Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

20 articles on this Page

NODION O'R CYLCH.

News
Cite
Share

NODION O'R CYLCH. MATER sydd yn cael llawer o sylw yn bresenol yw dewis Swyddogion i'r Cyngorau. Yn Blasnau Ffestiniog, y irae y Cyngor ar fedr dewis Rheolwr Gwaith, am y cyflog o gant a hanero bunau. Bu yr holl swyddi yn wag, ac y mae rhai o honynt wedi eu llenwi erbyn hyn. Gobeithiwn y daw y Cyngor a'r Trethdalwyr i ddealltwriaeth da a'u gilydd cyn y diwedd. Rhaid addef eu bod yn mhell iawn o fod felly yn awr, ac nid oes geiriau rhy galed gan y trethdalwyr i'w llefaru am y rhai etholasant i'w cynrychioli a gwylio eu buddianau. Dichon, pe heb gynal cyfarfodydd y Cyngor gyda drysau cauedig, y gochelasid creu y teimlad sydd yn gyffredinol trwy y Dosbarth yn awr, ac na buasai ronyn o amheuaeth yn meddwl neb yn nghylch y sef yllf a. WEDI y sefyllfa tryblethol bresenol, edrychwn yn mlaen am drefn a dosbarth ar bethau. Yn y Cyngorau Dosbarth cysylltiol a'r Cyd-bwyllgor Iechydol, y pwngc mawr yw dewis olynydd, neu olynwyr, i Dr. Peter Frazer fel Swyddog Iechydol. Y mae Porthaethwy wedi dewis Dr. Williams, un o aeladau. y Cyngor, yn Swyddog iddynt hwy eu hunain, a hyny ar wahan i'r Cyd-bwyllgor. Y mae Colwyn Bay yn symud yn yr un cyfeiriad. Dyna yw teimlad nifer fawr o aelodau Cyngorau Sir Ddinbych ydynt yn bresenol mewn cysylltiad a'r Cyd-bwyllgor awydd dadgysylltu ag ef Rhaid addef ei fod yn hollol anheg i drethdalwyr Sir Ddinbych dalu at gael SwyddogionMeddygoli archwilio Ysgoiion a phlant Sir Gaern&rfon, tra y maent yn cael eu gorfodi i gadw Swyddogion felly eu hunain. Y CWESTIWN sydd yn codi yn naturiol yw, a oes modd i unrhyw un o'r Cyngorau weith- redu ar wahan i'r Cydbwyllgor ? Yn ol barn Mr. R. R. Owen, clerc pedwar b Gyngorau yn Nyffryn Conwy, y mae y Cyd-bwyllgor i bar- hau fel y mae' hyd 1910 yn unol ag archeb Bwrdd y Llywodraeth Leol. Nis gellir ych- wanegu ato, na thynu oddiwrtho. Yn awr, y mae Cyngor Gwledig Glanconwy, Cyngor Dinesig Colwyn Bay a Cholwyn, Cyngor Dinesig, a Chyngor Dosbarth Llanrwst, oil yn -r Ddinbych. Cynwysa y rhai hyn arwyn- i ebedd o 74,112 o aceri, a phoblogaeth o 20,888. Y mae y tri Chyngor sydd yn perthyn i'r Cyd- bwyllgor yn Mon yn cynwys arwynebedd o 52,478 o aceri, a phoblogaeth o 13,482, Y ddadl yn awr yw, A ydyw yn deg i'r 34,370 uchod dalu at Arolygwyr Meddygol i Ysgolion Arfon ? Mae y peth yn deilwng o sylw difrifol y saith Cyngor, DYDDOKOL dros ben i ni ydoedd adroddiad Dr. Stenhouse Williams, ar sefyiifa Iechydol Sir Ddinbych, yn arbenig felly y ffigyrau ddyry yn rtglyn a'r genedigaethau.a marwolaethau:bab- anod o fewn cylch Cynghorau Llanrwst. Gan- wyd 98 o blant cyfreithlon yn Nosbarth Gwledig Llanrwst yn ystod 1907, a 7 o rai anghyfreithlon. Yn Nosbarth Dinesig Llanrwst ganwyd 62 o blant cyfreithlon a 3 anghyfreithlon. Yn y Dos- barth Gwledig, bu farw 14 o blant cyfreithlon o dan flwydd oed, ac un anghyfreithlon, ac yn Nosbarth Dinesig bu farw 6 cyfreithlon, > a dim un o'r rhai anghyfreithlon. Bu cryn siarady llynedd yn nghylch y plant anghyfreithlon an- wyd yn nhref Llanrwst, ac ymosodid ar y lie fel un anfoesol; ond erbyn hyn yr ydym yn cael ffigyrau y Sir ei hun, a chawn fod gan Ddosbarth Uwchaled gynifer a 7 o enedigaeth- au anghyfreithlon ar gyfer 44 o rai cyfreithlon; tra mai 7 ar gyfer 98 sydd yn Nosbarth Gwled- ig Llanrwst, a 3 ar gyfer 62 yn y dref. Yr ydym yn manylu fel hyn er mwyn tegwch a'r rhan hon o Ddyffryn Cbnwy. HEDDYW, cynhelir Arwest Farddonol Geir- ionydd wrth Adfail Llys Taliesyn, a'r Orsedd ar Fryn y Caniadau, wrth Lyn Geirionydd. Er yn dymuno bod yno yn cydfwynhau awelon iachus y lie, ac yfed o ysbrydiaeth cyn-athrofa "Taliesyn Ben Beirdd," y mae amgylchiadau anocheladwy wedi ein Huddias i "ymwyddfodi" gyda'r brodyr yno. Llawer adgof melus sydd genym am lu o Arwesti y buom ynddynt o 1876 i lawr hyd y llynedd y fath lu o enwog- ion a hunasant er 1876. Dyha Eos Bradwen, Arlunydd Glan Conwy, Gwilym Cowlyd (ie, Gwilym Athrylithgar. Coffa da am dano) I. D. Conwy, &c., wedi myn'd. Llawen genym weled y cymrawd Ellis o'r Nant yn dal yn ei sel gyda'r sefydliad: efe yw enaid yr Arwest yn awr; a bod Isgoed, Ifan Dafydd, Dewi Mai o Feirion, Ynyr, ac eraill, yn gefn i'r sefydliad. Cawn alw sylw at y mater yn mhellach yr wythnos nesaf.

/WWVWVWV^VVVVVWWWWWV Rhedeg…

[No title]

' CYNGHOR DINESIG FFESTINIOG.-…

! PLAID LLAFUR. I

I TANYGRISIAU.,__I

Cystadleuaeth y Star Tea.

-1? - .- -- -- -, - Blwytid-dal…

TRAWSFYNYDD.

[No title]

I BETTWSYCOED. I

vvwwvvwwwwwwwwww HARLECH.11-1.41evw

PENMACHNO. I

/V\\WAVVVWW\MAWV\V^/VWVI I…

Cwymp i Fairy Glen.

Family Notices

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

[No title]

Advertising

Qwaith y Barnwr Vaughan Wil--liams.-