Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.…
CYNGOR DINESIG FFESTINIOG. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol, Mri. Evan Jones (Is-Gadeirydd), yn y Gadair, David Davies, David Williams, Richard Jones, Richard Roberts, Hugh Jones, Hugh Jones (Llan), T. J. Roberts, E. Lloyd Powell, J. Lloyd Jones (leu), W. J. Rowlands, R. T. Jones, E M Owen, Cadwaladr Roberts/Lewis Richards, E. T. Pritchard, William Owen, R. O. Davies (Clerc), W. E. Alltwen Wil- liams (Peirianydd ac Arolygydd), George Davies (Arolygydd Iechydol), Dr. R. Jones (Swyddog Meddygol), ac Evan Roberts (Clsrc Cynorthwyol). Y Gwelyau Bacteraidd, Mr. David Williams a alwodd sylw at y I pwys o fod prawf cyflawn yn cael ei roddi ar y gwaith wnaed ar y Gwelyau Bacteraidd yn Cwmbowydd cyn myned yn mlaen ddim pell- ach gyda hwy, er mwyn bod yn sicr na byddai raid myned i'r gost o ail wneyd dim ar y lie fel y bu raid yn y Gwelyau eraill.—Ar gynygiad Mr. Williams, a chefnogiad Mr. William Owen pasiwyd fod hyny i gael ei wneyd.-Y Peirian- ydd a hysbysodd y byddai Dr. Dibdin drosodd ddechreu yr wythnos yn nglyn a'r llech-dorion (slate debris) oeddid am eu dodi yn y gwelyau, a byddai yn fuddiol i'r Pwyllgor gyfarfod ar y- lie i wneyd ar-brawf pan fydd ef yma.- Pasiwyd i gyfarfod yn unol ag awgrym y Peir- ianydd. Cyfarwyddwyd y Peirianydd i baratoi amcan- gyfrif o'r gost o osod pibelli er awyru y gwelyau llyfnaf; ac i osod pibelli er chwistrellu y gwelyau garwaf y pris i gynwys lie a hawl i wneyd cronbwil i'r amcan hwnw. Fod y llech-doriou i'w pwyso ar y Ffestin- iog Railway, a'r pwysau hwnw i'w gymeryd i wneyd cyfrif o'r hyn a ddefnyddid a bod y Peirianydd a'r Cadeirydd i weled Mr. Owen Jones, Gornchwylydd Chwareli Oakeley, er ymgyngori gyda golwg ar gael y llech-dorion wedi eu paratoi yn y chwarel. Fod chwech yn rhagor o ddynion yn cael eu cyflogi i dori cerig at y gwelyau darparedig at lifogydd. Galwyd sylw at fod gweithwyr y Cyngor yn cael eu defnyddio i osod i fyny offerynau Mri. Adams, tra mai eu dyn hwy eu hunain oedd i wneyd hyny yn ol y cytundeb.—Pasiwyd i anfon atynt ar y mater. Pwyllgor y Nwy, y Dwfr, a'r Goleuni. Ar argymelliad y Pwyllgor ac Adroddiad y Swyddogion, cymeradwywyd y pethau canlyn- ol:- Fod pris y Coke i barhau yr un fath, a bod ei werthiant yn cael ei gyfyngu i'r Dos- barth ond fod gwybodaeth yn cael ei roddi i rai tebygol o brynu, fod gan y Cyngor Coke ar werth. Gaiwodd yr Arolygydd sylw at fod y tymor goleuo wedi agoshau, a phasiwyd iddo wneyd y paratoadau angenrheidiol at gael y lampau mewn trefn; a bod yr Is-bwyllgor i'w alw i gwblhau y trefniadau, ac amryw faterion eraill gyda Mr. Yale. Gwelwyd fod yn angenrheidiol tynu allan gytundeb a gwneyd trefniadau newydd gyda'r un sydd yn gofelu am Lyn y Morwynion ac y mae y mater mewn llaw i'w gwblhau. Yr Arolygydd a alwodd sylw at y mawn oedd wedi croni o gwmpas genau y brif bibell yn y Llyn. a'r priodoldeb o ysgarthu (dredging) y Llyn gan fod amryw ganoedd o dunelli o fawn wedi casglu wrth y pibelli.—Pasiwyd i oedi ysgarthu ar hyn o bryd. Yr oedd llu mawr yn gwneyd cais am Bobtai Nwy (Gas Stoves), a bu y Pwyllgor yn eistedd ddwywaith i'w hystyried yn fanwl cyn eu cymeradwyo. Yr oedd dau gynyg am wneyd y groes-ffos (culvert) yn Brynffynon,-W. P. Davies, £ 35, a H. S. Williams, £ 26. Derbyniwyd eiddo yr Olaf Nid oedd ond un (Isaac Lewis), yn cynyg am wneyd y ffos o'r Cae Chwareuon. Y pris oedd 11/6 y llath, a £ 5 am wneyd y Derbynbwll. Pasiwyd i wneyd y gwaith eu hunain, a bod y plan yn cael eu roddi i Mr. J. Vaughan Wil- liams i'w gymeradwyo a'i arwyddo.