Adeg Golchi Defaid. GAN fod yn rhaid Golchi yr oil o'r Defaid eleni DDWYWAITH, y cyfnod cyntaf cydrhwng Meheifn laf ac Awst 31ain, 1908; a'r ail gyfnod o Medi y laf hyd Tachwedd y 30ain, yn ol archeb Bwrdd Amaethyddol, y mae eyflenwad rhagorol o DIP M RI. MC'DOUGALL i'w gael yn Shop Isaf, Maentwrog, wedi eu pacio i fynu mewn fftirfiau hwylus-caceni un pwys a phum' pwys yr un; a, Blocks 16eg mewn box pren am 6s. 6c. yr un. Dyma hwyrach y ffurf rataf-daw felly o dan bum' ceiniog y pwys. Eto mewn Tyniau 5 a 10 pwysi; Bwcedi 20 a 25 pwys yr un. Mae y ffurf toesog (Paste) i'w ddefnyddio gyda dwfr poeth. Eto Label GIas i'w ddefnyddio gyda dwfr oer, y mae y ffurf yma yn hwylus yn y mynydd. RHODDIR benthyg Machine at Dippio yn EHAD 1 bawb a bryno MC'DOUGALL'S DIP genyf eleni, a dymunir ar i'r Fferrnwyr I GYD-DREFNU i ddefnyddio y cyfryw pan yn eu cymydogaeth er mwyn ei symud i leoedd eraill, fel y gellir gorphen yr oil erbyn diwedd y ddau gyfnod. YMOFYNEB am y Forms priodol i'w rhoddi i'r Heddgeidwaid, a deuer a'r archebion ar unwaith, naill a'i i SHOP-YR- ERYR, Blaenau Festiniog, neu SHOP ISAF, Maenluwrog, Tanybwlch. AWST, 1908. T. ROBERTS. f, Why Pay Old-Fashioned High Prices for TEA? when the VERY BEST W np  H A 1* 4 WILL COST YOU, ONLY THE VERY BEST 1/4 WHY PAY MORE? MAYPOLE DAIRY COMPANY, LTD. 12, CHURCH STREET, BUENAU FESTINIOG, The Largest and Cheapest Retailers. • ■ ■■ Branches Everywhere. I Mr. OWEN, L.D.S., R.C.S., (London), DENTIST, LLYS DORFIL, New Market Square, Blaenau Ffestiniog. Gellir ei weled yn BLAENAU FFESTINIOG, bob Dydd Llun o 10 hyd 8; Boreu Dydd Iau o 10 hyd 1 a Boreu Gwener o 10 hyd 1 o'r gloch. IXANRWST, bob Dydd Mawrth a Dydd Mercher o lleg hyd 5 o'r gloch yn nhy Mrs. Parry, Station Road. ARE YOU interested in Birthday Cards & Picture PostlCards ? IF SO, we respectfully call your attention to the HIGH CLASS & ARTISTIC STOCK which we have now on Hand. PICTORIAL LETTER CARDS Containing 12 North Wales Views, very artistically printed, for ONE PENNY. Post Card Frames & Post Card Blotting Pads, 6d. each. Children's School Bags and all School Requisites. V APRON FILtfS, Is. & 6d. each. ANCHOR FILES, from 5s. 6d. Rhedegydd Office, BI. Ffestiniog. 'v ASSEMBLY ROOMS, BLAENAU FFESTINIOG, FRIDAY EVENING, August 28th, 1908. > I A GRAND « I < miscellaneous Concent will be held at the above place, when the following Artistes will appear:— Soprano:-Miss ALICIA M. COVE, Of Colston Hall, Bristol; Soloist with the Royal Welsh Male Choir, and United States Tour, 1906. v Baritone :-Mr. JOHN DEVONALD, The Renowned Penillion Singer Winner of Nine Prizes National Eisteddfod of Wales. x Clarioneifisf.—Mr. L. 0. MORRIS, Principal Soloist to the Aberdare Orchestral Society. Harpist.—Mr. TOM BRYANT, A.R.C.M., Harpist to the Marquis of Bute Winner of 10 First Prizes National Eisteddfod of Wales. Solo Pianist and Accompanist :-Prof RICHARD HOWELL ABERDARE. Doors open at 7, to commence at 7-30 p.m. Proceeds to enable the Royal Oakeley Silver Band to compete at Llangollen and Belle Vue Contests. Tickets, 2/ 1/ -/6.
