Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

TAITH I'R AIFFT.

News
Cite
Share

TAITH I'R AIFFT. GAN MR. J. K. ARTHUR. I CAIRO :-Y SPHINX. YN mysg cynyrch celfyddyd, nid oes dim hynotach na 1 Sphinx yr Aifft. Delw ydyw hon, neu gerflun anghenfilaidd anferth-y corph ar lun llew, a'r pen a'r gwyneb ar lun dynol. Dyma ddelw liynaf yr hil ddynol, a'r ddelw fwyaf anam- gyffredadwy o holl wyrthiau cofadeiladol y cynfyd. Mesura ei chefn dros 172 troedfedd, a'i gwyneb yn ddeg troedfedd a'r hugain o hyd ac yn bedair-troedfedd-a'r-ddeg o led. Saif hon yn agos i Byramid Cheops, gwyneba ddinas Cairo, a gwylia byrth toriad gwawr. Ar bob cwr i'r ddelw, gwelir canoedd a mil- oedd o enwau wedi eu sgriblo gan bersonau fu yn ymweled a'r lie, ac yr oedd rhai wrthi y diwrnod hwnw yn aberthu i dduw henafiaeth. Gan fod ein hamgyffrediad o amseryddiaeth y Pyramidiau, fel y cawn sylwi eto, yn analluog i sylweddoli eu hoed, beth a ddywedwn am y ddelw fawreddog hon sydd yn fam i holl ddelwau y byd? Y cwbl allwn ei ddweyd ydyw :—Dyma ddelw anolrheiniadwy a delw oblegid hyny, a elwir, gan yr Arabiaid, yn Father of Terror." Profa y darganfyddiadau diweddaf fod hon 500 mlynedd yn hyn na'r un Pyramid, Beddrod, na Theml sydd yn anfar- woli yr Aifft a'r Aifftiaid. Gwyddom mai nid delw ydyw y Sphinx wedi dathlu ei dwyfilfed flwyddyn dechreuad y cyfnod cristionogol- oblegid mae y rbai fu yn adeiladu y Pyramid- iau wedi bod yn ei hadgyweirio; ac, oherwydd hyny, mae dechreuad y Sphinx mor ddirgel ac mor anolrheiniadwy, hyd yma, ag ydyw Duw- iau yr Aifftiaid. Mae meddwl am oedran hon bron a chymervd ymaith ein hanadl. Tybier ei bod yn 500 mlwydd oed pan ddechreuodd y Brenin Cheops deyrnasu-fe fyddai hon wedi syllu ar hyd yr anialwch am 4220 o flynydd- oedd, cyn i "Seren y Doethion aros uwch- ben y preseb yn Bethlehem ac wedi croesawu codiad haul yn agos i filiwn a haner o weithiau drwy ddorau y dwyrain, cyn i'r angelion ganu eu carolau i fugeiliaid meusydd Judea. Fel yna, mae canoedd o genhedlaethau o'r hil ddynol wedi dyfod a myned, a'r Sphinx wedi gweled a goroesi y cyfan i gyd. DIRGELWCH El DIBEN. YR oedd cydbwysedd tywysog- aidd ei phen, ei hystum hwyr- frydig, ei hagwedd wyliadwrus -ei harddull gyffredinol yn ymddangos i ni ar y pryd fel pe y byddai hi yn gwrando yn astud ac ystyriol, ac yn sylwi yn ddyfal a gofalus. Yn mhresenoldeb y fath ddelw a hon, yr oedd amryw o bethan yn ymdoni drwy y meddwl ag y carem gael atebiad iddynt. A roddwyd y ddelw hon, ar gyffiniau yr Anialwch, i wylio beddrodau boreuach beddroddau sydd yn ddirgel guddiedig—a beddrodau sydd hyd yn hyn heb eu codi o'r tywod ? Neu, a fwriadwyd hi yn unig i fod yn arwyddlun o'r dirgelwch ar dyhead i wybod am yr hyn sydd yn gorwedd dan ein holl feddyliau ? Neu, ai ynte gwrthrych yn unig ydoedd a osodwyd ar oror Anialwch Lybia i ddwyn tystiolaeth i weithredoedd a datblygiad