Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
ER SERCHOG GOFFADWRIAETH
ER SERCHOG GOFFADWRIAETH Am fy hen gyfaill Mr. Owen Pritchard, Tecwyn View, Penrhyndeudraeth. Gwr tawel, unblyg, gonest, Duweinydd o'r iawn ryw, Un gerddodd lwybr rhfnwedd Dan nodau plentyn Dum7, Aeth drwy drofeydd yr anfel A'i goron ar ei ben, I fedi ffrwyth ei lafur Y wlad tu draw i'r lien. Croesoswallt. DAVID RICHARDS.
ENGLYNION I'R ATHIST.
ENGLYNION I'R ATHIST. Gwadu y cred yw gwawdio Crist-hwnw Ei hunan yw'r angrhist; 0 ddydd trwm ei ddiwedd trist Yw marw'n noeth, yn marn a^hist. Och, erlid Crist, chwerw loes-ac wedi'r Gwadu ei drom dduloes Gwadu lawn gwaed ei einioes, Yw gwadu grym gwaed y groes. OWAIN GWYRFAI.
TELYN Y -GWANWYN.j
TELYN Y GWANWYN. Dos wanwyn ter a th delyn, Dihuna anian dlos, Ymergyr blodau dillyn Daw briall heirdd a rhos; Dymunaf am eu cwmni I loni serch fy mron, Dechreua'r adar ganu Yn heini, byw, a-llon. Dos wanwyn ter a'th delyn I swyno calon bardd, Mae'r Fronfraith a'r Bigfelyn, Ar frigyn, gwrych yr ardd Bydd adar hoff y goedwig Heb leddf-nod yn eu can, 0 fewn y deildai'n ddiddig Uwch myrdd o flodau man. Dos wanwyn ter a'th delyn Dan wenau melyn haul, Cusana'r awel hyfwyn Fyw edyn gwyricwi ddail; Ei alaw rydd yr Eos Ar derfyn hwyr y dydd, Distawrwydd gwyll y cyfnos I enaid nef a rydd.
;IMAIR MON.
MAIR MON. Awenyddes wir ddi-ail Yw Mair dan haul y nefoedd. Rhydd ei gemau oil yn sail I adail bri y miloedd. Dengys Dduw i'r byw o hyd Mae bywyd yn ei cheinion, Deil ei holl gynyrchion drud I lechu'n glyd mewn calon. Chwery hon ei thyner dant I loni plant Ceridwen, Dena enaid llawer Sant I ymyl nant yr a wen. Moli Duw o hyd a wna Mae ha' o fewn ei chalon, Gedi'r drwg a myn y da Am hyn hi ga' ei choron. .Geilw hon y tyner wyn I gorlan fwyn daioni, Ni chant yno deimlo cwyn Rhydd flodau swyn i'w lloni. Y mae angen llawer un Fel Mair ei hun yn Ngwalia, Myn ei Haw ddyrchafu'r blin A Duw Ei Hun a'i gwylia. Nefol ras a leinw'i bron Farddones Ion a hawddgar, sErys bri awenol hon Drwy Brydain Ion yn llachar. Anwyl yw gan blant y tir Pob calon ir a'i hawlia, Duw rho iddi fywyd hir I ledu'r gwir yn Ngwalia. Uundain. LLINOS WYRE, I If
I GLAN Y MOR. ]
I GLAN Y MOR. O'i phabell aur mae'r Haf Yn chwerthin ar y bryn, Ac nid oes ddeilen glaf Ar un o Iwyni'r glyn Pwy eilia gerdd, pwy lywia gôr Mor lawn a mi ar lan y mor ? Mae alltud fach y don Yn segur wrth fy nhroed, Ond cAn sydd yn ei bron Nas gwyr ond Duw ei hoed Braidd na ddeisyfwn gan yr lor I lunio medd ar lan y mor. Caiff llawer carreg lefn Hamddena yma mwy, Ar ol pob 'storm ddi-drefn Fu yn eu hymlid hwy, Mynegi wnant, ryfeddol stor, Ramantau dry chin min y mor. Pa beth yw'r tywod swrth Sydd yn gwregysu'r lan, Pa beth a ddywed wrth Fy ymwybyddiaeth wan A'i dyna ged rhyw donnog gor 1 brynu maes gerbron y mor ? Yr un yw glesni'r don Ar lanw ac ar drai, Ac nid aiff murmur hon Drwy'r oesau radd yn llai; Y Dwyfol egyr gil ei ddor Drwy awgrym mud ar gwr y mor. Mae'r ysbryd cudd yn myn'd Yn lleddf ac weithiau'n lion, Am Borthladd gwell a Ffrynd Tragwyddol dros y don A melus iawn yn mhalas lor Ailuno mwy ar Lan y Mor. I BRYFDIR.
