Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

DYNCSOR DOSBARTH LLANRWST.

-.-LLANRWST.

VWWVAA»V\^/WWVWWWVWWV BWRDD…

Dyngarwch Cymro Seuangc o…

BETTWSYCOED. I

News
Cite
Share

BETTWSYCOED. At Drigolion yr ardal a'r amgylchoedd. Y mae Wm. Williams, Pontypair Shop yn dymuno hysbysu ei fod wedi cael pob math o BATRYMAU newyddion at y tymhor dyfodol mewn Siwiiau dynion a bechgyn am brisiau hynod o resymol. Siwtiau i ddynion am 18/- i fyny. Trowsusau o 6/6 i fyny. Hefyd mewn amrywiaeth mawr i blant am brisiau rhesymol. Gwarentir fit a'r Style diweddaraf. Gellir eu cael ar fyr rybudd. Hefyd Job math o Grysau, Hosanau dynion a Scarfs. Dymunem eich cefnogaeth.—ADV. HEDDLYS.—Dydd Sadwrn, o flaen y Mil- wriad Johnstone, ac ynadon eraill. William Jones, Pentredu, Bettwsycoed, a ,gyhuddwvd o fod yn feddw ac afreolus.— Dirwy 5/- a'r costau, neu saith niwrnod o garchar. Caniatawyd trwydded arbenig i Mr. Edward Bickers, New Inn, Llanrwst, i werthu diodydd ar gae Arddangosfa Llanrwst, Awst 20. Cyhuddwyd George H. Harvis, 11, Breck- nach Road, Kentish Town, Llundain, o fethu dangos ei drwydded modur, ac o fod heb oleu o'r tu ol i'w gerbyd.-Taflwyd yr achos allan ar daliad y costau. Kate Ann Evans, Pontypant, Dolwyddelen, gynt yn gwasanaethu yn Pengwern, Bettws- ycoed, a ofynodd am archeb yn erbyn Robert Hughes, Mill Street, Bettwsycoed, i'w orfodi i dalu at fagu ei phlentyn anghyfreithlon o hono.—Ymddangosodd Mr. R. O. Davies dros. yr Hawlyddes, a Mr. E. Davies-Jones dros y Diffynydd.-Galwyd nifer fawr o dystion, a gwnaeth y Faingc archeb am 2/6 yr wythnos a'r costau.

'''VV'"vvvvv'Vv VV,V"'Y''VV"…

- - -- w-- _- w -I .vvvLiadrata…

r BLAENAU IFFESTINIOG.

Family Notices