-Fod cytundeb i'w wneyd a'r perchenog i lanhau y Derbyn-bwll. Cymeradwywyd i fyned a'r bibell ddwfr i gyfbnwi Isfryn Terrace ar ol cael caniatad Mr. E. Williams i fyned trwy ei eiddo; a bod Goruchwyliwr y Gwaith Nwy i gario y bibell nwy i oleuo y lie fel y byddo amser yn caniatau. iddo allu gwneyd hyny. Fwyiigor y ssiyraa, lecfcyd, a'r Gwelliantau. Yr Arolygydd Iechydol a adroddodd i'r Pwyllgor fod trefniadau iechydol 1, Bronhaul, Tanygrisiau, yn dra diffygiol; a phasiwyd i wasanaethu rhybudd ar y perchenog i osod y lie mewn trefn yn ddioed. Yr Arolygydd Iechydol a alwodd sylw at y ffieidd-dod godai yn nglyn ag ystabl y Baltic Hotel, ac awgrymai i rybudd gael ei wasanaethu i symud y domen a glanhau y lie o fewn saith niwrnod.-Pasiwyd i wneyd hyny. Hysbysodd y Swyddog yn mhellach fod y Dosbarth yn hollol Ian oddiwrth glefyd o bob math.—Mr. Lewis Richards a ddywedodd fod yn bwysig iawn iddynt hwy yn y Llan i'r wasg wneyd y ffaith hon yn bysbys et mwyn y lie, gan fod ymwelwyr yn dod yno. Yr oedd y Cambrian News yn rhoddi bob help i ddwyn y He i sylw, ac felly helpu y trethdalwyr yno. —Mr. William Owen (tan wenu), Hwyrach y gwnaiff y Wasg sylw o'r hyn ddywedodd Mr. Lewis Richards" (chwerthin). Pasiwyd i adgyweirio ffordd Hafodruffydd a Tanyclogwyn ar ol y niwed wnaed iddi gan y llifogydd, a bod geneuau y ffosydd yn cael eu cyfaddasu at dderbyn y dwfr ar y llifogydd, ac felly arbed colledion pellach arnynt. Yr oedd y Clerc wedi edrych i mewn i gyfrif- oldeb y Cyngor gyda golwg ar y lIe peryglus sydd ar ochr Wynne Road wrth y Felin Lechi. Barnai mai y Cyngor ddylai ddiogelu y lie, a phasiwyd i wneyd hyny ar unwaith. Pasiwyd i ganiatau i Mr. H. Parry gael gosod gri$iau wrth Peniel House, ond ei fod i'w tynu 03 bydd galw am hyny yn y dyfodol gan mai goddefol (dros dro) oedd y caniatad a roddid yn awr. Mewn ystyriaeth o lythyr Mr. R. Jones, Creuau, yn nghylch yr ad-glawdd (fence) ar Chwarel Bwlchymaes, eglurwyd nad oedd y chwarel hon yn waharddedig i bawb ond y Cyngor, ac felly nad oeddynt yn dal dim cyfrif- oldeb yn nglyn a hi. Daeth deiseb oddiwrth trigolion y Doppog a'r dosbarth yn cwyno oherwydd yr anghyf- leusdra achosid gan waith y Reilffordd Gul yn gwrthod caniatau gwasanaeth eu cledrffordd i gario nwyddau i'r dosbarth.—Pasiwyd i anfon at y Cwmni i ddangos yr anghyfleusdra achosid trwy y gwaharddiad, a gofyn iddynt ail ys- tyried y mater.-Pasiwyd hefyd i gefnogi y trigolion yn eu cais at Arglwydd Harlech i osod i fyny ddwy bont dros yr afon He y rhed ar hyd ei dir, Y Llyfrgell. Yr oedd Pwyllgor y Llyfrgell yn argymell pwrcasu 75 o lyfrau newyddion, o'r rhai y rhoddid rhestr, a bod y gweddill o'r rhestr yn cael ei chwblhau yn mhen y mis, er mwyn ei chyflwyno i'r Cyngor am gymeradwyaeth. Penodwyd Mri. Owen Jones a W. J. Rowlands i dynu allan restr yn yr adran Amrywiaethol.- Deallwyd nad oedd yr arian ddosranwyd i'r gwahanol ganghenau i gael eu gwario i gyd, ond fod y drydedd ran o honynt i'w cadw mewn llaw. Yr oedd adroddiad y Llyfrgellyd am y chwarter yn dangos i 1838 o lyfrau gael eu rhoddi allan yn fenthyg lleihad o 345 ar y tri mis cyferbyniol. Yn y Gangen-ddarllenfa rhoddwyd 815 o lyfrau allan yn ystod y flwydd- yn: cynydd o 115.