dyn yn ngorphenol cyfrin yr oesoedd cyntefig ? Ond, dyma ofyniadau nas gall neb eu hateb oddigerth i'r Mummies Brenhinol sydd dan dreth i ddistawrwydd yn Museum Cairo heddyw gael caniatad i lefaru. Yr oedd yn rhywbeth er hyny. ei gweled a theimlo yn nhrem ei gwyneb, y breuddwydion, y dychmygioa, ar dyheadau oedd yn cythryblu yr Aifftiaid gynt-yn debyg i'r rhai sydd wedi blinoa chynyrfu meddyliau miliynau o'r hil ddynol yn ystod y canrifoedd sydd wedi eu lapio heibio wedi i'r Sphinx ddod i fodolaeth, Ni chafodd adeiladwyr grymus y ddelw hon yr un model i weithio wrtho, ac ni fu studies rhagbaratoawl i ddwyn hon i fod. Ni allasai cerflunwyr cawraidd y Sphinx ddihafal gael unman ond Anialwch tywodlyd Lybia yn studio addas i ddal ffrwyth eu hathrylith ac nid oedd cronglwyd ddigonol ond Hys gwawl o las a gwyn neu ffurfafen y nefoedd allasai fod yn fwa i hon Bu sefyll a myfyrio felly o dan ddirfawr wynebpryd y Sphinx-y ddelw sydd wedi syllu ar afon y Nile am gynifer o ganrifoedd cyn dechreu adeiladu yr un Pyramid yn un o brofiadau penaf ein gyrfa. WEDI HERIO AMSER. ÐYWED un ddiareb Arab- aidd—" Fod pobpeth yn ofni amser ond y mae gan amser ofn y Pyramidiau." FeMy am y ddelw hon-os oes rywbeth o gynyrch dyn sydd wedi ei amcanu i herio hinsawdd ac amser, y ddelw hon ydyw yr ymgais fwyaf llwyddianus. Ymddengys i ni nad oes gan amser ac elfenau natur meiynundeb a'u gilydd, ddim dylanwad parhaol arni. Mae tywod yr Anialwch am genedlaethau lawer yn bygwth ei chladdu—mae dyn wedi bod am gyfnod yn ceisio cynorthwyo natur i'w diaystrio drwy ei chymeryd yn target i filwyr i saethu ati- ond erys y Sphinx eto i syllu, yn fyfyrgar ei gwedd ar yr anialwch a'r Caravans fel y gosod- wyd hi, o leiaf, 2000 o flynyddoedd cyn i Abraham gael ei alw allan o Ur y Caldeaid. Pan yn atjoshau at y ddelw hardd, dywysog- aidd, frenhinol hon, ac wrth graffu ar ei dirfawr wynebpryd, teimlem fel pe y byddai hi yn deffro o'i chwsg ac yn dechreu llefaru wrthym I eiriau fel hyn:- Deithwyr a myfyrwyr, nid oes gwlad dan haul heddyw yn meddu ar fwy o ddyddor- deb i'r byd gwareiddiedig na'r Aifft, a'i phobl, a'i hanes. Gwelwch fod dyffryn y Nile yn gyfoethog o ryfeddodau dibafal celf a gwyddor y cynfyd—ei gywreiorwydd yn anghydmarol, a'i benafiaeth yn anfesurol. Oddiwrth fy ngwyneb anfertb, cewch ryw syniad am fy oed, a gallu, medr, ac yni y gwroniaid a'm lluniodd. Oddiwrth y cedyrn binaclau y Pyramidiau, a'r beddrodau cawraidd eraill i gewri y cynfyd sydd o'm cwmpas, gwelwch fod yr arferiad o godi monuments i'r ymadawedig yn un o'r hynafiaethau mwyaf perthyna i bob gwlad a chenedl, gwar ac anwar, cristion a phagan. "A chan fod enwau yr hil ddynol, yn nghof restr angeu-mi yn unig, yn ystod y cyfnod hirfaith o dros chwe' mil o flynyddoedd, sydd wedi cadw gwyliadwriaeth fanwl ar yr adeilad- au anghydmarol ar goffawdwriaeth tywysog- aidd hyn sydd heddyw i chwi megis "footprints on the sands of time." Yr wyf fi yn cofio, gweled mintai o hen amaethwyr parchus yn crwydro o Ganaan i Gosben draw acw. Ac er mai ffiaidd oedd meibion Israel yn ngolwg yr Aifftiaid, cawsant y tir brasaf yn yr Aifft-tir fu yn gryd i'r genedl Iuddewig. Ac yn ngholegau ac ysgolion Heliopolis neu Ddinas On gerllaw y dysgybl- wyd Moses i fod yn ddeddfroddwr i'r genedl luddewig-ac, fe wyddoch, ni anghofiodd Stephan, yn mhen 1500 o flynyddoedd yn ddiweddarach, dalu teyrnged i'w ddysg pan y dywedodd fod arweinydd Israel gynt yn hydd- ysg yn holl wybodaeth yr Aifftiaid. Nis gwn pa faint o excursions a wnaeth Jacob a Joseph; Moses ac Aaron, a miloedd o blant Israel i'r cwmpasoedd hyn. Ac 0 fel yr oedd y genethod a'r becbgyh, hanafgwyr penllwyd wrth eu ffyn a phawb yn synu, wrth weled, yn y Pyramidiau a'r adeiladau sydd o'm cwmpas, fawredd a phrydferthwch yn cyd- gwrdd mewn bythol fri. Yr ydych chwi, deithwyr, yn dueddol o feddwl a siarad am yr Hebreaid neu y Patri- archiaid fel" henafiaidbrigwyn boreu y byd ond yr oedd yr Aifft yn allu nerthol, yn ymher- odraeth oludog a grymus, cyn i Abraham gwrdd ag angelion ar wastadeddau Mamre gynt. Yr oedd yr Aifft ganrifoedd cyn hyny, wedi ei britho a dinasoedd mawrion-wedi dat- blygu cyfundrefn berffaith o wareiddiad, cred- oau crefyddol cyson, ac athroniaeth bur. Ac fel yna, mae henafiaeth pellenig gwrthrychau dyffryn y Nile, yn gwneyd gorchestion henafol teyrnasoedd dilynol megis yn bethau doe a heddyw. Gallwn draethu wrthych, athroniaeth hanes, neu actau olaf yr Aifftiaid-y Mediaid a'r Persiaid-Nubiaid, a'r Ethiopiaid—Groegiaid a'r Rhufeiniaid. "Gwyddoch am falchder a chyfoeth Babel, am rodres a rhwysg Nineveh—cryfder Babyl- onia a grymusder Assyria, ond yr wyf fi yn dyst ac yn alluog i olrhain cychwyniad, cynydd a dadfeiliad cenhedloedd a theyrnasoedd- tarddiad, tyfiant, a difodiant goruchwyliaethau a breniniaethau lawer, cyn i'r byd glywed swn sodlau yr Assyriaid na meddu seiliau i freudd- wydion am Babylonia. Gwn eich bod, deithwyr, wedi darllen am brydferthwch Groeg a gogoniant Rhufain. Ond, cyn i ddorau gwawr dydd agoryd ar gryd y cenhedloedd grymus hyny, yr oedd deugain canril o ystormydd a chorwyntoedd anialwch Lybia yna wedi treulio eu nerth yn ofer i geisio fy syflyd. "Yma y cafodd Groeg ei llenyddiaeth, ei chelf, a'i gwyddor. A Groeg a'u cyflwynodd, gyda gwelliant arnynt, i lawr i'r Rhufeiniaid, a chenhadaeth y Rhufeiniaid oedd eu gwas- garu dros Orllewin Ewrop a chwithau deith- wyr Prydeinig, dyma grydle eich gwareiddiad chwi. "Llefara y cof-adeiladau sydd o'ch cwmpas am orweddte llwch mawrion ac urddasolion fu yn eu dydd yn ddychryn i deyrnasoedd y byd. Er eu cyfoeth a'u mawredd, y bedd fu eu diwedd, ac yn llwch yr Aifft y gorweddant hyd nes y daw y gair "bydded i agor eu beddau. Pridd, deithwyr, ydych chwithau, ac i'r pridd y dychwelwch. Fe gewch lawer o