NODIADAU WYTHNOSOL Prydain Fawr a!r Almaen. I O'r braidd mae y dyddordeb a gymerir yn y berthynas yn yr hon y saif Prydain a'r Almoen tuag at eu gilydd yn lleihau dim ac ofer ydyw ceisio celu r ffaith fod achos i bryderu. Oblegid y mae cynifer o bobl yn brysur yn gweithio i wneyd drwg yn waeth ac nid anhawdd, ysywaeth, ydyw cyffroi y cyhoedd yn y wlad hon ac yn y wlad hono hefyd, a deffroi yspryd drwg rhyfel. Da ydyw gweled gwladgarwyr a dyngarwyr gwir yn ymroddi i wrthwynebu ac i wneuthur yn ofer ymdrechion gwarthus y dynion dieg- wyddor fydd yn ymegnio i chwythu tan gel- yniaeth rhwng y ddwy deyrnas, ac i'w hysio i geiiso andwyo y naill y llall. Yn mhlith y gwyr blaenllaw sydd yn gweithio yn ddyfal yn mhlaid heddwch a chymydogaeth dda, rhaid rhoddi lie amlwg i Ganghellydd y Trysorlys, yr hwn sydd ar hyn o bryd yn yr Almaen. Aeth yno i astudio Blwydd-dal Henaint fel y'i gweithir allan yno, a dengys hyny ei fod yn cyfrif y rhaid perffeithio'r gwaith da sydd wedi ei ddechreu gan y Weirtyddiaeth y mae ef yn aelod mor bwysig o honi. Ond yr hyn sydd wedl tynu sylw I neillduol at Mr Lloyd George yn bresenol ydyw adroddiad a gyhoeddwyd o ymddidd ] an y dywedir ei fod wedi cymeryd He rhyng- ddo a chynrychiolydd newyddiadurpenaf a mwyaf dylanwadol Awstria. Ni eUir dibynu ar gywirdeb y rhan fwyaf o adroddiadau o'r math yma, ac y mae yn ddigon posibl y'u hysbysir ar fyrder na. ddywedodd Mr. George yr hyn a briodolir iddo. Os ydyw yr adroddiad yn gywir, goreu oil. Yn ei ol, wfftiodd ein cydwladwr enwog y synied fod rhyfel rhwng y ddwy deyrnas yn anochelad- wylnae mewn modd yn angenrheidiol,a thyst- iodd yn eglur mai yr hyn sydd yn ddymunol ac yn bosibl hefyd ydyw cyd-ddealltwriagth cyfeillgar rhyngddynt ynghylch nerth y llynges y mae yn rheidiol ac yn fuddiol i'yr naill fel y llall o honynt ei chael. Pwysleis- iwyd ar y ffaith y byddai rhyfel rhyngddynt yn anffawd, ac yn rhywbeth gwaeth, nag an- ffawd-yn gyflafan erchyll iawn. Sicrhaodd bobl yr Almaen-nad oes cysgod o sail i'r syniad fod cyfeillach y deyrnashon a Ffrainc ar y naill law, nac ymweliad diweddar yj Brenin lorwerth ag Ymherawdwr Rwssia ar y Haw arall; i'w gymeryd fel arwydd o gyngrair yn erbyn yr Almaen neu ymgais i'w gosod ar ei phen ei hun yn mysg y gallu- oedd mawrion. Dygodd dystiolaeth gref i'w Fawrhydi fel un yn caru heddwch a rhoddodd iddo ganmoliaeth uehel iawrf am ei'waith egniol a medrus ymhlaid heddwch. Yr yc*ym yn hyderus iawn y gwna geiriau fel hyn argraff dda. ar feddwl yr Almaenwyr.