-Yr oedd Mri. Ruswell yn cynyg dwy gini y flwyddyn am gael rhoddi eu Book-mark yn y llyfrau. Pasiwyd i dderbyn y cynyg os bydd y Book-mark yn un boddhaol, y pwyllgor i'w weled cyn ei dderbyn yn der- fynol. Mr. Cadwaladr Roberts, a alwodd sylw nad oedd yr un llyfr Cymreig yn y rhestr. Yr oedd genym awduron Cymreig teilwng o gael eu llyfrau i'r Llyfrgell. Edrychai y rhestr yn un rhyfedd iawn fel yr oedd, ac nid oedd yn ym- ddangos fod yr un llyfr sylweddol yn eu plith. Yr oedd dros dri chant llai o lyfrau wedi eu rhoddi allan na'r llynedd, a lluchio arian yn ofer ydoedd prynu rhagor i'r lie, a gallent heb- gor gwario yr haner can' punt oeddid am wneyd. Cauwyd cangen Tanygrisiau a Chongl- ywal er mwyn cynilo arian, ond yr oedd y Pwyllgor am wastraffu cymaint ag a allent.-Y Clerc a ddywedodd fod Mr. Silyn Roberts wedi tynu Rhestr o lyfrau Cymreig at eu pwrcasu, ac nid oeddid yn bwriadu gwario ond £ 12 yn awr os mabwysiedid y Rhestr a gynygid gan- ddynt.—C. Roberts a gynygiodd eu bod yn gohirio pasio y Rhestr nes ei cbael yn gyflawn, fel ag i'w hystyried gyda'i gilydd.—Mr. David William a gefnogodd. Cafodd y Pwyllgor ddigon o amser i'w gwneyd yn gyflawn, ac an- fantais fuasai ei phasio yn fan adranau.-Mr. E. Lloyd Powell a ofynodd paham yr oedd y Cyngor fel yn benderfynol o atal y pwyllgor hwn i wneyd ei waith tra y pesid argymellion y pwyllgorau eraill. Yr oedd yn y Llyfrgell ddigon o lyfrau Cymreig os oedd gan Mr. Cadwaladr Roberts eisiau rhai i'w darllen.- Cadeirydd, "Peidiwch myn'd yn bersonol. Mr. Cadwaladr Roberts, Na, gadewch iddo, mi ddaw adre' yn union."—Mr. Powell, "Yr oedd y lleihad yn nifer y llyfrau yn codi o fod y llyfrgell wedi bod yn ngbauad am bythefnos. Yr wyf yn cynyg pasio y Rhestr."—Mr. R. T. Jones, a gefnogodd. Nid oedd rheswm o gwbl mewn gwrthod pasio argymellion y pwyllgor. —Mr. C. Roberts, Y mae yn hawdd iawn siarad am wario arian, yn enwedig gan y rhai sydd yn tynucostau arnom pan ar ein gadael. Os oes yma ddigon o lyfrau Cymraeg. mae'n mae'n siwr fod ymafwynadigonorai Seisneg." Mr. T. J, Roberts, a sylwodd nad oedd y lleihad yn nifer y llyfrau roddwyd allan, yn agos i'r hyn ydoedd y lleihad yn y boblogaeth. —Mr. D. Davies a sylwodd nad oedd y llyfrau yn -y rhestr wedi eu dosbarthu.-Clerc, "Gwneir hyny eto."—Pasiwyd cynygiad Mr. C. Roberts trwy 9 pleidlais yn erbyn 7. Arianol. Yr oedd y Pwyllgor yn argymell talu traul teithio David Davies o Maentwrog i Cwm- bowydd am y tro, ond nad oedd hyny i'w wneyd eto i neb. Bu trafodaeth ar hyny drachefn yn y Cyngor, a phleidleisiodd 10 yn erbyn 5 dros dalu. Yr oedd Mr. J. Vaughan Williams yn cytuno i dalu 10/- y flwyddyn i'r Cyngor am lanhau y derbyn-bwll (catclibit) perthynol i'r ffos yn y Cae Chwareuon, a phasiwyd i weithredu drosto fel ei weision, ond nad oedd cyfrifoldeb ar y Cyngor yn nglyn a'r peth. Hysbysodd y Clerc fod £ 770 6s Oc wedi eu casglu yn ystod y mis, a derbyniwyd £308 15s o'r Cyngor Sirol at gawraeth y ffyrdd. Ar- gymellid talu gofynion i'r swm 0£795 5s lOc Yr oeddid mewn dyled yn yr Ariandy y mis diweddaf o £ 984 8s 2c; ond y ddyled yu awr ydoedd £ 196 6s 5c. I Meddygol. Dr. Jones a adroddodd i 21 o enedigaethau gael eu cofrestru yn ystod mis Gorphenaf, a naw marwolaeth. Yr oedd llai ar gyfartaledd wedi marw ar hyd misoedd y flwyddyn honnag a welwyd er's llawer o flynyddoedd. I Dwfr ochr y Manod. Yr oedd Is-bwyllgor wedi ei benodi i ystyried beth ellid ei wneyd gyda golwg ar y dwfr a orlifai i Isfryn Terrace, &c., ar adegau o wlaw- ogydd trymion, ac a barai,y fath anghysur i'r preswylwyr a thraul i'r Cyngor. Cyflwynwyd yr adroddiaj i'r Cyngor yn argymell y tir berchenog i wneyd darpariaeth er ei ddwyn i bibelli dwfr wyneb perthynol i'r Cyngor.