I CYFLWYNIR I
I CYFLWYNIR Yr ychydig Benillion hyn fel arwydd o barch diffuant i fy hen athraw hoff William Stephen, yn ei drallod o golli ei briod anwyl. Rhyfedd gweled angau'n dod Drwy wanwyn Duw i'n llwybr, Ac yn cipio'r fam i ffwrdd O'r aelwyd lawn ei chysur Rhyfedd gweled tad a'i blant A theulu'r gan mewn trallod Cloffi mae y gan o hyd 0 dan y groes a'r gawod. Colled drom i'r cerddor hoff Oedd colli priod, anwyl, Hon fu'n siglo cryd ei blant Dan ganu lawer egwyl; Canai dan freuddwydion dlws Am hafan gwell ei phlentyn Ond i'w bywyd hi daeth haf A choron Duw a thelyn. Ni fu garedicach hon Erioed yn rhodio daear, Rhedai pawb at Marg'ret Stephen I ddweyd ei gwyn a'i alar Troai'r gwyn yn Salmau glan Yn swyn curiadau'i chalon, Gwyddai hi y ffordd i'r Nef Drwy lwybrau pob treialon. Llawer orig dreuliais i 0 dan ei chronglwyd ddiddig, Cofio'r wyf am lawer tro Bu imi mor garedig; Brysia yma eto" oedd Ei holaf air bob amser, Ac nid hawdd oedd peidio myn'd I fyd ei chwmni tyner. Ac mi glywais mam yn dweyd Mewn llythyr oddicartref, Mynai Marg'ret Stephen o hyd Gael rhoi ei chofion ataf Methodd dwr Iorddonen Duw A diffodd fflam ei chalon, Yr oedd cyfeillgarwch hon Yn dal drwy rydiau'r afon." A pha ryfedd fod fy mron Yn llawn o gur a hiraeth, Pan yn cofio'r teulu hoff Sydd heddyw yn ei alaeth 0 fy Nuw rho di dy hedd I'r plant sydd heddyw'n unig, Dyro gysgod byth i'r tad 0 dan dy law garedig. Peidiwch wylo deulu glan Mae goreu'r fam yn aros, A daw goleu Duw o hyd Yn effaith i bob achos Os yw'r aelwyd heddyw'n wag, Ar groes yn drom i'w chario, Melus meddwl dan y groes Am fam sydd wedi glanio. Glaniodd fry yn Salem Duw Tuhwnt i fyd gofidiau, Aeth i arcs at y Gwr Fu'n gwrando ei gweddiau Aeth i gysgod Iesu Grist Y Gwr fu farw drosti, Hwyliwch chwithau blant a thad I fyned yno ati. Tonypandy. JOHN ELLIS. j
...................- .......................-…
"III'" 'Y" LLAMBEDR, IVSEIRION. CYNGOR PLWYF —Cynhaliwyd y Cynghor Blynyddol nos Wener diweddaf, Mr. R. Griffith yn llywyddu. Dewiswyd fel olynydd i Mr. Lloyd Griffith, Mr. Evan Jones, Werngron, yn Drethgasglydd. Yn Overseers am y flwyddyn ddyfodol :-Mri. Richard Griffith a Matthew Owen. Mr. Lloyd Griffith yn parhau yn ysgrifenydd y Cynghor. Pasiwyd i Mri. Robert Ellis a Griffith Jones, fyned i olwg pont Glynarto a phont y Gwynfryn, a dyfod ag adroddiad o'u cyflwr i'r Cyngor nesaf, hefyd i'r Ysgrifenydd anfon at yr Awdurdodau i ofyn iddynt symud y "Telephone pole" sydd wedi ei osod gyferbyn a'r gamfa sydd yn arwain i llwybr y clawdd llanw. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Mri. loan Thomas a Robert Evans am eu gwasanaeth fel Overseers yn y gorphenol, ac ail ddewiswyd Mr. Richard Griffith yn llywydd. Mae golwg addawol am gyfarfod Llenyddol hwyliog LInn y Pasg.
