Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BLAENAU FFESTINIOG. I

News
Cite
Share

BLAENAU FFESTINIOG. I Cofied pawb ddod i'r Hall nos I yfory (nos Wener) i gynorthwyo I y Seindorf. BETHANIA.—Yn y fro hon yr oedd y prysur- deb mwyaf ddydd Sadwrn, gan fod brodyr Capel Bethania wedi trefnu i roddi gwledd i'r plant—i'r corph a'r meddwl. Ar gyfer y corph parotnwvd danteithion amrywiol a melus, gan Mrs. Ellis Manod Road. Wedi i'r plant gael y blaen, a chyfranogi yn helaeth daeth tro y bobl mewn oed." Gwasanaethwyd wrth y byrddau, pa rai oedd wedi eu harddu a blodau biydd, gan Mrs Owens, Shop a Mrs Ellis, Bryneilian Mrs Hughes, Gwynfa a Mrs Jones, Cadvan; Mrs Jones, Bee Hive a Mrs Roberts, Foelfronllwyd Mrs E. Williams, Isfryn a Mrs Jones, Cefnbrith; Mrs Parry a Miss Davies, Mrs Pierce Williams, Penygelli a Mrs G. G. lones, Penygarth a gofalodd Mrs Ann Jones, Penygroes am y dwfr poeth a'r te. Cynorth- wywyd y chwiorydd uchod gan Miss Hughes, Gwynfa; Miss Bevan, Brynaber; Misses M. Jones, Glasdo, Kate Owen, a J. Jones, Glari-y- ors, Neil Ellis, Maggie Winnie Davies. Mary Jane Williams, Jane Ellen Jones. Maggie Wil- liams, a Mary Lizzie Thomas.—Yr oeddis wedi trefnu ar ol y wledd uchod i gael gwledd arall i'r meddwl, yn yr hwyr, ond gorfu ei gobirio oherwydd rhesymau digonol, achaed y cyfarfod hwn nos Fawath dilynol, a chipiwyd y gwob- rwyon fel y canlyn Englyn Carreg Filltir," Mr. Hugh Jones, 8, Tanymanod Terrace. Llawysgrif i rai dan 16, Lizzie Jones, Bron- cludwr; 2, Maggie Anne Rowlands. Eto i rai dan 12, Blodwen Hughes, Gwynfa; 2, Mathew Henry Rowlands. Cludfan. Adrodd. "Rwyn caru son am Iesu," 1, Dilys Jones, Bee Hive; 2, Alun Jones, Glanygors, ac Ivor Thomas, Manod Road. Deuawd Deilen aryr Afon," Lizzie a Maggie Jones. Adroddiad Gofala ddyweyd gair dros yr Iesu," 1, Maggie Olwen Jones 2, Di!ys Jones. Ebysgrifiaeth, 1, M. Olwen Jones; 2, L. Jones. Arwain y Gobeithlu L. Jones. Sain Clust, hon ydoedd y gystadleu- aeth oreu, a rhoddodd y Beirniad air uchel i'r cystadleuwyr, pa rai gafodd waith caled, ac y mae yn anrhydedd i'r fuddugol Maggie Jones, Cadvan; 2, Lizzie Jonas, 3. Maggie Ellis, Glanywern. Unawd Dyma Feibl," L. Jones Tri phenill i'r Gobeithlu," cydradd Mri Hugh Jones, a John Roberts (Gwynfardd), Glasfryn 2. Un o'r deuddeg." Crynhodeb o Hanes Eluseus," 1, Annie Blodwen Jones, Bodegryn. Cofnodi penau pregethau 1, L. Jones, 2, Lizzie Rowlands, Clydfan. Deuawd, Deilen ar yr Lli," Misses Hughes a Bevan. Traethawd, Crist o'r Oruwchystafell hyd Ei esgyniad," 1. John Humphreys, 2, Miss Mary L. Thomas, Brynegryn. Parti o 12, parti Mr. Alun Williams, Isfryn. Gwasanaethwyd fel beirniad cerddorol gan Mr. M. E. Phillips, B.Sc.; yr adroddiadau, Dyfrdwy; y farddon- I iaeth a'r traethodau gan Gerallt; ebysgrifiaeth Mr. Ellis Evans; llawvsgrifau Mr. Bevan y penau pregethau gan Mr. D. Williams, U.H. Wrth yr offeryn gan Miss Bevan. Yr ysgrifen- ydd selog a diwvd ydoedd Mr. E. Owen. Llys Menai. Llywydd Mr. Evan Williams, Isfryn. Cafwyd sylwadau dan gamp ar len a chân, ac y mae ffrwyth eisoes wedi deilliaw