—Mr. David Williams a gynygiodd fod yr argymelliad yn cael ei basio. Mr. R. T. Jones a gynygiodd i'r Adroddiad gael efgyfiwyno i'r Pwyllgor Iechydol. Nid oedd yn deall paham y brys gyda phasio y peth a rhoddi costau ar y Cyngor.—Mr D. Williams I Nid yw Mr. R. T. Tones yn gwybod dim am beth y mae yn siarad! Dylai y gwaith gael ei wneyd yn ddioed tra y mae y tywydd mor ffafriol."—Mr. R. T. Jones, Yr wyf yn methu gweled beth ydyw y brys i basio hwn am fod dyn cyfoethog yn gofyn am iddo gael ei wneyd. Pe yn ddyn tlawd cawsai aros am fisoedd heb ei basio.Mr. David Williams, Yr oeddwn yn dywedyd wrthych nad oedd Mr. R. T. Jones yn deall dim ar y mater, a'i fod o dan ei ddwylaw yn hollol gydag ef. Nid ydym yn gosod dimeu o gost ar y Cyngor, ond argymell- wn i'r gwaith gael ei wneyd er amddiffyn budd- ianau y Cyngor trwy atal y dwfr hwn fyned i'r carthffosydd, yn lie i'r pibelli dwfr wyneb. Mae'n syn genym feddwl Jgd neb o honom yn gwrthwynebu amddiffyn eiddo y Cyngor. Cododd triieu dwylaw o blaid cynygiad Mr. R. T. Jones, a'r gweddill dros fabwysiadu yr Ad- roddiad. Mynwent y Llan. Yr oedd y Pwyllgor wedi awdurdodi Mr. Richard Roberts i brynu y ddau dy wrth y fynwent os ceid hwy am £60 yr un. Hysbys- odd Mr. Robert3 ei fod wedi llwyddo, ond fod telerau yn nglyn a'r gwerlhiat,-Y Clerc a ddywedodd fod yn ofynol edrych beth oedd y telerau hyny cyn pasio i brynu y lle.-Pasiwyd i gwblhau y pryniant os ceid gan y Clerc fod y telerau yn foddhaol. Llythyrau. Yr oedd llythyr wedi dod yn hysbysu fod cais y pwyllgoram Box llythyrau yn Bethania wedi ei ganiatau.—Mr. C. Roberts, "Y mae Mr. Griffith ei hun am roddi Box yn Station, Tanygrisiau, heb i'r Pwyllgor drafferthu dim arno yn ei gylch." Derbyniwyd amryw llythyrau yn nglyn a'r penderfyniad basiwyd ar Rhyddfreiniad Prydlesoedd. Yr oedd Mri. W. E. Alltwen Williams, W. Williams Jones, Daniel O. Williams, a G. W. Humphreys, wedi anfon i ddiolch i'r Cyngor am eu penodi yn Swyddogion iddo. A chydsyniai Bwrdd y Llywodraeth Leol a'r trefniant wnaed gyda Swydd Mr. George Davies. Caniatawyd gostyngiad yn mhris y Stall ddelir gan Mr. John Jones, 20, New Market Square, yn yr Hall. Caniatawyd cais Mr. O. O. Roberts, i gael symud ei adeilad o Fuarth yr Orsaf i ymyl Parry's Terrace. Cyflwynwyd llythyr Bwrdd y Llywodraeth Leol ar y Man-ddeddfau i'r Pwyllgor Rheolau. Plaid Anibynol Llafur. Daeth cais oddiwrth y Parch. Thomas Griffith, am gael gwasanaeth y Neuadd i Mr. James Parker siarad ar ran Plaid Llafur.—Mr. William Owen a gynygiodd eu bod yn caniatau ar yr un telerau a phob cyfarfod gwleidyddol arall.—Mr. R. T. Jones a gynygiodd ei bod yn cael ei gosod am y pris isaf, a chefnogodd Mr. Richard Roberts. Yr oedd y cynygydd yn ofni fod gwrthwynebiad i'r Blaid yn cyfrif dros ofyn am y pris arall.