Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

NODION O'R CYLCH.

/WWVWVWV^VVVVVWWWWWV Rhedeg…

[No title]

' CYNGHOR DINESIG FFESTINIOG.-…

! PLAID LLAFUR. I

I TANYGRISIAU.,__I

Cystadleuaeth y Star Tea.

-1? - .- -- -- -, - Blwytid-dal…

TRAWSFYNYDD.

News
Cite
Share

TRAWSFYNYDD. CYFARFOD LENYDLOL. CynhaHwyd yr uchod dydd Sadwrn yn ysgol y Cyngor. Cyf- arfod y Prydnawn:—Llywydd, Mr. E. D. Jones, M.A., Abermaw. Arweiniwyd yn fedrus gan Elfyn. Awd yn mlaen yn y drefn gan- lynol:-Can agoriadol gan Miss* Annie Wil- liams, Maentwrog. Beirniadaeth y Llythyr Desgrifiadol o Wersyllfa Filwrol Trawsfynydd, Miss Parry, Frongaled, Trawsfynydd. Cystad- leuaeth yr Unawd" Dyma Feibl Anwyl Iesu," 1, Maggie Jones; 2, Martha Jones; 3, Gwen Jane Evans; 4, P. Williams. Beirniadaeth ar y Gist Ffawydd oreu, Mr. J. Lloyd, Blaenau Ffestiniog. Eto yr Englyn i'r Tringlyn," Mr. Lewis Jones (Glan Edog), Cae Glas. Am yr adroddiad, 1, Annie Alice Edwards, Tyddyn Gwyn Terrace, 2, Annie Vaughan Lewis, Ffestiniog. Unawd Soprano, Miss Hughes, Ganilwyd. Am y par Menyg Gwlan, Mrs. Ann Jones, Llansanan. Cystadleuaeth Deuawd i Blant, 1, Miss M. Jane Jones a'i chyfeilles; 2, Miss Ellen Ann Jones a'i ebyf. eilles. Dyfarnwyd Mr. William Jones, Fron Wynion, Trawsfynydd, yn oreu ar chwareu y Don Rhydygroes." Ymgeisiodd dau Gor Plant ar ganu Pwssi Lwyd," goreu Cor Glan Prysor, ail, Ebenezer. Plwg Pileru, Mr. Caradog Humphreys, Blaenau Ffestiniog. Cyfarfod yr Hwyr:—Llywydd yn absenol- deb Dr. Carey Evans, ydoedd y Parch. D. P. Davies, Rheithior. Can Agoriadol gan Mr. W. O. Jones, yn swynol iawn. Cystadleu- aeth unawd, Telynau'r Saint," Mr. H. J. Hughes, Ffestiniog. Beirniadaeth y Delyneg, Y Gwys olafMr. Lewis Jones (Glynedog), Cae Glas, Trawsfynydd. Ymgeisiodd dau gor Tren y Gweithwyr, gorau, Deg o'r Llan ail, Deg o'r Traws. Yr orau am y Prif adroddiad ydoedd Miss Jones, Coch Gwan. Ffestiniog. Am y datganiad o'r Pedwarawd, Mr. Hugh Evans, Cwrt, a'i gyfeillion. Eto y Triawd, Mr. David Jones, Dolgam, a'i gyfeillion. Ym- geisiodd dau gor yn y brif gystadleuaeth Gerdd- orol; Llan dan arweiniad Mr. Robert Jones a Trawsfynydd dan arweiniad Mr. W. J. Edwards, dyfarnwyd y cor cyntaf yn oreu. Ymgeisiodd tri ar y Prif Draethawd, Parch. Owen Davies, Ganllwyd. Enillodd Mr. Ted Jones, Tanrallt Terrace, Blaenau, ar yr unawd Baritone, "YPererin." Rhanwyd y wobr ar y ddeuawd rhwng pedwar o'r Lian. Cor Eben- ezer enillodd y wobr yn y gystadleuaeth, Cor o un gynulleidfa. Y Beirniaid oeddynt:- Traethodau, Parch. D. P. Davies, Rheithior Barddoniaeth, Parch. J. D. Richards, Ebenez- er Cerddoriaeth, D. Lloyd Evans, Penrhyn- deudraeth; Amrywiaeth, Mri. J. M. Jones, Eden View Thomas Parry, Blaenau Ffestin- iog; a Mrs. Roberts, Dwyryd Housa; Ad- roddiadau, Elfyn. Cyfeiliwyd gan Miss Jennie Hughes, a Mrs. D. Morris. Ysgrifenydd gweithgar y gylchdaith ydoedd Mr. W, J. Edwards.

[No title]

I BETTWSYCOED. I

vvwwvvwwwwwwwwww HARLECH.11-1.41evw

PENMACHNO. I

/V\\WAVVVWW\MAWV\V^/VWVI I…

Cwymp i Fairy Glen.

Family Notices

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

[No title]

Advertising

Qwaith y Barnwr Vaughan Wil--liams.-