I BEDDGELERT.
I BEDDGELERT. PENODIAD. Deallwn mai Mr. Thomas Griffith, Gwydyr Uchaf, Llanrwst, sydd wedi ei benodi yn Oruchwyliwr Etifeddiaeth Mrs. Morris, Leonard-on-Sea, yn lie y diweddar Mr. Mc'Intyre. Llongyfarchwn Mr. Griffith ar y penodiad, a'r tenantiaid yr un modd, gan ei fod wedi ei fagu (megis) gyda Mr. Mc'Intyre, ac yn un cyfarwydd iawn a holl waith yr Oruchwyliaeth. Mae tri o enwau gerbron Rhyddfrydwyr y cylch hwn fel ymgeiswyr am y sedd a waghawyd trwy farwolaeth yr aelod pybyr a defnyddiol Mr. Wm. Pierce, Ffridd. Yr enwau ydynt Mri. Idwal Owen, C. Humphreys, a T. E. Roberts. Mae pwyllgor y blaid Rbyddfrydig wedi trefnu fod pob un i gynal cyfarfod yn y gwahanol ardaloedd, a bod yr ethoiwyr ar ol eu clywed i ddewis eu dyn. Disgwylir trwy hyn allu dyfod i gyd- ddealUwriaeth beb fyned i ethgliad na pheryglu y sedd.
Advertising
BOOKBINDING Mae gan bob darllenwr cyson GYFROLAU eisiau eu RHWYMO ar ddech. reu blwyddyn. Gallant gael gwaith hardd a da wedi ei wneyd ar Gy. hoeddiadau, Cylchgronau Llyfrau Hymns, &c., ac am y pris isaf yn SHOP Y RHEDEGYDD.  r* —r i GWNEWGli FEL HYN. Cyn prynu unrhyw Offeryn Cerdd o unrhyw fath anfonwch attaf am Catalogue, a cewch weled nas gallwch brynu yn well mewn unrhyw fan. Cymeraf Hen Offerynau yn rhan- dal am rai Newyddion, a rhoddaf y pris goreu am danynt. Teleran goren sydd bosibl. J. BOLLOTEN, NCDT 3 CARLTON DEPT. 3. MOUSE, I  BANQOB. | .J -L.w. E*. WjB '(r rflliUn I'Â# ,£omé\ p .e S<t makes C j -good cakes. £ IS CAKEOMA" Is the NEW way-the § better way-of making cakax. ? It is a perfectly pure cak. Si _J ?our of fine quality, with &11 fl the dry ingredients wanted in r a cake. The proportions are r exact and the mixing is per- fect. It snvestfme and trouble, L and it makes, the nicest and j* II lightest cakes possible. | It makes any and every M cake and not only one kind. if And it is economical In use-it costs less than the !• old-fashioned way. |<P •s From all Grocers, Stores, and Baksra S in the British Isles. In 3icl. packets. each ? one containing a sheet 01 tmefu! an' S? ? practical cake recipes. |— L LATHAM & Co., Ltd., 4>L LIVERPOOL. [F 87 |» CYFARFOD LLENYDDOL HYFRYDFA (A.), a gynhelir Dydd Gwener a Dydd Sadwrn, Mai 22 a 23. 1908. TESTYNAU AGORED I'R BYD. Beirniad Cerddorol: Mr. John Lloyd Edwards, Bl. Ffestiniog. Cyfeilydd: Mr. Willie Jones, Sun Street, Ffestiniog. Llywyddion R. BOWTON, Ysw., CARTRE'; a'r PARCH. J. WILLIAMS-DAVIES. Arweinydd:—MR. G. J, BEVAN. BARDDONIAETH. 1.—Chwe' Pheniir ar "iVtfelon Mai." Gwobr 3/ 2.-Englyn. "Sirioldeb." Gwobr 1/6. 130irniad :-Parch. J. D. Richards, Ebenezer (A.), Trawsfynydd. TRAETHODAU. 3.