—Mr. William Owen, mae genym raddfa o brisiau ar y Neuadd, a dylem lynu wrthi yn y peth hwn fel pobpeth arall. Y mae degau o gyfarfodydd Gwleidyddol wedi eu cynal ynddi, a chodir tal neillduol am dani. Paham gwneyd gwahaniaeth yn yr achos hwn ?" —Cododd Mri. R. T. Jones, R. Roberts, T. J. Roberts, ac E. Lloyd Powell eu dwylaw dros ei rhoddi am y pris isaf, a'r gweddill dros godi y pris arferol i gyfarfodydd o'r fath. Ambulance. Hysbyswyd fod 6 o ferched wedi pasio Arholiad yr Ambulance yn y first Stage, a 2 Vouchers (ail flwyddyn). Pasiodd 4 allan o 7 o fechgyn y first Stage, 4 allan o 6 y Vouchers (ail flwyddyn) a 1 Voucher (flwyddyn gyntaf). Felly yr oedd yr oil o'r merched wedi pasio a 5 o'r bechgyn wedi methu. Arian wedi eu Dwyn o'r Swyddfa. Rhoddodd y clerc eglurhad yn nghylch ad- roddiad Pwyllgor yr ol-ddyledion, mewn ateb- iad i Mr. Cadwaladr Roberts, ac hysbysodd yr anfonid copi o hono i bob aelod.—Mr. Wil- liam Owen, A oes hanes am y £ 10 neu J12 syddargoll? Dylid cael gwybodaeth yn eu cylch."—Mr. Cadwaladr Roberts a ofynodd a oedd sail i'r dybiaeth fod swyddog neillduol wedi eu cymeryd ? Yr oedd adroddiad pwyllgor y swyddi wedi peri i lawer siarad i'r cyfeiriad hwnw.—Y Clerc," Collwyd yr £ ll o'r Swyddfa yn mhen bythefnos ar ol i'r pwyllgor wneyd ei waith, fel nad oes fodd i neb dybio fod y Swyddog enwodd Mr. Cadwaladr Roberts yn euog lo gymeryd yr arian. Y mae cymeriady Swyddog hwnw uwchlaw amheuaeth yn nglyn a'r arian gollwyd."—Mr. E. Lloyd Powell, Oni ddylid cael eglurhad am yr arian ? Y mae y cyhoedd yn disgwyl am hyny. Y mae Mr. Cadwaladr Roberts ar fai yn awgrymu dim am y Swyddog."—Mr Cadwaladr Roberts, "Nid wyf am dynu yn ol ddiid a ddywedais, ac yr oeddych i gyd yn fy meio am ofyn a oedd yn wir fod arian wedi eu dwyn o'r drawer yna. Atebodd y Cletc fi, fod y peth yn wir, ac awgrymodd y gallasai rhywun heblaw y rhai oedd yn trin yr arian eu lladrata. Nid oes genyf fi yr amheuaeth lleiaf am y Swyddog a enwais, ac yr wyf yn foddlon wedi cael yr eglurhad, ond rhaid cael gwybod lie y mae yr arian. Ni orphwysaf nes cael y mater i oleu dydd, fel na byddo amheuaeth yn aros uwch- ben neb sydd yn ein gwasanaeth."—Mr. Wil- liam Owen, Y mae yn ddrwg genyf glywed Mr. Cadwaladr Roberts yn awgrymu enw un o'r Swyddogion; y mae yn gwilydd ac yn warth ei fod yn gwneyd hyny mewn Cyngor cyhoeddus fel hyn. Nid oes yr amheuaeth leiaf am gymeriad y Swyddog a enwodd yn nglyn a'r arian gollwyd. Dylem gael allan pwy a'u Uadrataodd, a rhaid cael hyny, a'i wneyd yn hysbys i'r wasg ei gyhoeddi.Rhoddwyd ar ddeall y gwneid ymchwiliad llawn i'r mater.— Mr. Richard Roberts a obeithiai na byddai i'r wasg gyhoeddi enw y Swyddog y crybwyllodd Mr. Roberts amdano.-Y Cadeirydd a ofynodd i'r wasg am adael yr enw allan o'a hadroddiad am weithrediadau y Cyngor. Addysg Gelfyddydol. Mewn atebiad i Mr. Hugh Jones, eglurodd y Clerc mai absenoldeb y Cadeirydd (Mr. Cadwaladr) oedd y rheswm dros fod y Pwyllgor heb ei alw. Gelwid ef ddechreu yr wytbnos ar ol i Mr. Cadwaladr ddod adref o'i Wvliau. Rhybudd. Mr. T. J. Roberts a roddodd rhybudd o gynygiad i wneyd un Pwyllgor o'r amryw fan bwyllgorau perthynol i'r Carthffosydd a'r Gwaitb wneid gan y Cyngor. Dewis Rheolwr Gwaith. Cyn i'r Cynygion am y swydd o Works Manager gael eu hagor, galwodd Mr. Richard Roberts sylw at y ffaith fod un ran o bedair o'r aelodau yn absenol. Oni fyddai yn well go- hirio y penodiad nes cael Cyngor llawn.—Mr. W. Owen a gynygiodd, a chefnogodd Mr. R. Roberts, eu bod yn gohirio am fis.-Mr. R. T. Jones a gynygiodd fyned yn mlaen gyda'r gwaith, a chefnogodd Mr. E. Lloyd Powell.- Mr. C. Roberts, Yr wyf yn cynyg gohirio hyd y gorphenir y gwilth yn Gwmbowydd."—Mr. E. T. Pritchard, "Yr wyf yn cynyg gohirio hyd amser anmhenodol.Pleidleisiodd 9 dros ohirio, a 7 dros beidio.
