysbryd Taliesyn a rhan yn y peth gan mai Telyn estronol ydoedd, ac nid y Delyn Gymreig ?

I BDG;ÕvHEDwDvLLÑ: I I-"*,-I-…

Cyngherdd Seindorf Frenhinol…

I - BLAENAU -FFESTINIOG.

COR -MEIBION -PENMACHNO.

Nodion o Penrhyndeudraeth.

PENTREFOELAS.