Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

.COLOFNAU A SYMUDWYD.

News
Cite
Share

COLOFNAU A SYMUDWYD. 11 MR. DAVID LEWIS. Bu farw Mr. David Lewis. Ty Capel, Bryn- bowydd, y 25ain o Mawrth y flwyddyn hon, wedi dioddef o hono gystudd maith i'r hwn yr ymostyngodd yn amyneddgar iawn. Nod- weddid ef gan dduwioldeb diamheuol: meddai, nid ar rith duwioldeb ond ar ei grym hi. Cyfoethogodd ei feddwl a gwybodaeth o'r Gwirionedd, yr oedd ei galon wedi ei phryd- ferthu a gras y nef, ymostyngai ei ewyllys i ewyllys Daw. Yr oedd ei yspryd mor iraidd am ei fod yn cymdeithasu cymaint a'r Arglwydd. Myfyriai yn nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos, cerddai i gymdeithasu ag Ef mewn gweddi yn amI. Yr oedd arwydd o gymdeithas agos a Duw ar ei gyflawniadau cyhoeddus. Ei wrando yn gweddio oedd gwrando gweddi cyfaill Duw. Gwrandawai y bregeth fel un yn teimlo swyn yr hyfrydlais, a thaenai rhyw w6n siriol dros ei wynebryd wrth glywed am Grist a'i Groes. Ac yr oedd ei dduwioldeb calon yn amlygu ei hun mewn sancteiddrwydd bywyd hefyd, Rhodiai yn weddus megis wrth liw dydd." Dangosai ffyddlondeb cyson i achos Crist, ac o ganlyniad yr oedd yn wastadol yn bresenol yn moddion gras. Mae crefydd ysprydol yn galw am aw- yrgylch ysprydol, a geilw greddfau sanctaidd y galon am gymdeithas y saint, ac y mae rhai rhinweddau a grasusau y rhaid wrth gyieillach i'w dadblygu. Ystyriaethau fel yna, ni a gredwn, oedd yn cymheU ein brawd i fod mor I gyson a rheolaidd yn moddion gras. Mor ffyddlon ar y Sabbath. Mor gyson ar yr wythnos. Nid oedd gyfarfod crefyddol rhy ddinod yn ei olwg i fod yn bresenol ynddo, ac nid oedd noson mor erwin fel ag i'w gadw o'r addoliad. Clywsom ef yn adrodd gyda theimlad dwys y tro cyntaf y daeth i'r modd- ion ar ol cystudd blin, Mor hawddgar yw dy bebyll Di, 0 Arglwydd y lluoedd." Cyflawnai ein brawd ei waith yn fanwl, bu yn ffyddlon i farchnatta o'r gynysgaeth a gafodd.a gweithiodd gydwybod yn mhob peth. Yr oedd yn ddiacon yn eglwys Brynbowydd, a theimlai i'r byw gyfrifoldeb ei swydd. Xlanwai y swydd o drysorydd yr eglwys, a dangosai y gofal mwyaf am gywirdeb yn nghyfrifon y drysorfa. Buasai anghywirdeb o geiniog yn poeni ei enaid, ac niorpbwysai nes cael o hyd i'r acbos o hono. Cyflawnai bob gwaith a ym- ddiriedid iddo megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion. Beth bynag a ofynid gandoo i'w wneuthur—os cynghori neu rybuddio yr esgeu- lus; os ymweled a'r claf; os cynorthwyo y tlawd, yr oedd yn sicr o gyflawni y gwaith, a gadael perarogl Crist ar ei ol. Diolch am ei dduwioldeb, ei sancteiddrwydd, a'i weitbgar- wcta. Ymae ei goffadwriaeth yn fendigedig. MR. WILLIAM EVANS. Bu farw Mr. William Evans, masnachwr, New Market Square, boreu ddydd Mercher, Ebrill y 15fed, wedi dioddef o hono gystudd galed, yr hwn a ddioddefodd yn dawel a -,vgrach. Nodweddid ef gan grefyddolder apryd, addurnid ei galon a gras Duw, arddwydei natur ag hyfrydwch y nefoedd. Rhoddai amser i feithrin crefydd ysprydol, ac