rwvvvvvvv vvvvvvvvvvvv vvvvvv…
rwvvvvvvv vvvvvvvvvvvv vvvvvv I' CYNGOR-DI,NESIG-LLANRWST. Cyfarfu y Cyngor ached nos Wener pryd yr oedd yn bresenol Mr. Wm. Hughes (Cadeir- ydd), Dr. Owen (Is-gadeirydd), Parch. W. Cynwyd Williams, a'rmri. Albert Hughes, Wm. Davies, W. J. Williams, Arthur Parry, R. R.:Owen (Clerc), Dr. Travis (Dirprwy Swyddog Meddygol), George Wynne (Arolyg- ydd), ac E. M. Jones (Trethgasglydd). Yr Ysgol Genedlaethol. Yn ngwyneb adroddiad Dr. Traves o ber- thynas i'r uchod, pasiwyd ar gynygiad Mr. Cynwyd Williams a chefnogiad Dr. Owen, fod copi o'r adroddiad yn cael ei roddi i'r Rheol- wyr. Meddygol. Ganwyd 4, a bu 2 farwynystodmis Mehefin, ac yn mis Gorphenaf, ganwyd 6. a bu 5 feirw. I Arolygwyr Iechydol. I I Pasiwyd i Mr. George Wynne gael myned i Gynhadledd yr Arolygwyr Iechydol yn Lerpwl ac i roddi dwy gini iddo at ei gostau. Niweidio Eiddo. Pasiwyd i hawlio tal an: y covers dorwyd gan traction neillduol. Arianol. I Pasiwyd i dalu biliau yn gwneyd cyfanswm o I £ 61 15s Ie. yn gadael gweddill o £ 365 10s 3c. Casglwyd yn ystod y mis £ 5 12s 2c. Y Bont Fawr. Adgofiai y Clerc fod y gwaith o adgyweirio yr uchod wedi ei orphen, ac yr oedd eisieu ystyried beth ddylasai y Cyngor Sirol dalu air fenthyg arfau y Cyngor. Wedi peth siarad, pasiwyd i drosglwyddo y mater i'r Pwyllgor Iechydol. Y Farchnad Foch. Gohiriwyd yn mhellach y cvvestiwn o ar- drethu He i gynal y farchnad foch am nad oedd I y Clerc wedi derbyn telerau ond oddiwrth un. Y Neuadd. Gan nad oedd y gwaith o adgyweirio to y Neuadd wedi ei ddechreu pasiwyd i anfon at Mr. Jeremiah Jones i ofyn a oedd yn barod i'w wneyd a'i peidio. Y Dan-Gatrawd. Y Clerc a ddywedai fod y dull presenol o dalu i aelodau yr uchod yn anfoddhaol, pan y digwyddai tan. Yr osdd amser maith yn pasio cyn i arian yr Yswiriaeth gael eu talu.—Mr. Albert Hughes a sylwodd ei fod wedi derbyn cwynion o berthynas i'r dull o ymarferyd. Credai y dylai y Clerc anfon post gardiau argraffedig i'r aelodau pan gymerai ymarferiad le.-Gohiriwyd y ddan fater, i'r Pwyllgor gael I eu hystyried. I Moduriau. I Anfonai Mr. Jelf Petit i ganmol y modd yr oedd y rhybuddion i fodurwyr wedi ei rhoddi i fyny: I -1 Pysgota yq Llyn Crafnant. I Anfonai Mr. Wright yn gofidio oherwydd penderfyniad y Cyngor o berthynas i'r uchod. Y Swyddog Meddygol a'r Arolygydd. Darllewyd llythyr oddiwrth Bwyllgor Un- edig Iechyd o berthynas i benodi Swyddog Meddygol ac hefyd sylwodd y Clerc beth oedd awgrym Bwrdd Llywodraeth Leol, sef eu bod i benodi yr un Swyddog ond ar wahan. Y Clerc a ddywedai eu bod yn talu £ 10 yn awr ond drwy ymuno a'r cydbwyllgor tynid ef i lawr i J5. Rhoddodd Dr. Owen rybudd y cynygiai yn y Cyngor nesaf i benodi yr un Swyddog, ac i ad- benodi yr Arolygydd Iecbydol. seiyiira'r cyngor. Adroddai Mr. Griffith, Archwiliwr Bwrdd LIywodraeth Leol, ei fod wedi archwilio y cyfrifon am y flwyddyd yn diweddu Mawrth 31ain, a'u bod yn gywir. Danghosai'r fantol- en yn niwedd y flwyddyn fod gweddill yn ffafr y Cyngor o £ 963 5s llc.
