Hide Articles List

16 articles on this Page

YN NGHWMNI NATUR. I

News
Cite
Share

YN NGHWMNI NATUR. I (GAN CAERWYSON.) I (Hawl-ysgrif.) I Yr wyf y tro hwn am gael Cwmni Natur gyda'r Naturiaethwr galluog a sylwgar, Mr. J. A. Walpole-Bond, Tynygraig, Buallt. Mawr oedd fy moddhad o gael ei gyfrol hardd, "Bird Life in Wild Wales" (Bywyd Adarol yn Ngwyllt Walia), yn anrheg oddiwrth ei An- rhydedd y Barnwr Gwilym Evans, ychydig amser yn ol efe ei hun yn naturiaethwr ac hynafiaethydd o'r radd flaenaf, heblaw ei fod yn awdwr amryw lyfrau cyfreithiol o bwys. Prisiaf y llyfr yn fawr oherwydd y Rhoddwr, a'r parch uchel sydd genyf i goffadwriaeth ei dad Hybarch, yr hwn, ar gyfrif ei allucedd, ei gymeriad, a'i oedran patriarcbaidd a adwaenid yn mblith gweinidogion ei enwad fel Esgob Hebron." Hefyd yr wyf yn prisio y llyfr am ei fod yn gofnodiad syml, ond hynod o ddar- llenadvvy, o'r hyn a welodd yr Awdwr ei hun o ddydd i ddydd yn yr ardaloedd hyny o Ddeheudir Cymru yr ymwelodd a hwy. Ced- wir enwau y manau y bu ynddynt heb eu crybwyll, ond gyda Aethum drosodd i A. Ymwelais a C,&c. Gyda hyny yn fwriadol, er mwyn cadw "cartrefi" (haunts) adar prinion yn guddiedig rhag eu difawyr, yn arbenig felly y Barcutan (Kite), yr Hebog (Peregrine Falcon), y Gigfran (Raven), a'r Cudyll Mawr (Buzzard) yr hwn a elwir yn gyffredin yn Nghymru yn "Farcutan." Y mae y iath elyniaeth creddfol rhwng Ceidwaid helwriaeth a'r Adar hyn, a'r Cydyllod eraill, fel y lladdant bob un o honynt a ddigwydd ddod i'w cyraedd ond yn yr ardaloedd y bu yr Awdwr yn gwneyd ei archwiliadau, yr oedd yr 011 o honynt o dan gadwraeth fanwl y tir Arglwyddi a boneddigion eraill ydynt wedi ffurfio Cymdeithas i'r perwyl hwnw. Gresyna ef yn fawr fod neb boneddwr yn gwarafun Iar Fynydd lesg neu ei chyw llesg, ac ambeil lefren (young hare) i'r Barcut a'r Cudyllod, gan eu bod yn wir deilwng a damaid pe ond am y brogaod, y nadrodd, y tyrchod daear, a'r Geneugoegiaid, a difant ar eu tiroedd. Diolch oer yr amaethwr i'r Ddallhuan fydd yn lladd o chwech i naw o lygod yn ei ydlan bob nos, yw ei lladd am ei bod yn gwneyd swn aflafar o gwmpas y ty yn y nos!" Caiff y gath iyw ganddo, a digonedd o lefrith gan y merched yn y fargen, am ei bod yn dal ambell lygoden, er ei bod yn rhegl yn enbyd o gwmpas y ty ar adegau, a heb ddal un llygoden am bob haner dwsin a ddelir gan y Ddallhuan Bu yr Eryr Euraidd (Golden Eagle) yn gwneyd ei chartref yn ein plith ar hyd y canrifoedd, a chymerodd mynyddoedd Arfon eu henw oddiwrth hyny,- "Eryri," oherwydd mai yno y nythai yr Adar godidog hyn; ac y mae yn Arfon," Greigiau'r Eryrod" yn nrws Eryri yn arcs hyd y dydd hwn, er nad oes yr un Eryr yn nythu ynddynt er's dros ddwy ganrif. Y mae yr Eryr Tinwyn (White-tail Eagle), yn nythu eto yn Ngogledd Cymru; ond gwell i mi beidio dywedyd yn mha le rhag y bydd i hano hefyd gael ei hymlid ymaith ó'n plith. Lladdwyd yr un ymwelodd a thir y Rhug, Corwen, a stwffiwyd hi i'w chadw yn y Plas fel un o'i brif gywrein- ion; a'r un dynged a fu i'r un ymwelodd a Pale, Llandderfel, yn ogystal ag amryw Adar prinion eraill ydynt i'w gweled yn y ddau Balas hyn. Crybwylla