-Prif Draëllawd, "Prii Hanfodion Bywyd Ysbrydjl." Gwöbr 5h Beirniad :-Parch, J. D. Richards, Ebenezer (A.), Trawsfynydd. ADRODDIADAU. 5,-Prif Adroddiad, Gwron y Conemaugh." (allan o'r Adroddwr Deiniol Fych- an.) Gwobr 5/- a Medal arian hardd (Canol Aur). (Medal arian rhoddedig gan Miss Lotwen Griffith, Hirwaen House, Pwllheli.) Beirniad, Mr. John Williams, Station Master (G.W.R.), Bl. Ffestiniog. CERDDORIAETH. "Mor o Gan yw Cymry i gyd." 7.—I'r Parti Cymysg heb fod o dan 16 mewn nifer a ddatgano yn oreu Y Blodeuyn Olaf" (Ambrose L,loyd). Gwobr £ l a Medal Arian canol Aur i'r Arweinydd. (Medal Arian rhoddedig gan Mr. J. Bolloten, Bangor). 8.—Cor Plant, 12 mewn nifer, heb fod dros 15 oed, "Plant Caersalem." (Rhif 15 Can- iedydd yr Ysgol Sul). Gwobr 6/ 9.—Her Unawd, Telynau'r Saint (W. O. Jones). Gwobr 15/ IO.-Pedwarawd, Ti wyddost beth ddywed fy nghalon" (Dr. Parry). Gwobr 4/ I I.-Deuawd. "Y Ddeilen ar y Lli" (J. Os- borne Williams). Gwobr 8/ 12.—I rai heb enill 7/6, Unrhyw Unawd. Gwobr 5/ 13.-Deuawd i blant heb fod dros 15 oed, Gadewch i blant bychain "(Dr. Parry). Gwobr 3/ AMRYWIAETH. 16.—Am y Par o Hosanau Rips Cochddu i ddyn (Cycling Stockings). Gwobr 5/ Beirniad :—Mrs. Anne Ellis, 123, Manod Road Bl. Ffestiniog. IS.-Fancy Coat o ddefnydd Cashmere Cream i eneth 6 oed. Gwobr 5/6. Beirniad :-Mrs. J. Williams Davies, 1, Maes- hyfryd, Bl. Ffestiniog. 19.—Table Centre. Gwobr 5/6. 20.-Set o D'oleys. Gwobr 3/ Beirniaid :—Mrs. Hoskins, Cefnmaes, BIaenau Ffestiniog, a Miss Jones. Headmistress Man- od Infants School, Bl. Ffestiniog. TESTYN YCHWANEGOL. Canu gyda'r Tannau, alawen Llwyn Onn," a "Pen Rhaw," penillion gweddus i'w canu mewn addoldy. Gwobr, 10/- a Medal Arian. Telynores: Miss A. E. OWEN-DAVIES. Rhestr gyflawn o'r Testynau, pris lc., trwy y post 1-Jc, i'w cael gan yr ysgrifenydd, WM. HUMPHREYS. Llys Caradog, Manod Road. vvvv- I RHAG-HYSBYSIAD. Cynbelir BUDD-GYNGHERDD Nos Iau, Mehefin lleg, 1908, er cynorthwyo Hugh Davies, Conglywal. Manylion eto. CYFARFOD LLENYDDOL A CHERDD- OROL SOAR fWj, RIHW, a gynhelir NOS IAU, MAI 2 lain, 1908. (TESTYNAU AGORED I'R BYD). CERDDORIAETH. I'r Parti Cymysg heb fod o dan 16 mewn nifer a ddatgano yn oreu "Y Blodeuyn Olaf" (Ambrose^Lloyd). Gwobr 16s. Her-Unawd, "y MabAfradlon" (T. Osborne- Roberts). Gwobr, Medal Arian a 10s. Unrhyw Ddeuaud.