ni adawai i ofalon bywyd gau llwybr yr angel iddo. Mor ami y gadawa i alwedigaeth sychu ffynonau raelusaf y galon. Caniateir i waith y chwarel, masnach y faelfa, a llyfr y fyfyrgell, ddieithrio bywyd yn rhy ami i sylweddau byd a ddaw. Nid felly oedd gyda Mr. Evans; ond trigai yn nirgelwch y Goruchaf. Cadwai le i fyfyrdod a gweddi yn rbaglen ei fywyd, a rhoddai amser i yspryd yr Iesu lifo i mewn i'w yspryd ei hun- Gorcbymynir yn y Gair, Ymarfer, attolwg, ag Ef, a bydd heddychlawn, o hyn y daw i ti ddaioni." Ymarferai ein brawd a Duw yn fynych, a daeth heddwch Duw iw galon, a daioni Duw i'w galon. Yr oedd yn un da ei air; hineiddiodd ei grefydd i'w gydwybod, ac amlygaiei hun yn onestrwydd ac unplygrwydd cymeriad. Atynai fyw uwchlaw amheuaeth. Ceir dynion, nas gellir eu gwarthrodi ag unrhyw bephod amlwg, eto yn cael edrych arnynt gydag amheuaeth. Yr bedd amcan Mr. Evans mor bur, a'i ymddygiad mor gywir, nes enill parch ac edmygedd cyffredinol. Yn ei fasnach clorian y cysegr oedd ei safon, ac ni wyrai oddiwrth hon er gwg na gwen neb. Mor ami y clywsom am dano yn ystod ei fywyd, "Y mae yn ddyn y gellwch el drustio." Ar un egwyddorion a'i llywodraethai yn mhob cylch; gwnaeth ei grefydd ef yn briod athad caredig, yngymydog boneddigaidd, yn gyfaill cywir, yn ddinesydd gwerthfawr. Ei nod oedd gwasanaethu: carai fod o wasanaeth yu mhob cylch posibl iddo. Yr oedd ganddo lawer o fedr i arwain yn gyhoeddus, meddai ar bwyll a doethineb mawr, a rhoddodd ei dalentau yn elw cymdeithasol i'r ardal. Bu yn aelod o'r Cyngor Dinesig am! rai blynyddoedd, a chyflawnodd yn ymroddgar ei ymddiriedaeth yno dan lawer o anfanteision. Teimlai ddyddordeb mewn cwestiynau gwleidyddol: gwelsom ef yn ddiweddar yn y Neuadd Gynull mewn cyfarfod i gefnogi y Mesur Dirwestol. Tra yr oedd canoedd o grefyddwyr digon iach heb roddi eu cefnogaeth i'r cyfarfod, mynai ef fod yno o dan lawer o lesgedd. Yr.oedd yn aelod gweithgar o'r eglwys yn Brynbowydd. Ystyr y gair diacon yw gwasanaethwr er nad oedd ein brawd yn ddiacon yn yr ystyr swyddogol o'r gair, yr oedd yn yr ystyr o wasanaethwr Crist. Llanwai amryw swyddi yn dal perthynas a'r eglwys, a llanwai hwy gydag urddas gwr Duw. Y tro diweddaf y bu yn y. Capel, ydoedd ymddiswyddo o Arolygiaeth yr Ysgol Sul: teimlai nas gallai ei chyflawni yn hwy o herwydd ei fynych wendid. Bu farw yn nhangnefedd y cyfamod a fodolai rhyngddo a'i Dduw. Cwestiwn wedi 'i settlo er's llawer blwyddyn oedd mater enaid iddo ar well marw. Diolch am ei grefyddolder, ei gydwybodolrwydd, a'i ymroddiad. Y mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Symudwyd dau oeddynt yn golofnau yn y deml. Buont yn ffyddlawn hyd angeu, a chawsant goron y bywyd. Ffydd y rhai dilynwn. Brynbowydd. GEORGE DAVIES. I

BWRDD QWAROHEIDWAIDI PENRHYNDEUDRAETH.

DOLWYDDELEN. - - - - - -.-I

Advertising

MAENTWROG. I

-GARN -DOLBENMAEN.____I

- - - - - .............................................…

-PENMACHNO.--

LLANRWST. -I

IFOOTBALL.

BLAENAU FFESTINIOG.