Mr. Walpole-Bond fod ei linynau wedi syrthio mewn lleoedd hyfryd i gael golwg at y "nawddgolliaid (out-laws), fel y geilw yr Adar ydynt i'w gweled wedi eu hoelio gyda'r cathod, gwencwn, &c., wrth dai y Ceidwaid helwriaeth; a "rhed dwfr o'm danedd" am na fuaswn yn eael y fraint o fod gydag ef yn dringo y ceunentydd dyfnion a'r coedydd uchel i gael gweled y Gigfran yn ei rhyw," Y Barcut yn ei ryw," &c., yn eu cartrefi; Ffawd arall a ddaeth i'w ran ydoedd cael Ceidwaid helwriaeth, a Mr. Oliver G. Pike, yr Adar-wawl-lunydd adnabyddus, gydag ef i'w gynorthwyo i fyned at y nythod, a chael darluniau mor odidog o honynt. Y mae gwy- bodaeth yr Awdwr am Fyd yr Adar yn un eang a manwl iawn, a theimlir wrth ddarllen ei lyfr nad yw yn traethu yr oil a allai am ddim y sonia am dano dyna un gwahaniaeth amlwg sydd rhwng dyn llawn a dyn prin ei wybodaeth. Y mae un fel ffynon ddofn, loyw, a Hawn, a'r hyn a godir o honi at wasan- aeth arall yn arosyn loyw, ahithau ynparhau yn Hawn; tra y mae y 11a11 fel cor-bwll bychan, ac wrth godi ychydig o hono cymysgir y llaid a'r dwfr nes anurddo y cwbl, a gadewir y pwll yn sych. Rhaid i un grafu pob congl i gael rhywbeth i'w draethu, tra'r llall o'i gyflawn- der a fynega ei feddwl yn rhydd a rhwydd. Rhaid fod Mr. Walpole-Bond yn meddu gwy- bodaeth fanwl am yr ugeiniau Adar y traetha yn eu cylch- cyn iddo ymweled a'u cartrefi, neu ni allasai fod mor sicr mai hwy oeddynt, a I rhoddi ffrwyth ei sylwadaeth i eraill mewn dull mor hapus. Rhenir y Llyfr i ddeuddeg penod:—Wythnos yn y Bryniau-Rhai o'r Nawddgolliaid Pluog —Gyda'r Gigfran yn Nghymru-Rhai o Adar y Ffrydiau-Haf gyda'r Adar yn Nghymru- Gydag Adar y Mor yn Tenby-Rhai o Adar Prinion y Dywysogaeth—Brys-nodion—Gyda'r Hebog a'r Cudyll Glas Bychan yn Sir Frycheiniog—Yn Nghartrefi y Barcut—Syl- wadau ar Adar. Ceir yma Ddarluniau o gynifer a 58 o nythod, gan mwyaf yn rhai prinion, a dyddorol iawn yw darllen am yr hongian wrth raffau, y dringo coed a chreigiau fa i gael at amryw o honynt. Nid oes gyda ni yn Ngogledd Cymru leoedd cyfleus i rai o honynt nythu; ond y mae genym y Trochydd (Dipper), yr Hebog, y Cudyll mawr, y Cudyll, Y Cudyll Coch, Cudyll y Grug, y Dallhuan Glustiog a'r Gorniog, Bod Tinwyn, y Bod Glas, a'r Farcutan. Gyda'r rhai hyn, y Troellwr, a'u cyffelyb y treuliodd yr Awdwr ami i Wanwyn a haf yn Neheudir Cymru, a thraetha am y dyddordeb gafodd yn eu mysg nes dyddori eraill megis pe gydag ef yn y fan a'r lie. Yr oedd yn meddwl yn ami wrth ddarllen am dano yn dringo y coed am y canoedd coed a ddringais inau yn y dyddiau a fu, a'r mwynhad a gefais wrth syllu ar y wyau neu'r cywion yny nythod. Rhaid i mi ganu yn iach i'r llyfr yn awr, a'r tro nesaf fyned am nythod rhai o'r Adar prin- ion a nodir gan yr Awdwr.

- - --I 0 yGADAJR YNYS FADOO.…

[No title]

--------- ---- - --- --------…

wvwwwwwwwwwvwww IAchos John…

IDedfryd am Warcheidwaid MileI…

IY Prif-fFyrdd a'r Moduriau.…

[No title]

O'R PEDWAR CWR.

GLANCONWY.

PENRHYNDEUDRAETH.

LSadrata oddiar Lei dr.

ILLANBEDR.

- - ............................................................…

-DOLWYDDELEN.

Bwrdd Llywodraethwyr YsgolionI…