[No title]
NAA/WWWWVWWWWWWWW CWYNAI yr Arolygydd Roberts, wrth Faingc y Rhyl dydd Mawrth oherwydd gwaith rhai yn twyllo gyda gweithio ceffylau gyda briwiau arnvct. Dirwywyd John Holmes, Twll Farm, Bagillt, i chwe' swllt a'r hugain am weithio ceffyl felly oedd wedi ceisio cuddio ei friwiau trwy eu blackleadio. Y MAE y Parch. Morgan W. Griffilh, B.A., wedi dechreu ar ei waith gweinidogaethol yn Dinorwig. Mab ydyw i Mr. a Mrs. Hugh Griffith, Bryncelyn, Talsarn, a brawd i'r Parchn. H. E. Griffite. M.A., Croesoswallt, ac O. Jones-Griffith, B.A., Dolwyddelen [ Llythyr o Montana. Derbyniasom y llythyr a ganlyn :-Anwyl Gyfeillion,-Gan fod amryw o honoch wedi gofyn i mi anfon gair i chwi o'r wlad hon, daeth i fy meddwl i anfon gair bach atoch trwy gyfrwng y RHEDEGYDD, gan fy mod yn gwybod eich bod yn derbyn y papur clodwiw hwnw, fel fy hunan. Ac feallai y bydd o ddyddordeb i eraill gael ychydig o hanes y wlad yma, fel y mae hanes Ffestiniog i ninau. Yr ydym wedi arfer a darllen hanes amryw weithiau yn gwneyd cyfnewidiadau yn nghyfloerau y y gweithwyr. Mae yma bawb sydd yn gweithio dan y Cynghor, yn derbyn yr un faint o gyflog, a'r miner sydd yn y mine, sef tri dolar a haner y dydd. Ac os digwydd y bydd yuo le gwag bydd amryw yn ymgeisio am dano. Dywedwn yn nghyntaf air bach o hanes y dref yma. Mae ei phoblogaeth yn rhifo oddeutu pedwar ugain mil (80,000 a'r rhai hyry yn cael eu gwneyd i fyny o wahanol genhedloedd, a chafais ar ddeall fod yma bedair-a'r-ddeg o wahanoi ieithoedd, ond y lluosogaf o !awer yw y "Gwyddelod," a'r lleiaf ydyw y Cymry." Mae y dref wedi cael ei hadeiladu yn drefnus iawn, yn ysgwar, a'r brif heol yn y canol, a phob heol yn union, De, a Gogledd, a Dwyrain, a Gorllewin. Mae yr oil o'r adeiladau wedi ei doi a llechau. Ond mae yn sicr ei bod yn wahanol iawn yma, am mai to rhag y gwres sydd eisiau, a the rhag y gwlaw yn "Stiniog." Credaf nad oes angen i mi geisio dyweyd ei mhaint, gan fod rhif ei phoblogaeth yn ddigon i brofi i chwi ei bod yn dref fawr iawn. Gair eto am y Mines. Mae yma o ddeg i bymtheg a'r hugain o honynt, a'r rhai hyny bron i gyd yn Fines Copr, a dywedir eu bod y bryniau mwyaf cyfoethog yn y byd, pwy bynag sydd yn proffesu bod yn gwybod hyny, ond byddaf fi arfer meddwl fod cyfoeth dihysbydd yn nghrombil yr hen ddaear yma, ac nad oes neb yn gwybod am danynt, ond yr Hwn sydd wedi ei roddi vnddi. Mae yma rai o'r mines yn bur ddyfnion, mae rhai o honynt dros ddwy fil o droedfeddi, ac fel y gallwch feddwl fod y rhai hyny yn boethion iawn. Maent yn tyllu y cwbl gyda pheirianau, nid wyf wedi gweled ebill a morthwyl eto, fel y mae yn ofynol i Finer allu coedio, gan mai coed sydd yn dal y mines i fyny. Maent yn gweithio yn galed iawn yma, fel y maent yna, wrth y dydd mae y rhan fwyaf o lawer, ond bydd rhai o'r Miners yn cymeryd Contract weithiau, ac os digwydd iddynt fod yn aflwyddianus, telir iddynt yn ol safon y cyflog. Wyth awr ydym yn ei weithio a dechreu wyth yn y boreu, ac y mae cyflog labrwr a'r Miners