Dychwelyd i'w to. T"" tiyn y mae iviri Cameron Crobett, A.s., wedi, neu ar fedr ei wneyd. Er's llawer o flynyddoedd bellach cynrychiola, fel Rhydd- frydwr Undebwr, ranbarth o Glasgow, ac y mae yn wr o ddylanwad tu hwnt i'r cykredin o'i gyd-aelodau. Er ei fod ar hyd y blyn- yddoedd wedi eistedd gyda'r Toriaid, ni fu yn un o honynt. Ar bob cwestiwn o'r bron, ag eithrio Ymreolaeth i'r Iwerddon yn unig; y mae wedi profi ei fod yn parhau yn Rydd- frydwr. Ychydig ddyddian yn ol ysgrif- enodd PrTîmes lythyr ynyr hwn y dywed ei fod wedi penderfynu gadael yr Wrthblaid, a chyineryd ei le drachetn ymhlith y Rhydd- frydwyr. Mae'r boneddwr anthydeddus yn' dwyn mawr sel ymhlaid Mesur y Trwydd- edau. Edrych at no fet y mesur goreu, o'r math yma o fesurau, a ddygwyd i'r Senedd eriod; ac nis gall, ddim yn hwy, eistedd ymhlith y gwyr sydd yn ei gondemnio ac yn ei wrthwynebu fel mesur rhagrithiol ac ang- hyfiawn. Bwriada roddi cyfle i'w etholwyr gymeradwyo. neu anghymeradwyo y cam y mae ar fedr ei gymeryd. Rhydd ei sedd i fypy, ac apela atynt i'w ail-ethol, ac y mae genym hyder cryf y gwnant hyny, ac y dychwelir ef gyda mwyafrif mwy nag a gafodd yn yr etholiad cyffredinol diweddaf, sef 363. Nid yw sel Mr. Cameron Corbett dros Fasnach Rydd ddim yn IIai na'i sel dros Fesur y Trwyddedau. -.W# I
Gwaith yn mis Gorphei^af. Adroddiad dyddorol, ond nid dymunol, ydyw adroddiad Bwrdd Masnach am gyflwr Masnach Llafur yn mis Gorphenaf. Dengys yn eglur fod gwaith lawer yn brinach, a bod cyflogau nid ychydig yn is, nag oeddynt yn mis Gorphenaf y flwyddyn diweddaf. Der- byniodd y Bwrdd adroddiadau oddiwrth 268 o Undebau Llafur, a'u haelodau yn rhifo 646,.511. O'r rhai hyn yr oedd 53,163 allan o waith, neu ychydig dros 8 y cant o honynt. Nid oedd lawn haner hyny allan o waith flwyddyn yn ol. Cododd anghydfod rhwng meistri a gweithwyr mewn 24 o achos- ion yn ystod y mis mewn 21 o achosion y bu felly y llynedd. Codwyd cyflogau 10000 o weithwyr, ond gostyngwyd cyflogau cynif- er a 181,200, a chyfrifir fod y gostyngiadau yn gwneyd i fyny R17,000 yr wythnos. Er had yw dyfodiad y trai hwn yn mor llafur yn l beth i ryfeddu ato, nis gall lai na pheri pryder i ni wrth edrych ymlaen at y gauaf, oblegid y mae yn rhaid i ni gredu y bydd gwaith yn brina,ch y pryd hyny nag ydyw y pryd hyn. Drwg ydywmeddvl y pair peth tel hyn lawenydd yn hytrach ha gofid i rai o bleidwyr rhagfarnllyd diffyndollaetb, ac y cymerant fantais arno i berswadio pobl ehud i fwrw eu coelbren gyda hwy. Ond gwell drwg nagwaeth, a throi drwg yn waeth a wnai diffyndollaeth.