\ Gwobr 4s. I rhai heb enill ddim Imvy na, thair gwaith vn fkenorol Gwlad y Delyn" (John Henry). Gwobr 5s. I Biant dan 16 oed a ddatgano oreu, "Dyma Feibl annvyl lesu (W. 0. Jcnes). Gwobrwyon, laf, Is. 6c. 2il, Is. 3ydd, 6c. Unawd ar y Berdoneg, i rai dan 16 oed Burgmuller, Rondoletto in C." Gwobr 3s. Unrhyw Unawd ar Offeryn Chwyth, cymwys i'w chwareu mewn Addoldy. Gwobr 7s 6c. Beirniaid. Mri. F. P. Dodd, M.A., a D. Price Davies. Unrhyw Adroddiad i rai uwchlaw 16 oed, Gwobr Medal Arian a 6s. Beirniad, Bryfdir. TESTYN YCHWANEGOL. "Llythyr Cyfaill at Gyfaill oddicartref," Gwobr Is. 6c. Beirniad Mr. W. W. Jones, Brynawel. Rhestr gyfiawn o'r Testynau i'w cael gan yr Ysgiifenyddion-Mr. R. M. Jone?, Salem Cottage, Rhiw, a Mr. Joseph Thomas, 19, Glanypwll. BENTHYCIAD ARIAN.—0 £ 10 i gi,ooo, ar y Telerau canlynol:— Talu yn ol. Talu yn ol Y, £ s. 0. x X s. o. 10 11 5 0 400 450 0 0 15 16 7 6 500 542 10 0 20 22 10 0 600 675 0 0 30 33 15 0 700 785 10 0 50 65 5 0 800 900 0 0 100 112 10 0 900 1012 10 0 200 225 0 0 I 1000 1125 0 0 300 337 10 0 DIM EISIEU MEICHNIWR NA SICRWYDD. Telir allan arian a fenthyciwyd. Anfopir y ¡ rhaglen yn rhydd gyda throad y post, ond an ion cais am dano at. y Manager, 16, BODFOR STREET, RHYL. r EftTHYCIAD ARIAN.-O £ 10 i ?1,000 Bar y telerau canlynol;— Ad-daEad. Ad-daliad, £ £ s. c. I £ 8. 0. 10 11 5 Q f 1 400 450 0 0 15 16 500 542 \0 20 22 10 0 1 600 675 0 30 33 15 0 700 785 10 0 5Q 56 5 0 800 900 0 0 100 112 10 0 900 1012 10 0 20J 225 0 0 1000 ,1125 0 0 300 337 10 0 DIM EISIEU MEICHNIWR NA SICRWYDD. Telir allan arian a fenthyciwyd. Anfonir y rhaglen yn rhydd gyda throad y post, ond anfon cais am dano at y Manager, 24, BANGOR STREET, CARNARVON. ENTHYCIR ARIAN AM BUMP Y CANT 0 LOG BLYNYDDOL, o Elo i X5,000 ar Mortgage a Life Policies, hefyd ar Nodyn Addawol syml am log hynod o isel, i'w had-dalu yn Fisol, Chwarterol, -11eu haner-blyn- yddol, i dai ddalwyr cyfrifol. gall yr arian aros ar log yn unig. Cyfrinachol Hollol. Nid yw pellder o ddim pwys. Ysgrifenwch am fanylion, gan amgau amlen gyda stamp arni, at y benthycwr gwirioneddol, JOHN ROSE, 29, BUCKINGHAM ROAD, THE BROOK, LIVERPOOL. Cangheni 148, HIGH STREET, BANGOR; a 67, MOSTYN STREET, LLANDUDNO. Sefydlwyd 1887. CYMDEITHAS BENTHYCA GENEDLAETHOL. Y MAE wedi ei Sefydlu a'i Chofrestru yø unol a'r Mesur Seneddol i roddi benthyciada cyfrinachol heb ffurfioldeb Swyddfa Fenthyc I bob dosbarth (Dyn neu Ddynes). 0 .£10 I jElOOO, ar addewidsyml i ad-dalu at angen uniongyrch neu wasanaeth gyfrinachol; i gychwyn mewi masnach, dodrefnu eich ty, prynu stock par. fydd y farchnad yn isel, i dalu rhent neu drethi. Anfonir yr arian trwy'r post os ewyllysir. Gellwch gael arian yh gyfrinachol yma, gan naa oes angen am ymgynghoriad, nae enwau rhai i wneyd ymholiadau yn eich cyleh. Ni wrthodir byth unrhyw air didwyll. Gellir talu yn ol yo fisol, chwarterol, neu haner-blynyddol, neu os dewisir gellir gadael y swm am bum' mlynedd trwy dalu dim ond y