o'r llafur a diameu y daw mwy. YN NGHYMANFA LERPWL. Yn rhestr Pregethwyr Cymanfa y Bedyddwyr y Groglith a'r Pasg, a gynhelir yn flynyddol yn Lerpwl, gwelir enw y Parch E. Cefni Jones eleni eto. Dyma y drydedd waith iddo fod yn gwasan- aethu yn y Gymanfa hon. Y Sul cyn y di- weddaf pregethai yn Nghyrddau Blynyddol un o Eglwysi mwyaf Morganwg. Prawf hyn fod Mr. Jones yn bregethwr eithriadol o gymerad- wy, a phoblogaidd, a chymer ei Ie yn esmwyth ymhlith goreuon Pwlpud ei Enwad. LLOSGI.-Drwg genym am y ddamwain gafodd Edward Joces, Glaneilian, Tanygrisiau, trwy iddo wrth chwarau a than, losgi yn dost iawn. Ymddengys i'r goler Indian rubber a I wisgai gymeryd tan, ac iddo losgi ei wddf. Bachgen o bump i chwe' mlwydd oed ydyw i Mr. Evan Jones (Hen Dy), yr hwn sydd yn Colorado er yr haf diweddaf. CERDDOROL. Llongyfarchwn ein cyfaill doniol Eos Gwynant fel buddugwr ar yr unrhyw unawd yn Eisteddfod Granville. Mawrth 22. Hefyd Mr. Griffith James (Moelcudd) fel Prif fardd Eisteddfod Pouitney, Mawrth 14. Rhwydd hynt: Ymlaen eto. DRAMA.-Nos yfory (nos Wener) bydd Cwmni o'r ardal yn perfformio y Ddrama Gymreig boblogaidd o chwedl Enoc Hughes. Y Prif Actwyr fyddant Mri H. Ellis Hughes (Deryl), Mona Roberts, a Bryfdir. Mae eu henwau vn ddigon i sicrhau y ceir noson ddi- fyrus. El yr elw i Dtysorfa y Seindorf sydd yn cychwyn dranoeth am y Deheudir j^ystad u Dewch yn Ilu i'r wlidd hon. Yn ycowanegol at y Ddrama, chwareair darnau clasurol gan y Seindorf a'r darnau cystadleuol yn y Deheudir a chymerir rhan gan amryw Unawdwyr. FOOTBALL.—The last league match of the present season at the Recreation Ground, will be held on Saturday next, when Colwyn Bay will play their return match. This promises to be one of the best games witnessed in Festiniog the present season, as Colwyn Bay beat Car- na-fon to the song of 18 goals to 0, and they made a draw of 3-3 with Festiniog last Satur- day. Admission as usual. The following will represent the team for next Saturday :-Go,-tl, Sam Roberts backs, James Lloyd and Carter; halves, Bradley. J. Jones (Capt), & W. Jones; forwards, F, S. Fielding, R. Roberts, W. Meirion Jones, W. Williams, Bob Winning.— Football competition will be held the following Saturday, the 25th of April. There is a great number of entries in hand already, and this promises to be one of the most successful ever held here. Intending competitors are requested to apply for conditions of play and entry forms at once, as the last day to enter is next Monday Their attention is drawn to the following :— That no more than four players, who have played in a League Match for the Festiniog I I Town Club this season, will be allowed to play for any team." This rule will be strictly en- 'I forced. All information to be had of the Sec- retary. Entries close April 20th. Draw April 21st, and will be annouced in this paper the following Thursday.—ADVT.

- IBETTWSYCOED.-I^vNeNe%.%I

Family Notices

O'R PEDWAR CWR. I

ICyfrin Gyngor Heddyw. I

,Aelod Seneddol yn Datganu,…

Syrthio o ben y Van.-I

-----TALYCAFN.- I

Advertising