Mr. Winston Ghurchi! I Dydd Sadwrn aeth Mr. Winston Church- ill i Abertawe i anerch cyfarfod mawr o lo- wyr Deheudir Cymry; a chyfarfod mawr anferthol oedd hefyd pan gododd i fyny i siarad derbyniwyd ef gyda chymeradwyaeth wresog rhoddwyd iddo ar ddiwedd ei araeth gymeradwyaeth oedd n'id yn wresog ond yn danllyd. Yn naturiol galwodd eu sylw yn gyntaf at y Mesur Wyth awr sydd yn awr gerbron y Senedd, ac anogodd hwy yn daer i arfer pob diwydrwydd I ddangos i'r cyhoedd, yn enwedig y gweithwyr sy'n trigo mewn trefi mawrion, na fydd lleihad oriau gwaith y glowyr yn ddim anfantais i eraill. Cynghorodd hwy yn mhellach i ym- baratoi i wneyd y mesur yn llwyddiant wedi y rhoddir,grym cyfraith ynddo. Rhyngodd bodd iddo fwrw y bydd yn gyfraith yn y man, ac y mae yn ddiameu genym ei fod yn iawn wrth farnu na feiddia Ty'r Arglwyddi estyn ei law yn erbyn y mesur i'w ddyfetha. Wedi hyn aeth rhagddo i lwyr gondemnio'r gwyr sydd yn ceisio gwneyd drwg rhwng y wlad hon a'r, Almaen-u Arglwydd Cromer yn Nhy'r Arglwyddi, a Mr. Blatchford yn y Clarion," a dywedodd y byddai rhyfel rhyngddynt yn ddrygwaith uffernol." Yn mhlith y pethau y mae yn rhaid eu gwneyd fel y byddo "yr Ymherodraeth Brydeinig yn gryf ac yn ogoneddus cyfrifa Mr. Churchill fod cymodi yr Iwerddon, ae mai trwy roddi ymreolaeth iddi yn unig y gellir ei chymodi. Ac yn el farn ef nad yw trefnu ymreolaeth i'r Iwerddon yn waith agos mor anhawdd a pherygtusar gwaith a wnaed yn llwyddianus yn Neheudir Affrig. Ni fu Llywydd Bwrdd Masnach ertoed yn Dori yn ngwir ystyr y gair er iddo alw ai bun ar yr enw hwnw am rai blynyddoedd. Erbyn hyn y mae yn Rhyddfrydwr o'r iawn ryw, ac y mae mewn cydymdeimlad Uawn a Llafur ac a Sosialaeth resymol.
I Pla'r Moduriau. O'r diwedd y mae Bwrdd Llywodraeth Leol wedi gweled fod yn hwyr bryd gwneyd rhywbeth i atal y pla atgas hwn sydd yn gwneyd y prif-ffyrdd yn lleoedd nid anghys- urus yn unig ond peryglus hefyd i bobl fod ynddynt. Anfonir cylch lythyr i holl Gyng- horau Sirol a Dosbarthol y wlad, ac y mae yn ddealledig y gofynir iddynt ddywedyd i ba fesur mae moduriau yn treulio'r ffyrdd gan chwanegu at y draul o'u cadw mewn cyflwr addas, ac i ba fesur y maent yn ber- yglus i wyr traed a gwyr meirch. Ar natur yr atebion a geir, dybygwn, y dibyna yr hyn a wneir gan y Bwrdd i atal y pla flin hon. Nid oes gan neb ddim yn erbyn moduriau fel y cyfryw, ond cwynir yn gyff redinol iawn eu bod wrth chwyrnellu ymlaen ar hyd y ffyrdd yn codi llvvch sydd yn niweidiol yn ogystal ag yn anymunol i ddyn ac anifail, a bod modurwyr (gan mwyaf) yn hollol ddi- ystyr o hawliau pobl nad ydynt yn teithio mewn moduriau. Gobeithiwn na chymery Bwrdd Llywodraeth Leol drafferth i wneyd y gwaith mor araf ag y gal! ei wneyd, ob- legid (fel Byrdd au eraill) gall weithio yn araf iawn iawn os myn.
Deddf y Tlodion. Mae n weddol sicr tod gan Mr. John Burns, fwriad i wneyd cyfnewidiadau mawr- ion a phwysig yn ngweinyddiad Deddf y Tlodion. Clywsom ar awdurdod uchel ei fod wedi penderfynn ysgubo Byrddau y Gwar- cheidwaid ymaith, a rhoddi eu gwaith i Bwyllgorau a ddewisir gan Gynghorau Tref- 01 neu Gynghorau Sirol. Yr ydym yn agor- ed i argyhoeddiad, ond nid oes genym eto reswm dros gredu y gwnai pwyllgorau felly y gwaith ddim yn well nag y'i gwneir yn awr gan Fyrddau y Gwarcheidwaid. Nid ydym yn dywedyd fod y rhai hyn yn gwneyd y gwaith gystal ag y dylid ei wneyd. Gwydd- om r.ad oes dim yn rhy ddrwg gan rai i'w ddywedyd am danynt. Y drwg ydyw fod y da a'r drwg yn eu plith, y rhai goreu a'r rhai gwaethaf o honynt yn cael eu condemnio yr un ffunud. Ni phetruswn ddywedyd fod rhai gwarcheidwaid yn gwneyd y gwaith an- hawdd sydd ganddynt mewn modd sydd yn gredyd iddynt ac yn gwneyd y cyhoedd yn ddyledus iawn iddynt. Gobeithiwn y trefnir i letya crwydriaid mewn lleoedd yn hollol ar wahan oddiwrth gartref y tlodion, ac yr ydym yn hyderus y cedwir plant oddiallan i'r tlodty. Mewn rhai lleoedd megir y plant mewn tai neu gartrefi dan ofal mamaethod. Gwneir felly mewn ambell le yn Nghymru, ac yn mhob lie y gwnaed yr arbrawf bu yn llwydd- iant llawn. Credwn fod genym yn Mr. Burns wr yn yn rhagori mewn cymwysder- au i'r gwaith y mae wedi rhoddi ei law iddo, ac y bydd iddo ei orphen mewn modd a wna ei enw yn anwyl gan bobl dlodion yn awr ac ar ol hyn.