yr un faint, sef tair dollar a haner y dydd, ond yr hyn sydd yn peri mwyaf o ddyrswch yma ydyw. yr anhawsder i gael gwaith, mae yma ganoedd lawer yn chwilio am waith am ddau a thri mis. Maent yn codi chwe' phunt y mis am letty a bwyd, ond wrth gwrs mae yn fforddio i'r gweithwyr yma gael cysial bwyd ac mae y boneddigioc yn ei 'b' yna (er wyrach na ddylai iod felly). Or.d yr oedd yn hynod o wan yma y gauaf diweddaf, hyny ydi, llawer allan. o waith, ond yr oedd safon y cyflog yr adeg bono yu dair doler a haner y dydd. Bum oddi yma mewn gwaith glo y gauaf a Chymro oedd yn uwch swyddog yno, yn gweithio ar Goutracts mae y mwyafrif yn y glo, a gofynais i un o'r dynion faint oedd y pris am yru level, o meddai, "yn yr undeb y cewch chwi wybod hyny." Yr oedd yr Undeb a'r perchenogion wedi cytuno am flwyddyn faint oedd y prisiau i fod, fel nad oedd yna na gostwng na chodi i fod yn ystod y flwyddyn. Mae yr Undeb yn gryf iawn yma, mae union made i'w weled ar bob peth bron. 0 ie, wrth gofio mae rhai o honoch yn ffarmwrs mawr, ond does genyf fawr ddim i'w ddyweuo wrthych, ond fod y cae gwair agosaf i'r dref naw milldir oddi yma, ond gwelais dir amaethyddol ardderchog o'r tren wrth ddyfod yma, na ddarfu i mi ddychmygu fod y fath dir mewn bod. Wyrach y bydd genyf ragor i'w ddyweud cyn hir ar y pen yna, os caf fyw ac iach. Gair bach eto ar yr achos crefyddol yn y lie yma. Mae yma un Eglwys Cymraeg, ond yr enw goreu fuasai, Eglwys Gymraeg a Saesneg, mae haner y gwasanaeth yn Gymraeg, a'r haner arall yn Saesneg, ac yn ol pob tebyg mai Eg- lwys Seisnig fydd cyn hir, gan fod y llwynogod bychain i gyd yn Saeson, os Saeson hefyd, nid ydynt yn Saeson nac yn Gymru, mi gewch chwi feddwl lie mae y diffyg hwn yn gorwedd. Mae yma ddyn da iawn yn weinidog, er fod yn anbawdd iawn iddo foddhau y Cymru-Seisnig, a'r Cymru mewn gwirionedd. Mae Mrs. Wil- liams hefyd yn hynod weithgar gyda'r plant. Mae yma lawer o anfantais i gael Eglwys lwyddianus, gan fod yma weithio ar y Suliau. Wel feallai fy mod wedi dweyd digon y tro yma, ac yr anfonaf air eto yn fuan, a dymunaf trwy hyn anfon fy nghydymdeimlad llwyraf a'r rhai sydd wedi cyfarfod a phrofedigaethau chwerwon ar ol i mi ddyfod yma. Cyfeirio yr ydwyf yn fwyaf neillduol at deuluoedd y di- weddar Mrs. Davies, Tryfal, a Mr. John Pritchard, Pantyrhedydd. Chwith yw genyf feddwl na chaf weled eu gwyneb mwy. Cofion goreu attoch. Ydwyf eich cyfaill, JOHN ELLIS JONES (Gynt o Lechwedd Isaf). 783, Dakota Street, Buttle City, Montana, U. S. A., Gorphenaf 30, 1908.
[No title]
WEDI ymosod yn giaidd ar ei dad oedranus yn ei dy yn Salun, Van Mines, ceisiodd Owen William Jones, ddiangc o'r ty. Clowyd yj drws gan ei wraig, ond malodd ef y drws, ac wrth glywed gwaeddiadau y wraig, daeth James Mills, Llwyncrwn, yno. Aeth yn ym- rafael chwerw rhyngddo ef a Jones, pryd y dywedir i Jones geisio trywanu Mills a'igyllell. Ffodd Jones, a chafwyd ef dranoeth wedi tori ei goes wrth geisio diangc. Gosodir ef ar ei brawf am ymgais i lofruddio.