Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

Advertising

NODIADAU WYTHNOSOL

Dychwelyd i'w to.II T"" ...."…

|Gwaith yn mis Gorphei^af.…

Mr. Winston Ghurchi!!.I

I Pla'r Moduriau.

Deddf y Tlodion.---.

News
Cite
Share

Deddf y Tlodion. Mae n weddol sicr tod gan Mr. John Burns, fwriad i wneyd cyfnewidiadau mawr- ion a phwysig yn ngweinyddiad Deddf y Tlodion. Clywsom ar awdurdod uchel ei fod wedi penderfynn ysgubo Byrddau y Gwar- cheidwaid ymaith, a rhoddi eu gwaith i Bwyllgorau a ddewisir gan Gynghorau Tref- 01 neu Gynghorau Sirol. Yr ydym yn agor- ed i argyhoeddiad, ond nid oes genym eto reswm dros gredu y gwnai pwyllgorau felly y gwaith ddim yn well nag y'i gwneir yn awr gan Fyrddau y Gwarcheidwaid. Nid ydym yn dywedyd fod y rhai hyn yn gwneyd y gwaith gystal ag y dylid ei wneyd. Gwydd- om r.ad oes dim yn rhy ddrwg gan rai i'w ddywedyd am danynt. Y drwg ydyw fod y da a'r drwg yn eu plith, y rhai goreu a'r rhai gwaethaf o honynt yn cael eu condemnio yr un ffunud. Ni phetruswn ddywedyd fod rhai gwarcheidwaid yn gwneyd y gwaith an- hawdd sydd ganddynt mewn modd sydd yn gredyd iddynt ac yn gwneyd y cyhoedd yn ddyledus iawn iddynt. Gobeithiwn y trefnir i letya crwydriaid mewn lleoedd yn hollol ar wahan oddiwrth gartref y tlodion, ac yr ydym yn hyderus y cedwir plant oddiallan i'r tlodty. Mewn rhai lleoedd megir y plant mewn tai neu gartrefi dan ofal mamaethod. Gwneir felly mewn ambell le yn Nghymru, ac yn mhob lie y gwnaed yr arbrawf bu yn llwydd- iant llawn. Credwn fod genym yn Mr. Burns wr yn yn rhagori mewn cymwysder- au i'r gwaith y mae wedi rhoddi ei law iddo, ac y bydd iddo ei orphen mewn modd a wna ei enw yn anwyl gan bobl dlodion yn awr ac ar ol hyn.

Onydau Toreithiogr.

TANYGRISIAU.

-■ TREFRIW.-----.

MarwoEaeth Canon Woodward.