Onydau Toreithiogr. Mae r cyhauaf yd wedi dechreu yn ein gwlad ni, ac o bob rhan o honi daw gair fod y cnydau yn doreithiog. Ó Canada hefyd daw gair fod yno rgplwg am gnwd rhagor- ol dros ben. a sicrheir ni gan rai ag y tybir eu bod yn gwybod y bydd Canada yn abl i anfon i'r wlad hon lawn gymaint arall o wenith ag a anfonodd y llynedd. Vn ngwyneb y tebygolrwydd y bydd gwaith yn brin a moddion pobl i brynu angenrheidiau bywyd yn llai y gauaf nesaf nag oeddynt y llynedd, da ydywdeall nadoes achos i ofni y codir pris bara. Os sylweddolir gobeith- ion amaethwyr Canada am gynhauaf cyf- oethog, gallwn ninau obeithio am ostyngiad yn hytrach na chodiad yn mhris blawd gwenith.
TANYGRISIAU. DAMWINIAU .-Prydnawn Sadwrn, syrth- iodd John Humphrey Williams, bachgen bychan Mr. John Williams, Frongoch, a'r grawen wrth y ty, a thorodd archoll dwfn ar e! ben.—Dydd Sul, syrthiodd Lizzie Williams. eneth fach Mr. Richard Williams, Glanrafon Terrace, ar grawen yn yr ardd, ac archollodd ei phen yn drwm. Gweinyddwyd arnynt gan W. Henry Jones, a Thomas Lewis. Dau aelod o'r Ambulance. PENODIAD.—Llongyfarchwn y brawd ieuans Mr. Richard Jones; 1, Glanr'afon Terrace, ar ei benodiad yn athraw allan o amryw ymgeiswyr i Bont-newydd, Caernarfon. Derbyniodd gwrs o addysg yn Ysgol Ganol- raddol Ffestiniog, a bu am ychydig yn Nholeg Bangor. Eled yn mlaen yw ein dymuniad.
■ TREFRIW. CYNGERDD.—Nos Iau, cynhaliwyd un o'r, Cyngerddau rhagoraf a mwyaf llwyddianus fu yn y Neuadd hon erioed. Elai yr elw at d'rys- prfa Capel newydd y Metbodistiaid yn y lie, a gwnaed elw da oddiwrtho. Llywyddwyd gan Mr. John Owen, Dirprwy y Llywodraeth 0 dan ddeddf y Man-ddaliadau, ac arweiniwyd gan Mr. H. Parry, Lerpwl. Gwasanaethwyd gan Miss Sarah King Sarah yn nodedig o gymer- adwy; a'r un modd Mr. a Mrs. Lewis. Capel Curig; Miss Lewyn Mc'Whirter, Wolver- hampton Mr. O. J. Williams (Owain Cybi), Canu penillion,—y Telynor Dall o Feirion yn cyfeilio i'r Datganwr Penillion. Cyfeiliodd Miss Nellie Lewis, A.R.C.M.
MarwoEaeth Canon Woodward. Hysbysir am farwolaeth Canon Woodward, D.D., Ficer St. Silas, High Park Street, Toxteth, yn ei 71 mlwydd o'ioedran. Yroedd yn awdwr o fri, ac yn un o ser disglaeraf yr Eglwys Sefydledig. Cymerwyd ef ymaith o ganol ei waith heb yr arwydd lleiaf o ddiff- ygiad yn ei nerth. Gedy weddw gystuddiol mewn galar ar ei ol.