beth- au a'ch rhwystra i fyw, ond nid oes dim a'ch rhwystra i farw. Ac felly, drwy yr hirfaith genedlaethau, R'wyn gweled pobpeth ar ei bererindod, y naill yn myn'd yn swn y Hall yn dyfod. Duw yn unig ydyw yr hwn sydd, oedd, ac a fydd byth ac ond i chwi gredu ynddo fe'ch codir yn ddiau o fyd y gorthrym- derau a'r breuddwydion brau i'r byd mawr heb dymdorau." Dyna dybygem oedd cenadwri y Sphinx i ni, y ddelw fwyaf aruthrol welodd, ac a wel y byd byth. MYFYRDODAU AR WAR Y SPHINX. WRTH gerdded yn ystyriol o gwmpas y Sphinx, neu eistedd ar noson loergan, yn ei chwmni am ychydig, teimlir yn ebrwydd mai nid delw o garreg yn unig ydyw. Amlyga ryw allu dirgelaidd, cyfriniol, anesboniadwy, i argraffu ar y meddwl ei bod fel pe yn syllu, megys yn ol i fabandod byd, ac yn tremio yn feiddgar i mewn i gaddug y dyfodol. Wrth eistedd felly min yr hwyr yn ei hymyl, teim- ler wed'yn ei bod fel pe yn gwarchodi cyfrinion y dyffryn, ac yn cadw gwyliadwr- iaeth ar ddinas Cairo sydd ar y gwastadedd o Baen ei golygon. Wrth fwrw golwg ar ddinas Cairo oddiar war y ddelw yr hwyr-ddydd hwnw, ceisiwn ddychmygu am y myrddiynau golygfeydd a digwyddiadau fuasem yn ei weled, dari fantell y nos hono, oddiar war y Sphinx, pe y cawsem fenthyg golygon y ddelw neu un o fodau byd y gwawl. Yno, yn Cairo, y nos hono, buasem yn gweled felly gynuiliad o gewri y byd mewn gwleidyddiaeth, athroniaeth, gwyddoniaeth, a chelfydd. yn gymysgedig a thwyllwyr, lladron. a llofruddion, yn wynion, meiymon, a duon, wedi ymgasglu i'r ddinas o blith bron holl deyrnasoedd a chenhedloedd y ddaear. Yno, y funyd hono, gallesid gweled ymdrechfa rhwcg da a drwg, cristion a pbechadur, Duw a diafol. Rhai yn ynfydu mewn sidanau, gemau, aur, ac ystafelloedd addurnedig yn Cairo, ac eraill, lu mawr, yn crwydro yn eu carpiau ar hyd a lied y ddinas, gan chwilio am ryw fatb o dwll i lechu dros y nos oedd yn dynesu. Wedi deffro o'r gwib feddyliau a gynyrchid yn nghwmi y Sphinx, brysiwyd i ddinas Cairo i gymeryd rhan yn y ddrama. [Gyda'r ysgrif hon terfynir y gyfres gyntaf o ddarlithoedd dyddorol Mr. Arthur a gohirir y gweddill ar ddymuniad yr awdwr dros dymor yr haf, ond hyderwn gael cyboeddi rhagà ddechreu y g?ua' nesaf. Cy- rnerwn fantais ar y cyneusdra bwn i ddiolch i'n lluaws darllenwyr o'r wlad hon a gwledydd eraill sydd wedi danfon i ddatgan eu cymeradwyaeth o'r ysgrifau, a'u boddhad wrth eu darllen. Maent oil yn cytuno fod Mr. Arthur wedi myned i'w daith gyda llygaid agored a meddwl effro a bywiog, a bod ffrwyth ei sylwadaeth wedi ei gyfleu yn ddifyr ac addysgiadol dros ben. Diau yr edrychiryn mlaen gan amryw at yr ail gyfres, ac y treulir ambell i hwyrnos ddifyr y gauaf nesaf yn nghwmni dyddorol y teithiwr.— GOL.]

I CYMANFA BREGETHU Y PASG.

Sosialaeth GristionogoL____I

/VWvVVWvAA/WWWWWWWVAA PENRHYNDEUDFtAETH.I

I Llofruddiaeth ger Groesoswailt-o

TREFN OEDFAON Y SUL

BETTWSYCOED.