llogau. Nid yw pellder o bwys. Llog ac ad-daliadau isaf yn Lloegr a Chymru. Uwbl gyfrinachol, a thegwch hollol yn cael ei warantu. Gofynir i'r rhai gawsant fenthyg ar logau uchel mewn manau eraill i anfon atom ni, pan y gellir talu y benthyciadau presenol a chael rhai mwy am logau is o lawer. Ni chyst dIm i wneyd ymholiad, ond gall arbed punoedd i chwi trwy i chwi anfon yn gyfrinachol hollol, yn Gymraeg neu Saesneg am bapurau at y NATIONAL LOAN SOCIETY, 41, CORPORATION STREET, MANCHESTER Seiydlwyd 1887. Nat. Telephone, 260x5 neu at un o'n Canghenau yn Ngogledd Cymru 11 DEAN ST BANGOR 16, BODFOR ST. RHYL; a 19, QUEEN ST., WREXHAM) CHEAP MONEY. The NORTH BRITISH AND MERCANTILE BANK OF SCOTLAND. ARE PREPARED TO ADVANCE LOANS to Respectable Persons on their own Security. No referencee required. Strictest privacy quaranteed. Information confidential. Persons wishing Loans from £ 5 to £ 5000 should consult us either personally, or by letter, enclosing stamped addressed envelope. Distance 110 object. Borrowers elsewhere paying extortionate interest are cordially in- vited, when existing Loans will be-paid off and arger advancee made. Cash sent by post. The N. B. S M BANK OF SCOTLAND 100, 7;st Campbell Strfet GLASGOW £ 1,000. WALKER'S DIARIES. Neat Pocket Diaries, in Extra Strong Art Canvas, 6d., 8d. and 1/- each. NOTE :-Each Diary contains an Acci- dent Insurance Coupon for £ 1,000. To be had at the RIIEDEGYDD OFFICE, BL. FESTINIQG YN AWR YN BAROD. Arwriaeth John Anthony neu Ramant BywycB Cyrnro. gan EVAN ROWLANDS (Ap Llecinvedd). 127, HIGH ST.. BLAENAU FFESTINIOG. PRIS CHWE'CHEINIOG. Ar Werth gsn yr Awdwr, neu Shop y "RHECEGYDD Shop y GLOCH •" L-ibop y "GLORI AN." a chan amryw eraill. Mynwch gael un o'r Llyfrau byn, mae yn wir ddyddorol i'w ddarllen.
CAN BRIODASOL
CAN BRIODASOL Mr. a Mrs. Thomas J. Jones, 1, Glanaber, Dolwyddelen. Os nad oes can aderyn I'w glywed yn y coed, Os ydyw'r blodau dillyn Mewn bedd o dan fy nhroed; Mae serch yn dal i swyno, Yn rhoddi gwen a chån- Nis gall dim byd andwyo Ei nodau gwyn a glân. Nis gall yr eira oeri, Teimladau gwresog serch, Mae hwn yn dal i losgi Er oerni'r gauaf erch Y, gauaf oedd ei amser Yn hines Tom a'i fun, I losgi bob anbawsder Er gwneyd y ddau yn un. Dymuno'r wyf o galon, I'r fflam barhau o hyd, Fel byddo holl gysuron ,Gwir serch yn dod i'ch byd Ac os y daw ystormydd, Os chwyth y gwynt yn groes, Boed serch yn ddiogelydd I'ch cadw rhag un loes. Mae hyn i'w gofio hefyd Yn awr wrth ddechreu byw, i Nad oes defnyddiau gwynfyd, t Gan neb, ond gan eich Duw Gofalwch am eu meddu Heb oedi mynwch hyn, A bydd eich bywyd felly, A'ch aelwyd fyth yn wyn. J. LL. D.