Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

NODION O'R CYLCH.

/WWVWVWV^VVVVVWWWWWV Rhedeg…

[No title]

' CYNGHOR DINESIG FFESTINIOG.-…

News
Cite
Share

CYNGHOR DINESIG FFESTINIOG. I Syr,-Gwelais ddau lythyr yn eich newydd- iadur yn galw sylw y trethdalwyr at sefyllfa anfoddhaol y Cynghor uchod, a gresyn na chymerid y peth i fyny o ddifrif. Erbyn hyn .y mae y Cynghor wedi gwneyd cyfnewidiadau pwysig yn y Swyddfa, ac nid heb resymau digonol mae'n ymddangos, ond pa fantais fydd y cyfnewidiadau i'r trethdalwyr y mae yn an- hawdd gwybod. Ond os y caniatewch i mi ychydig ofod, buaswn yn awgrymu ychwaneg o gyfnewidiadau, sef fod i'r aelodau gwlanen- aidd" sydd yn y Cynghor ymddiswyddo ar unwaith a rhoddi He i'w gwell; neu os myn- wch, fod i bob aelod sydd ynddo ymddiswyddo, fel ag i roddi lie i ddynion gwyneb-agored, di-duedd i sefyll etholiad, ac nid eu ffug-ddewis mewn cyfarfodydd bychain Rhyddfrydol {? ?) Y mae y cyfarfodydd hyn wedi profi yn effeith- iol iawn ar lawer adeg i gael rhyw bersonau neu gilydd ar Fyrddau Cyhoeddus ein gwlad, ond yn felldith i'r trethdalwyr druain. Pan oedd y Cyngor diweddaf gynhaliwyd yn ceisio dewis Works Manager, cawsom brawf eglur o "wlaneneiddiwch" yr aelodau yn gwrthod pleidleisio wedi i Mr W. Owen, U.H. ddatgan ei farn nad oedd ef yn ystyried yr un o'r ymgeiswyr oedd yn aros yn ddigon cym- hwys i'r swydd, ac hefyd taflwyd amryw allan am nad oeddynt wedi nodi eu hoedran, &c. Hidlo gwybedyn a llyngcu camel" yw pethau fel hyn. Nid Cynghor fel hyn ddylai fod yn Ffestin- iog. Y mae gan Ffestiniog ddigon o ddynion galluog a gwyneb-agored, ond pan fydd ethol- iad, y mae yn rhaid dod a politics ac enwad- aeth i fewn (os bydd hyny yn fanteisiol), ac y mae enwadaeth mewn pethau fel hyn ynghyd a phethau eraill wedi bod yn FELLDITH i grefydd Iesu Grist yn Ffestiniog, ac yn sicr o fod felly eto os na chyfnewidir pethau. Hefyd, rhoddir lie amlwg yn mhob Bwrdd i Swyddogion y Chwareli. Buasai yn fwy ben- dithiol o lawer i'r rhai hyn edrych ar ol eu goruchwylion yn y chwareli na chaboli gyda Byrddau Cyhoeddus. Y mae genym ni eisiau dynion yn deall masnach i fod ar ein Byrddau, a chredaf mai rheswm mawr dros gadw y Go- hebwyr allan yw anallu y Cynghorwyr i ddad- leu yn wyneb-agored. Ymddiswyddwch gyf- eillion, a thorwch y Senedd i fyny oherwydd eich bwnglerwaith.-Yr Eiddoch, CYMRO. I

! PLAID LLAFUR. I

I TANYGRISIAU.,__I

Cystadleuaeth y Star Tea.

-1? - .- -- -- -, - Blwytid-dal…

TRAWSFYNYDD.

[No title]

I BETTWSYCOED. I

vvwwvvwwwwwwwwww HARLECH.11-1.41evw

PENMACHNO. I

/V\\WAVVVWW\MAWV\V^/VWVI I…

Cwymp i Fairy Glen.

Family Notices

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

[No title]

Advertising

Qwaith y Barnwr Vaughan Wil--liams.-